Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYFUNDEB 1IEIRION.

News
Cite
Share

CYFUNDEB 1IEIRION. Cynaliwyd yr uchod yn Salem, Corris, Medi 7 a in a'r 28am, 1910. f)Nvyligorau ttii iiii o'r gloch ddydd Mawrtli. Y Gynadledd am ddau o'r gloch, o dan lywyddiaetli y Parch Owen Davies, Ganllwyd, y Cadeirydd am y flwyddyn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. S. Thomas, Towyn. Cadarnhawyd y cofuodion. Cyflwynodd yr Ysgrifenydd Gylchres o'r Cyf- arfodydd Chwarterol o 1911 hyd 1922. Y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Bethania, Ffes- tiniog. Y Parch E. Evans, IJanegryn, i agor yr ymdrafodaeth ar y Ffordd i feithrin brwd- frydedd crefyddol yn ein pobl ieuainc a'r Parch H. Edwards, Dyffryn, i bregethu ar Ddir- west. Ein bod yn gofyn pris Mr Hughes, Dolgcllau, a Mr Evans, Bala, am argraffu yr Adroddiad. Ar gynygiad Mr Hughes, Jerusalem, a chefnog- iad Mr Davies, Brynbowydd, fod derbyniad cynes a chroesawgar y cyfarfod yn cael ei roddi i'r Parch J. A. Morgan ar ei ymsefydliad yn Nhanygrisiau, gyda dymuno ei lwyddiant a'i gystir. ADRODMADAU Y PWVLLGORAU. Pwyllgor yr Alsgot Siti.-Ceir adroddiad ar ar- holiaclau y flwyddyn ddiweddaf yn Adroddiad y Cyfundeb. Fod yr tin gwobrau yn cael eu rhoddi ag o'r blaen. Y personau canlvnol i fod yn arholwyr ar y dosbarthiadau II., III., a IV.: y Parchn J. W. Davies, Hyfrydfa T. G. Joseph, Abergynolwyn a H. Gwion Jones, Bethel. Fod y mater o gael un daflen gerddorol i'r lioll Un- debau Ysgolion Sul yn cael ei ohirio hyd nes y ceir mwy o addfedrwydd barn ar y mater. Dar- llenwyd llythyr Pwyllgor Ysgol Sul yr Undeb Cymreig, ac wedi cael ymdrafodaeth fuddiol arno, anogwyd fod copi ohono i gael ei ddanfon i bob Ysgol Sabbathol yn y sir. Pwyllgor Dirwerst.—Wedi darllen penderfyniacl Pwyllgor Dirwestol yr Undeb Cymreig i gael ymgyreh ddirwestol y gauaf, anogwyd fod mwy o sylw yn cael ei roddi i'r Band of Hope, a da fycldai i frodyr gwahanol gymydogaethau newid a'u gilydd er rhoddi mwy o arbeuigrwydd i Ddirwesl. Bin bod yn llongyfareh Dr IJoyd, Towyn, ar ei waith yn enill medal yr Alliance, a hyny gydag anrhydedd. Pwyllgor Ce.),iadol.Vod y brodyr caiilyuol i ymweled a'r eglwysi ar ran y Genadaeth Dramor Dosbarth Ffestiniog, Mri Hughes (Jerusalem) a Morgan (Tanygrisiau) dosbarth Bala, Mri Davies (Corwen) a Phillips (Bala) dosbarth Dol- gellau, Mri Pari Huws (Dolgellau) ac Edwards (Dyffryn) dosbartll Towyn, Mr Hvans (Penal) a Dr lyloyd (Towyn). Anogwyd i'r brodyr ym- weled a'r lioll eglwysi hyd y gellir. Hysbyswyd v bydd yr Adroddiad allan yn ddioed, a cia fycldai cael cymaint ag a ellir o'r casgliadau i law cyn diwedd y flwyddyn hon. Cafwyd hanes dyddorol o weithrediadau y (gynadledd fawr gynaliwyd yn Edinburgh, gan Dr Lloyd, a cliredwn i bob calon gUel ei cliynesu at y gwaith Cenadol trwy hon. Galwodd yr Ysgrifenydd sylw at lyfrau Cym- raeg y Gymdeithas Genadol. Fod y Parch Owen Davies, Ganllwyd, i ofalu am gasglu at Drysorfa Gweddwon Gweinidogion. Rhoddwyd anogaeth i yswirio yn Nghym- deithas yr Enwad, yr hon sydd wedi cyfranu pedair mil o bunau i gynorthwyo gwahanol gymdeithasau yr Enwad. Galwyd sylw fod pob peth ar gyfer y Bhvydd- adur i gael ei aiifon i'r gotygwyr trwy yr Ysgrif- enydd. Hysbvsodd yr Ysgrifenydd iddo dderbyn llythyr ddiwrtli y Parch H. W. Parry, Aber- llefeni gynt, Idaho, America, yn awr, yn yr liwn y dywed ei fod ef a'i deulu yn iach a chysurus. Fod yr Ysgrifenydd i anfon llythyr at deulu y diweddar Bareli I). Lloyd Jones, Patagonia, gynt o Bethania (Ffestiniog), Manchester, a Rlmthyn, i ddatgau cydymdeimlad y Gjmadledd a. hwy ac a'r (iwladfawyr yn y golled fawr a gawsant yn ei ytnadawiad, yr hwn, ar gyfrif ei alluoedd, ei gymeriad, a'i ysbryd gwladgarol, a fu o wasauaeth anmhrisiadwy iddynt. Fod cofion y Gynadledd i gael eu lianfon at Mr Morgan Jones a Mrs Jones, Brynbowydd, a chydymdeimlad a theuluoedd Mri Jones, Nant, a Jones, Nantyreira Mr Pugh, a Mrs. Edwards, Llanuwchllyn ac a Mr T. J. Williams, Jeru- salem, Ffestiniog. 1 Datganodd y Cadeirydd yr hyfrydwch o Avele y brodyr canlymol yn breseiiol :—Mri Thomas' Aberhosan Wnion Evans a J. Hughes, I.1an- fyllin ond nid oedd amser i gael gair ganddynt. Diolchwyd i'r cyfeillion yn y lie am eu croesaw helaetli a clialonog a dibrin yn mhob peth, fel yr ydym yn ei gael bob amser yn Nghorris. Terfynwyd trwy weddi gan y Cadeirydd. Am lianer awr wedi wyth boreu Mercher, caed Cyfeillach, o dan lywyddiaeth y Cadeirydd. Dechreuwyd gan Mr Gregory, Dinas. Wedi vchydig eiriau gan y Cadeirydd, galwodd ar y Parch H. Gwion Jones, Bethel, i agor yr ym- drafodaeth ar Ddysgyblaetll Eglwysig yn Ngoleuni dysgeidiaeth Crist.' Yr oedd y papyr yn un cryf, athronyddol, duwinyddol, ac yn dangos meddylgarwcli a meistrolaeth cryf, ac y mae dymuniad cryf am iddo ymddangos yn y wasg. Cafwyd ymdrafodaeth fyw gan Mr Hughes, Jerusalem Mr Edwards, Dyffryn; Mr Pari HllWS, Dolgellau a'r Ysgrifenydd, a chaed cyfarfod buddiol a byw. Terfynwyd trwy weddi gan Mr Foulkes Ellis, gweinidog y Metliod- istiaid. Y MOD DION CYHOEDDUS. Pregethwyd nos Fawrtli yn Top Corris, Aber- llefeni, Esgairgeiliog, a Salem, gan y Parchn J- A. Morgan, Tanygrisiau W. Pari Huws, B.I)., Dolgellau O. Davies, Ganllwyd George Davies, B.A., Brynbowydd R. T. Gregory, Dinas H. Gwion Jones, Bethel J. Hughes, Jerusalem a D. Roberts, Llanuwchllyn. Yn Salem, ddydd Mercher, gau y Parchn George Davies, B.A.; J. Pritchard, Druid Gwion Jones; H. Edwards, Dyffryn; W. D. Evans, Abcrdyfi a'r Pari Huws, B.D., yr hwna bregethodd bregeth y pwnc ar y Genadaetli,' a chafwyd pregeth gref, amserol, a byw. Dechreu- wyd yr oedfa nos Fawrtli a dydd Mercher gan Mri Thomas, Towyn, ac Evans, Penal. Yr oedd eneiniad amlwg ar yr holl gyfarfodydd, ac y mae Mr Davies a pliobl ei ofal yn gweithio yn rhag- orol er gwaethaf y dirwasgiad. Druid, Corwen. J Purr GUARD, Ysg.

CYFUNDEB DEHEUOL MORGAN WG.

CYFUNDEB DWYREINIOL CA.ER-FYRDDIN.