Hide Articles List

6 articles on this Page

---Y DYN A'R LANTAR, NEU WELEDIGAETHAU…

LLITH MR. PUNCH.

[No title]

-LLOFFION.

R VAUGHAN WILLIAMS 0 FLAEN…

CYFRINION A CHWEDLONIAETH…

News
Cite
Share

ellan ac er hyny goreu haidd a raoch yn N yfed ac yn Llonnio Llonwen y dodwes y rhain. Gwedi hyny y cerddwys hyd yn Arfon, ac yn Lleyn y dodwes ar y gronyn Rhyg L ac erhyny goreu Rhyg yn Lleyn ac Eifionydd ac ar ystlys Rhiwgyferth- wch y dodwes ar genaw Blaidd a Chyw'r Eryr, a rhoddi'r Eryr a wnaeth efe i Fryn- ach VVyddel o Ddinas Affaraon, a'r Blaidd a rhoddes efe i Fenwaed Arglwydd Arllechwedd, a llawer o son sydd am Flaidd Brynach, ac Eryr Menwaed, ac oddiyna myned yd y Maen du yn Arfon, He y dodwes ar genaw Cath, a Choll ab Collfrewi ai teflis ym Menai, a hono oedd Gath Balwg, a fu'n ormes ynys Mon ar ol hyny. Trydydd Trystan ab Tallwch, a getwis foch March fab Meirchion, tra aethai y meichiad yn genad at Essyllt i erchu oed a hi, a Marchell, a Choi, a Bed- wyr, a fuant eill pedwar ar ymgais a chyrch, ac nis gallasant gael cymmaint ac un banw, nag o rodd, nag o drais, nag o lad rod, sef achaws a'u gelwid y gwrdd- feichiaid, am nas gellid nag ynill na gor- trech arnynt am un o'r moch a gedwynt, eithr eu dadfu a wnaent ar eu llawn gyn- nydd i'r rhai au pieuddynt." Trioedd 78.-Tri Chyndynawc Ynys Prydain Eiddilic Gorr, a Thrystan ab Tallwch, a Gwerrwerydd Fawr, ac nid oedd au trothau oddiwrth eu harfaethau." Trioedd o Lyfr Paid Patton.â" Tri lledrithiog farchawg oedd yn Llys Arthur, nid amgen Murw ab Teirgwaedd, Trystan ab Tallwch, a But Hir ab Cynyr Farfog, canys ymrithio a, wneynt yn y rhith y myn- nynt, pan vae galed arnynt, ac am hyny ni attai neb eu gorfod rhwng eu kryfdcr au lledrith." Maddeued y darllenydd i ni am ddyfynu cymaint o'r hen Drioedd, canys nid oes genym yr un ffordd arall i olrhain cyfrinion chwedloniaeth yr hen Dderwyddon, oher- wydd y mae yr ysgrifenwyr Lladinaidd yn brin iawn ar y pwnc. Yr ydym yn credu mai cyfeirio at yr un amgylchiadau y mae yr holl Drioedd a ddyfynasom, ac nid yd- ym yn gwybod am ddim gwell esboniad arnynt na'r eiddo "Myfyr Mon," a chan ein bod yn meddwl ei fod yn dadlenu llawer o'r hen gyfrinion Derwyddol, rhoddwn ei esboniad ar y Trioedd uchod o flaen y darllenydd yn gyflawn yn y benod nesaf.