Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y GOLOFN DDIRWESTOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN DDIRWESTOL. DTRWKST A'R CWESTIWN CYMDEITPIASOI,, Yn ddiweddar, cefais gyfle ar dudalenau y TYST, i roi fy nghefnogaeth gynes i awgrym Mr Lleufer Thomas, fod Undeb Cymdeithasol yn cael ei ffurfio yn nglyn a'11 Henwad yn Nghymru, er ceisio deall ac astudio y deffroad a'r cynhwrf cymdeith- asol presenol, a'i gyfarwyddo ar hyd siati- elau glan a dyogel yn ngoleuni dysgeid- iaeth Crist. Es in or bell ag anturio awgrymu fod terms of reference Pwyllgor Dirwest dan nawdd yr Undeb, yn cael eu heangu, fel ag i gynwys y cwestiwn cym- deithasol yn ei holl agweddau. Derbyn- iodd yr awgrym fwy o gefnogaeth nag y tybiais y cawsai, a chymhellwyd fi yn gar edig gan oiygydd y golofn hon. sef Ysgrifenydd y Pwyllgor Dirwestol (y Parch Ben Evans), i ysgrifenu yn helaethach ar y mater. Fy nadl ydoedd, fel y cofir, nad yw Dirwest ond rhan, er yn rhan dra pliwysig, o'r cwestiwn cymdeithasol. Yn y gor- phenol, edrychid ar yr achos dirwestol yn ormodol fel mudiad ar ei ben ei hun, yn sefyll ar wahan i bob pwnc cymdeithasol arall. Cynygid rhyw ddwy neu dair o feddyginiaethau a ystyrid yn ddigonol i gyfarfod a holl ddrwgenfawr y ddiod fedd- wol, megys yr ardystiad dirwestol, a deddf- wriaeth i leihau nifer y tafarndai, neu hyd yn nod i'w diddymu yn llwyr. Cyfyngid 1 ymdrechion dirwestol o fewn y terfynau hyn a'u cyffelyb. Ond erbyn hyn, gwelir nad yw yr agweddau hyn i'r mater yn di- hysbyddu y pwnc, nac yn ddigon and I ochrog i gyfarfod a'r holl broblem gyfan- sawdd. Angen presenol y mudiad dirwestol ydyw golwg eangach ar berthynas y drwg o ymyfed a drygau ereill, er mwyn YIll- ¡ drechu symud achosion cymdeithasol sydd yn rhoi i'r fasnach feddwol ei chyfte. Ni olyga hyn am eiliad fod yn rhaid i ni adael yr hen lwybrau droediwyd gan ein tadau dirwestol, ond yn unig y dylem fod yn barod i wynebu agweddau newydd y pwnc, tra yn gweithio mor egniol ag erioed ar yr hen linellau. Credaf yn gryf mewn llvvyr- ymwrthodiad fel y feddyginiaeth fwyaf effeithiol, ac mewn gwneyd apel foesol at gydwybod yr unigol i ymwrthod a'r drwg yn ei fywyd presenol. Ond rhaid cyfaddef, I' ar ol 80 mlynedd o gad-ymgyrcli yn yr cyfeiriad yna, fod llwyrymwrthodwyr yn parhau mewn lleiafrif, bod y fasnach fedd- wol mor gref ag erioed, a bod y swm werir ar y ddiod yn fwy yn ol y pen yn awr nag ydoedd pan ddechreuodd Seithwyr Preston ymgyrch llwyrymwrthodiad yn 1832, er cymaint o les wnaeth y mudiad. Yr wyf yn gryf o blaid yr ymgais i leihau nifer y tafaindai. Ondunpethyw tori cangenau I y pren a bwyell; peth arall yw olrhain y gwraidd i'w ddirgel-leoedd, a darganfod yr achosion a'r amodau sydd yn cyfrif fod y pren yn gallu tyfu mor lewyrchus yn ein tir. A oes rhywbeth yn elfenau soil cymdeithas sy'n hyrwyddo tyfiant y pren ? Os oes, pa fodd y gellir eu symud ? Cyt- unaf a'r duwinydd mwyaf uniongred mai gwraidd dyfnaf y drwg yw pechod I y gwreiddiol,' a bod yu rhaid cyfarfod ag ef ¡ fel;dfw g moesol a phersonol. Ond ai dyna'r oil ellir wneyd ? Pan ymdrechwn olrhain yr oil o'r achosion, arweinir ni dros ffin Dirwest yn yr ystyr gyffredin at y broblem Z" gymdeithasol yn yr oil ohono, a gwelwn I fod drygau cymdeithasol lawer wedi eu cydblethu a phroblem y ddiod, fel nas gellir ymdrin ag un yn effeithiol heb ym- drin â'r oil. Gellir dyweyd mai y gwaban- iaeth rhwng yr hen safbwynt a'r newydd ydyw, fod yr hen yn edrych ar ddrygau cymdeithasol (tlodi, diffyg gwaith, &c;) fel effeithiau y ddiod, tra yr edrychir heddyw ar y pethau hyn fel achosion yn ogystal ag fel effeithiau. Gwasanaethed y canlynol fel engreifFtiau. (1) Problem tlodi, Di- amheu fod yr arferiad o ymyfed yn achos ffrwythlon o dlodi; ond y mae hefyd yn un o'i effeithiau. Anhawdd i'r cysurus i sylweddoli y swyn a'r sirioldeb sydd yn y ddiod a'r dafarn i breswylwyr cartrefi llwm, angenus, a diamrywiaeth, na deall fel y mae angen bwyd yn lleihau y gallu i wrth- sefyll temtasiwn. (2) Amodau llafur. Mae gorlafur, oriau meithion heb awyr iach, yr anhawsder i gael gwaith cyson mewn cyf- nodau o iselder masnachol, &c., oil yn ychwanegu at y demtasiwn i ymyfed. Mae pob cwestiwn yn nglyn ag employment neu unemp-loyment yn dal perthynas union- gyrchol neu anuniongyrchol & Dirwest. (3) Cwestiwn Tai (Housing Problem). Tystia ymchwilwyr manwl fod tafarnau yn blod- euo fwyaf lie mae'r heolydd mwyaf di- lewyrck a'r tai mwyaf salw. Dywedodd y diweddar Ddeon Manchester, pe buasai ef yn byw mewn slums, y buasai yntau yn myn'd i yfed hefyd. Y mae y ffaith fod gorboblogaeth yn achosi diota yn ffaith a esgeulusir yn rhy fynych. Pell ydym o ddyweyd fod gwella yr amgylchiadau yn sicr o wneyd pobl yn sobr; ond yn sicr dylid arfer pob moddion i ddileu'r amodau sydd yn rhagdueddu pobl i ymyfed, trwy sicrhau tai gwell, adloniant iach, gwaith cyson, a ffurfio chwaeth feddyliol uwch yn y bobl. Fy nadl yw, fod ymdrechu dwyn y pethau hyn oddiamgylch yn ddyledswydd bendant arnom fel crefyddwyr. Gwneir hyny yn egniol gan unigolion draw ac yma eithr onid ydyw yn fater digon pwysig i daflu nawdd sefydliadau crefyddol ac enwadol drosto ? Gofynaf eto, A oes resymau cryf- ion yn erbyn i'r Undeb i awdurdodi ei Bwyllgor Dirwest i gymeryd yr holl broblem gymdeithasol i ystyriaeth yn ngoleuni egwyddorion ein Henwad a'ti erefj^dd .J Gellid ei alw, dyweder, yn Bwyllgor Dirwestol a Chymdeithasol, neu ryw enw arall. Byddai Dirwest ei hun ar ei enill o'i drafod o bob safbwynt posibl, ac y mae cwestiynau cymdeithasol ereill heblaw y fasnach feddwol yn hawlio ein sylw fel crefyddwyr. Hoffwn i ddarllenwyr y TYST draethu eu barn ar y mater. Gall daioni ddyfod o'i wyntyllu yn agored. Aberhonddu. D. MiAij, EDWARDS. -0_

HOME RULE I GYMRU.