ο»Ώ LLITH DAFYDD EPPYNT.|1874-09-04|Llais Y Wlad - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

3 articles on this Page

.Y DEHEUDIR.

LLITH DAFYDD EPPYNT.

News
Cite
Share

LLITH DAFYDD EPPYNT. Coleg Dewi Sant.—Mae glenydd y Teifi wedi bod yn enwog am ysgolion a choleg- au trwy oesoedd cred. Yn y flwyddyn 1187 sefydlwyd coleg yn Llanddewibrefi, gan hsgob Tyddewi, yr hwn sefydliad a fu mewn bri hyd amser Harri VIII. Yn y flwyddyn 1774 sefydlodd Mr Edward Richards ysgol ramadegol yn Ystradmeu- rig, ac a roddodd yn ei ewyllys dai a thir- oedd tuag at gynnal y gyfryw ysgol dros fyth, set y tyddynod a elwid Brynperfedd, yn mhlwyf Ystradmeurig; Mynachty- ffynnon-oer, Twynmawr," Twyngwn- dwn, yn mhlwyf Lledrcd; Brwyn-nant, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Creuddyn, &c. Gadawodd hefyd ei lyfrfa werthfawr at wasanaeth yr ysgol. Dyma wladgarwr enwog; ac iddo ef y mae cannoedd yn ddyledus am eu dysg a'u henwogrwydd, a'r Eglwys am eu gwasanaeth offeiriadol. Yn ngwaelod ei ewyllys mae y cyfarchiad ymadawol hwn at y cymmunweinyddwyr, "My will is to do good to the present age and no less to posterity. Let charity prevail over self-interest, and my effects be disposed of to the best advantage, and the money laid out in books tor the Library, my wearing apparel you give to the poor. "TO THE SCHOOLMASTERS. This school is not to be a sinecure, you must attend and get your bread by labour and industry. Feb. 28, 1777." Yr ysgolfeistr cyntaf ar ol Mr Richards ydoedd y Parchedig J. Williams, tad y diweddar Archddeon Ceredigion. Bu ef yn athraw yma am 40 mlynedd, a bu farw yn y flwyddyn 1818, yn 73 oed. Canlyn- iedydd Mr Williams ydoedd y Parchedig Mr Morris, a fu farw yn 1859. Yn y flwyddyn 1806 sefydlodd y Parchedig Elvelyn Williams, ysgol ramadegol yn Llanbedr, a pherthyna i hon enwogrwydd mawr, a rhagdddaparodd amryw i'r offeiriadaeth, nifer o ba rai fuont enwog yn eu dydd ar gaer yr Eglwys a'u gwiad. I'r Esgob Burgess yr ydys yn ddyledus yn benaf am sefydliad y coleg rliagddy- wededig; dyma freuddwyd ei fywyd esgob- 01, a phan yn gosod y sylfaen (which was a b.'ock o'r marble), teimlai fel Simeon, Yn awr, goliwng dy was," &c. Y bwr- iad gwreiddiol ydoedd adeiladu y coleg yn Llanddewibrefi, ac yn y flwyddyn 1809 dechreuwyd cloddio meini yn y gymmyd- ogaeth hono i'r perwyl hwn. Yn Report y Committee of Commissioners am y flwyddyn hono ymddangosodd y datganiad canlynol:—" TIH) college to be called the St. David's college. The college to be founded fur the sole purpose of educating for the ministry of the Church of England young men natives of the Principality, whose cicumstances preclude them from the advantages of an University educa- tion. The college to consist ef a Princi- 0 pal, two Lectures, two Preceptors, a Teacher of Psalmody, &c. The Principal and Lecturers to be natives of the Prin- cipality." Yna rheddir y rhesymau yu '¡ mhlaid adeiladu y coleg yn Llanddewi- I brefi, megys, Its exclusion from popu- lous society; its vicinity to some of the Bishop's best patronage; its spacious oliurch, &c. Ond daeth rhyw rwysfrau ar y ffordd, fel yn y flwyddyn 1820 yr ydym yn cael y boneddwr J. S. Horsford, Ysw., mewn cynadledd a'r esgob yn cynnyg ca€ at wasanaeth ei arglwyddiaeth ymha un y safai hen gastell Llanbedr, yr hwn gynnyg y darfu iddo ei dderbyn. Yr ydoedd erbyn hyn y swm o 13,000p.wedi eucasglutuagat dreulion yr adeiladaeth. Danfonodd yr Esgob am C. R. Cockrell, Ysw., y prif- adeiladydd, er mwyn cydymgynghori o Iny 11 berthynas i'r cynlluniau. Yn y flwyddyn 1822 tanysgrifiodd ei Fawrhydi Sior IV. lOOOp. tuag at yr adeiladaeth; ac hefyd J. Jones, Deri Ormond, 500p. O'r diwedd gwawriodd dydd Llun, y 12fed oAwst, 1822, pryd y gosodwyd careg sylfaen y coleg gyda rhwysg cyfaddas, gan yr Ar- glwydd Esgob Burgess ynngwydd miloedd o bresennolion, lien a lleyg. Cadwyd ZD gwasanaeth yn Eglwys y plwyf, a phre- gethodd y Parchedig D. Williams, perig- lor y plwyf, oddiar Mai. ii. 7; Canys yr offeiriaid a ddysgant wybodaetb." Yna ffurfiwyd gorymdaith i orsaf y coleg, yn cael eu harwa.in gan beriglorion Milwyr Breiniol Ceredigion, yna ysgolheigion ysgol ramadegol Llanbedr, yna yr offeir- iaid yn eu gwisgoedd swyddol. Gwedi cyrliaedd safle y coleg, darllenodd J. S. Harfod y weithred ag ydoedd yn tros- glwyddo y tir a thair erw at wasanaeth y sefydliad, a thraddododd araeth hyawdl. Gwedi hyny cyfododd yr Esgob i ddad- gan ei hyfrydwch fod ei bryder a'i ym- drechion am y deunaw mlynedd diwedd- af o'r diwedd yn cael eLi coroni, belidith,te mor ddrylliog ydoedd ei deimladau fel na allai fyned rbagddo. Canodd y dorf y ganfed Psalm gyda brwdaniwch Cymreig, ac yna dodwyd y y sylfaen i lawr gyda llawenydd a dagrau o lawenydd, a dychwelwyd diolchgan i Dduw gan y Parch. M. Philips, Caplan yr Esgob. Haul addysg ei hoyw Iwyddiant—a gadodd Gyda mawr ogoniant; Cymylau 'n vigeioiau gant O'r golwg draw a giliant." -D. lJà u. Erbyn hyn mae y coleg gwedi ym- wreiddio, a phob blwyddyn yn ei wneud yn fwy classic ground. Mae yr ysbryd pererindodol yn reddf yn y natur ddynol, yn neillduol felly i leoedd o nodweddiad Eglwysig. Ni byddai allan 0 le pe cyfar- fyddai yr hen golegwyr, sef gynnifer ag a fyddai gwedi cael ein gadael ar ol gan raib angeu, rhyw unwaith yn y flwyddyn, dy- weder ar ddydd gwyl Dewi Sant, neu rhyw Wyl Mabsant arall, gan dreulio y dydd yn ddedwydd, difyr, a da, gan edrych yn ol ar frwydr bywyd, &c. PENCEKRIG.—^Yr ydys yn darllen hedd- yw fod boneddwr o Llanstephan, (Syr J. Hamilton,) gwedi tanysgrifio 50p. at ad- newyddu yr hen eglwys sitrachog lion, sydd yn sefyll ar fryncyn y mwyaf tlws. Nid oes eglwys na phlwyf yn sefyll mewn angen am fwy o adnewyddiad, nid oes yma anadl einioes eglwysig, neu ddysg- edigol. Nid oes yno o gor i gangell un erddygan ond y gwynt, ac y máe yr offeiriad presennol gwedi bod yma dros 50 mlyn- edd Ar gofadail rhieni Daniel Ddu yn y fynwent yma mae y beddargraff hwn o waith y bardd uchod :— it hoi tad a mam fad i fedd,r)ioi wyneb Rhai allwyl i'r ceufedd, Trwy fon y galon gulwedd A dery glwyf fel dur gledd." CLADDEDIGAETH Y PARCH. DAFYDD WILLIAMS.—Claddwyd y gwr hynod hwn, Awst 26, yn Troedrhiwdalar. Yr oedd yr angladd yn un mawr, yn cael ei wneud i fynu gan lawer o offeiriaid yn nghyd a gweinidogion o bob enwad, De a Gogledd, canys y trangcedig ydoedd wr tangnefedd- us yn dwyn parchjgan bawb a adwaenai. Pregethodd Dr. Bees, Abertawe, a thra- ddodwyd areitlnau gan bedwar neu bump o brif ddynion yr enwad, a darlienwyd cylran o bennod y gladdedigaeth uwch ben y bedd gyda difrifoldeb gweddus. Yr ydoedd y bregeth a'r areithiau yn fyr ac i'r pwrpas. Efallai mai claddedigaeth syml, didrwst, dirodres, sydd yn taro y cliwaeth goethedig oreu ond pan fyddo marw cadfridog yn Israel, nid yw ys-' gatfydd yn anmhriodol troi angladd yn gwrdd pregethu ac areithio. Fel rheol, tawelwch didrwst, dirodres, sydd yn gweddu i angeu a'r bedd. Gyda llaw, nid oes dim yn fwy disynwyr na'r gwastraff sydd yn nglyn a cliladdu yn mhlith y Cymry. Cymmer le yn nhroion amser efallai ddau neu dri angladd mewn un teulu yn ystod blwyddyn, a bydd rhaid cadw fyny y pomp angladdol er sigo y fywoliaeth am ilynyddau! Hen bererin, boed iti heddweh; nid amgauodd dyblygion bedd am ddnhweidiach, duwiolach, gloywach, ffyddlonach gwr na'r anwyl was hwn i Iesu Grist. •i "I ni mae'r golled, elw yw i ti. Fa arat ac athist y-dodwyd ef lavvf, I noswylio o faes ei foiiant; Nj raid cerfio gair, na rhoi bedfaeu tuawj-, Gidawer ef gyda'i ogoniaut. V\ e left him alone with bis glory." Y i,, EGLWYS YN NGHAERFYRDDIN.—Yr wythnos ddiweddaf bu gwyl de a rhialtwch f yn y dref lion mewn cysylltiad a holl ysg<jiion tlyddiol a S^bbothol eglwysig y lie. Yr oeddynt yn cynnwys yn ol y Western Mail, rhyw 2,500 mewn l'hif. Blaenivi eiddo St. David's gan yr Arch- ddion Williams, gyda chor o berorwyr; ac eiddo St. Peter's gyda y Parchedig M; r L. Jones, efo cor arall o beroiwyr. Gwedi gorymdaith trwy brif heolydd y dref, bu byr-wasanaeth yn Eglwys Crist." Yna ymranodd eiddo y ddau blwyf, pob un i'w faes ei hun. Nid oes un dref yn Nghymru ag y mâ3 yr Eglwys yn fwy blodeuog nag 0 1) yn Nghaeryfrddin.- i -<l. j,

GOHEBYDD GWIBIOL Y DE.