Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

DYDD GWEN 1m, AWST 28, 1874.

CRYNNODEB WYTHNOSOL.

CYFRINION A CHWEDLONIAETH…

News
Cite
Share

CYFRINION A CHWEDLONIAETH Y CYMRY. Difynir a ganlyn o draethawd. arobryn a gyhoeddir yn y Wasg Americanaidd :â Y mae yn sicr y byddai v Cymry, fel yr I oil o'r hen Geltiaid, yn cadw colfadwr- iaeth am y dylif, os nad oecldynt yn dwy- fol bersonoli Noah a'i deulu a'r Arch. Y mae hen clraddodiadau yn dyweyd y byddai yr hen Gymry yn ystyried llawer o lynau ac afo'iydcl yn gyssegredig er cof am y dylif, a dywed Myfyr M6n, yn gwneud rhyw fath o ynys nofiadwy, goediog, yn yr bon y byddai y coffr cyssegredig a gynnrychiolai yr Arch yn guddiedig," ond nid ydyw hyn ond dychymyg gwag, heb yr un sail iddo. Y mae lie cryf i feddwl y byddent yn ystyried rhai o'r afonydd yn gyssegredig, yn enwedig yr afon Dyfrdwy, a'r ffrydiau Dwyfan a Dwyfacb, pa ral sydd yn ymarllwys iddi, a chredent fod dyfroedd y Ddyfrdwy yn rhedeg drwy Lyn Tegid heb ymgymysgu ag ef, fel yr ystyrial yr hen Wyddelod yr afon Shannon, yr hon, meddent hwy, sydd yn rhedeg drwy Lough Rea heb gymysgu a'i ddyfroedd, yr hyn sydd yn arddangos ffrydlif einioes yn rhedeg yn esmwyth drwy ddyfroedd din- ystriol y dylif yn mhersonau Noah a'i deulu yo yr Arch Y mae gan bob cenedl, braidd, eu hafon- ydd cyssegredig. Yr Qpdd yr hen Tliefisa- Ionians yn talu dwyfol barch i'r afon Peneus am ei bod yn afon mor dlos. Yr oedd y Scythians yn addoli yr afon Ister; yr oedd yr Aiphtiaid yn ystyried dyfroedd y Niles yn gyssegredig yr oedd y German- iaid yn rhoddi dwyfol barch i'r afon Rhine; ac y mae y Ganges, yn yr India, yn cael ei haddoli gan filiwnau hyd-y dydd hwn. Y mae llawer o'r beirniaid hanesyddol gaIlu- ocaf yn dyweyd mai ystyr y geiriau Dwyfan, Dwyfach, a Dyfrdwy, neu Dwy, ydyw dwyfol (divine); ac y mne lie cryf i gredu hyny, canys ceir fod llawer o'r ysgrifenwyr Lladinaidd yn crybwyll am afon Dyfrdwy o dan yr enw Divona. Hefyd, y mae Giraldus yn dyweyd yn ei ysgrifen- iadau, fod y Cymry yn ystyried yr afon hon yn ddwyfol, acy mae Spencer, y bardd Saesonig, yn dyweyd am dani: And following Dee, whioh Britons long by gone, Did call DIVINE, that doth by Chester tend." Ac y mae y bardd Drayton yn rhoddi darluniad mwy cyflawn o'r afon hon, ac o syniadau yr hen Gymry am ei dwyfoldeb, a'i rhagoriaethau cyfareddol a meddygin- iaethol. Fel hyn y dywed am dani:â "Again Dee holiness began Bv his contrasted front, aud sterner waves to Phow That he had things to say that profit tbern to know; A brook that was suppm/d much business to have seen, Which had an ancient bound 'twixt Wales and England beeD, And noted was by both to be an onimous flood, That changing of his fords, the future ill or good Of either country t ld of either war or peace, The sickness or the health, the death < r the decrease." Ac nid ydyw yr anfarwol Milton, wrtb ddarlunio. yr hen Frutaniaid, a'r hen Drloi'wyddoii, wedi anghofio yr afon Ddyfrdwy Nor yet when Diva spreads her wizard stream." Rhaid i ni adael y Ddyfrdwy yn awr, a dychwelyd yn ol at yr hen Dderwyddon. Y mae Syr S. R. Mayrick, yn ei Mythol- ogy of the Irish, yn dyweud y bu y grefydd Archaidd am amser maith eyn rhoddi ffordd i'r grefydd Heulaidd, a dywed mai rhyw gymysgfa o'r ddwy gyfundrefn gref- yddol hyn ydoedd Derwyddiaeth yr hen. Gymry,, a dywed i'r grefydd Heulaidd fod am saith mlynedd-ar-hugain cyn cael ei sefydlu yn fawn yn yr ynys, a dywed fod y fath elyniaeth yn bodoli rhwng coleddwyr y ddwy grefydd, sef yr Archaidd a'r Heulaidd, fel yr oeddynf yn cael eu cadw mewn cyfriniol goffadwriaeth gan yr hen feirdd, ac mai unig amcan yr hen Fabinogion ydyw gosod allan yr hen ym- rysonau crefyddol hyn, ac y mae lie cryf i gredu mai dyna ydyw amcan meddwl y Trioedd canlynol Trioedd 30.â" Tri gwrtbfeiqhiad Ynys Prydain, Drystan ab Tallwch a gedwis moch March ab Meirchion, tra aeth y Muchiat y erchi y Essyllt dyfot y gynnadl ac ef, ag Arthur yn ceisiaw un hwch, ac y twyll, ac y treis ac nys cafas. Ã Phryderi mab Pwyll amwys a getwis mqch Pen daran Dyfet yn Glyn Cuwch yn Emlyn, a Ciioll mab Collfrewi a getwis Henwen Hwch a a0th yg gorddodo byt y Mhenryn Awstin yg Caerwys, ac yna daeth yn y mor, ac yn Aber Torrogi yg Gwent i dodwes gwenithen a gwenhynen, ag er hyny y mae goreu lie y wenith y lie hwnw. Ac oddyna ydd aeth hyt y Lion- wen ym Penfro, ac yno y dodwes ar heidd- en a gwenhynen, ag er hyny y mae goreq ac haidd Llonwen. Ac oddyna y cerddes hyt Riw Gyfarthwch yr Eryri, ac yna y dodwes ar genaw blaidd ac ar cyw eryr, ac Eryr a roddea Collfrewi i Frynaeli Wyddel o'r Gogledd, a'r Blaidd a ddodesi Fenwaid o Arllechwedd, ar rhai hyny fu fleidd Menwaid ag eryr Brynach. Ac oddyno ydd aeth hyt y Maendu yn Llan- fair yn Arfon, ac yna y clodwes ar cenaw cath, a cenaw hwnw a fwrwys Coll mab Collfrewi y Menai, a hono wedi hyny fa cath Palwg." 'â â â â " Trioedd ioi.-Tri Gwrddfeichiad Yiiyq Prydain, cyntaf fu Pryderi fab Pwyll Penr daran Dyfed, a getwis foch ei dad tra yttoedd yn Annwn, ac yng Nglyn Owen yn Emlyn y cetwis efe hwynt. Ail, Coll ab Collfrewi a getwis Hwch Dollwaen Dalben, a ddaeth yn ngorddodwy hyd yn Mhenrhyn Penwedic yng Ngherniw, ac yna myned yn y Mor, a'r no y dathoedd i dir Abertarogi yng N'gwent Iscped, a Choll ab Collfrewi a'i law yn y gwrycb ffordd bynag ydd elai, ai ar for ai ar dir, ac ym maes Gwenith yng Ngwent y dodges dri gwenhithyn a thair gwenhynen, ac er hyny y mae goreu gwenith a mel yng Ngwent; ac o Went y cerddai hyn yn Nyfed, ac y dodwes ar Heiddyn a Phorch-