Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
BETHANIA, ABERCYNON. !
News
Cite
Share
BETHANIA, ABERCYNON. CYFARFOD SEFYDLU. Dydd Llun, Medi iafed, cynaiiwyd cyfarfod sefydliad y Parch J. T. L1. Williams (gynt o Gefn- coed, Merthyr). Yn absenoldeb y cadeirydd apwyntiedig-y Parch John Thomas, Merthyr- cymerwyd y gadair gan y Parch H. P. Jenkins, Aberaman. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch R. Williams, B.A., Ciltynydd. Y Cadeirydd a ddywedodd ei fod yn adnabod Mr Williams er's blynyddau, pan oedd efe (Mr Jenkins) yn weinidog arno yn Bethania, Treorci, ac yr oedd yn sicr fod yna gymhwysderau neillduol yn Mr Williams i fod yn weinidog a phregethwr da. Yna gaiwyd ar Mr Evan Jones, y diacon hynaf, i roddi hanes yr alwad. Dywedodd fod Mr Williams wedi dyfod yma heb gymaint ag un yn tynu'n groes. Yr oedd yr alwad yn unfrydol. Hefyd yr oedd yn dda ganddo weled eu diweddar wemidog gyda hwynt, sef y Parch D. Bryniog Thomas, Seion, Maesteg, ac iddo fwynhau ei weinidogaeth yn fawr. Hyderai a dymunai y byddai gweinidog- aeth Mr Williams yn llwyddianus; credai fod y dyn iawn yn y lie iawn. Cafwyd gair yn fyr oddiwrth Mr Daniel Thomas, trysorydd, yn csdarnhau sylwadau y brawd Evan Jones, ac yn dymuno pob llwyddiant i Mr Williams a'r teulu. Yna gofynwyd am arwyddion yr undeb o du yr eglwys a'r gynulleidfa, ac hefyd o du y gweinidog. Offrymwyd yr urdd-weddi yn bwrpasol iawn gan y Parch J. W. Price, Saron, Troedyrhiw. Yn nesaf gaiwyd ar Mr Morgan Thomas, cyn- rychiolydd o eglwys Ebenezer, Cefn, yr hwn a ddywedodd fod y frawdoiiaeth yno bron wedi digio wrth eglwys Bethania am ddwyn eu gweinidog oddiarnynt mor gynted. Fod Mr Williams yn bregethwr da, ac fod ynddo gymhwysderau neillduol fel gweinidog. Dilynwyd ef gan Mr Matthew Owen, eto o Ebenezer, Cefng yr hwn a roddodd air uchel i Mr Williams fel pregethwr a dywedodd ei fod yn well fel bugail, yn neillduol gyda'r plant a'r dynion ieuainc. Dymunai bob llwydd ) Mr Williams a'r teulu yn eu maes newydd. Yn nesaf, siaradodd y Parch B. Howells (B), ac ar ran Cynghor yr Eglwysi Rhyddion rhoddodd groesaw cynes iddo. Dywedodd tod gwaith mawr i'w wneyd gan weinidogion yn y cylch poblog hwn. Dymunai Mr Richard Williams (W) bob llwydd i Mr Williams, a gobeithiai y caffai ei barchu, fel yr oedd gweinidogion yr Annibynwyr oedd yn scina. byddus iddo ef yn gael, ac enwodd amryw. Yna galwyd ar y Parch M. Jenkins, gweinidog yr Annibynwyr Seisomg yn y lie, a siaradodd yn Saes- oneg er mwyn y Saeson oedd yn bresenol Dywedai ei tod yn gobeithio y byddai gweinidogaeth Mr Williams yn un hapus a ilwyddianus iawn; ei fod wedi dyfod i Ie braf a chanolog. Y Parch T. Watcyn Jones, Mynydd Seion, a groesawai Mr Williams ar ran ei eglwys, gan ddy muno pob llwyddiant iddo; fod digon o boblogaeth yn y lie i lanw y ddwy eglwys Annibynol. Ei ddymuniad oedd, y byddai lddynt weithio law yn Haw dros achos Iesu Grist. Y Parch J. E. Thomas (W) a ddymunai bob llwydd i Mr Wilhams, er mai dyeithr oedd ef yn eu mysg. Dyma'r cyfarfod sefydliad cyntaf y bu ef ynddo erioed. Y Parch D. Bryniog Thomas, cynweinidog yr eglwys, a ddywedai ei tod wedi cael profiad newydd —peth nad oedd rhai o weinidogion hynach nag ef wedi ei gael-sef bod yn llygad-dyst o un yn dyfod ar ei ol. Yr oedd yn dda ganddo ei groesawu, am ei fod wedi treulio pedair blynedd a haner yma yn hapus iawn, heb gymaint ag un gelyn; fod yr eglwys yn un hawdcl iawn i weithio ynddi. Dymunai bob llwydd i'r eglwys a'r gweinidog. Y Parch J. Bowen Davies, Abercwmboi, ar ran cylch Aberdar, a roddodd y croesawiad mwyaf cynes i Mr Williams. Yna gaiwyd ar y Parch J. T. LI. Williams, yr hwn a fawr ddiolchai am y geiriau caredig a'r croesaw oedd wedi ei gael; hefyd i'r brodyr yn y weinidogaeth am roddi eu presenoideb, ..c yn neill- duol i'w hen eglwys, Ebenezer, Cefn, fyd ddarifon cynrychiolaeth gref o'r eglwys i'w scamliad yu Abercynon, ac i ddyweyd mor dda am ei lafur yn ystod ei weinidogaeth yn y Cefn. Yr oedd yn dda neillduol ganddo am bobl Ebenezer, ac iddo dreulio yr amsjr y bu no yn hapus iawn. Credai fod yr alwad oddiuchod wedi peri iddo symud i Abercynon, ac fod yrna waith mawr s'w wneyd dan fendith y nef, Yr oedd amryw o weinidogion a lleygwyr yn bresenol heblaw y rhai a enwyd, sef y Parcbn T. Davies, Seion, Pontypridd; Howells, Ynysboeth Jones, B.A., Ynysybwl J. R. Hughes (M.C), Abercynon; Mri t'Emlyn MacDonaid, Pontypridd; T B. Evans, D.C., Cilfynydd; Ishmael Harris, Mountain. Ash, ac amryw ereill. Terfynwyd y cyfarfod gan y Parch D. Ffrwdwen Lewis, Trelewis. Derbyuiwyd brysneges oddiwrth y Parch J. Thomas, Soar, Merthyr, o Lerpwl, yn mynegi fod rh wystr an anorfod wedi ei gyfarfod; hefyd, brys- neges oddiwrth y Parch D. Siiyn Evans, Siloa. Aberdar a llythyrau oddiwrth y Parchn T. Thomas, Godreaman; J. D. Jones, Abereanaid R. D. Jenkins, Fochriw; W. Evans, Merthyr W. J. Rees, Porth James Jones, Senghenydd D. Jeremy Jones, Mountain Ash T. D. Jones, Bod- ringailt D. Hughes Jones, Fochriw a D. Overton, Dinns. Yr oedd lluniaeth wedi ei ddarparu gan yr eglwys ar gyfer dyeithriaid o daa ofal y brawd ffyddlon Mr D. J. Evans, Excelsior Stores. Yn yr. hwyr, dechreuodd y Parch T. Watcyn Jones yr oedfa, a chafwyd pregethau grymus a dy- lanwadol gan y Parchn D. Bryniog Thomas, Caerau, a H. P. Jenkins, Aberaman. J. G.
GWLAD BRYCHAN.
News
Cite
Share
GWLAD BRYCHAN. Mae rhan o Brynmawr yn Brycheiniog, ac y mae y Parch Crwys Williams ar Gynghor sir Frycheiniog er's amryw flynyddau, ac felly fel un 0 biant Brychan dymunwn ei longyfarch ar ei waith yn enill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac, yn wir, am ei lwyddiant eithriado) yn ystod y flwyddyn yn Dolgellau a'r Fenni. Teimlir fod y Goron yn eistedd yn esmwybh ar ei ben ef. Crwys wrth ei bwys a basiodd,-ie, unfarn lawn feirniaid a gafodd o Goiwyn Bay'r De deiodd Yn gampwr, cewri gwympodd. Yn ei ysgrif ragorol ar 4 Berthynas Cynulleid faoliaeth a Phynciau Cyhoeddus,' awgryma y Proffeswr D. Miali Bdwards i'r Uncteb uno hWIJ a Chwestiwn Dirwest, ac i'r mater gael ei drafod yn tlynyddol yn y cyfarfod fivvnw. Mae yr Uudeb eisollig yn gvvneyd hyn yn y Cyfar- fod Hydrefol am y waith gyntat. Dysgwylir y Parchn James Cregan, Manceinion, a Will Reason, M.A., i anerch. Bydd Dirwest ei hun ar ei faatais o hyn drwy roddi iddo ystyr eang- ach, a dangos ei berthynas a'r cwestiwn mawr cymdeithasol, a sicr y bydd y cyfarfod elwir yn Gyfarfod Dirwest yn fwy dyddorol a buddiol. Af allan o Wlad Brychan am dro i alw sylw at yr ynadon newydd ddewiswyd yn Maesyfed yn ddiweddar Mae y papyr Toriaidd yn hawlio yr oil fel Toriaid. Mae Mr Venables Llewellyn wodi caei. ei gynorthwywyr ar y Fainc Ynadol heb draffertii. Rhyfedd mor barod y mae yr Arglwydd Ganghellydd i dder byn yr enwau gyflwynir iddo gan Arglwydd Haglaw y sir. Am yr Arglwydd liaglaw hwn, ni buasai ar y Cynghor Sir eleni oni bai am bleidlais y returning officer. Siomedig iawn yn parhan ydyw Syr Robert Reid fel Arglwydd Ganghellydd. Ba y Proffesvvr Joseph Jones, Aberhonddu, a 1 briod ar y Cyfandir eleni yn mwynhau eu gwyliau, ac edrycha, yn gryt i gyfarfod â'i waith am y tymhor nesaf a'r mynych alwadau sydd am ei wasanaeth. Bn y Proffeswr D. M.iall Edwards yn treulio ei wyliau yn y Gog- ledd wrth draed Mr Sidney Webb a'i briod. Yr oedd efe yn fyw iawn bob i'r cwestiwn cymdeithasol, ond y mae yn Hawer mwy felly yn awr. Llwyddianus iawn ydyw y Parch T. Gvvyn Thomas fel Golygydd y Brecon and Radnor Magazine Oni bai fod Mr Thomas wedi bod mor llwyddianus fel gweinidog, buasem yn barod i dybio ei fod wedi camsynio ei aiwedigaeth. Mae wedi ei eni yn journalist. Buasai yn gaffaeliad i'r British Cougregationalist ei gael. Mae hefyd yn llenor gwych, fel y dengys ei Gofiant i'w dad, a'r erthyglau racy gyhoeddodd yn y Diwygiivr, pan oedd yn tyfyri-wr yn Edinburgh, ar Oedfaon gyda Phregethwyr neillduol.' Bwriadai Mr Thomas unwaith gyhoeddi y rhai hyn yn ilyfryn. JNid yw yn rhy ddiweddar eto. Cawsom gwmni dyddan Penar yn y Cyfarfod Ohwarterol yn Cwmwysg. Mae ef yn holT o dreulio ci wyliau Lua Ponfcseni. Tra ar ei wyliau ysgrifenodd ysgrif i'r Cy-mru ar y cylch, net CwmcamJais, Defynog, Pontseni, Clywsom ryw sibrydiad y geliir dysgwyl Coliant oddiwrtho i Watcyn Wyn. Rhagorol. Gwyr Penar beth ddysgvyiir i gollant fod. itefchiant yw'r ymgais i gael Hawer i ysgrifenu cofiant. Cofiantau a delw un dyn arnynt sydd yn aros, mogys Coliant Southey i John Wesley, Mae genym feirdd yn y sir heblaw Crwys, er yn efengylu yn Saesoneg, ond nid mor enwog a Crwys. Cynghaneddwr rhagorol yw'r Parch J. Davies, Gilwern, a bu agos iddo enill Cadair Gwent rai blynyddau yn ol, pan oedd y cystadleuwyr yn lluosog. Gvvr yn gweithio yn ddystaw yw Mr Davies, and cyllawna waith rhagorol. Dymunwu yn dda i fyfyrwyr Aberhonddu sydd wedi eu hurddo—Mri (ond Parchn mwyach) Arthur Jones, Richard Williams, George Evans, a D. R. Thomas. Clywsom fod eglwys heb fod nepell o Caerphili yn meddwl am nn arall. Llwyddiant i'r bechgyn. Gohkijvdh.
[No title]
News
Cite
Share
BLAIN A. -Cynal iwyd cyfarfod blynyddol Berea, y Sabbath olaf yn Medi, pryd y pregethwyd dair gwaith gan y Parch J. Cradoc Owen, A T.S., Ebbw Vale. Caed cynulliadau lluosog a chasgliadau da. Da genym fod hen achos Berea yn gwisgo gwedd lewyrchus, ei oered y cyfnod presenol ar grefydd. EGLWYS Y CRWYS.—Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd hiner blynyddol eleni, Sul a Llun, I-lydref zil a 3ydd, sef cyfarfodydd o ddiolch. garwch am y cynhauaf. Gwasanaethodd y Parch W. James, Abertawe, a'r Proff J. Evans, B.A., Aberhonddu. Cafwyd gweinidogaeth rymus ac eff- eithiol, ac yr oedd yr eneiniad sanctaidd yn cyd- fyned a'r genadwri. Fel arfer, cynaliwyd cyfarfod gweddi boreu dydd Llun, yr hwn oedd yn gyfarfod gwresog iawn. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, a'r casgliadau yn dda. 6 NEBO, BLAENGARW.—Cynaiiwyd cyfarfod- ydd haner-blynyddol yr eglwys ochod, ar y dyddiau Sul a Llun, Hydref 21I a'r 3ydd, pan y gwasanaeth. wyd gan y Parchn J. Edryd Jones, Garnant, a H. M. Hughes, B.A., Caerdydd. Cafwyd pregethau grymus, a chynulleidfaoedd mawrion, trwy y cyf- arfodydd. LLANSANTFFRAID-AR LAI Nos Fawrth, a dydd Mercher, Medi aofed a'r 2lain, cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfatfodydd blynyddol, pryd y gwasanaetnwyd gan y Parchn Peter Price, B.A., Dowlais; Job Miles, Aberystwyth a Ben Morris, Pontyberem. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol, a dysgwylir dylanwad da ac amlwg ar eu hot. SEVERN-ROAD, CAERDYDD.—Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol y Sul, a hwyr y Llun, Medi isfed a'r igeg. Pregethwyd gan y Parchn D. Silyn Evans, Aberdar, a Ben Morris, Pontyberem. Cafwyd gwyl wrth ein bodd. Yr Hen, hen Hanes,yn cael ei gyhoeddi gyda gwres a dylanwad nerthol. TABERNACL, PONTYCYMER Cynaliodd yr eglwys uchod ei gwyl bregethu blynyddol y Sul a'r llluo o'r blaen, pryd y gwasanaethwyd i gynull- eidfaoedd lluosog gan y Parchn Rees Rees, Alltwen Joseph James, B.A., Narberth; ac Eiddig Jones, Olydaeh, Cwmtawe. Yr oedd y cyfarfodydd yn Uwyddianus yn mhob ystyr. BIRMINGHAM.—Cynaiiwyd Cymanfa Wheeler- street nos Sadwrn, dydd Sul, a nos Lun, Medi 24ain, 25ain, a'r 26ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn lB. M. Hughes, B.A., Caerdydd, a G. S. Rees, B.A., Llandysul. Cafwyd tywydd dymunol, a phregethau ardderchog. PKNDERYN.—Y Sul a'r Llun olaf yn Medi, cynaliodd eglwys Soar ei chyfarfodydd pregethu blynyddol, pryd y traethwyd yr Hen, hen Hanes mewn eglurder a difrifoldeb gan y Parchn R. Derfel Roberts, Hirwaun, a J. C. Jones, Tynewydd, lihondda. Yr oedd cynulliadau lluosog trwy yr oil a'r cyfarfodydd j WERN, GER GWRECSAM. Gwasanaethwyd yn nghyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod eleni gan y Parchn W. D. Thomas, Brynaman, a J. J. Williams, Pentre. Cafwyd gweinidogaeth rymus liawn.E. E. HAFODYRYNYS.Gwasanaethwyd yn nghyf- arfodydd blynyddol y capel uchod eleni gan y Parchn T. Tudor, Ebbw Vale, a T. Richards, Casnewydd. Da oedd bod yno. PENIEL, LLANI-IARRI.—Cynaiiwyd cyfarfod blynyddol yr eglyws uchod nos Fercher a dydd lau, y Hydrel Sed a'r 6ed, PregethAiyd gan y Parch J. H. Hughes, Soar, Abertawe (Penywern, Dowlais, gyr-t), a'r Parch J. G. Jones, Cwmogwy. Yr oedd fu o weiDidogion y cylch yn bresenol. Y Parch D. Davies, Llanharan, a lywyddai. Cafwyd cynull- iadau lluosog, yn enwedig y noson olaf, casgliadau boddhaol, ac ocdfaon bendithiol.