Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Yk Y5GOL SABBATHOL.
News
Cite
Share
Yk Y5GOL SABBATHOL. Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. GAN Y PARCH D. OLIVER, D.D., I TREFFYNON. HYDREF 23ain.-AdoJygu y Gwersi am y Chwarter. Y TBSTYN EURAIDD.—4 A bu, pan gyf- lawnwyd y dyddiau y cymerid Ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerusalem.'— Luc ix, 51. Y RHANAU I'W DARLLEN YN DDYDDIOL Llun (Hydref 17eg).-Matt. xvi. 13-28. Mawrth.-Matt. xviii. 21-35. Mercher.—Matt. xix. 1, 2, a 13-26. lau.—Matt. xx. 1 16. 1 Gwener.—Matt. xxi. 1-17. Sadwrn.—Matt. xxii. 1-14. Sabbath.—Matt. xxv. 1-13.
MAES LLAFUR YR UNDEB.-EPISTOL…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
MAES LLAFUR YR UNDEB.-EPISTOL IAGO. HYDREF 23ain.- Y Tafod yn Gyfnewidiol a Gwamal —lago iii. 9-12. Adnod 9.—' Ag ef yr ydym yn bendithio Daw a'r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melldithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw.' Cyf. Diw., Ag ef yr ydym yn bendithio yr Arglwydd a'r Tad,' &c. Yn yr adnodau hyn y mae lago yn gwasgu at ein hystyriaethau b-wysigrwydd moesol a chrefyddol ein geiriau. Edrycha arnynt fel profion o tiodwedd ein bywyd. Dywed yr Arglwydd lesu—' Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthyeh, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. Canys wrth dy eiriau y'th gyf- iawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.' Oni ddylai hyn ein gwneyd yn ystyriol iawn o'n geiriau, rhag i ni trwy ddiofal weh syrthio dan farn condemniad. Ag ef. Sef y tafod. Dyma'r offeryn. Yr ydym yn bendithio. Yn clodfori-yn moli. 'Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd.' Yr ydym yn melldithio dtlit,. Dymuno drwg i ddynion. Ewyllysio i felldith ddisgyn arnynt. Ail-adroddir yr ymadrodd er grymaso y cyferbyniad i ddangos anghysondeb y dyn sydd heb ddwyn y tafod dan ddysgybl aeth. A wnaethpwyd ar lun Du.v. Y mae hyn yn wir am bob dyn (Gen. i. 27). Er fod dyn yn bechadnr, y mae olion y ddelw yn aros. 4 Ac os yw lInn Daw yn aneglur ac anmherffaith, y mae yr hyn a all gras Duw ei wneuthur ohono yn cysegru hyd yn nod y peehadur.' Nis gallwn fendithio Duw am Ei ddaioni i ni, ac yna felldithio dynion a wnaed ar Ei ddelw. Pa fodd y gallwn erfyn am faddeuant o'n pechodau gan Dduw, ac yna llefaru geiriau yn Hawn eiddigedd a gelyniaeth wrth ddynion a wnaeth- pwyd ar lun Duw. Y mae hyn yn dangos yr anghysondeb mwyaf. Defnyddia lago bedair cymhariaeth i egluro yr anghysondeb. Un oddiwrth ffynonau, dwy oddiwrth goed frrwythau, ac un oddiwrth y mor. Adnod 10 —' O'r un genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith. Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly.' O'r un genau. Y fath anghysondeb. Dyma dafod dau-ddyblyg, yn llefaru dan ddylanwad teirnladau gwrth. gyferbyniol. Y mae y pwyslais ar un. Nis gall dyn yn wirioneddol fendithio Duw, tra y mae ar yr un pryd yn melldithio ei gyd-ddyn a wnaed ar lun Duw. 'Whoever has a reviling tongue, his prayers do not ascend to God.' Ni ddylai y pethau hyn fod felly. Y mae y gair a gytieithir 4 ni ddylai' yn an cryf iawn. Yma yn unig y ceir ef yn y Testament Newydd. Golyga fwy na, bod hyn yn anghyson, ond ei fod hefyd yn anfoesol—bendithio Duw a melldithio dyn. Bendithio Duw yn ei gredo, a melldithio dyn yn ei ymarferiadau. Dyma ragrith o'r fath waethaf. Ni ddylai peth o'r fath. hyn ga,ellle yn eich meddwl am foment. Adnod 11-' A ydyw ffynon o'r un llygad yn rhoi dwfr melus a chwerwi" Cyf Diw., A ydyw y ffynon yn anfon allan o'r un llygad ddwfr melus a chwerw.' Y mae y pwyslais ar 4 un llygad—yr un tarddiad. Nid oes yr nil ffynon o'r un tarddiad yn bwrw allan ddau fath o ddwfr. Dywedir y gall ffynonau o ddyfroedd croew, ac o ddyfroedd hallt fod yn agos iawn i'w gilydd, ond ni cheir byth ddyfroedd croew a hallt yn dyfod o'r un llygad. Ni cheir y fath beth mewn natur, ac ni ddylai dyn fod yn euog ohono. Ni cheir y gair a gyiieithir chwerw J yn y Testament Newydd, ond yma, ac yn 1 adnod 14. Adnod 12.—4 A ddichon y pren ffigys, fy I mrodyr, ddwyn oil laid ? neu winwyddeu, ffigys felly, ni ddichon un ffS non roddi dwfr hallt a ehroew l' Cyf. Diw., 'A ddichon pren ffigys, fy mrodyr, ddwYll olifaid? nea winwyddcn, ffigys? felly ni ddichon dwfr hallt chwaitk, roddi croew.' Byddai i Jligysbren ddwyn olif- aid, neuwinwydden ffigys, yn drosedd yn erbyn deddf unffurfiaeth natur. Nis gall dim mewn natar gynyrchu dim gwahanol i'w natur. Yr hyn fyddo natur y gwreiddyn, dyna fydd y ffrwyth. Felly hefyd y mae yn y byd moesol; nis gal. l yr hwn sydd â. dig ac enllib ar ei dafod fod yn addolwr gwirioneddol, er iddo ddefa yddio geiriau addolgar. Ni ddichon dwfr hallt gynyrchu dwfr peraidd. Y mae pobpeth mewn natur yn parhau fel yr ordeiniodd Daw liwyat, ac y mae pobpeth yn ei wasana,ethu Ef. Dyn yn anig sydd yn tori ar draws yr unffurfiaeth, trwy ymdreehu uno yr hyn y mae Duw a natur wedi eu gwahanu. Y fath allu peryglus sydd yn perthyn i'r tafod, ac mor ymdrechgar ddylai pawb fod i'w lywodraethu. Mor anghyson a gwrthun yw, bod yr un galon, yr lion yw y ffynon o ba un y tardda ein geiriau, yn ym- dywallt allan weithiau mewn benditbio Duw, ac weithiau mewn melldithio dynion a wnaeth.- pwyd ar lun Duw. Diau fod yn yr adnodau hyn adgof o eiriau yr Arglwydd lesu yn Matthew viL 16: Wrth eu ffrwythau yr ad- nabyddwch hwynt,' &c. Y mae geiriau loan hefyd yn ei epistol cyntaf (i. 20, 21), yn gym- hwysiadol iawn 'Os dywed neb, yr wyf yn caru Duw, ac efe yn cashau ei frawd, eel wyddog yw; canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efegaru Duw yr Hwn nis gwelodd '? &c. GOFYNIADAU. 1. Pa fodd y mae lago yn dangos anghyson- deb pechodau y tafod ? 2. Pa gymhariaethau a ddefnyddia? Pa fodd y mae yn profi nas gall bendith a melldith ddyfod o'r un genau ? 3. Yn mha ystyr y gellir dywedyd fod dyn, hyd yn nod y pechadur, ar lun Duw ? Ph. ddylanwad ddylai y fiaith hon gael ar ein geiriau ? 4. Beth y mae uutTarfiaetLt deddfau natur yn ei brofi ? Pa addysg a ddysgir i ni drwyddynt ? 5. Elglurweh grym ystyr yr ymadrodd, Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly.'
GLYIN-NEDD.
News
Cite
Share
GLYIN-NEDD. 50 MLYNEDD YN Y WEINIDOGAETH. Dechreu yr haf hwn ymneillduodd y Parch D. Glyn Davies, Giynnedd, o'i Weinidogaeth, yn Cwmgwrach a Chapel-y-Glyn, am y teimlai tod ei nerth yn pallu. Ganwyd Mr Davies yn 1830, yn Manllegwauo, plvv^f Penboyr, sir Gaerfyrddm, a dechreuodd Dregethu pan yn i8eg oed Bu yn darparu ar gyfer y Weinidogaeth yn Y sgol- ion Casteilnewydd Emlyn, a Chetncoedycymar, a phasiodd yr Arhoiiad i Goleg Aberhonddu, ya 1857. Ac ar ddiwedd y tymhor athrofaol, derbyniodd alwid o iiglwys Glyn, Risca. Yn ystod ei arosiad yn y lie, sefydlodd Eglwys y Drindod, Cross Keya, a chasgl- odd 650a at yr adeiiad cyn ei agoriad Yn y llwyddyn 1874, derDyniodd alwad oddiwrth Eglwys Glynnedd, a threuliodd yma 36ain o flyn- yddau, a gwasanaethodd yr Eglwysi a'r lie gyda llwyddiant mawr. • Gellir dyweyd na fu na segur na ddiffrwyth. Dal ioddjswyddi cyhoeddus pwysig, Cadeirydd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb Deheuol a Cnynghor Eglwysi Rhyddion Oyffryn Nedd. Gwasan.tethodd fel aelod ar yr Hen Fwrdd Ysgo!, ac aelod ar y 'Neath Group of Managers/ Ac er wedi cyrhaedd oedran teg, y mae mor fyw ei ysbryd ag erioed, a phregetha etlJ gyda nerth. Nos Luri, Medi 5ed, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Siloh, Cwmgwrach, er anrhydedda y gwr da., pryd y cyflwynwyd iddo anrheg, er dangos eu dwfu oarch a'u hedmygedd ohono. Cymerwyd y gadair gall y Parch J. W. Prico, Saron, Troudyrhiw. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch D. Ii. Morgan, Efailfach. Yna synvodd y Cadeirydd fod y cyfarfod yn un nodedig. 0 bosibi y synai riiywrai paham y llyvv- yddn efe y noson hono. Dywedai, am fod pe.ita- | ynas agos iawn rhyngddoef a'r eglwys, yn yr eglwys hon y dechreuodd ei dad bregethu (y Parch D. Price, Siloa, Aberdar.) Llefarodd yn gryf am Mr Davies fel dyn, Cristion, adinvinydd, fod Mr Davies yn ddyn nad oedd yn ami ei gyffelyb i'w gael. Gweithiodd vn gated dros bob mudiad da yn y cylch, a'i Enwad, a sicr ei fod wedi gosod argraff ar y lie na ddileid mohono yn rhwydd. Sylwai y byddai ei goffadwriaeth yn fendigedig Dymunai iddo eto oes hir o wasanaeth. Bydd fyw byth o frenin,' a'r un fendith i'w briod, Mrs Davies.' Gal- wodd ar— Mrj F, WILLIAMS (M.C.), ysgolfeistr, Glyn-nedd. DyWedodd fod dyled fawr ar y lie i Mr Davies. Gwnaeth wasanaeth arbenig fel gwleidyddwr sym- bylodd y lie yn y cyfeiriad hyn, efe oedd y prif symudydd, byddai ar y blaen, ac yn fyw i'r symud- iadau. Gweithiodd yn galed, a cheisio ei ddilyn ef yr oedd ef, ac ereiil, yn ei wneyd. Bendith arno, & Galwyd yn nesaf ar Mr J. LEWIS, Creunant. Oygodd y brawd hwn dystiolaeth uchel i gymeriad Mr Davies, fel pregethwr, gweithiwr, a chyfaill, yn ystod ei aiosiad yn y lie. Teitnlai nas gallai fod yn absenol ar achlysur mor neillduol ag anrhydedda ei hen weinidog- Galwodd ar y Parch R. E. WILLTAMS, Resolven. Amlygodd yntau ei barch dwfn i Mr Davies Yr oedd wedi cael cyfle i'w adnabod yn weddol dda. Buont yn cydweithio mewn gwahanol gylchoedd ku gilydd. Gwyddai ei fod yn dduwinydd, ac yn selog dros buro cymdeithas. Gweithiodd mewn amser ac allan o amser. Vr oedd wedi cael Mis Davies yn bob help i Mr Davies, a phob amser yn garedig. Bendith arnynt Ynnesaf hysbysodd y Parch T C. HARRIES (B), Glyn-nedd, ei welthfawrogiad o lafur Mr Davies, Ei fod wedi cael nerth i'w ddilyn, a'u bod yn gyf- eiliion Colon. Arweinioda meddai, y gad o dan an- fanteision ami i dro i fuddugoliaeth. Cafwyd gair gan y Parch J. EDWARDS, Soar, Castellnedd. Dywedai ei fod ef yn adnabyddus iawn a Mr Davies a flaeo neb oedd yno. Yr oedd. ynt wedi codi dan yr un Weinidogaeth. Gwnaeth Mr Davies waith yn Cross Keys, fydd yn gofgolofn byth iddo, trwy fod yn foddion yn llaw Duw, trwy ymdrech a dyfalbirhad i godi capel hardd, a thalu ei ddyled. Cydnabyddodd Mr Edwards barodrwydd a gweithgarwch diflino Mr Davies yn nglyn a. phob gwaith dyrcliafol.1 Yna siaradodd Mr J. REES, Resolven, am Mr Davies, fel casglwr at y ddyled. Dymunai bob hapusrwydd iddynt eto. Cafwyd geiriau caredig iawn gan Mr D. PRICE (D.), Capel y Glyn, fel pregethwr cryf, am Mr D. PHILLIPS (diacon), a Mr REES HARRIES (diacon), Aberchwyd, a Mr T. PRICE. Siaradodd y brodyr hyn oddiar deimlad am waith Mr Davies. Hawdd oedd swybod mai cyfeillion i'r gweinidog a'r Achos oedd yn llefaru. Hawdd y gallwn, meddii un, eich cadw hyd y boreu i ddyweyd am rinweddau Mr Davies.' Galwodd y Cadeirydd ar Mrs A. JONES, Clun-y- Bont, Cwmgwrach (aelod hynaf yr eglwys), i gyf- lwyno am heg i Mr Davies, sef pwrs yn cynwys yn agos i £100. Yr hyn wnaed yn ddeheuig iawn gan y chwaer. Ac atebodd Mr Davies yn deilwng ohono ei hun a'i briod, Mrs Davies Dywedodd, 'Nad yn cael ei yru yr oedd, na chais i ymddeol, ond teimlai fod dyddiau yn gosod eu hoi arnO. Y cnawd yn wan, ond yr ysbryd yn barod i waitb. Ac hefyd y galIasai yr Achos gael cam oddiar ei law, a sym- udai o'r neilldu, nid o'r gwaith, i roddi lie i Un ieuengach. Dymunai i fendith a heddwchfdeyrnasu fel yr oedd wedi bodoli rhyngddo ef a'r ddwy eglwys, I yn ystod y blynyddoedd maith oeddynt wedi bod gyda'u gdydd. Deroyniais lawer o garedigrwydd oddiar eich dwylaw, o'r dechreu hyd yn hyn. Duw a'ch arweinio yn y dyfodol. Bendith arnoch.' Canodd Mr LEWIS solo yn ystod y cyfarfod, a therfynwyd y cyfarfod dyddorol hwa trwy weddi, gan y Cadeirydd. Teg yw hysbysu y cynelir cyfarfod eto, er anrhegu Mr a Mrs Davies íig Anerchiad, a'u lluniau, yn Nghapel-y-Glyn. Gwelir felly, nad yw yr oil wedi eu eytlwyrio i'r un sydd wedi pregethu Croes Crist am 60 mlynedd. UN OEDD YNO.
! Y PAS AC ANHWYLDERAU Y FREST…
News
Cite
Share
Y PAS AC ANHWYLDERAU Y FREST AR FABANOD WED 1 E i j HIACHAL <r A N VENO'S LIGHTNING COUGH CURE. Mrs Rosie Williams, 16, Toronto-road, Leytoustooa, a ysgrifena Dyoddofodd fy nan blentyn yn fawr oddiwrth y p§s, a rhoddais iddynt wahanol gymysg- oedd heb fod dim yu tycio. Yna treiais Veno's Lightuing Cough Cure, a chawsant ryddhad ar un waith, ac yn fuan iawn yr oeddyrit wedi eu Hwyr nchau. Yr oedd fy maoau hefyd yn wael iawn o'r bronchitis, ond proforid Veno's LightDiug" Congh Cure eto yn unmhrisiadwy Mae Vano's Lightning Cough Cure yu ddyogel i'r plentvn ieuengaf, pris 9i-a, Is lc, a 2 2s 9c gall yr holl fferyllwyr.