LLITH DAFYDD EPPYNT.|1874-08-28|Llais Y Wlad - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

4 articles on this Page

GOHEBYDD GWIBIOL Y DE.

LLITH DAFYDD EPPYNT.

News
Cite
Share

LLITH DAFYDD EPPYNT. MARWOLAETHY PARCH DAFYDD WIL- LIAMS, TROEDRHIWDALAR, oed 96.-Ac y mae y gwr da, hawddgar, tangnefeddus, mawr hwn o hono ynte o'r diwedd gwedi gorfod plygu dan deyrnwialen brenin braw. Gwnaeth y newydd gyrfro fel ysgydwad taran trwy Gantrei Bualit, a gwna hyny ond odid trw/'Gymru oil, canys yr ydoedd enw Dafydd Williams, Llanwrtyd, yn household word, ac wedi bod felly trwy gydol oes bywyd y rhan fwyaf o honom ag sydd fyw yn awr, canys ei seren ef, yn yr ystyr bregethwrol a welsom gyntaf yn nyddiau ein maboed, ac yr ydoedd y pryd hwnw gwedi cyrhaedd ei perihelion. Yr ydoedd ef yn weinidog ordeiniedig yn t, y ganrif diweddaf, gwedi ei eni yn y flwyddyn 1778, sef pan oedd Sior III. yn teyrnasu, fel yn ei amser ef y gwnaed America yn annibynol; y cymmerodd chwyldroad mawr Ffraingc le pan ddaeth Napoleon cyntaf i'r chwareufwrdd. Gwel- odd ef haul y teulu hwnw yn codi a machlud. Yr ydoedd ef yn cofio am frwydr Trafalgar, the Battle of the Nile, a holl wihydri Wellington trwy India, y Pen- insular IVar, hyd Waterloo, &c., fel yr oedd y gwron dan sylw yn hynod o ran hyd y daith, ond nid ei hyd ydoedd ei phrif hynod rwydd, ond yn hytrach ei lied, a gweithgarwch diwrthgii. Ymgyfododd gyda'r dydd, ymgynnaliodd dan bwys a gwres y dydd, parhaodd hyd fachlud haul gan farw yn yr harnais, er yn tynu yn mlaen ar gant oed. Rhyw Etna bregeth- wrol ydoedd, yn dyfod i lawr a gwedi ei adael ar ol yn engraifft i ni o wres brwd- aniwch, hwyl a dawn oes Griffith Jones a Daniel Rowlands, canys gwelaf ei fod ef gwedi cydfyw A, Daniel Rowlands, John Vi eley, yn nghyd a chadrodau cedyrn yr oes danllyd hono. II Chwith i Gymru gladdu 'i gwron, Un o'i chewri enwog iawa Cofiai fecbgya y diwygiad, Pull eu hoos$gryra eu dawn i Marwor tanllyd eu hallorau Danient ei bregethau ef, Nes bai V tyrfoedd a'i gwrandawenfc Y u ilesmeirio 'n ngwres y nef. Seren fawr, gyi ff.mog, oleu Weiwyd yn yr Eglwys )fm Yn goleuo a gwreichioni, Taubaid fel rhyw uefol din HOD fachJudodd i dir ungeu, Cii-,o,d o ff,,Yfferi oeL,- Colled fawr i blmt y tonau Oyniiiweiriant at y groes. Wrth wrando y gwr hynod yn pregethu teimlech yn gyntaf eich bod yn mhresen- noldeb yr hen ddawrn Cymreig pwipudol gwedi hyn, a mwy na hyny, fod sylwedd yn y swn, yr hylif gweiibiddiol yn y ddawn ond yn benaf oil tarewid fi a'r syniad mai gwr o ddilrif ydoedd efe, gan ddarluniad o'r pregethwr gonest, sef y gwr o ddifnf, ac nid gwedi cymmeryd swydd proffvvyd arno er mwyn tamaid o fara Fel hyn y dywed y bardd uchod Tlie man whose heart is warm, Whose bands are pure, whose doctrine and whose life Coincident, exhibit lucid proof That he is honest in the sacred cause. Mae dyddgylch y pregethwyr mawr, hwyliog, ymcldengys, wedi myned heibio, a'r hen batriarch anwyl, tangnefeddus, diddrwg, a'i gymmeriad trwy gydol siwrnai bywyd fel cloch arian. Ymddengys mai efe ydoedd yr olaf o'r cyfnod hwnw. Nid oedd mo'r cyfnod hwnw heb fod yn achlysur i beth drwg aeth y bobl yn ddwl, feddw-ddwl ar bregethwriaeth dyr- chafwyd y pwlpud ar draul darostwng y cklarllenfa pregeth yn lie gwasanaeth, gwrando yn lie addoli fel yn ol trefn- iadau sectyddol llawer capel ac enwad y dydd heddyw. Mae'r rhanau addoliadol wedi marw, chant, &c., yn beth nesaf i ddim, y bregeth ydyw y cwbl; ac i hyn yn benaf y mae i ni gyfrif am absennoldeb y devotional feeling allan o'r wlad,- crefydd y glust yn lie crefydd y galon. IL LANGA MARCH.- Cyn n aliwyd vestry yma yr wythnos ddiweddaf ar bwngc yr ysgoldai. Cyttunwyd yn unfrydol ar helaethu yr ysgoldai presennol, ac i wneud hyny ar draul rhoddion gwirfodd- oi. Mae pobloedd Cantref Buallt wedi bod yn gall yn eu cenhedlaeth ar les eu pocedi ar fater yr ysgolion canys ni cheir yma yn teyrnasu o Lanfair-yn- Muallt i Lanwrtyd, ac o Abergwesin i Tir Abad, ond yr hen system wirfoddol. 0 dan ddylanwad y dwymyn bwrdd' ysgol rhyw ddwy a thair blynedd yn ol aeth llawer plwyfyn bach i ddyryswch yn roar r'iJiTlrai\np £ dreth arnvnt yn y byd fel rheol), ac nas gallant ymuma,S\n-u am eu hoes. Nid oes dim fel logic, nid of speech ond of figitres; ac yn ol y last Report of the Council of Education, dengys pan mae y building schools dan y voluntary system yn costio ond 5p. 14s. 5c., per child, ceir fod y building schools dan y school boards bendigedig yn costio, per child, i'r trethdalwyr y swm o up. 14s. lie. Digon hawdd pengamu 11 a chlebran, a'r sten wag wna fwyaf o swn, ond nid gwiw ymresymu a dynion yn y brain fever, amgen na rhoddi iddynt ar- gument y tax gatherer, a chan drethu eu trethu hwynt i'r asgwrn. A pha beth a enniilir gan nad gan bwy a pha fodd y codir ysgoldai ? Os ydys i dderbyn cyn- northwy gan y Llywodraeth rhaid iddynt oil gael eu cario yn mlaen dan yr un egwyddorion eang, rhydd, ansectyddol, &c., bid siwr hyny. Mae trigolion Buallt, ac yn wir y sir hon yn gyffredin, yn haeddu canmoliaeth am eu pwyll a'u doethineb, a boed felly y bo. TYGAM, LLANWENOG.—Pan yn edrych i lawr y dydd a) all oddiar fane Llan- wenog ar hen walciau neu olion milwrol ar gae yn perthyn i'r ffermdy hwn, Ty- cam, daeth i'm cof y cofnod a ganlyn o eiddo y Brut: "Oed Crist 890, y daeth Hywel ab Ieuan a llu mawr ganddo o Saeson i gyfoethau Einion ab Owen ab Hywel Dda, a bu ymladd tost rhyngddynt yn mrwydr Llanwenawc. A Godffrid ab Harallt yn gweled hyny a ddaeth a'i lu hyd Dyfed, ac a'i diffaethasant ac a dor- asant Eglwys Ty Dddewi." Mae y crug (tomulus) lie y claddwyd y lladdedigion i'w gweled etto ar lan afon Catbal, hefyd hen grug yr udon. Ar ben draw y rhiw, ar yr un tyddyn, sef lie byddisyn dyfod i olwg pen clochdy L'anwenog, mae lie a elwir Pant-y-penlinio, a elwid felly am yr arferai yr hen bobl ddefosiynol syrthio ar eu gliniau mewn gweddi, sef oedd hyny cyn i sectyddiaeth lwyddo i yru y ddynoliaeth i gyd i'r pen, sef lie bydd pen. Mae hanes Llanwenog yn rhyw 50 o dudalenau, yr hwn a eimillodd y wobr eisteddfodol a fu yma rhyw flynyddoedd yn ol, wedi ei ymddiried i mi er ei ddwyn allan mewn rhyw newyddiadur neufisolyn. Efallai nad ydyw yn taro Y Dywysogaeth neu Llais y JVlad, Y TYWYSOG LLEWELYN.—Wrth g-rybwyll am gwymp y gwr hwn, adroddais hen ramant ddwy fraich ar lais gwlad, sef am y lie ei claddwyd, fel hyn Yma mae e gwedi ei gladdu Yn mda y roaei), yu ngwauo Eli." Cefais wedi hyny fod gwaun yn dwyn yr enw hwn i'w chael etto, ac ei bod yn cyffinio a Cefn y bedd. Pa un a oes yno faen neu draddodiad am fa en, gwneir ym- chwiliad pellach. DAFYDD EPPYNT.

O'R DEHEUDIR.

Advertising