Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BETHANIA, ABERCYNON. !

News
Cite
Share

BETHANIA, ABERCYNON. CYFARFOD SEFYDLU. Dydd Llun, Medi iafed, cynaiiwyd cyfarfod sefydliad y Parch J. T. L1. Williams (gynt o Gefn- coed, Merthyr). Yn absenoldeb y cadeirydd apwyntiedig-y Parch John Thomas, Merthyr- cymerwyd y gadair gan y Parch H. P. Jenkins, Aberaman. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch R. Williams, B.A., Ciltynydd. Y Cadeirydd a ddywedodd ei fod yn adnabod Mr Williams er's blynyddau, pan oedd efe (Mr Jenkins) yn weinidog arno yn Bethania, Treorci, ac yr oedd yn sicr fod yna gymhwysderau neillduol yn Mr Williams i fod yn weinidog a phregethwr da. Yna gaiwyd ar Mr Evan Jones, y diacon hynaf, i roddi hanes yr alwad. Dywedodd fod Mr Williams wedi dyfod yma heb gymaint ag un yn tynu'n groes. Yr oedd yr alwad yn unfrydol. Hefyd yr oedd yn dda ganddo weled eu diweddar wemidog gyda hwynt, sef y Parch D. Bryniog Thomas, Seion, Maesteg, ac iddo fwynhau ei weinidogaeth yn fawr. Hyderai a dymunai y byddai gweinidog- aeth Mr Williams yn llwyddianus; credai fod y dyn iawn yn y lie iawn. Cafwyd gair yn fyr oddiwrth Mr Daniel Thomas, trysorydd, yn csdarnhau sylwadau y brawd Evan Jones, ac yn dymuno pob llwyddiant i Mr Williams a'r teulu. Yna gofynwyd am arwyddion yr undeb o du yr eglwys a'r gynulleidfa, ac hefyd o du y gweinidog. Offrymwyd yr urdd-weddi yn bwrpasol iawn gan y Parch J. W. Price, Saron, Troedyrhiw. Yn nesaf gaiwyd ar Mr Morgan Thomas, cyn- rychiolydd o eglwys Ebenezer, Cefn, yr hwn a ddywedodd fod y frawdoiiaeth yno bron wedi digio wrth eglwys Bethania am ddwyn eu gweinidog oddiarnynt mor gynted. Fod Mr Williams yn bregethwr da, ac fod ynddo gymhwysderau neillduol fel gweinidog. Dilynwyd ef gan Mr Matthew Owen, eto o Ebenezer, Cefng yr hwn a roddodd air uchel i Mr Williams fel pregethwr a dywedodd ei fod yn well fel bugail, yn neillduol gyda'r plant a'r dynion ieuainc. Dymunai bob llwydd ) Mr Williams a'r teulu yn eu maes newydd. Yn nesaf, siaradodd y Parch B. Howells (B), ac ar ran Cynghor yr Eglwysi Rhyddion rhoddodd groesaw cynes iddo. Dywedodd tod gwaith mawr i'w wneyd gan weinidogion yn y cylch poblog hwn. Dymunai Mr Richard Williams (W) bob llwydd i Mr Williams, a gobeithiai y caffai ei barchu, fel yr oedd gweinidogion yr Annibynwyr oedd yn scina. byddus iddo ef yn gael, ac enwodd amryw. Yna galwyd ar y Parch M. Jenkins, gweinidog yr Annibynwyr Seisomg yn y lie, a siaradodd yn Saes- oneg er mwyn y Saeson oedd yn bresenol Dywedai ei tod yn gobeithio y byddai gweinidogaeth Mr Williams yn un hapus a ilwyddianus iawn; ei fod wedi dyfod i Ie braf a chanolog. Y Parch T. Watcyn Jones, Mynydd Seion, a groesawai Mr Williams ar ran ei eglwys, gan ddy muno pob llwyddiant iddo; fod digon o boblogaeth yn y lie i lanw y ddwy eglwys Annibynol. Ei ddymuniad oedd, y byddai lddynt weithio law yn Haw dros achos Iesu Grist. Y Parch J. E. Thomas (W) a ddymunai bob llwydd i Mr Wilhams, er mai dyeithr oedd ef yn eu mysg. Dyma'r cyfarfod sefydliad cyntaf y bu ef ynddo erioed. Y Parch D. Bryniog Thomas, cynweinidog yr eglwys, a ddywedai ei tod wedi cael profiad newydd —peth nad oedd rhai o weinidogion hynach nag ef wedi ei gael-sef bod yn llygad-dyst o un yn dyfod ar ei ol. Yr oedd yn dda ganddo ei groesawu, am ei fod wedi treulio pedair blynedd a haner yma yn hapus iawn, heb gymaint ag un gelyn; fod yr eglwys yn un hawdcl iawn i weithio ynddi. Dymunai bob llwydd i'r eglwys a'r gweinidog. Y Parch J. Bowen Davies, Abercwmboi, ar ran cylch Aberdar, a roddodd y croesawiad mwyaf cynes i Mr Williams. Yna gaiwyd ar y Parch J. T. LI. Williams, yr hwn a fawr ddiolchai am y geiriau caredig a'r croesaw oedd wedi ei gael; hefyd i'r brodyr yn y weinidogaeth am roddi eu presenoideb, ..c yn neill- duol i'w hen eglwys, Ebenezer, Cefn, fyd ddarifon cynrychiolaeth gref o'r eglwys i'w scamliad yu Abercynon, ac i ddyweyd mor dda am ei lafur yn ystod ei weinidogaeth yn y Cefn. Yr oedd yn dda neillduol ganddo am bobl Ebenezer, ac iddo dreulio yr amsjr y bu no yn hapus iawn. Credai fod yr alwad oddiuchod wedi peri iddo symud i Abercynon, ac fod yrna waith mawr s'w wneyd dan fendith y nef, Yr oedd amryw o weinidogion a lleygwyr yn bresenol heblaw y rhai a enwyd, sef y Parcbn T. Davies, Seion, Pontypridd; Howells, Ynysboeth Jones, B.A., Ynysybwl J. R. Hughes (M.C), Abercynon; Mri t'Emlyn MacDonaid, Pontypridd; T B. Evans, D.C., Cilfynydd; Ishmael Harris, Mountain. Ash, ac amryw ereill. Terfynwyd y cyfarfod gan y Parch D. Ffrwdwen Lewis, Trelewis. Derbyuiwyd brysneges oddiwrth y Parch J. Thomas, Soar, Merthyr, o Lerpwl, yn mynegi fod rh wystr an anorfod wedi ei gyfarfod; hefyd, brys- neges oddiwrth y Parch D. Siiyn Evans, Siloa. Aberdar a llythyrau oddiwrth y Parchn T. Thomas, Godreaman; J. D. Jones, Abereanaid R. D. Jenkins, Fochriw; W. Evans, Merthyr W. J. Rees, Porth James Jones, Senghenydd D. Jeremy Jones, Mountain Ash T. D. Jones, Bod- ringailt D. Hughes Jones, Fochriw a D. Overton, Dinns. Yr oedd lluniaeth wedi ei ddarparu gan yr eglwys ar gyfer dyeithriaid o daa ofal y brawd ffyddlon Mr D. J. Evans, Excelsior Stores. Yn yr. hwyr, dechreuodd y Parch T. Watcyn Jones yr oedfa, a chafwyd pregethau grymus a dy- lanwadol gan y Parchn D. Bryniog Thomas, Caerau, a H. P. Jenkins, Aberaman. J. G.

GWLAD BRYCHAN.

[No title]