Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

DYI ;D GWENER, MEDI 4, 1874.

News
Cite
Share

DYI ;D GWENER, MEDI 4, 1874. Y BARNWR A'R YNADON. Dichon mai ychydig ydyw nifer y rhai hyny ydynt heb ddarllen hanes Canute Fawr yn rhoddi gwers effeithiol i'w ddeiliaid. Yr oedd Canute wedi cyflawni Iluaws o weithredoedd nerthol, ac arwein- iodd byny ei ddeiliaid, yn eu cibddellni edmygol, i'w gymharu i Dduw. Un diwrnod digwyddai yr hen deyrn fod'yn rhodiana ar fin y traeth pan ydoedd y llanw yn dyfod i mewn, ac yn ngwydd ei bqbl ymoiseddodd ar gadair, a gor- chymynodd i'r llif sefyil yn ei gwrs; ond yn ei fyddardod i leferydd dynol, gwatwor- ai yr aig y gorchymyn, ac ynilifai yn mlaen mewn ufudd-dod i'w ddeddf an- hyblyg. Wedi i'r dyfroedd ei gyichynu ef a'i gadair, cymmerodd Canute y cyfleustra i weinyddu cerydd i'w ddeiliaid, adefnyddiai yr amgylchiad i* whargyhoeddi o ffaeledigrwydd dynol. Y mae Canute wedi mynedi ffordd yr lioll ddaiar er's tros wyth canrif, ac nid rbyfedd fod ei wers wedi cael ei amnghofio gan fwy o ffaeledigion na'r hen lencyn doniol o Rufain. Pan ddigwydda ffawd fod mor garedig a dyrcbaiu ambell i ddynsa\^d i esmwythfaingc awdurdod, telm'a y cyfrvw fod y fath gagendor wedi ei sefydlu rhyngddo a chyftredinolion daiar fel y golyga hwynt yn ail i ionion bresych, Y gwahaniaeth pwysig, liiodd bynag, rhwng Canute a'i olynwyr, ydyw, mai yn marn ereill yr ydoedd ef yn anffaeledig, tra nad ydyw yr olaf yn anliaeledig ond yn eu barn eu hunain yn unig i Ni fynem ar un cyfrif gymmaint .a breuddwydio am daflu cysgod awgrym: fod Mr Vaughan Williams, barnwr llys- oedd m4n-4dyledion yn Ngogledd Cymru} yn perthyn i'r fath ddosbaith hunan- dybus; ond anturiwn sylwi fod ei ym- ddygiadau yn ltliyl yr wythnoso'rblaenyn ymddangos i ni yn esboniad rhy ym- arferol braidd ar awdurdod barnol. Yr ydym yn gwbl wybyddus fod gan farnwyr awrlurdodlled eithafol yn eu llysoedd eu hunain ond deallem ni fod yr awdurdod hwnw yn anwahansdwy & r faingc, ac nas cellir ei gludo oddiamgykh i bob cyfeiriad fel dilledyn. Dichon ein bod yn cyfeil- iorrii ynhyn o beth os felly, yr Q-edd esboniad Mr Vaughan Williams o'r gyfraith yn Rhyl yn gywir; ond teilwng ydyw. sylwi ddarfod i Mr George, fel cynghorwr cvfj-eitlitol yr ynadon, feiddio datgan ei farn fod y cwrs a fabwysiadodd Mr Williams yn un tra. afreolaidc-1 ac aUan o drefn." Modd byng, boed rhwng y doctoriaid cyfreithiol a u aji i nghytundeb; ac awn ninau yn mlaen at ffeithiau yr achos, fei y dadlenwyd hwynt ger bron yr ynadon. Ymddengys yn ol y tystiolaethau, fod Mr Williams yn, gyru anifail bywiog, prycl y daeth i gyfarfyddiad a dyn o'r enw Powell, yr hwn oedd yn cyflawni cyffelyb orciiwyl, ac archodd ar iddo gilio o'i ffordd. Yn anffodus iddo nid oedd y gyr- iedydd, druan, yn hollwybodol, neu buasai yn ymwybodol fod y gorchymyn yn deill- iaw o enau barnwr, chwip yr hwn a'i har- gyhoeddodd yn ebrwydd o'r ffaith drwy dynu gwaed o'i ffroen, a chreithio yr offeryn arogliadol. Ystyriai Mr Williams fod y-fath anystyriaeth dybryd ar ran yr achwynydd yn teilyngu saith niwrnod o gaichariad, ac ar sail ei esboniad o adran neillduol o'r gyfraith a'i gyfrifoldeb ei hun fel barnwr, traddododd y troseddwr i garchar y Wyddgrug, lie y caiff y fraint o ddysgu gwabaniaethu rhwng barnwr a dyn. Nid ymfoddlonai Mr Williams ar dra cldodiacl y ddedfryd hon, oblegid wedi bygwtb cyflawni yr un gymwynas a, Mr George, appeliodd at yr ynadon am ddilead y wvs oddiar goflyfr y llys. Modd bynag, nid oedd ei frodyr ynadol yn fedd- iannol ar ddigon o gariad brawdol i gyflawni y gymwynas, a barnasant yn ddoeth fyned yn mlaen gyda'r cyhuddiad o ymosodiad, yr hwn a derfynodd mewn dirwyo y barnwr i bum' punt a'r costau. Yn naturiol ddigon, teimlai Mr Williams wrthwynebrwydd neillduol, a datganodd y cyfryw yn ddifloesgni, i ddilogellu y fath swm ac yn rasol cynnygiodd ei frodyr ynadol iddo y dewisiad o bedwar niwrnod ar ddeg yn ngharchar. Pa un a ymddygodd yr ynadon yn gyfiawn a theg at Mr Williams, ni fynem ni ym^ymmeryd a phenderfynu, ond yn sicr y mae yr achos yn un difrifol, ac ni synid ni ped ymdrinid ag ef gan awdur- dod uwch. —~

CRYNNODEB WYTHNOSOL.

CYMDEITHASFA Y METHODISTIAID…