AWDL Y GAD AIR.|1874-08-28|Llais Y Wlad - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

3 articles on this Page

EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR

AWDL Y GAD AIR.

News
Cite
Share

AWDL Y GAD AIR. Yn nghanol y dystawrwydd dwysaf dar- Jlenodd Elis Wyn ei feirniadaeth ef a Hir- a,ethog a Dewi Wyn o Essyllt ar destyn y gadair, sef, "YBibl." Derbyniasid naw o gyfansoddiadau, y mwyafrif o honynt yn meeidli graddau mawr o deilyngdod. Yr oneu, modd bynag, ydoedd awdl ar- dderchog yn dwyn y ffugenw Pascal." Pan alwyd amyrawctwr yn mlaengwnaeth ei ymddangosiad yn mherson y Parch. Gurnos Jones, Talysarn, Llanllyfni, yr hwn a dderbyniwyd gyda brwdfrydedd an- niserifiadwv. Arwemiwyd ef i'r gadair yn SWll corn gwlad gan Elis Wyn o Wyrlai a Tudno, a dadweiniwyd y cledd gan Clwydfardd, Fferyilfardd, a Meilir, ac wedi gofyn a lief uchel a oedd heddweh, a chael attebiad cadarnhaol, annerchodd Clwyd- fardd, Elis Wyn, ac eieill y bardd cadeir- iol "ydag englynion. Yu mysg ereill 0 wylwyr y gadair yr oedd Elis Wyn, Tudno, Meilir, Llew Liwyio, Estyn, I1 lerylllaidd, Clwydfardd, Tanymarian, Owain Gwyiiai, Tudur, a Ceiriog. Wedi y cadeiriu-a oal- wyd can, fel arferol, gan M'F ^dith Wynne, Db3 lhyvr wetreictetio ii i¡1wr. A ganlyn oeddynt englynion Elis Wyn ar y cadeiriad :— Yn awr i gain gadair Gwynedd-i—esgya Pascal uiewn all'bydidd Diaiswyd woa dy orsedd Dan uaèd gwlad a i utwjdd gledd. il""r Deufwy ir a, dy fawredd,—hir dyfi O'r Dwyfol wirionedd Uwch ben pob Ach a bonedd Dal dy Feibl hyd ael dy fedd. Annerchiad Clwydfardd oedd fel y canlyn Hwn yw y cawr a'r concwerydd Bia'r durch a bri y dydd, A pharcb, y gwr bybarch hwn, Yn y derw gadeiriwn Rhoddweh i r bardd y rhuddaur Gyda rhwysg a'r gadair aur. Cystadleuaeth offerynol ar y datganiad goreu o'r War March," gwobr pymtheg gini a thlws aur. Cystadleuodd tri sein- dorf, sef y Penrhyn Brass Band, Caer- narfon, a Nantlle. Y beirniaid oeddynt Pencerdd America a Mr Hindmarsh, pa rai a ranasant y wobr rhwng y ddau sein- dorf olaf a enwyd. Yn yr hwyr cynnaliwyd cyngherdd ardderchog, ac yr oedd y babell yn orlawn hyd yr ymylon. DYDD GWENER. r' Yr oedd yr hin heddyw etto yn anar- ferol o frwd, a rhagolygon y dydd yn dra disglaer. Petrusid pa un a ddeuai Syr Watkin W. Wvnn vn ol ei addewid. ond V chwalwyd pob amheuaeth gan ymddang- osiad prydlon yr hen eisteddfodwr gwlad- garol, yr hwn a gafodd dderbyniad teilwng o'r Tywysog yn Nghymru." Daeth hefyd tua mil o Wyr y Wyddgrug," pa -rai a orymdeithient i'r babell yn osgordd fawreddog, yn cael eu rhagtiaenu gan seindorf ragorol. Wedi myned drwy weithrediadau yr orsedd, gorymdeithiwyd i'r babell. Dar- llenodd Mr Griffith Davies, is-lywydd y pwyllgor, annerchiad i'r llywydd, Syr Watkin, yr hwn a draddododd araeth wladgarol, ac a dderbyniwyd gyda brwd- frydedd mawr. Can yr Eisteddfod, gan Mr D. Gordon Thomas, Gogoniant i Gymru." Beirniadaeth I. D. Ffraid a'r Parch. J. H. Evans, Rhyl, ar yr efelychiad o "Essay on Criticism," gan Pope. Gwobr, saith gini a thlws aur. O'r pedwar a ddaethant i law y goreu oedd Mr Morris Davies, Upper Bangor. Cynnrychiolwyd ef gan Mr Price, Coleg Normalaidd, Bangor. Arwisgwyd ef gan Miss Roberts, Man- chester. Ennillwyd y wobr o ddeg punt a thlws am y traethawd Seisnig goreu ar "Werth- fawredd Ystafelloedd Darllen ac Amguedd- feydd," gan Mr Thomas Hughes, Caer- narfon. Rhoddid y wobr gan y Cadben John Jones, ac arwisgwyd y buddugol gan Mrs J. T. Roberts, Manchester, priod yr hon a danysgrifiodd y swm o bum' cant o bunnau tuag at brif-ysgol Aberystwyth. Y goreu am y wobr o 30s. am y darlun goreu o beisarf ydoedd Mr E. Jones, Bangor. Wedi can, yn rhagorol, gan Miss Mary Davies, cystadleuwyd ar y bass solo. Deg o ymgeiswyr. Rhanwyd y wobr rhwng Mr R. C. Jenkins, Llanelli, a Mr David Howells, Aberdare. Cystadleuwyd rhwng dechreuwyr ar yr harmonium, gwobr, 2p. 2s. Daeth chwech yn mlaen. Y goreu oedd Mr J. T. Pritch- ard, Bethesda, yr hwn a arwisgwyd gan Miss Parry (merch Gwalchmai), Llan- dudno. Beirniadaeth 1. D. Ffraid a'r Parch/J. H. Evans, Rhyl,r ar yr arwrgerdd ar Brutus." Tri chyfansoddiad a ddaeth i law. Nis gallai y beirniaid roddi llawer o ganmoliaeth i'r un o'r tair arwrgerdd hyn; ond gan nas gallent feio llawer arnynt, barnwyd Galfridus a Britwn yn gyfartal. Galfridus ydoedd Mr T. Jones (Taliesyn o Eifion), yr hwn a arwisgwyd gan Mrs Cadben Verney. Ni attebodd Britwn i'w enw. Solo, 11 Morfa Rhuddlan," ar y delyn gan Pencerdd Gwalia. Bu raid iddo ddyfod yn ol, a chwareuodd Gwenith Gwyn." Hysbyswyd mai Morwyllt, Llangefni, oedd y goreu ar yr Hir a Thoddaid i'r Arglwydd Esgob, y llywydd am yr ail ddydd. Can, Strangers yet," gan Miss Kate Wynne-Matheson. Beirniadaeth ar y traethodau disgrif- iadol goreu o Ddaeareg a Daearydd- iaeth sir Gaernarfon." Y wobr oedd again gini a thlws aur. Y goreu oedd Mr J°E. Thomas, Caerdydd. Ond yn gym- maint ag nad oedd ei draethawd yn ddigon cyflawn, ni wobrwywyd ond a haner y wobr a'r tlws. Am y wobr o ddeg punt a thlws am y datganiad goreu o'r Seren Unig" (Isalaw), ni ddaeth dim llai na phump o gorau yn mlaen i gystadlu, ond dyfarnwyd y wobr i gor Engedi Caernarfon Beirniadaeth Estyn ar y cyfieithiad i goreu o "Harri IV," gan Shakespere, gwobr deg gini a thlws aur. Rhanwyd y wobr rhwng y ddau ymgeisydd a arddel- ent y ffugenwau "Afon" a Darfelydd," a rhoddwyd y tlws i'r cyntaf a enwyd. Ennillwyd y gwobrau am englyn a hir- a-tlioddaid i model o Bont Menai (Mr Doikins), a'r hir-a-thoddaid i'r babeli jisteddfodol gan Mr Tudno Jones a wobrwywyd Gwilym Alltwen am yr hir- J-thoddaid i Wyr y Wyddgrug." Dyfarnwyd Mr W- Marshall yn deilwng frvr'rtd i ;.i-v r ;J.; ■- V.r? o'r wobr o bymtheg gini am y cerflun goreu o Caradog o flaen Claudius." Am y traethawd Seisnig ar A Rolling Stone Gathers no Moss," dyfarnwyd y wobr o ddwygini iMrs Owen, Glanogwen. Am y traethawd goreu ar Ethnology and History of the Cymry," gwobr o ugain gini, ni ystyrid y cyfansoddiadau yn deilwng. GwobrwywydMr E. Jones, Porthaethwy, a hanner gini am y bedol ceffyl oreu. Amheuid nad oedd y cynHun goreu o annedd-dy y gweithiwr yn wreiddiol, ac felly gohiriwyd dyfarniad y wobr. Dyfarnu y wobr o ddwy gini am y traethawd ar bwysigrwydd awyriad pri- odol. Beirniaid Dr Roberis, Caernarfon, a Dr 0. T. Williams, Bangor. Dyfarnwyd Miss Barker, Upper Bangor, yn deilwng o'r wobr o gini am y crys mab goreu; ond cyflwynodd y foneddiges y wobr drosodd i'r ail oreu, sef Miss Ellen Pugh, Bangor. Nid ystyriai Carwad y casgliad goreu o destynau eisteddfodol yn deilwng o'r wobr. Wedi i Miss Marian Williams ganu can a gyfansoddwyd i'r llywydd gan Clettwr, dygwyd y cyfarfod i derfyniad gyda'r diolchiadau arferol. Yn yr hwyr cynnaliwyd cyngherdd mawreddog, ac yr oedd y babell yn parhau bron yii Ilawii. NODIADAU AMRYWIOL. Cynnelid arddangosfa fawreddog o gywreinion Gymreig yn y Penrhyn Hal a phrofodd y meddylddrych yn llwyddiant perffaith. Yr oedd y casgliad o hen law- ysgrifau yn un tra chyflawn, a theimlid dyddordeb mawr yn y casgliad o gadeiriau barddol a thlysau eisteddfodol, at ba un y cyfranodd Gwalchmai yn 'helaeth. Ceid yno hefyd ddarluniau drudfawr o wahanol esgobion, yn nghyda darlun o Twn o'r Nant, a'i ganhwyllbren henafol yr olwg arno. Prif attyniad yr arddangosfa yn ddiau ydoedd model Mr Dorkins o Bont Menai, yr hon oedd wedi ei gweithio mewn pres gyda manyldra annghyffredin. Yr oedd yn naw troedfedd o hyd ac yn gyn- nwysedig o dros haner can' mil o ddarn- au. Cymmerodd i Mr Dorkins dros flwydd- yn o amser i'w chwblhau. Ychydig o drefn a fu yn nghyrddau y beirdd, ac ni ymdriniwyd a dim o nemawr bwys namyn ystyried y pwysigrwydd o sefydlu cymdeithas lenyddol o dan yr enw Urdd yr Orsedd," ffurfiad yr hon a ym- ddiriedwyd yn y He cyntaf i Ceiriog. Pen- derfynwyd hefyd ar fod i Dr. Williams (FferyIlfardd), gael ei gadeirio modd y dileid y sarhad a daflwyd arno yn nglyn ag Eisteddfod Porthaethwy; ond drwy rhyw amryfusedd ni chymmerodd y cad- eiriad le. Yn nglyn a'r orsedd cymmerodd arhol- iadau le ar y gwahanol ymgeiswyr am urddau, a phasiodd amryw yn llwyddianus. Mor gyflawn ag y gallwn ei rhoddi, a gan- lyn ydyw y rhestr o urddedigion:— f j ¡; i' DEBWYDDON. Parch Thomas Edwards (Twm Gwynedd). John Pierce (loan Hafod). Robert Jones (Llwydwyn). BARDD. Richard Rees (Rhydderch lonawr). OFYDDION. J. E. Thomas (Maelor). Richard Rowlands (Y Wyn). John Lewis (Gwnfardd). Robert Thomas (Eos Penllyn). J. Havard Thomas (Havard Ofydd). Mrs Hughes (Myfanwy). CERDDORION. Joseph Thelwell Roberts (Geraint ap Einion). Robert Williams (Eos y Berth). Wm. Williams (Cerddor Pengwern). John Hughes (Eos Eleth). Miss Jones (Mair Menai). PENCERDD. W. Jarret Roberts (Pencerdd Eifion).

I.BEIRNIADAETH AR Y CYFANSODDIADAU…