Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

O'R DEHEUDIR.

News
Cite
Share

O'R DEHEUDIR. GWRTHDARAWIAD DIFRIFOL AR Y RHEIL- PFORDD.-Boreu dydd Mercher, wythnos i'r diweddaf, ar y South Western Railway, rhwng deg ac unarddeg o'r gloch, gwrth- darawodd un o'r passenger trains yn erbyn talik engine yn agos i'r Chapham Junction, Nid oes yr un rheswm boddhaol wedi ei l'oddí dros y ffaith fod y tank engine yn Sefyll yn segur ar y llinell. Yr oedd yr Ysgydwadyn un ofnadwy, ond y syndod yw na symmudodd y tren na'r peiriant °ddiar y line. Niweidiwyd un foneddiges a phlentyn, a derbyniodd y guard a boneddwr arall niweidiau ysgafn. Ni chafwyd colledion o ddim pwys neullduol lXlewn bywydau nac eiddo. YSTA LI, FEPA.-Yll Ilys yr ynadon sirol gynnaliwyd yn nhref Abertawe, ddydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, cyhuddwyd ttn Anne Thomas, o'r Railway Inn, Ystal- Yfera, o adael ci brathog a berthynai iddi at ei ryddid. Ymddangosodd yr erlyn- Ydd, bachgen o'r enw Tom Jones, o flaen y llys gyda'i fraich mewn sling. Dywedai fod yn sefyll wrth y Railway Inn nos *~un yn edrych ar Cheap Jack." Yn agos i'r fan yr oedd amryw o fechgyn yn tbwareu, a thra yr oedd yn sefyil yno 5jaeth ci Anne Thomas yn mlaen ac a'i brathodd yn ei fraich, gan gymmeryd ^aith ddarn o'r cnawd. Yr oedd y ci Yn un mawr iawn. Ni wyddai efe fod y ci Vvedi brathu neb yn flaenorol. Dywedai Yl' heddgeidwad Giddings ei fod yn adna p °d y ci, ac yr oedd achwynion blaenoroi w^di bod mewn perthynas iddo, ac yr Gedd efe wedi rhybuddio Anne Thomas ei gylch. Rhoddwyd gorchymyn i add y ci yn uniongyrchol, rhag digwydd Peth a fo gwaeth. MERTHYR, GOSTYNGIAD YN MHRIS Y GLO. mae gostyngiad wedi ei wneud yn ^sbys o ddau sv-'llt y dunell yn mhris y J.o. Ystyrir yr hysbysiad hwn yn ddim ^n:igeu na rhagredegydd i ostyngiad yn y yflogau. 'CAERPHILI.—Boreu dydd Sadwrn, y^hnos i'r diweddaf, bu amryw o'r dyn- sydd yn gweithio yn y Garth Tendry ^°Hiery mewn perygl o golli eu bywydau [wyi ran o'r gwaith gael ei orlifo a dwfr, lenvydd i un o'r dynion daro ar le yn yr \\VA- amryw o dunelli o ddwfr yr oedd amryw o dunelli o ddwfr edi ymgasglu. Ymruthrodd y dwfr yn mlaen gyda'r fath nerth nes ysgubo o'i flaen bentwr o ysbwrial, a chau amryw o'r dynion i mewn fel yr oedd diangc yn an- mhosibl. Oni bae i ddau o'r dynion wneuthur ymdrech i wneud lie i'r dwfr redeg, buasai pump neu chwech o fywydau wedi colli. Vvedi awr o amser, pan oedd- yilt at eu haner mewn dwfr, llwyddasant i ddiangc. ABERTAWE.—Diwedd yr wythnos cyn y diweddaf, daeth newydd i'r dref hon fod y llestr Minstrel King, perthynol i'r porthladd hwn, wedi cwrdd ag anffawd annghyffredin, nid amgen na bod morfil anferth wedi ymosod arni. Cymmaint ydoedd netth rhuthiad y cawr arni, fel y codwyd un pen iddi yn glir o'r dwfr tua deunaw troedfedd. Dywedir nad oedd yr angheniil anferth yn ddim llai na chan' troedfedd o hyd. Taflwyd y ddau ddyn oedd wrth y llyw yn llebanod diymadfertb ar y bwrdd gan yr ysgytiad. Llwyddas- ant i'w darfu ymaith trwy wneuthur swn ercbyll gyda chyrn, clychau, a hen biserau nes ei ddychrynu. LLANFAIR MUALLT.—Dydd Sadwrn cyn y diweddaf, cyfarfyddodd dyn o'r enw Roger Pugh a damwain pur ddifrifol tra gyda'i orchwyl o adeiladu eglwys newydd yn y dref. Cwympodd estyllen ar ei ben oddiar y scaffold, pryd y taraw- wyd ef i'r llawr yn ddideimlad, a bu raid i'w gydweithwyr ei gludo adref. Da genym ddeall, pa ffordd bynag, ei fod yn graddol wella. ABERYSTWYTH.—Dygwyddodd dam- wain ofidns i ddyn o'r enw Abraham Owens, Ty'nllidiart, Bow Street, gerllaw y dref hon. Yr oedd ef yn un o'r gwib- deithwyr i Eisteddfod Freiniol Bangor, ac fel yr ydoedd yn disgyn o'r gerbydres yn yr orsaf, cwympodd rhwng y cerbyd a'r esgynlawr, lleyranafwyd ef yn ddychryn- llyd. Torodd asgwrn ei goes, a meddylid unwaith y buasai raid ei thori ymaith ond drwy fedrusrwydd. Dr Rowlands, coleddir gobeithion am ei adferiad. Y mae ganddo wraig ac amryw o blant., Dyma rybudd i ddynion i beidio neidio o'r gerbydres cyn iddi sefyll. o'r gerbydres cyn iddi sefyll. TREFORIS.—Digwyddodd damwain ang- euol yn un o byllau Mr J. Glasbrook o'r lie uchod, y dydd o'r blaen, i ddyn, trwy gael ei daraw gan ddram yn y level, trwy i'r gadwyn dori. Gadawodd amryw blant bychain i alaru ar ei ol, y rhai hefyd a gollasant eu mham beth amser cyn hyny. ABERYSTWYTH.—Ychydig ddyddiau yn ol, fel yr oedd yr agerlong Armstro, perthynol i Mr John Jones, Bridgend, o'r dref hon, ar ei mordaith o Abertawe i Garston, yn llwythog o fwn copr, sudd- odd yn morgilfach Aberteifi, ac aeth o'r golwg mewn ychydig funydau. Achub- wyd y dwylaw, a glaniwyd hwy yn y Ceinewydd. Dywedir fod y llong wedi ei hyswirio, ond nid i'w Ilawn gwerth. LLANDAF.—Bu achos gwarthus o ym- osodiad dan sylw yr ynadon yn y lie hwn ddydd Llun cyn y diweddaf. Ymos- odid ar yr erlynydd gan ddau ddyn a dwy ddynes, y rhai a'i curasant ac a'i ciciasant yn greulawn. Yr oedd ei ymddangosiad yn y llys yn druenus i'r eithaf,—ei lygaid aswy wedi ei niweidio, ei fraich dde wedi ei rhwymo i fyny, ac yn cael ei chario mewn cad^ch, a'i wyneb wedi ei friwio gan archollion, a'r olwg gyffredinol arno yn gyfryw ag oedd ar unwaith yn dangos ei fod wedi derbyn camdriniaeth gywil- yddus oddiar eu dwylaw. Gohiriwyd yr achos. IEVAN AWST.

___-,GLYN HALL, TALSARNAU.

LLITH 0 EIFIONYDD.

GOHEBYDD GWIBIOL Y DE.