GOHEBYDD GWIBIOL Y DE.|1874-09-04|Llais Y Wlad - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

4 articles on this Page

O'R DEHEUDIR.

___-,GLYN HALL, TALSARNAU.

LLITH 0 EIFIONYDD.

GOHEBYDD GWIBIOL Y DE.

News
Cite
Share

edd yn amser lolo Morganwg, "Good old Iolo," fel oedd Southey yn ei alw. Yr oedd careg bedd yn y fynwent hon er cof am William Edwards, yr hwn a fu farw yn 168 mlwydd oed. Cyfanneddai ger Haw yr Ynys mewn ty a elwid Ty yr Hen Ddyn." Symmudodd rhyw Van- daliad o Glochydd y gareg, a gwnaeth gareg aelwyd o honi. Yn Nghaerdydd y cynnaliai Fitz Hamon ei lya ar ol iddo oresgyn Mor- ganwg. Gwnaeth y gwr hwnw ei oreu i enhuddo y Gymraeg; yr oedd pob mater eyfreitlliol yn cael ei ddwyn yn mlaen yn y Norman French. Priododd merch Fitz Hamon a Robert, Iarll Caerloy-w, mab ordderch Harri yr Ail. Gormeswr heb ei ail oedd hwn ond y gwelltyn olaf a dyr gefn y camel. Dygodd Ifor Bach gyng- haws yn erbyn un o'r arglwyddi Norman- aidd am draws-feddianu ei dir, a rhodd- odd yr Iarll ei ddyfarniad yn erbyn Ifor. Aeth yr hen Gymro i natur ddrwg, a dy- wedodd y buasai iddo ymddial, ae am hyn cafodd ei ddirwyo yn drwm a cholli ei dir yn y fargen. Un noswaith gwelwyd y barwn yn myned allan o'r dref drwy borth Sengheiiydd ar gefn ei farch; ac ni wel- wyd mo hono mwyach. Drwgdybiwyd Ifor Bach, ac anfonodd yr iarll genadwri i wysio Ifor i'r castell. Daeth y cenhadau o hyd iddo yn hela hyrddod yn fraf Vechan, ac addawodd ufuddhau. Pan glywodd yr iarll hyn, yr oedd yn bur falch. Yn]y cyfamser cafwyd corph y barwn Normanaidd yn nghrog, yn y coed oedd ef wedi ei ddwyn oddiar Ifor, ac ysgriten wrth y corph, Fel hyn mae Ifor Bach yn talu ei ddyled." Anfoncdd yr iarll fyddin o wyr meirch i gymmeryd Ifor yn fyw neu yn farw ond yr oedd yr hen law ar ei ffordd tua'r castell gyda byddin gref. Cyfarfyddodd a milwyr yr Iarli yn Nghwm Taf, a chymmerodd hwy oil yn garchar- orion, a gorfod fu iddynt gyfnewid dillad a'i wyr ef a rhoddi y pass i fyned i fewn i'r castell. Cyrhaeddasant y castell ganol rios; gofynodd y gwylwyr am y pass, a rhoddwyd ef iddynt, ac i fewn a hwy ond cyn iddynt oil fyned i fewn, gwaedd- Wyd bradwriaeth Clywyd y cleddyfau yn clecian, ac oernadau cwynfanus y clwyfedigion. Cymmerodd Ifor y castell, a'r iarll, a Mabel ei mraig, yn nghyda Robert Ddall, Due Normandi, yn garchar- orion. Gorfu i'r iarll wneud iawn, ac adferu eu breintiau i'r Cymry Y mae darlun o gymmeriad y castell i'w weled yn Neuadd y Dref. Bu Robert yn garch- aror yn Nghaerdydd am wyth-mlynedd- ar-hugain, ac yma y tynwyd ei iygaid, trwy orchymyn ei frawd annaturiol. Dysgodd yr iaith Gymraeg yn ystod ei garchariad, ac y mae rhai darnau bardd- onol o'i waith ar glawr heddyw. Y GOHEBYDD GWIBIOL.