Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

---Y DYN A'R LANTAR, NEU WELEDIGAETHAU…

News
Cite
Share

Y DYN A'R LANTAR, NEU WELEDIGAETHAU T BARFWR. PENNOB XIV. Ymha un Y 'ffzae'r Barfwr yn cael araiih ar ryfel. Peth erchyll ydyw rhyfel," ebe'r Barfwr wrth ei gydymaith, wn i ddim pa ddaioni fydd yn deiliiaw oddiwrth y fath gyfiafan a welsoin." liyr ei olw:" ydyw dyn bob amser," ebe'r Dyn a'r Lantar, ac "nid hawdd ganddo ganfod daioni mewn petbau sydd yn arwynebol neij yn uniongyrchol ddrwg. Etto mae daioni ymhob drwg. V well ein penau yn awr ac yn. y man gwelir cymmylau duon yn ymgasglu ac yn ymledaenu tros y wybren. Cyn bo hir cyfyd y gwynt, rhua y In y taranau, ac ymsaetha y mellt gwibiog. Pya,'r ystorm wedi dechreu, ac odid cyn i4di dawelu na bydd coed cedyrn wedi eu dadwreiddio, yr yd gwerthfawr wedi ei ddistrywio, yr anifeiliaid., ac feallai ambell i greadur o ddyn, wedi ei hyrddio i fyd arall. Dyna alanastra mawr,. ac etto o hyn y mae da yn tarddu Oni bai yr ystorm buasai yr awyr cyn bo bir yn myned yn afiach, yn magu gwenwyn yn- ddo ei hun a barai i genedloedd y ddaear wywo ymaith mal dail dan effaith pelydr- au tanbeidiol yr haul. Mawr yw'r drwg a gynnyrchir yn uniongyrchal gan yr ystorm, ond mwy 0 lawer y daioni anuh- iongyrchol a gynnyrchir ganddi. Fel yna y mae gyda rhyfeloedd. Ystormydd ydynt ag sydd yn puro awyr politicaidd a chyih- deithasol y byd. Ond i ti droi at hanes- iaeth cei weled yn amlwg mai i ryfeloedd y mae'r ddynolryw ddiolch am bob un o'r bron o'u bendithion. Lladdwyd miloedd y1;1 yr Itali er mwyn i'r Beibl gyrhaedd Rhufain, a miloedd wedi hyny yn yr America er rhyddid i'r caethion ac fel yna y mae ymhob achos, ond i ti chwilio. Cei weled rhyfel fel yr aradr yn tori'r tir i fyny ae yn gwneud y weirglodd yn gQchdir hyll, ond cyn bo hir wedi i'r rhyfel fyned ymaith cei waled J. ffrwyth gwerthfawr yn tyfu lie y bu, ac yna dealli fod rhyfel hefyd yn angenrheidiol. Trwy ryfela mewn gwirionedd y mae pob peth yn cael ei ddwyn ymlaen yn y byd hwn. Tro i'r cyfeiriad yma neu i'r cyfeiriad acw ac ar bob liaw cei weled ymdrechfa galed. Yn y fan yma, gwelir y tlawd yn rhyfela a'i holl egni yn erbyn newyn, weithiau yn mron pallu feallai, a'r tro arall ymron gorchfygu. Acw y gwelir amryw yn rhyfela a'u .1 gilydd am swyddi ac yn trywanu a nlaeddu eu gilydd am yr hyn uad yw ond tegan wedi y cwbl. Mewn ambell i gornel hefyd, y gwelir y gwir gristion yn ymladd ag ef ei hun ac yn marweiddio y cnawd, a hon yw'r ymdrechfa fwyaf ogoneddus o'r oil. Yn y byd anifeilaidd, ac yn y byd I llysieuol, gwelir yr un digwyddiad. Can- fyddir yr anifail a'r llysieuynyn ymdrechu eu goreu am barhad, y cryfaf yn trechu, a'r gwanaf yn diflanu am byth neu yn troi yn gerrig i ben syfrdanu daearegwyr. Ymdrech ar ol ymdrech, brwydr ar ol brwydr, rhyfel ar ol rhyfel,—dyna welir y ar bob tu, gyda dinystr a galanasdra mawr yn eu canlyn, ond gyda llu o fen- dithion, cofier, yn eu dilyn. Nid rhyfedd, wedi'r cwbl, mai fel hyn y mae. (Ian fod y byd wedi ei ddyrysu gymmaint gan bechod nes i'r drwg a'r da ymgymmysgu z,Y au gilydd, rhaid oedd i Ragluniaeth ddyfeisio rhyw foddion i ddod Agefi drefn drachefn, ac i wahanu y drwg a'r da oddi- wrth eu gilydd. Fel hyn gellir edrych ar ryfel fel math o ridyll mawr yn yr hwn yr ysgydwir y drwg a'r da yn nghy 1 gan Ragluniaeth, a thrwy dyllau yr hwn y mae'r drwg yn syrthio i ebargofiaiit a diddymdra, tra y deliry da i fywyd trag- wyddol. Oherwydd sylwer nad yw rhyfel mae unrhywddrwg arall yn dinystrio y da, er iddo oddiweddyd dros amser. Mae yn y.da fywyd dirgelaidd, yr hwn a bAr iddo, er iddo farw yn ymddang-sol, a thros amser, fyw drachefn, tra mae yn y drwg elfenau marwolaeth a ilygreddag sydd yn ei lwyr ddiddymu. Nac ofna gan hyny, 0 Farfwr, pan glywi s^n am ry- feloedd, eithr edrych yn mlaen yn ngoleuni yr hyn fu trwy dywyllwch y dyfodol ar y daioni sydd yn ddiau yn deiliiaw o hon- ynt. Nid heddweh ond cleddyf sydd gan bob daioni yn ei, law pan ddelo i'r byd, a mawr fydd y gyfiafan a gyflavvnir ganddo cyn y gweinir ef drachefn ganddo, ac iddo yntau orphwys yn orchfygol. Fel yna y mae yn y byd yr awr hon, oherwydd ei fod yn anmherffaith. Ond y mae amser i ddyfod, a buan y delo, pan y curir y cleddyf i wneud pladur o hono, ac y troir y waewfton yn sweh aradr. Y mae amser i ddod pan na bydd eleddyf namyn cerydd brawdol, na gwaewffon namyn dwysbigiad cydwybod dyner. I'r amser hwnw ed- ryched cenhedloedd y ddaear yn mlaen ac am ei ddyfodiad buan gweddied pob perehen ar.adl." (I barhau. )

LLITH MR. PUNCH.

[No title]

-LLOFFION.

R VAUGHAN WILLIAMS 0 FLAEN…

CYFRINION A CHWEDLONIAETH…