Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
----HYN AR LLALL, YMA AO ACW.
HYN AR LLALL, YMA AO ACW. HEISTRI, GLYGWRS,—Sut rydach chi 'n teimlo roi y Steddfod ma, ydi'r pena'n iawn a'r loda f gid yn gyfa ? Os ydi pob peth yn right, diolchwch lawar, herwydd ma ugeinia yn colli arnyn i hunin amsar Iteddfod, Oes, neno'r dyn, a llawar o nonyn nhw yn Myhion gweddol gall hyfyd ar amserodd cyffredin; ond beth sy'n ddigon i godi bwrn ar hippopotamus ydi gweld ryw fan blantos yn i sgwario hi o gwmpas er trio caul gin rai erill gin gallad a nhwtha gredu ma nhw odd asgwrn cefn 'r holl fusnas i gid, ac xm fasa dim stedd- fod na thywydd teg oni bau nhw. Cin wiriëcl a bod cocos Traeth y Lafan yn £ Shwibtalitl, Sep, the conquering hero comes, pan welait nKw ff&rai tclyst bastard mul yr Archfardd, y ma hogia 'r oes yma yn fyddianol ar fwy o cheek o beth wmbrath nac sy o les iddy nhw, a rhy chydig o ostyngeiddrwydd o lawar iawn i allu rhodio miawn awyr cymdeith- asol iach prindar o dignity, cyflawndar o impudence. Fel yr awgrymis i rwsnos dyweutha cyrhyddis baball y Steddfod erbyn tua hanar awr wedi chwech nos Wenar. Barnais ma gwell odd i mi gerddad o'r Felinheli ermwyn cyrhadd, a ghaul mynd i fiawn yn lied sly, herwydd ni wedi caiil hint taswn i wedi mynd i'r station fod brass band Mold ac Estyn yno yn y nisgwyl i, ac yn bwriadu fy fcrwaun gyda rhwysg digyffelyb i'r pavil- ion ond Thanki," medda fi wrtha fy hun, Sponcith Robin ffordd arall tro yma, If ac felly bu hi Mi sponcis i fiawn drw un o dylla y ventilation yn y top, ac mi ddisgynis ar y silf sidan lydan oedd yn sound wrth ganol y gantoras wen, ac rodd i lied hi yn ddigon i guddio yn i ffolds gawod o locustiad, heb son am un Robin Sponc. Y peth cynta glywis i ar ol y gan odd twrw fel tasa tua dwsin o falianteers yn gillwng y charge ofii rifles, ond erbyn gwrando a holis y champagne â'r portar yn nghymdogath y Green nooili odd'mor awyddus i wasanaethu i phryswylwyr nes burstio dora, i carchara. Nid odd y baria wires ond megis gwe pry copyn, a thyndra y corcia ond megys nydwydd ddur,mewn twll bwng baril. Ma rhaid fod nhw wedi caul rhw amnaid fod i pioneers wedi caul croeso anghyd- marol, gan mor frysiog odda nhw i attab dibenion i oyrchiad. Ma champagne, ellwn i feddwl, wedi mynd yn un o hanfodolion y steddfod, herwydd fe ddywedir fod y ey- hoeddiad o honi yn Mhwllheli wedi esgor ar afonydd o hono to. Ma 'n ddiama fod yno ddysgedigion cocosaidd, ac yr odd ei radlonrwdd yn digymod yn dda a'i cyfansoddiad. Ma 'n debig ma hwn odd yr hyn a ollyngwydyn aberthol o'r orsadd vno er prynu support y clique, a threio diffod pob gwrthwynebiad. Felly wir. Be ddyliat ti, 'r Archfardd, ar ol y consart mi glywis ddeud (ond hwrach ma guess odd o) y bydd yna dipin o surplus go lew. Hwi lwc, meddaf fi, yn un peth am fod llawer o snobs Bangor a'r cylchodd wedi taflu cimin ac alia nhw o ddwr oer am ben y symudiad, am na basa nhw yn bob peth a phawb arall yn ddimbyd. Fasa'r lot yma yn gorfoleddu tasahi wedi mynd yn fethiant, ond gaw- son i siomi tro yma, yn to yr Archfardd ? Eitha iddy nhw gael tipin o wers, ydrach ddysga nhw y gneith y byd droi ar i beg- yna heb i twmffat nhw roi oil yn y tvlla. Gan na chyrhyddis i hyd nos Wenar alia i ddim rhoi hanas dim o'r Steddfod i c li. Ma 'n siwr fod gynoch chi ych reportsis yno. Wir ma 'r hanas sy gynoch cLi rwsnos dyweutha yn dda gyddeiriog. Nol 'r hyn welis i o'r consart nos Wenar odd o reit dda, ond ellwn i feddwl fod no ar y mwya o'r canwrs ma. Tasa no dipin llai, gawsan fwy i neud, wedyn fasa gyny nhw lai o amsar i fflockio at i gilydd i siarad a chicio row. Ma raid roi stop ar y busiiass yma. Os sriada rywun yn y gylleidfa tra ma nhw 'n canu mi drychan yn drwynsur iawn, ond gyda'r an nhw odd ar y; stage mi gadwan ddigon o riat i hunin, ne o leia rodda nhw felly nos Wenar. Boed iddYil nhw gymryd rhybydd, ac actio yn weddus ond nid yn ffroenuchel a scornful. Ma 'n ddiama fod yna eithriada, a sicr yw fod cymoliath i cydwyboda i hunin yn ddigon o dal iddynt. Stopiaf ar hyn y tro yma. ^Caul llythyr bora heddiw, sef bora ddydd Mawrth, o'r office, wedi i anfon gin ffrynd o Bont y Borth, fod rhyw rai wedi mynd trwadd no ddydd Sadwm ar i ffordd i Ynys Seiriol i gadw pic y Nick, ac ma fy hen gyfaill yr Archfardd odd y chief ingianeer, ac ma ginger pop, monod, co- cos, swigan lard, dau bwdin du, cyneg- warth o froan, a chydig o buns dima, odd o wedi brovidio i ffeedio'r lions, ac fod < wedi troi ei biii breast dderw yn gorksgnw i agor y pyteli pop, ac wedi l'hwo. yn dyn waelod un o leggins y cwpeini, a thywallt y cwbl i'r I eggid, a phawb yn gorfod yfad o hono efo i cregin cocos. Ddylsat ti ddim, yr Archfardd,. neud dim o'r fath beth. Beth wyddat ti nad alia fod y gwydyr llyfna yn dal i lond o'r cham- pagne gora wedi bod wrth geg rhai o'r cwpeini noson o'r blaun, ac ma fo'n rwbath anfyrddonol iawij dywad a tlaacla mor arw a chregin coeds tie westras i' r, un gymdogath. For shame, yr Arehiiira4; ond mi esgusoda i di am y tro yma. Pam byth ytto ac insultio gogonianta mwya, 'r Steddfod os nad y byd. Er mwyn tipyii rhagor o sport dymmryd sponc i blasdy 'r Archfardd tua hanar nos iioS Ferehar. Yr hen frawd wedi mynd i wely a chlo a? ddrws i fedrwm o ond todd hyny ddim odds i mi; stwffis i fiawn drw dwll v clo miawn mynydj gan feddwl caul tipyn o o sgwrs, ond neno'r dyn i chi mi giy wn yr Archfardd o dan ddylanwad Huwcyrr f ories a'r awan, yn mwmial drw i hun rwbath yn debig i hyn, Rodd yno dylwriad Ac mi rodd no dinceriad, Yn bytta ac yn yfad f Ml Wfebd gryi! !a»er O fl'ipu & |>op», a digtm o Soya Heb chops | Ond rodd no ddfgcu 6 wit I fyddloci torn tit, Ac rodd amball un no swil Fel tasa nhw ofn am y lil Ac yn deehra inynd yn sil Wrth feddwl am y tal, yn mynd yn sal. Rodd no rags and bones, Ac ami i Jones yn bytta bon-bdns Ac mi rodd amball i ledi Yn caou bledi fel hurdi-gyrdi Ond todd no ddim sport hefo'r fath siort, Ac mi toris i hi'n short heb sherry na phort, Achos to ni ddim am fod yn Bport I grydiriad men heb ddim siampêu 0 Madagaagar na Spain. Ar hyn dyma'r bardd yn cilagor i lygad aswy, a fina yn sponcio dan y gwely cyn iddo fo gaul amsar i roi wine arna i. Ma nannodd gwbod yn iawn prun a gafodd yr Archfardd i blesio ai peidio, ond to ni ddim yn leicio i ddeffro fo i ofyn. Os na chafodd o mi ddylsa gaul, herwydd mi rodd no rai bechgin doniol yn ,otot. Clywad fod na dipyn o jealousy rhwng pobl Conwy a phobl Pwllheli o byrthynas i'r Steddfod flwyddyn nesa. Lol i gid; gweithiweh efo'ch gilydd, os ydach chi am y ddwy. Steddfod yr Eryri y cyhoeddwyd un Pwllheli ynte ? Ai nid y gynadlaethol y cyhoeddwyd un Conwy ? Wel, byddadynte i Bwllheli fyddloni ar iddi fod yn un local yn ol y eyhoeddiad, 810 ymdrechad pobl Conwy neud yr un yno yndeilwng o'i galw yn Royal and National Eisteddfod. Ma'n siwr nad os le mwy handy yn y wlad at gynal Steddfod na Chonwy, ac ma yn yr ardal feirdd a llynorion sy'n steddiodwyr profiadol. Ma Conwy ar yr ystyron yna yn meddu mantas ddirfawr ar Bwllheli. Failure i radda odd Steddfod Coedpoeth, a hyny ymhlith petha ereill, am fod yr ardal yn un hollol anghyfleus i gadw Steddfod, a diama ma felly y bydda un Pwllheli os ymcanir i gneud hi ar "scale rhy fawr. TOB neb yn ama na wna Mr Picton Jones i ora, ac nis gall fod run teimlad yn i erbyn o'n byrsonol, ond ma 'n siwr yr ydrychir gyda chryn amheuath ar ryw rai sy'n stwflio i cyngorion iddo fo, ac yn lavish iawn yn nghynygiad i gwasan- aeth i hunin a'i ffrindia. ROBIN SPONC.
EISTEDDFODAETH CYMRU.
EISTEDDFODAETH CYMRU. FONEDDIGION,Dyma bwngc poblog- aidd yr oes bellach ag sydd wedi llyngcu meddwl y genedl a sylw ei llenorion. Dengys hyn y fath ymlyniad sydd gan y Cymro at lenyddiaeth ei genedl, a'r fath gymmwysder sydd yn ei llenyddiaeth at ctiwacth y genedl. Cawn hanes ein heisteddfodau yn mhob oes a chanrif, weithiau'n flodeuog, bryd arall yn y niwi. Y mae'r ysgrifenydd yn cofio'n dda Eisteddfod fawr Beaumaris (lie cafodd yr hyn a elwir urdd), pan wisgai ein Grasusaf Frenhines (y pryd hyny yn Dywysoges), Gwilym Caledfryn ac Eben I Fardd. Cynnaliwyd o hyny hyd yma eisteddfod o ryw lun mewn. ardal, tref, neu gilydd, weithiau'n llewyrchus, bryd arall yn an- ifodus, hyd nes y ffurfiwyd y cynllun cenedlaethol. Wedi rhoi'r engine cenedl- aethol i dynu cerbydau yr Eisteddfod tybiai pawb yr ai yn ben sefydliad y byd, ac y byddai pawb yn eu haddoli fel delw Nebuchodonozor. Ond och! yr oedd y pridd, a'r pres, a'r haiarn mor annghyd- weddol ynddi, fel y maluriodd yn fuan, gan cdryllio a briwio teimladau ac am- gyichiadau llawer eisteddfodwr. Oddiar olion yr hen adeilad gwympedig, codwyd Eisteddfod Eryri, Eisteddfod Fynwy, &c., ac er syndod dyma'r Wyddgrug y llynedd yn ymrithio yn enw yr hen sefydliad cenedlaetholl Mae'n debyg nad oedd patent arno. Dyma Fangor fawr yn Ngwynedd yn rhoddi'r gair Breiniol wrth gwt ei henw! Beth nesaf, tybed ? Beth hefyd, syned yspryd Ceridwen, chwardded drychiolaethau Plenydd, Alawn a Gwron.; ond na fyneger ef yn Gath ac na chyhoedd- er ef yn heolydd Ascelon-tair o eistedd- fodau yn cael eu cyhoeddi oddiar y maen chwyf. Beth, a oes ymraniaeth wedi ilygru gwaed y Cymro nes ei gymmysgu a'i noli weithrediadau moesol, llenyddol, gwladol, yn ^stal a chelfyddydol. Beth a darawodd yti mlien y brawd Gwalchmai gyda rhyw ddyrnaid dinod i gyhoeddi eisteddfod yn Nghonwy pan y gwyddent fod rhybudd wedi cael ei roi yn y Wydd- grug am gynnal yr Eisteddfod am 1875 yn Mhwllheli, tref a chartref ag sydd gan mil addfetach iddi na Chonwy, a thref na bu y fath betli ynddi o'r blaen ? Os nad ydyw awyr Conwy yn iachach mewn ystyr Eisteddfodol -na'r eiddo Llandudno, goreu po bellaf y bo'r eisteddfod o honi, oblegid dyma un 6'1' lleoedd oedd yn melltithio plant yr awen a'u fieSteddfod, ac yno y llrndagwyd yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn enw ysprydion yr holl feirdd, o Alawn i Dewi Wyn, gpdewch chwareu teg i Bwllheli am eleni. Gwelsoch y derbyniad mor wresog a gaf6dd y:r adnoddau Eistedd- fodol or bedd, a'r golwg calonog am lwydd: sydd sicr. Gwyddoch pan fo tri efaill yn cael eu magu, fel rheol rhyw nychu y bydd y tri. Gellweh benderfynu un peth ceir gogwydd, llaij, ac egni beirdd Cymru dros Bwllheli, oddigerth rhyw ychydig iawn iawn ag y gwyddis "y rheswm pam." Felly fy nghyngor i fel hen fardd, ydyw peidio dangos yspryd ymraniaeth, ac wrth roddi'r arwyddair "Yn Nawdd Duw a'i Dangnef," ymgadw rhag rhwyg y ai ormes.— Yr Eiddoch, 9 HEN EISTEDDFODWR. Glyn Awen, Awst 24, 1874.
Y DIWEDDAR CALEDFRYN.
Y DIWEDDAR CALEDFRYN. FONEDDIGION, Mae blynyddoedd bellach wedi myned o'r neulldu er's pan hunodd yr anfarwol fardd uchod. Mae yn resyn meddwl fod ei weithiau diwedd- araf ar ddifancoll, tra yr ydym beunydd yn clywed stwr a dwndwr mawr am gy- hoeddi gweithiau l!aweroedd o feirdd mwy dinod tlag ef. Pa beth a ddywed 'Ab Caledfryn I ar hyn, tybed ? Yn mha le mae'r bai yn goi, phwys ? Mae yn hysbys i Gymru benbaladr fod Caledfryn yn sefyll ar ben y rhestr fel pregethwr a bardd. Mae yr hyn oedd farwol o hono yn llechu yn nghesail oer y bedd tua'r Groeswen draw, a gobeithio fod yn mryd rhywrai tua'r Groeswen, ddwyn ei weith- iau diweddaraf i oleu dydd, oblegyd un Caledfryn oedd genym, ac enw hwnw yn adnabyddus trwy holl Gymru.—
DAMWAIN HYNOD.
DAMWAIN HYNOD. FONEDDIGION,—Cafwyd yr hyn sydd am- gauedig ar lawr yn agos i Bontnewydd. Y mae at eich gwasanaeth i wneud fel y mynoch a'r ysgrif, ei chyhoeddi os bydd hyny yn unol a'ch barn. Tebyg nad an- nghofir mo'r ddamwain yn hir ymhlith y perthynasau agosaf, sef Harri Feudwy a'i gyfeillion. Ymddengys fod "Hyn a'r Llall 0 Ben Moel Tryfan" wedi cael ei gadael yn ngofal Barcut Tryfan, i'w dwyn yn ddi- ogel i'r swyddfa ond er syndod i bre- swylwyr Bontnewydd, canfyddwyd yLlith wedi disgyno big y Barcut ar y Ilwybr-O sydd yn arwain o Ben, y Foel. Pender- fynwyd dwyn achos y ddamwain ger bron maer y lie, sef Thomas Jones, Ysw., a'i gyd yijadon ond methasant a dyfod i benderfyniad boddhaol. Barn a un mai ar ei hedfa uwch ben Ffactri Bontnewydd yr ydoedd y Barcut, ac iddo glywed llais melodaidd yr Eos yn canu, Mi gollais y Tren," ac aros yno gan ddisgwyl cael newydd-deb cynganedd- ol i'w rhoddi yn alawon y brass band yn Rhostryfan, pan ei ffurfir; ond gan i siomiant ei gyfarfod, iddo ymwylitio, a cholli "Hyn a'r Llall!" Barna un arall mai cael golwg ar ddryll trwyddedol Mr Williams, yr Ynys, a ddarfu y Barcut, ac iddo ddycbryn, ac yna hedeg ymaith, gan ollwng Hyn a'r Llall" o'i gilfin. Myn un arall mai cael golwg ar Was Mr Punch a ddarfu y Barcut, ac iddo roddi ysgrech ddychrynllyd yn yr oiwg arno, nes i'r Llith ddisgyn i lawr. Ond barn y mwyafrif ydoedd fod y Barcut ar ei hed- fa uwch Melinfa Bontnewydd (oblegid yno y cafwyd yr ysgrif), ac iddo ganfod ieir a chywion yno, ac yn yr olwg arnynt, iddo ei chwenych, gan ddywedyd wrth ei gyd- mar, "Gweno, ni gawn yn gynar—yn y fio Fras ginio digymar 0, chweg yw wy a chig iâr, O'i nythgell wasanaetbgar." Ond dywed perchenog y Felinfa fod y cyfan yno, ac felly, foneddigion, chwi welwch fod achos y ddamwain heb ei ganfod.-
[No title]
CORRIs.-Prydnawn dydd Gwener, Awst y 14eg, anrhegwyd plant Ysgol Gwladwr- iaethol y lie hwn a digonedd o de a bara brith gan Mrs Phelps, Rhiwgwreiddyn. Yr oedd y wledd wedi ei pharottoi yn ar- dderchog yn yr ysgoldy gan Mrs Owen, Braich Coch. Rhoddwyd oddeutu ugain o wobrwyon i'r plant goreu yn y gwahanol ddosbeirth gan Miss Danson, yn absenol- deb Mrs. Phelps a Miss Darlington. Rhoddwyd amryw o gynghorion buddioli'r rhieni a ddaethant i weled y plant yn der- byn eu gwobrwyon gan y Parch J. Morgan a'r Parch. D. Evans, Llanwrin. Yr oedd amryw o foneddigesau wedi rhoddi eu pre- senoldeb yn y cyfarfod, ac yn cymmeryd dyddordeb mawr yn ngwaith y dydd. Wedi talu diolch dyledus i Mrs Phelps ac ereill, ymwahanwyd. Yr oedd pawb yn tystio na chawsant y fath wledd erioed o'r blaei}.—
----=-.-..-_-------DIENYDDIAD…
--=- DIENYDDIAD Y LLOFRtTDD GIBBS. Foreu dydd Lltm dienyddwyd Gibbs, yr hwn a euogfarnwyd ar y cyhuddiad o lofrttddio ei wraig yn LianeUiwg. Yr oedd yrf adyn trtienus yn drulliad yn ngwasanaeth Mr Williams, Llanrumcey Hall, ac wedi bod yn ymgyfeillaehu dros gfyn amser Ag un Mary Jonef. Pan ddeallodd y druanes lofruddiedig hyn hi a gyhuddodd Gibbs o anffyddlondeb, ae ar amryw achlysnreii gwnaeth ei hymddang- osiad yn mhalas ei feislr, lIe y tybid ei fod yn ddibriod. Yn gynar yli Mai cyfar- fuasant am y tro diweddaf, ac wedi eweryla dros enyd, bernir i Gibbs ei Ilagd, a'i thaflu i bwll cyfagos, lie y darganfydd- wyd y corph ymhec ysbaid o amser, gan ffermwr, mewn cyflwr pydredig. Cafwyd allan wedi gwneud ymchwiliad ddarfod i Gibbs roddi rhybudd yn swyddfa y cof- restrydd Vi iwriad i ymbriodi a Mary Jones, ymhen ychydig ddyddiau wedi cyfiawniad y gyflafan. Mewn canlyniad 1 ddarganfyddiad y corph eymmerwydi Gibbs i'r ddalfa, ac wedi ei enogfarnu y» mrawdlys Mynwy, collfarwyd ef i gaef e ddienyddio. Dywedir fod ei ymddygiad^ yn ngbarehar wedi bod yn dda, ac yra- ddangosai fel pe yn dra edifeiriol. Dien- yddwyd ef heb neb yn bresennol ond cyn-- nrychiolwyr y wasg a'r swyddogioii., Daliai yn wrol hyd onm galwyd ef o'i garchargell i gael ei rwym6>- pryd y tor- odd allan i ddolefain yn arswyd^is.- Traí- yr oedd tenyn y ddienyddfa am wddf parhai i ddywedyd ei fod yn ddietteg, 9; threngodd heb wneud un cyfaddefiad. Mewn cyssylltiad ag ardystiad Gibbs' o'i ddieuogrwydd, dywed gohebydd yr Echo fod sibrwd yn cael ei daenu o berth- ynas i hunanladdiad dyn o'r enw John Rogers, yr hwn a ymgrogodd ddydd Gwener gerllaw y llanerch ar ba un y cyf- lawnwyd y llofruddiaeth.
[No title]
Cymmerodd cyssegriad Esgob newydd Ty Ddewi le yn Westminster Abbey ddydd Llun. Sonir fod tebygolrwydd mai yn Llan- dudno y cynnelir arddangosfa cwn Gog- ledd Cymru y tro nesaf. Cafodd cymmeriad afreolus a adna- byddir wrth yr enw Slanger ei anfon i garchar dros wyth mis am chwareu ei brangciau meddw yn Ninbych. Arwydd gofidus o dymhor llwyddiannus yn Llandudno eleni ydoedd fod dim llai na phymtbeg o bersonau wedi eu dirwyo am feddwi yno yr wythnos o'r blaen. Dydd ^Gwener bu farw (y gweinidog Annibynol hynaf yn Ngbymru, sef y Parch. D. Williams, Troedrhiwdalar, yr Jiwn oedd wedi cyrhaedd yr oedran tego, 96 mlwydd. Mr S. Griffith, Anglesey House, Caer- gybi, sydd wedi ei bennodi yn ysgrifenyddi bwrdd ysgol y dref bono. TKEMADOC.— Meddyqol.—Mae yn dda genym ddeall fod Mr Richard Williams,. mab Mr Richard Williams, Cefn Cach, a diweddar assistant Dr R. H. Owen, Bot- twnog, wedi dod trwy yr arboliadau yn llwyddianus yn y Royal College of Physi- cians, Edinburgh, a'r Royal College of Surgeons, Llundain.—J. W.
Y FHlF FARCHNADOEDD CYMREIG.
Y FHlF FARCHNADOEDD CYMREIG. ABERGEIJ5, Awet 22.—Gwenith, o 16" 6c i 178 Cc yr bob; baidd, lis Oc i 12s 6cyrhob; ceircb; 9B Ocii 12s Oo yr bob; ffa, 168 Oo i 18s Oc yr hob; blawd ceirch, 4Os Cc i 438 Oc y 240 pwyfc. ÂBERYSTWíTH, Awst 17.—Gwenith, 78 Oc i 711 9c y mesur; haidd, 58 Oc i 58 9c; ceireb, 4s Oc i 411 9c y tnesur; yrcenyn ffres, 18c i 2Jc y pwys; ymeIln hallt, 14c i 15c y pwys; ednod, 38 60 i 4 Oc y cwpl; jytatw*, Os Oc i Os Oc y canpwys. BANOOE, Awst 21.—Gwenith, 47s Co i 49a Oc y; chwaiter; baidd, 298 Oc i 348 Oc; ceirch, 34a Oc i iiSs 6c« blawd ceireb, 39s Oc i 42a Oc y 240 pwys; jmeDyu flhft- o 19c i 20c y pwys cig eidion, o 9c i ile y pwys cig defaid, o fio i 10c y pwys; cig Hoi, o 7c i 8c y pwjs. CAERNARFON, Awst 22.—Gweritb, o 468 00 493 Oc y chwarter haidd, 308 Oc i 36a Oc y clwatter ceirch, o 24s Oc i 218 Oc y chwaiter; blawd ceiicb, c. 40a Oc i 42s 0c y 240 pwys. CAJSKGYBI, Aw&t 22.—Ych gig, 7ci 10c y pwys dafad gig, 8c i 10c y pwys llo gig, 7c i 8c j pwjs moch gig, 7c y pwya; ynaenyn tfres, 11c i 17c y j wys wyau, 7 am 6c cwniDgod, 9c yr nn, ieir, 21c i 32c yr un eywior), 12o i 15c yr un pytatws, 12 i 13 lwyei am 6c mcch bach, 12s i 178 yr un. DINBYCH, Awst 19.—Gwenith, 19s Oc I 20a Oc yr bob baidd, 13s Oc i 14s Oc yr bob ceircb, o JOB Oc i 118 Oc yr bnb; ymenyn ffree, Is 7c i Is 8c y pwse tybiau bychain, Is 4!d i is 5c y pwyP, LLANERCBYMEDD, Awst 19.-Gwenith, 598 Oc i 60s Oc y chwarter baidd, 398 Oc i 40a Oc y chwaiter; ceirch, o 25s Oc i 27s Oc y chwarter blawd ceircb, 39s i 408 Oc y 240 pwys; pytatws, 0 48 -6c iCe 0c y 100 pwys; ymenyn fires, Is 4c 011 Oc y pwys; cig eidion, o 0o j 10c y pwys cig defaid, 11c i OOc y pwys haine rartrei goreu, o Os l Oc y pwys. LLANGEFNI, Awst 20.—Gwenith, 4.68 Oc i 49s Oc y chwarter; haidd, 28s 0c i 83s 0c y chwarter; ctirch 23a Oc i 27s Oc y chwarter blawd ceirch, 38a Oc i 40s Oc y 240 pwys; pytatws, 48 6c y 100 pwys ymecyn fires, Is 5c i Is 5c y pwys; cig cidion, o 10c i Oc y pwya cig dafad, o Oc i 11e y pwys. LLANRWST, Awst 18.—Gwenith, 20s Oc i 21a 00 yr.bob baidd, OOs Oc i OOs Oc yr bob; ctsircb, o lis Oc i 12s Oc yr hob blawd ceirch, 24s Oc i 248 Oc yr bob pytatws, newydd, lc i 2c y pwys; ymenyn BrtB, o 18 9c i Os Oc y pwys; cig eidion, 7c i 9c y pwys cig dafad, o 8c i 100 y pwys. PWLLHELI, Awst 12.—Haidd, 22a i 00s y 220 pwys ceirch, 38s; blawd ceirch, 40s y 240 pwa j Indrawn, 00s y chwarter cig eidion, 9c i 10c cig dafad, 9c i 10c y pwys jinenyn ffres, o 15c i 16c y pwlm; llestri, f/Cc i 00c y pwys. d"'r ,1, 10 or y.(. Argraffwyd a Cbyboeddwyd gan y Perchenog, KEMJDIB WHIT WORTH DOUGLAS, Argraffydd, &c., Hcol Fawr, Bangor, dydd Gwener, Awst 28, 18.74.