Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

--DVIJi) OHF YR wri,

News
Cite
Share

DVIJi) OHF YR wri, Y Ilywyddin". dydd Gv/ener, Awst 6, oedtiyru Arglwyud Kenyon a D. A. Tho- mas, A. S. Wedi i Gv.-ilym Richards a Hiss Mary Owen ddadganu caneuon Eis- teddt'oclol. ac ar el i Cynonfardd, yr ar- weinydd, ddavlleu barddoniaeth o lon- gyfarcliiad i Gymru oddiwrth Miss Or, ianne 31. William?, Peckville, Pa., gwob- rwywyd- yr ymgeiswyr c-anlynol: Hir a Thoddaid i'w osod ar fedd y nofelydd Daniel Owen. gvvobr 2p.—Parch. E. Nicholson Jones. Caerdydd, yn oreu o 34. Deuddeg penill, "Glanau'r Wvsg," 2p., goreu, Brynfab. Duchangerdd, "Addoliaeth y Be] Droed," 2p., Ap lon- awr. Cystadleuaeth i gerddorfa o 25 i 40 o offerynwyr, "Beethoven's Symphony in C No. 1, Andante and Finale," 5Qp., a bathodyn aur i'r arweinydd; ail, 10p.; beirnaid, Syr A. C. Mackenzie, Proff. Macfarren a Dr. Rogers. Ymgeisiodd tri all an o bump anfonasent eu henwau yn y drefn ganlynol; Caerdydd, Llanelli a Chasnewydd. Rlioddwyd y wobr flaen- af i Gasnewydd a rhanwyd yr ail wobr rhwng Caerdydd a Llanelli. Caed cystadleuaeth ragorol ar yr un-' awd baritone-fa) "Prologue Paglacci," (b) "Brad Dynrafon." Galwyd tri i'r llwyfan, ac ar 01 cystadleuaeth galed rhanwyd y wobr rhwng T. Armon Jones, Llanarmon-yn-Ial, a David Jones, Pont- ypridd. Enillwyd y lOp. am draethawd ar "Chwareu-gerddi Crefyddol Cymra," dan feirniadaeth Llawdden a Dewi Mon. gan D. Lleufer Thomas, Llnndain. Traethawd ar "Y moddion goreu i gadw ac i ddysgu yr iaith Gymraeg i blant y Cymry mewn parthau Seisnig," rhan- wyd y wobr o 5p. rhwng J. Southall, Casnewydd a'r Parch. W. Williams, (Gwilym ap Lleyn), Tryddyn. Deuawd, tenor a bass, "If I pray," 4p. 4s.; gor- eu, William Rees, Kynffig Hill a G. T. Llewelyn, Port Talbot. Nid oedd yr un o'r ddau ymgeisydd yn deilwng o'r wobr o 15p. yn ol beirniad- aeth Dr. Rogers, Mri. D. Jenkins ac Em- lyn Evans, ar y tri o gyfansoddiadau i leisiau benywaidd (s. s. c.), gyda chyf- eiliant i'r berdoneg. Un o'r pethau mwyaf dyddorol oedd y gystadleuaeth canu penillion gyda'r delyn (dull y De), 2p. 2s.; beirniad, Eos Dar, goreu, John Devonaid, Aberdar. Parch. T. Morgan, (B.,) Caerdydd, oedd y buddugol ar y "Geiriadur o En- wau Cymreig ar Afonydd a Lleoedd yn Sir Fynwy," 10p.; beirniaid, Milwriad Bradney, M. A., ac Ernest Rhys. Yn nghystadleuaeth y pedwarawd i S. A. T. B., "Ye who from His ways have turned," 5p. 5s., caed datganiadau o radd uchel; parti Mr. Morgate, Aberhonddu, yn oreu. Y buddugwr ar y libretto, "Ifor Hael," )ed dy Parch. J. T. Job, Aberdar. Cys. y Corau meibion. Pan alwyd y corau clywyd taran gras a dechreuodd y gwlaw ddisgyn, ac yr oedd ei swn mor ofnadwy ar y to coed, fel nas gellid clywed dim o'r llwyfan. Ar hyn dyma'r dwr yn gwneyd ei ffordd drwodd. Don- iol oedd yr olwg ar y dyrfa yn awr yn neidio ar eu traed ac ar draws eu gilydd i geisio osgoi y diluw. Methwyd myned yn mlaen a gwaith y cyfarfod am yn agos i chwarter awr, gan y gwlaw a'r taranau, ac yr ydoedd y babell yn o lawn. Ond gyda hyn peidiodd y gwlaw, a dystawodd y daran groch, a daeth yr awyrgylch yn fwy tymerus. Allan o'r 13 o gorau meibion (60 i 80 o leisiau) oedd wedi anfon eu henwau i mewn, daeth deg yn mlaen i gystadlu ar (a) "Ah, were I on yonder plain," (Mendel- sohn). (b) "Llewelyn, ein Ilyw olaf," (Tom Price). 70p. a thlws aur i'r ar- weinydd, ail, lOp. Beirniaid-Syr A. C. Mackenzie, Proff. Macfarren a D. Jen- kins. Canasant yn y drefn ganlynol: Brynaman .Ar., E. Evans. Tredegar D. Jones. Port Talbot John Phillips. Porth Taliesin Hopkins. Brynmawr W. Evans. Moelwyn (Ffestiniog) .David Parry. Cyfarthfa Ferndale Gwilym Jones. Abertawe G. Jenkins. Mountain Ash T. G. Richards. Parhaodd y gystadleuaeth ddyddorol hon am dros bedair awr. Fel y deuai y naill gor ar ol y llall i fyny i'r llwyfan, croesawid hwy gan eu gwahanol gyf- eillion a chefnogwyr, ond ni chymerodd dim neillduol le hyd nes y gwnaeth y cor olaf-cor Mountain Ash-ei ym- ddangosiad. A'r fynyd yr ymddangos- odd eu gwynebau ar y llwyfan, dyma gynwrf yn y gwersyll, yn gymysg o groesaw a gwatwar. Y mae yn ym- ddangos fod yno ddosbarth ag oedd wedi penderfynu os yn bosibl rhwystro y cor hwn i ganu; a'r foment yr esgynoddf yr arweinydd-Tom Richards, dyma noedd- iadau a gwaeddiadau a hwtiadau ofn- adwy yn cael eu dyrchafu, tra o'r ochr arall rhoddwyd croesaw a chymerad- wyaeth fyddarol iddo. Anmhosibl oedd i'r cor gael cychwyn, ac edrychai pethau yn bur derfysglyd, tra yr oedd Cynon- fardd a Mabon ar eu goreu yn ceisio "Heddwch," ond yn hollol aneffeithiol. Wyddai Mabon ar y ddaear beth i wneyd; end dyma Cynonfardd ar ben un o'r stands, ac a'i lais clir, treiddgar, ap- eliodd at y dorf derfysglyd yn enw an- wyl Walia, yn enw pob peth oedd yn Gymreig a chysegredig, i ymddwyn yn deilwng o honynt eu hunain ac o'r Eis- teddfod. Profodd hyn yn effeithiol, a chafwyd graddau o ddystawrwydd. Ond pan yr esgynodd Tom Richards y stand, a'r arweinffon yn ei law, daeth allan eto fanllefau o gymeradwyaeth, ac aeth y cor yn mlaen i roddi datganiad ar- dderchog, nes enill cymeradwyaeth yr holl gynulleidfa. Eiddigedd, mae'n ym- ddangos, oedd yr achos o'r cynwrf. '10m Richards oedd yn arfer arwain cor en- wog Pontycymmer, ac er pan y mae wedi dechreu arwain cor Mountain Ash y mae rhyw ymgais ac eiddigedd ofn- adwy wedi codi. Ar oj i'r holl gorau ganu, a tbra yn dysgwyl am y feirniadaeth, cafwyd beirniadaeth 0. M .Edwards, Dyfed a'r Prifathraw Rhys ar y "Casgliad o fardd- oniaeth Tudur Aled," gwobr 5p. Yr oedd dau wedi ymgeisio, ond nid oedd yr un yn gyflawn, a chyngorai'r beirn- iaid Gymdeithas yr Eisteddfod i adael y gystadleuaeth yn agored flwyddyn arall, ac i'r ddau hyn fyned yn mlaen gyfer- byn Eisteddfod Ffestiniog Beirniadaeth Llawdden ac O. M. Ed- wards ar y "Casgliad o'r Trioedd Cym- reig gyda chyfieithiadau a nodiadau eg- lurhaol a hanesyddol," gwobr lOp. Un oedd wedi ymgeisio, ond ni allent roddi canmoliaeth uchel i hwnw, ond dyfarn- ent iddo haner y wobr. Yr ymgeisydd ydoedd M. 0. Jones, Treherbert. Wedi hyn dyma "Gor mawr Mabon" yn cael ei alw i ganu eto, a chafwyd hwyl anar- t'erol pyda "Crugybar." Yr oedd pawb yn canu a'i! holl egni, fel pe Iniasai holl hvydd yr Eisteddfod yn dibynu ar hyn. Yna esgynodd y beirniaid y llwyfan, a chafwyd dystawrwydd fel y bedd tra.y traddodai Syr A. C. Mackenzie ei feirn- iadaeth. Yr oedd y dorf wedi gwasgu yn mlaen, a bron bawb ar eu traed yn clustfeinio, a bron yn methu anadlu gan y brwdfrydedd oddimewn, a'r trydan- iaeth oddiallan. Ni ddywedodd Syr A. C. Mackenzie ond ychydig iawn. Byr a dienaid oedd ei sylwadau. Yr oeddynt wedi eu boddhau yn fawr Y11 y gystad- leuaeth ragorol, ond wedi gwneyd eu meddyliau i fyny heb ddim trafferth. Rhoddodd pob un o'r corau ddatganiad ardderchog, a rhaid eu canmol oil. Gwellhai y gystadleuaeth hyd y diwedd. Rhoddodd Cor Mountain Ash berfforrn- iad aruchel; bron na ddywedai ei fod yn ysbryclolEdig; ond tua diwedd yr ail ddarn dechreuodd grwydro ac aeth allan o diw>r. Felly drwg ganddo orfod dweyd fod yn rhaid i Mountain Ash foddloni ar yr ail wobr, tra y dyfarnid y wobr gyntaf i gor Abertawe. DIWEHD Y GAN yw V Yr oedd derbyniadau y dydd cyntaf yn 147p.; ail ddydd 400p.; 3ydd ddydd, 1312p.; 4ydd dydd, 490p.; 5ed dydd, 400p. Cyfanswm wedi ychwanegu y Sea- son Tickets a'r "Lettings," 4,769p., yn gadael diffyg o tua 300p.

--0-?"VO"rT,K!)L) cy M aTT.

--0--DEHEUDIB CJMRU.

Advertising

--0-MABWOLAETHAU CTMRP.

-6 0 0 IACHAU DARyODKDKtAETBf.

Y MABCMADOEBB, ..u,1tJ-,_.,_H.il.J.t:i…