Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
DEMOCRAT tArt) VIRGINIA.
DEMOCRAT tArt) VIRGINIA. Yn eu cynadledd yn Roanoke mabwys- ladodd Democratiaid Virginia fanlawr Chicago yn y modd a ganlyn: "Yr yd- ym ni yn mabwysiadu a chadarnhau banlawr Chicago, a ffurfiwyd Gorphenaf, 1896, ar yr hwn yr enwyd W. J. Bryan yn ymgeisydd am yr arlywyddiaeth, ac yr ydym yn dymuno estyn iddo ein llon- gyfarchiadau gwresocaf fel un a gafodd fwy o bleidleisiau na'r un ymgeisydd blaenorol, oddigerth McKinley, yr hyn a ddengys fod yr egwyddor a gynyrch- iolir ac a gynelir ganddo yn agos ac yn anwyl gan y bobl." Dadgenid hefyd ym- ddiriedaeth yn Bryan fel ymgeisydd ac arweinydd. Pasiodd y Gynadledd ben- derfyniadau yn cymeradwyo y Seneddwr J. W. Daniel yn olynwr iddo ei hun fel Seneddwr y Dalaeth.. Penodwyd J. Hoge Taylor ac Edward Echols am Lyw- odraethwr ac is-Lywodraethwr, a A. J. Montague yn gyfreithwr cvffredinol.
NOSON YN NGHWWKI A I'M A DOC.
NOSON YN NGHWWKI A I'M A DOC. Kansas City, Mo., Awst 18.-Nos Fawrth, y 3ydd cyf., cawsom y fraint o wrando Apmadoc yn un o'i "nosonau" yn eglwys Gynulleidfaol y Southwest Tabernacl. Yn anffodus yr oedd y tyw- ydd yn annymunol iawn; gwlawiodd yn drwm drwy y prydnawn hyd awr y dechreu, yr hyn a luddiodd lawer yn ddiameu; ond ni siomwyd neb o'r rhai a heriasant wlaw a gwynt, ac er na rodd- odd Apmadoc yr oil o'r rhaglen fwriad- edig tystiolaeth pawb oedd eu bod wedi eu llwyr foddloni. Agorwyd y cyfarfod gan y Maer, James J. Jones, yr hwn a gyflwynodd Ap i'r gynulleidfa mewn araeth fer a phwrpasol; yna, dan swyn "awen a chan," yn cael eu dehongli yn null meistrolgar a dihafal y Proffeswr, lith- rodd un o oriau byraf ein bodolaeth ocldiwrthym. Ar ei ffordd i lywyddu ad- ran gerddorol y Nebraska State Chat- auqua yr oedd Apmadoc. Wrth ddych- welyd bydd yn rhoddi cyngerdd yn yr un lie yr 20fed o'r mis hwn. Cyfeiliwyd gan Urias Williams, yr hwn sydd ddyn ieuanc diymhongar ac yn feistr yn ei gelfyddyd. Graddiedig ydyw o athrofa gerddorol y ddinas hon. Da fydd i ni Gymry Kansas City, Mo., Kansas City, Kan., Rosedale, Kan., ac Argentine, Kan., a'r cylchoedd pe cym- erem fylw wnaeth Apmadoc o ffurfio yn gymdeithas Gymreig at ein hystyriaeth. Mae yn wir ein bod yn lied wasgaredig, ond credwn fod ein cyfleusderau teith- iol yn gwneyd i ffwrdd a hyny i raddau pell iawn, ac ni fyddai yn angenrheidiol defnyddio y rhai hyny bob nos. 0 iawn lywodraeth cymdeithas felly deilliai lies i ni o wahanol gyfeiriadau, ac ychwan- egid at ein mwyniant cymdeithasol.— Bachan Bach o Dowlais.
SIR BLUii KARTH. MINN.
SIR BLUii KARTH. MINN. Lake Crystal, Minn., Awst 10.—Mae yr amaethwyr yn y parthau hyn yn hyn- od brysur. Nid yw y gwenith cystal eleni ag arferol, am fod y tywydd wedi bod yn rhy ansefydlog, poeth a gwlyb. Talodd y Parch. Vyrnwy Morgan o Ab- ertawe ymweliad a'r parthau yma, a chawsom ein boddloni ynddo. Yr oedd yr Jtankee yn synu fod Cymro mor bur yn medru pregethu Saesneg mor rhwydd. Adeg wael ar y tymor yw y cynauaf i bregethwyr o'r Hen Wlad ddyfod yma, gan fod yr amaethwyr mor brysur gyda'r cynauaf, fel nad ydynt yn alluog i fod yn moddion yr wythnos. Y mae y Parch. David Edwards, (T. C.,) newydd ddychwelyd gyda'i deulu adref o Nebraska; maent yn gwella. Mae yr Anrh. T. C. Charles a Mrs. Charles, o Mohawk, N. Y., yn ein tref ar ymweliad. Bu Mrs. Charles yn wael iawn yn nhy ei chwaer, Mrs. John J. Griffiths yn Mankato; ond mae hithau yn gwella yn awelon balmaidd y llyn- au. Da oedd genym weled Bill E. Gwil- ym ar ei ddychweliad yn ol o California. Dywed William fod Mrs. Williams yn gwella, yr hyn sydd yn good news i dorf o gyfeillion. Mae Bill wedi dyfod a rhyw fwndel anferth o ffyn gydag ef. Barna rhai mai dyma y ffordd y mae ef yn myned i glirio y Populist Party allan o'r Dalaeth.-Watchman.
✓ FOBLW¥K OHIO.
✓ FOBLW¥K OHIO. Cynaliwyd cynadledd y Poblwyr yn Columbus ar yr lleg cyfisol. Galwyd hi i drefn am 8:30 yn y bore ;ac am 9 o'r gloch yr oedd yn ngofal yr heddgeid- waid, y rhai a geisient eu goreu i ach- ub penglogau a chrimogau. Gorfu i'r Cadeirydd ymadael o'r llwyfan o her- wydd y fflrwgwd ofnadwy. Ceisied cael trefn ar lafar yno drwy i bob un siar- ad yn ei dro; ond pawb i faldorddi ar un- waith a hi, a hyn arweiniodd i'r cyth- rwfl. Cyhuddid y rhai a geisient drefn o fod yn ngwasanaeth Marc Hanna. Ar ol dyfodiad yr heddgeidwaid adferwyd tawelwch a dychwelod Seitz i'r gadair. Mabwysiadwyd a chadarnhawyd ban- loriau Omaha a St. Louis. Yn nghyfar- fod y prydnawn penodwyd y swydd- geiswyr canlynol: Am Lywodraethwr, Jacob S. Coxey; Is-lywodraethwr, Mor- ris Whitcomb; uwch-farnwr, D. C. Pom- eroy; Cyfreithwr Cyffredinol, C. A. Reider, Trysorydd y Dalaeth, F. M. Mor- ris. Achos penaf yr ymrafael oedd y eyd- ffurfwyr a'r anghydffurfwyr-sef y rhai sydd am gadw gyda'u gilydd, a'r rhai sydd am ymuno a. phleidiau eraill. Dy- wedir fod y Democratiaid a'r Gwerinwyr yn gweithio i greu ymraniad yn nheyrn- as y Poblwyr. ■» ♦»
Hidlo Gwybedyii a Iilyncu…
Hidlo Gwybedyii a Iilyncu Camel. Cafodd y Parch. W. H. Armstrong, gweinidog y Seventh Day Baptists, ei garcharu am chwe diwrnod yn Wash- ington am symud ychydig o lyfrau a bwrdd ar ddydd Sul. Yr oedd wedi sym- ud y dodrefn eraill y diwrnod blaenorol, ac ychydig o latheni oedd ganddo i gludo y llyfrau o dan ei gesail; ond gan fod rhai o'r seintiau urddasol yn edrych arno trwy y ffenestri cymerwyd y brawd i'r ddalfa ar unwaith. Fy rheswm yn crybwyll hyn ydyw ein bod yn arddang- os cymaint o fanylder gyda phethau cymhariaethol ddibwys ac yn goddef cymaint o feddwi, chwareu cardiau a chware pel ar y Sabboth. Nid wyf yn cymeradwyo Mr. Armstrong; ond bydd- ed i'r awdurdodau ddeffro at bethau can mil pwysicach. Dydd o nod yw'r Sabbath gwyn, I roddi mawl i'r Arglwydd; Gorchymyn ddaeth o'r llys i'r glyn I'w gadw yn ddidramgwydd. -G. Ddu.
[No title]
♦ I » AT Y BEIRDD.—Cynygia G. T. Matth- ews a'i Gwm. wobr o $5.00 am y penill- ion goreu i De y Brenin-heb fod dan 30 na thros 48 llinell. Anfoner i'r beirniad, Aneurin Fardd, 451 Greene Ave., Brooklyn, N. Y., erbyn Medi 30.
[No title]
•» < » Gellid meddwl fod pechod camwedd a phengamrwydd yn talu yn dda yma. Cymerwyd dyn o'r enw David Bates i'r ddalfa yn Chicago am aml-wreicaeth, ac wedi ei ollwng yn rhydd dan feichni- aeth cyflogwyd ef gan arddangosfa. i ddangos ei hun yn gyhoeddus, ac y mae miloedd o ttyliaid yn talu am ei weled ac am ei lun. Amgylchlr ef a blodau fel un wedi cyflawni gweithred rin- weddol! r
CYMRY NEW YOEK 4 VEEMOMT
CYMRY NEW YOEK 4 VEEMOMT UTICA, Awst 24.-Bydd y Parch. R. Ellis Williams, Llundain, yn pregethu y Sabboth nesaf fel y canlyn: Bethesda am 10:30; Broadway am 1:30, a Moriah am 7. —Mae W. Cynwal Jones, Supervisor v 7th Ward, yn rhedeg am ail-benodiad ar y tocyn Gwerinol. Gwasanaethodd Mr. Jones gyda chymeradwyaeth fel ysgrif- enydd ar rai o'r pwyllgorau pwysieaf sydd yn perthyn i'r Bwrdd Sirol yn ys- tod y ddwy flynedd ddiweddaf. Diameu y ca gefnogaeth ei blaid yn Gymry ac Americaniaid. -Bydd y Parchn. Hugh Davies, Scran- ton, a R. E. Williams yn gwasanaethu yn y Cyfarfod Dosbarth gynelir yn Floyd dyddiau Iau a Gwener yr wythnos hon. Pregetha Mr. Davies yn Rome y Sabboth. -Bu David Jones a'i briod o Duluth, Minn., ar ymweliad a Floyd a Remsen am rai dyddiau ar eu ffordd i New York. Mab ydyw Mr. Jones i'r adnabyddus E. D. Jones, Detroit, yr hwn sydd gyda'i briod yn seibianu yn Remsen. -Nos Iau. bu farw John M. Evans, Frankfort, tra ar ymweliad a'i frawd yn Delta. Nid oedd wedi bod yn iach er's rhai blynyddau. Ganwyd ef yn Llan- fihangsl, Sir Feirionydd, lonawr 8 1836; ond daeth drosodd i Sir Oneida gyda'i rieni yn 5 mlwydd oed, a dygwyd ef i fyny yn Western. Yn 1861 ymunodd a'r fyddin a bu yn gwasanaethu yn ddewr yn y rhyfel hyd ddiwedl 1S64. Wedi hyny bu yn ngwasanaeth y New York Central RR. am ddeg mlynedd, a thrachefn ar y D., L. & Western RR. a'r West Shore. Collodd ei fraich trwy ddamwain yn 1886; ar ol hyny ymsef- ydlodd yn Frankfort fel clerk yn ngor- saf y Yvrest Shore. Nid oedd neb o swyddogion y cwmni yn fwy adnabydd- us na "Jack" Evans. Ni fu erioed yn briod. Gadawodd frawd a chwaer- Richard Evans, Western, a Mrs. Ann Jones, JJtica. MARWOLAETH MRS GRIFFITH OWEN. Bore Sadwrn, Awst 21, yn ei chartref 72 Elizabeth St., Utica, bu farw Mrs. Mary Jane Owen, anwyl briod Griffith Owen, y masnachwr adnabyddus ar Bleecker St. Tua phedwar mis yn ol cafodd ergyd o'r parlys, ac yn ddylynoi dyoddefodd amryw ergydion eraill, nes daeth y diwedd. Merch ydoedd i'r di- weddar Griffith a Sarah Griffiths; a gan- wyd hi yn Utica, Gorph. 13, 1829. Mag- wyd hi yn grefyddol o'i mebyd yn eg- lwys Bethesda; ond er's Ilawer o flyn- yddau aelod ydoedd o'r First Presbyter- ian Church, ac un nodedig o weithgar a ffyddlon gydag achosion elusengar a chenadol. Nodweddid hi gan grefyddol- der diragrith; a pherchid hi yn fawr ar gyfrif ei gweithredoedd da. Yn 1851 priododd Griffith Owen; ac fel priod a mam*yr oedd ynddi gyfuniad o'r elfenau anhebgorol i wneyd cartref dedwydd. Heblaw ei phriod gadawodd ddau fab, William H. a George Owen; hefyd ped- war brawd-Thomas J. Griffiths, perch- enog y "Drych"; David G. a Watkin M. Griffith, New York, ac Isaac F. Griffiths, Grand Rapids, Mich. Cafodd angladd anrhydeddus bore dydd Mawrth, y Parch. R L. Bachman, D. D., ei hen weinidog, yn gweinyddu. Rome, N. Y., Awst 23.-Dydd Gwener, yn nghynadledd y Gwaharddwyr, penod- wyd Morien Mon Hughes, Ph. D., yn ymgeisydd am fod yn Member of Assem- bly yn yr etholiad nesaf. Gwnaed y penodiad yn unfrydol.—G. Richville, N. Y., Awst 20.—Y Sab- both diweddaf ordeiniwyd L. E. Lewis o Waterville yn weinidog ar eglwys Gyn- ulleidfaol y lie hwn, pryd y gwasanaeth- wyd gan y Parchn. R. M. Jones, y cyn- weinidog, a W. J. Richards, Waterville. Cafwyd cynulliadau lluosog, yr hyn a arddangosodd fod yn Richville lawer iawn o feibion a merched teilwng o hil- iogaeth Gomer. Yr oedd yr arholiad ac atebion Mr. Lewis yn hynod darawiad- ol a boddhaol, a'r pregethu yn adlew- yrchiad o'r nerth ag sydd yn yr "hen, hen hanes." Dechreua ein brawd ar ei weinidogaeth o dan amgylchiadau hapus a ffafriol, gyda dymuniadau da pawb o'r lie am ei lwyddiant fel dyn ieuanc dich- lynaidd a gobeithiol yn ngwasanaeth y Gwaredwr.—T. D. Davies. Holland Patent, Awst 23.—Bore Sul pregethodd y Parch. Hugh Spencer Wil- liams o Memphis, Tenn., yn dda odiaeth. Nid oedd wedi pregethu Cymraeg er's blynyddoedd, trwy fod maes ei lafur yn mhlith yr Americaniaid, ond yr oedd yr hen Gymraeg mor llithrig ganddo, a'r hen hwyl Gymreig lon'd ei enaid, a chaiff y croesaw mwyaf os byth y daw i'n plith eto. Hefyd yr oedd y Parch. W. H. Williams o Princeton College, N. J., gyda'r M. C. y prydnawn a'r hwyr, a chafwyd pregethau da. Dymuna y cyf- eillion bob llwyddiant iddo yn y dyf- odol.—Bu William F. Jones o Collin- wood Ohio, a'i deulu yn talu ymweliad a'i rieni, William a Rachel Jones; ac mae John W. Jones o Princeton. N. J., ar ymweliad a'u rhieni hwythau, Mr. a Mrs. G. J. Jones. Y mae yma lawer iawn o ymwelwyr hafaidd eraill yn yfed o awelon iach Hollant Patent, yn eu plith Miss Florence Morgan, Utica, a Miss Lizzie Williams, Rome, yn aros gyda Miss Bertha Jones.-Mae Miss Katherine Davies, merch Benj. Davies, wedi ei chyflogi i fod yn Assistant teach- er yn Stittville am y tymor nesaf; y mae yn ferch ieuanc hynod lwyddianus. Cafodd Mr. a Mrs. William R. Thomas, Utica, eu galw yma gan afiechyd eu merch fechan, Lynda; da genym fod y fechan wedi gwella yn dda.- Y Parchn. T. M. Owen a John Isaac Hughes fydd yma y Sabboth nesaf.-R. Nelson, N. Y., Awst 16.—Dydd Iau, cynaliodd Ysgol Sabbothol eglwys yr A. bicnic i'r plant; daeth Ilawer yn nghyd, a chafwyd ciniaw rhagorol gan y chwi- 1 orydd. Dydd Sadwrn, cynaliwyd picnic yn Chittenango Falls, o dan nawdd y Willing Workers, a chafwyd amser da. Parha Cymdeithas Ymdrechol y Bobl Ieuanc i enill tir o hyd; yr ydym yn cael cyfarfodydd rhagorol. Mae y gym- deithas yma wedi bod yn gwneyd Ilawer o ddaioni. Mae S. L. Jones, yr hwn sydd wedi prynu fferm ei nain, Mrs. Samuel Jones, wedi prynu peirianau dyrnu, ac yn parotoi i fyned allan gyda hwy i weithio. Bu Mr. a Mrs. Henry R. Jones, Steuben St., Utica, yn aros yma am bythefnos gyda D. R. Davies. Dydd Mawrth gwnaeth Mrs. Davies barti i Kittle Jones, ar ben ei blwydd yn ddeg oed, pryd y cafodd lawer o anrhegion. Mae gan Mr. Jones a'i deulu lawer o gyfeillion yn y cylchoedd hyn. Parhau yn bur wael mae Mrs. James Jones, Erieville; cydymdeimlir yn fawr a'r teulu. Mae Mrs. D. H. Hughes wedi gwella yn lied dda; da gan bawb oedd ei gweled yn y capel ddoe.-R. H. Hydeville, Vt., Awst 23.—Mae Ilawer iawn o ymwelwyr o'r dinasoedd yn mwynhau eu seibiant ar lanau Llyn Bomoseen. Da genym ddeall fod Hugh Jones, Blissville, yn well y dyddiau hyn ar ol cyfarfod a damwain rai dyddiau yn ol, pryd y bu agos iddo golli ei fywyd. Yn talu ymweliad a th2'ulu William M. Thomas, North Poultney, y mae Mrs. Hughes o Ddinas New York, chwaer i'r diweddar W. O. Thomas, awdwr "Dwy waith o amgylch y byd." Cynaliodd y Blissvilliaid eu picnic blynyddol y Sad- wrn diweddaf ar lanau llyn Castleton. Teimla Mrs. M. Price yehydig yn well y dyddiau hyn hefyd H. H. Jones. leu. Da oedd genym weled golwg mor heinif ac iach ar yr henafgwr Richard W. Hughes, Hydeville. Teimla yn lied dda o ran ei iechyd. Darllenir ysgrifau Bos- tonian gyda dyddordeb; moes eto yn fuan.—Sam.
... AT FEDTDDWTR AMERTCA.
AT FEDTDDWTR AMERTCA. XJvthyrnu C V nliFfHl wya ".th y Pareli J. E Griffiths, Sciwen. Sciwen, Mawrth 8.—Dymunaf hysbysu eglwysi Bedyddwyr y Talaethau Unedig fod ein. brawd teilwng, y Parch. J. E. Griffiths, Sciwen, yn aelod o Gymanfa Orllewinol Bedyddwyr Morganwg, fel gweinidog ar eglwysi Ainon, Birchgrove, a Calfaria. Sciwen. Dywenydd genym eich hysbysu fod i'n brawd gymeriad da, gloew a theilwng o weinidog ffyddlon i lesu Grist. Dymunwn ar i eglwysi Am- erig ei dderbvn fel y cyfryw, a hyderwn y ca lawer o wenau Duw yn y daith hon o'i eiddo. Yr eiddoch yn gywir, David Griffiths, Ysgrifenydd Cymanfa Orllew- inol Bedyddwyr Morganwg. Sciwen, Mawrth 7.—Yn gymaint a bod yn mwriad ein hanwyl weinidog, y Parch. J. E. Griffiths, i dalu ymweliad a chwi yn ystod yr haf nesaf, dymunwn arnoch ei dderbyn yn garedig fel gwein- idog da i Iesu Grist, ac fel un sydd wedi bod yn hynod o lwyddianus yn ystod y tair blynedd ar hugain y mae wedi bod yn ein plith. Hyderwn y bydd ei ym- weliad a'ch cyfandir o fendith iddo ef a chwithau, ac y caiff ddychweliad yn ol yn iach a chryf, fel y mae yn bresenol, i fynwes pobl ei ofal. Ydym, anwyl frod- yr, dros yr eglwys, Diaconiaid.—David Morgan, Richard Maiden, James Grif- fiths, David Morgan, David Lewis, John Thomas. William Rees, Ysg.
AMKfWIAETHAU,
AMKfWIAETHAU, -Yn ddiweddar bu farw y Parch. Dr. David Bowen, prifathraw Coleg Rhydd Aberdeen, yn 94 mlwydd oed. -0 500 o ymgeiswyr am ymrestriad yn y llynges yn Chicago yn ddiweddar dim ond 16 oedd yn gymeradwy! —Diddymwyd cosbau angeuol yn Itali yn y flwyddyn 1875, ac oddiar hyny y mae llofruddiaethau wedi amlhau 42 y cant. —Oddiar Ionawr 1, gwerth y nwydd- au masnachol a allforiwyd o New York yw$311,580,679 ar gyfer $234,577,538 yn ystod yr un tymor y flwyddyn ddiwedd- af. -Cyfododd y Prif Weinidog Canovas o ddechreuad isel a chyffredin. Mab oedd i ysgolfeistr ac arferai ei fam olchi. Nid yw hyn yn profi fod golchi yn ffordd i lwyddiant pob bachgen. —Derbyniodd masnachwr plu yn Llun- dain yn ddiweddar 6000 o adar parad- wys, 360,000 o eraill o wahanol fathau o'r India Ddwyreiniol, a 400,000 o si- adar. Derbyniodd masnachwr arall 358,- 398 o wahanol fathau o'r India Ddwy- reiniol. -Mewn anerchiad yn ddiweddar yn Arddangosfa arddwrol Hawarden a Buckley, awgrymai Mr. Gladstone yn ei berthynas a wyau mai goreu i gyd po agosaf i'w bwytawr y dodwyir hwy. Dywedai fod cryn ameuaeth yn ogystal a'r plisgyn yn amgylchu y rhai o bell! —Yn ystod mis Gorphenaf yr oedd derbyniadau y llywodraeth yn $39,027,- 364, a'r taliadau allan yn $50,100,908, sef diffyg o $11,073,544. O'u cymharu a Mehefin yr oedd y derbyniadau yn fwy o $2,4^2,656 a'r taliadau yn fwy o $27,- 166,214. —Dywed adroddiad y Trysordy mai cyfanswm dadforiad siwgr yn y chwe porthladd, sef Baltimore, Boston, New York, New Orleans PliLAaLLelphia a San Francisco, yn ystod Gorphenaf oedd 178,004,060 pwys, gwerth $4,125,245. 0 hyn daeth 43,009,113 pwys, gwerth $1,- 242,363 i mewn yn rhydd o Hawaii. —Dyma engraifft o weithredoedd gwraig yn ei chanlyn: Yn otolpe, yn agos i Berlin, dathlodd byd-wraig e1 6,000fed plentyn, drwy wahodd yr oil a gynorthwyodd i'r byd i ddyfod i gin- iaw i'w thy. Daeth 6,000 yn nghyd. Yn yr hwyr trowyd allan yn orymdaith odidog gyda goleuadau drwy btif heol- ydd y dref. —Mae cyfanswm cynyrch y glo caled yn ystod Gorphenaf yn arddarigos cyn- ydd o'i gydmaru a'r un mis y flwyddyn ddiweddaf. Cynyrch y mis y flwyddyn hon oedd 3,975,000 o dunelli ar gyfer 3,750,000 yn Gorphenaf y flwyddyn ddi- weddaf, 3,670,000 yn Gorphenaf, 1895, a 3,870,000 yn yr un mis yn 1894. Yn ys- tod saith mis cyntaf y flwyddyn hpii yr oedd y cyfanswm yn 20,080,000 ar gyfer .22,649,000 yn ystod yr un saith mis y fiwyddyn ddiweddaf.
PRYDAIN FAWR A'R WERDDON.
PRYDAIN FAWR A'R WERDDON. STREIC Y PENRHYN.—Dywed y "Chronicle" fod y streic fawr yn y chwarelau ar ben, ac fod Arglwydd Pen- rhyn wedi rhoddi i fyny yn llwyr i'r gweithwyr yr hawl o ymuno er ymddiff- yn eu hunain. Achos yr anghydfod oedd gwaith Arglwydd Penrhyn yn gwrthod cydnabod pwyllgor y chwarelwyr, ac fel canlyniad streiciodd y gweithwyr. LLUNDAIN, Awst 19.-Achosa y ne- wyddion diweddaraf o India bryder mawr yn Lloegr. Y mae y llywodraeth yn brysur yn cynllunio a dyfeisio i war- edu ac amddiffyn y cyffiniau, ac anogir yr awdurdodau yn India i ganolbwyntio eu gallu yn nghymydogaeth y parthau terfysglyd. Ystyrir yr argyfwng yn fwv difrifol na'r un oddiar 1857. Ofnir rhag i'r penboethni crefyddol ymdaenu i blith y milwyr brodorol. Wedi clywed fod yr Orakzais a'r Afrides yn ymderfysgu an- fonodd y llywodraeth ddau gorff o fag- nelwvI, dwy fiiitai o wyr meirch a dau gwmni o wyr traed i Pesha- wur. Ymddengys fod cyflwr pethau yn ddrwg gan fod yno bellach 37,000 o ftlwyr ar y cyffiniau gogledd-orllewinol, 7,300 yn nyffryn Tochi, 12,000 yn Mala- land, a 12,000 yn nghadw yn Peshawur a Kotal. Barn y Cad. Roberts o Candahar yw nad oes fawr sail i bryder yn India. Dywed mai awel yw, ac y chwyth dros- odd yn y man. Llundain, Awst 21.—Y mae y Due a'r Dduces York yn cael croesaw a derbvn- iad brwdfrydig tuhwnt i ddysgwyliad pawb yn y Werddon. O'r awr y glanias- ant yn Kingstown y mae eu hymweliad wedi bod yn llwyddiant dymunol. Tar- awodd y Due deinilad y bobl a'i anerch- iad call a gwresog ar ei laniad, ac y mae gwisg werdd y Dduces yn taro serch y tyrfaoedd i'r tipyn. Yr oedd eu dorbyn- iad hyd yn nod yn Dublin yn anarferol o gynes y tu hwnt i ddychymygion pleidwvr breniniaeth. Y mae y teulu wedi eu boddloni yn fawr a sonir am wneyd y Due yn Dywysog y Werddon. Hysbysa gohebycld y "Times" fod gwlawogydd dyinunol wedi syrthio ar hyd India yn ddiweddar, ac fod argoel- ion am gnydau da. Y mae canlyniadau y newyn hefyd yn difianu, a rhif y rhai a dderbyniant gymorth yn lleihau yn gyflym. Cynaliodd yr anarchistiaid gyfarfod brwdfrydig a thanllyd dydd Sul diwedd- af yn Trafalgar Square, a chafwyd an- erchiadau cyffrous a bygythiol gan y blaenoriaid. Yr oedd yno gorff o hedd- geidwaid yn gwylio rhag i derfysg dori allan. Terfynodd pob peth yn heddych- lawn. Y mae streic y peirianwyr yn Lloegr yn parhau i enill tir, ac y mae saith wythnos bellach oddiar ei chychwyniad. Ymuna cangenau eraill o weithwyr a hwy, ac nid oes olwg ar derfyn yr ang- hydfod ar hyn o bryd. Y mae yn achosi Ilawer o anghyfleusdra, fel y mae rhai o'r newyddiaduron yn ancg y llywod- raeth drwy'r Bwrdd Masnach i ymyr- aeth er dwyn yr anghydwelediad i ben drwy gyflafareddiad. Costia y streic i'r gymdeithas$85,000 yr wythnos.
--0-GROEG A TWRCI.
--0- GROEG A TWRCI. Constantinople, Awst 19.—Ffyna cyff- ro mawr yn v ddinas o herwydd ffrwyd- rad amryw beleni yma y ddoe. Priodol- ir yr anfadwaith i Armeniaid. Cymer- wyd Armeniad o'r enw Gartevbet i'r ddalfa am y ceid defnyddiau ffrwydrol yn ei feddiant. Taniwyd un belen ar yr heol rhwng swyddfeydd y Grand Vizier a Chyngordy y Llywodraeth. Lladdwyd un dyn ac anafwyd amryw. Y mae yr heddgeidwaid wedi cymeryd amryw mewn Haw. Aeth y newydd am y ffrwydradau hyn drwy y ddinas, a chre- oedd ofn a chyffro mawr, a drwgdybir fod yma gynllun ar droed i ddymchwel- yd a dinystrio palas y Swltan. Y mae cyngerdd y galluoedd yn par- hau mewn dyryswch a phenbleth yn nglyn a thelerau heddwch. Ymddengys mai Lloegr yw'r tramgwydd. Gwrth- wyneba hi Twrci i aros a meddianu trefi Trikala, Larissa a Volo, yn Thessaly, hyd y tal Groeg yr iawn. Ofnir y bydd i'r anghydwelediad hwn dori i fyny y gynadledd. Dywed Arglwydd Salisbury fod Groeg yn analluog i dalu yr iawn, ac felly byddai Twrci mewn meddiant parhaus o'r wlad. Gwrthwynebir Lloegr hyd yn nod gan Ffrainc ac Itali, y rhai a ddaliant y dylai Twrci ymadael yn raddol fel y telir yr arian. Ymddengys yn gymylog iawn uwch y Dwyrain. Derbyniodd y "Daily News" newydd o Labreez, prifddinas tywysogaeth Azer- baijan; Persia ,yn hysbysu i'r Kwrdiaid dori drosodd i ranbarth Salmas, o du Twrci, a dinystrio amryw bentrefi Ar- menaidd, gan ladd 25 o'r trigolion, yn Gristionogion a Mahometaniaid yn ddi- wahaniaeth. Athens, Awst 22.-Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yma heddyw yn yr hwn yr oedd 3,000 yn bresenol, a phasiwyd pen- derfyniad i wrthod telerau heddwch Twrci ac ail-gyhoeddi rhyfel. Condemn- ir gwaith y cyfarfod gan y newyddiad- uron Groegaidd, a'r rhan fwyaf ystyriol o'r bobl.
--0--TSBAEN: DITHN YODI \D…
--0-- TSBAEN: DITHN YODI \D GOLLT. San Sebastian, Awst 20.—Dienyddiwyd Michael Angiolillo, neu Golli yr hwn a frad-lofruddiodd Canovas dydd Sul, Awst 8, yn ngharchar Vergara, am 11 o'r gloch heddyw. Derbyniodd y newydd y dienyddid ef heddyw yn dawel, ond ym- ddengys nad oedd yn dysgwyl hyny. Teimlai yn anfoddlon a gwrthwynebus i ymweliadau yr offeiriadau Pabyddol. Cysgodd yn weddol esmwyth yn ystod y nos, a chododd yn fore, ac wedi bwyta ychydig foreu-fwyd treuliodd ychydig amser yn nghymdeithas yr offeiriad. Arweinwyd ef at y post a chylymwyd ef wrtho. Goscdwyd yr aerwy (y garrot) am ei wddf, a chyda dau neu dri tro yr oedd y truan yn farw. Wedi cael sicr- wydd am ei farwolaeth cymerwyd y corff i'w barotoi i'w gladdu. Gan na ofynwyd am ei gorff gan neb cleddir ef gan y llywodraeth. Yn ei ymgom a'r offeiriad dywedodd Golli, "Gadewch lon- ydd i mi, mi setlaf fi a Duw." Cymerwyd Italiad o'r enw Giuseppe Rossi i'r ddalfa dan y ddrwg-dybiaeth ei fod yn anarcist, ac mewn cyngrair ag Angiolillo ac eraill. Y mae y Frenines heddyw wedi cad- arnhau y Cadfridog Azcarraga fel Prif- wemidog dros amser. Ef yw y gweinid- og rhyfel hefyd. -Sonir y bydd i amryw o aelodaiTv cytrm-gyngor ymddiswyddo ar ddych- "weliad y Llys o San Sebastian. --0-
NOOiOM PElLEJilfj,
NOOiOM PElLEJilfj, —Dydd Mercher, Awst 10, ymadawodd Ailvwyad Ffrainc ar ymweliad ag Ym- Ar ol ei ymadawiad wn! P ?r y fford(i oedd ne- deithio, a bernir mai cais aflwydd- lanus oedd i'w ladd. Yn ddiwed^Seh Ii vr'nn ti;' SV,Tfogion ddaI anarcist yn ei fogeiTn &1' Arlywydd a "aw-ddryll T^ir ceFbydau trydanol ar ys- ddesr o hn dam- Y mae pedwar-ar- h yrx Jan^stadlu a'r cab- lau a r hansoms cyffredin. ar^'rhv'flrV anu^dd-dod a'r afreolaetfc er-fo-n Vvm!ing rydeinig Ro-val Sor- h f ag y gvnai v sor h.. nj. Piofwyd dau o'r dwvlaw vn B,,no o alit-,fudd-dod ae o daro y swyddogion •' n n J nain 1 flwyddvn o garcha' a r Hall i dn mis a 24 o ffiangelllu. L]amodd yr "Hamburg Express"' oddiar y rheiliau y dvdd o'r h]?! rnwng Celle ac SMzen, yn German? to'iTi' J' hJr* r "atl<iTTc3 pedwar o'r teithwyr ac y niweidiwvd ugain Chw* y > YmeraSdl-r meiodies ar hj*a yr un a'ordd Gwneir ymchwiliad manwl i'r ddam- wain. Mtl'SSs TTf 1,yW°d- ^"Xn TnS ca^charv1 cae/ s<~fydliad trefedigol i'w Lloe°-r a'r T I ,|;ebyg y cydweithreda a 1 Talaethau Unedig. th'~l ^lae ofn yr Anarchistiaid m ffynv wvr Pan 0edd o efryd- wyr Pwlaidd mewn dadl a'u gilydd mewn anedd-dy yn St. Petersburg tor- odd 51 heddgeidwaid i mewn a chvmer- n^'1" 011 iT dda]fa- Bernid eu bod cjnib.vyn yn erbyn y llywodraeth ac Vn dyfeisio ffordd i frad-lofruddio y Czar^ —FfyEa cytfro rn&wr yn ninas Paris, r, n^, ?n herwyad pris uchel v bara bfaw% ?S?au Radicalaidd y Cynulldy blaid y tioaion, a gwneir ymdrech i gael estronol r ddj3eU y do11 ar estionol Cymer rhai o'r newvddiadur- 7 Cyfle 1 zonaemnio r IJJ wouitierh am ei hwyrfrydigrwvdd yn c} north wyo y rhai tlawd. a yi* aCh°fh' llawer 0 Penboethni fiil f yn mhIitil lhvythau vn ln- cna gan lenyddiaeth danllyd. v mae v 12? Ifh BrydeiniS ^edi penderfynu ahardd ac atal lledaeniad v "Sabat" a'r "Malumet," newyddiadui:on Tvrc- aidd, yn mhlith y bobl. —Mewn canlyniad i ffrae rhwng Iu- ddew a Boliemiad yn Pilsen. Bohemia torodd allan derfysg yno, ac vmosodSdd y bob! ar y rhanbai^lh Iuddewig gan dori ffenestri a ehwilfriwio y synagog, yr vs- au r Juddewig' ac ymosod ar berson- bobl Wyd y mihvyr allan i lonyddu y v^lV101111 Evans- trengholydd Aber- n11 Cynai y^cliwiliad i achos maivolaeth gwraig ieuanc newvdd bri- odi or enw Mary Anne Courts, a'i, hon oedd yn gweini fel mcrwyn yn 63 Mar- me Terrace; a'r hon oedd wedi marw y diwrnod blaenorol mewn canlvniad i effeithiau niwed a dderbyniodd trwy adisgyn o dn uchder wrth lanhau v ffen- estr. ^Dychwelwyd rheithfarn o" "far- wolaeth ddamweiniol," ac nad oedd un bai wrth ddrws meistres y ty.
OYVA1)I.K!)l) WViilN^T., IOWA.
OYVA1)I.K!)l) WViilN^T., IOWA. Grand Rapids, la., Awst 18.—Galwodd y cadeirydd talaethal McMillan v gyn- adledd i drefn a chyflwynodd C. M. Harl o Council Bluffs fel y cadeirydd dros amser. Cafodd Mr. Harl dderbyniad croesawus a brwdfrydig, a rhoddodd an- erchiad maith ar bynciau y dydd. Gos- odwyd enwau yr ymgeiswyr am lywod- raethwr ger bron. Yn y pedwerydd bleidleisiad cafodd Mr. Shaw 572, a chynygiwyd yn y man fod ei benodiad yn cael ei wneyd yn unfrydol; a gwnaed hyny gyda chymeradwyaeth mawr. Gwnaeth Leslie M. Shaw araeth yn der- byn ac yn diolch am y penodiad. Pen- odwyd y canlynol am y swyddau eraill: Barnwr yr Uchaflys, Barnwr Water- man; Llywodraethwr y Rheilffyrdd, C. ,Davidson o Sioux City; Arolygydd Add- ysg, Barrett. Cymeradwywyd y banlawr arianol a ganlyn: "Derbynia a chymer- adwya Gwerinwyr Iowa yr oil o'r eg- wyddorion a fynegwyd gan y Gynadledd Genedlaethol yn 1896, ac addawa i Iowa y bydd yr etholiad nesaf, yn Tachwedd, yn arddangosiad o nerth a llwyddiant ychwanegol i'r blaid Werinol a'i heg- wyddorion. Dadgana hefyd dros ddiff- yn-dollaeth ac arian da."
TYSTIOLAETH RVFEDUOL.
TYSTIOLAETH RVFEDUOL. T Modd yr Achubwyd H. Jones, Jhcnan- doah, rhag Aiigen Anamserol- Dyma'fel yr ysgrifena un o Gymry mwyaf parchus Shenandoah, Pa., am y waredigaeth hynod a gafodd ddeng mlynedd yn ol, a dywed ei fod yn dy- muno cyhoeddi y ffeithiau er budd clelf- ion a flinir yn gyffelyb. "Teimlwyf yn ddyledus byth I Mr. John B. Williams, Utica, fel un fu vn gyfrwng yn llaw rhagluniaeth i fy nghadw yn fyw ac adferu i mi fy iechyd. Gwyr Cymry Shenandoah am y cyflwr truenus yr oeddwn ynddo ddeng mlyn- edd yn ol. Nis gallwn orwedd yn fy ngwely, ddydd na nos; a methodd y ped- war meddyg goreu yn y dref, ac'un o feddygon galluocaf Philadelphia roddi i mi ymwared. Bright's Disease oedd ar- naf, meddai rhai; diabetes, meddai er- aill, a dywedent fod fy nghyflwr yn an- obeithiol. Rhoddais brawf hefyd ar Warner's Safe Kidney Cure, ond yn fuan collodd hwnw bob effaith. Yn ddi- weddaf oil dechreuais gymeryd Wil- liams' Kidney & Bladder Cure, ac yn mhen mis yr oeddwn yn ddyn newydd hollol. 0 hyny hyd yn bresenol, yr wyf yn mwynhau iechyd rhagorol fel ag i allu enill bywoliaeth gysurus i mi a'm teulu. Gwyr y Parchn. D. S. Thomas West Va., a John T. Lloyd, Wilkesbarre, y rhai a drigianent yn Shenandoah yr adeg hono; hefyd Mr. D. B. Thomas, Scranton, a lluaws eraill o ddynion ym- ddiriedol, fod fy nhystiolaeth yn wir bob gair. Fy mhrofiad yw nas gwn am un feddyginiaeth mor effeithiol at welJa anhwyldeb yr elwlod.H. L. Jones, 238 West Coal St., Shenandoah, Pa. Am dyst-lythyrau cyffelyb ysgrifener at John B. Williams, 44 South St., Utica, N. Y. Pris y Kidney Cure yw $1,00 y hotel. Anfonir tair potel wedi talu y cludiad i unrhyw barth. o'r Talaethau Unedig ar dderbyniad §3.
Advertising
[PUIS YMOPTKLAD 11.00.) YMOFYXTAD AM OWEN W. QWE1\S. gerefiaol o Pen- Aml^cb, Y gar- dliweddsf KIVTWI oddi- i° J ° shepa-Joah. Scbnylkil! "Co Pa. yn ddioi^b^ar am air o'i hanes. ^yreiner—Ev«d OwtLS. Tan yr Fald. Peusarn Anglesea, N. Wales. OWEN W. JONES diweddar o Ashley Pa. Cyfeirier—DRYCF Office, Utica. N. Y. JOHN W THOMAS diweddar o Ponlt- ney. Vt Cyfeirier— Dbtgh Office, Utica, N. Y. 11 QWERTHIR TOCYNAU YN MORGAN'S UNIVERSAL HOTEL, 75 Clarkson St., New York, ar y diwrnod y bydd no rhyw agerloae in cychwyn am LerDwl. ',i
NODUhN" PK:1^0N0Iv.
wneyd heb y ddau hen bererin parchus am beth amser, ond mae eu mawr angen ar y ddaear yn ol barn y mwyafrif o lawer. Mae y ddau wedi bod o wasan- aeth mawr i bob cylch cymreig yn y ddinas am dros 30 o flynyddoedd, yn grefyddol a chymdeithasol. Cofiwn am danynt.—D. R. Milwaukee, Wis.; Awst 18.-Y Sul di- weddaf pregethwyd yn nghapel y T. C. gan y Parch. W. E. Evans, Mankato, yn dra chymeradwy. Mae R. R. Williams o L'Anse, yma yn gwerthu ei "Dafydd Morgan" fel hot cakes. Pob llwydd iddo.—Z. A. Mather. MA.RWOLAETH MARIAN WILLIAMS. Ugain mlynedd yn ol, nid oedd ond dwy neu dair cantores mwy poblogaidd yn Nghymru na Marian Williams. Ym- gynullai tyrfaoedd anferth i'w gwrando hi a'i chyfnither Miss Mary Davies Aeth Miss Davies yn mlaen i'w gyrfa lwyddianus; ond yn mhen ysbaid daeth cwmwl tros Miss Williams, yr hwn a dduodd ac a dduodd, nes y gollyngwyd hi o hono gan angeu, nos Lun, Awst 2il, yn Llundain, lie yr oedd hi yn preswylio er's rhai blynyddau. Diangenrhaid dweyd fod ei chyfeillion wedi gwneyd Ilawer cais i dori ei chadwynau; bydd- ent yn llwyddianus am dymor, ond ail asiai y gadwen drachefn. Er pan bri- ododd gyda Henry Jones tua deng mlyn- edd yn ol, anaml y clywid ei llais mwyn a melodaidd ar y llwyfan gyhoeddus, oddieithr i helpu rhyw achos elusenol neu gilydd. Nid oedd ond dwy a deugain oed. Gadawodd i alaru, heblaw ei phriod ddau o blant a mam oedranus. Druan oedd hi! LLWYDDIANT TELYNOEES IEUANC. Bu'r ferch ieuanc dalentog Telynores Menai yn llwyddianus i enill bathodyn arian y Royal Academy of Music, Llun- dain. Ddwy flynedd yn ol llwyddodd yn yr un lie i enill ysgoloriaeth o 120p., a'r fiwyddyn ddiweddaf enillodd y bathodyn bronze. Gan y rhoddid y bathodau y tro hwn i'r ymgeiswyr llwyddianus gan Ei Huchelder Breninol, Tywysoges Cymru ,ystyrid y seremoni yn un hynod bwysig, ac yr oedd nifer yr ymgeiswyr llwyddianus yn gymharol fychan ar yr achlysur hwn. Miss Hughes ydyw'r un- ig delynores a lwyddodd i enill bathod- yn arian y Royal Academy, a chan na roddir rhai aur, dyma'r pwynt uchaf y gellir ei gyraedd yn y Coleg. Hi hefyd ydyw'r unig delynores (neu'r telynor o ran hyny) a enillodd ysgoloriaeth erioed yn yr Academy Freninol. MAKION 0 MAHONING. Youngstown, Awst 20.-Llanwyd pwl- pud y Bedyddwyr Cymreig y Sul o'r blaen gan yr efengylydd profiadol y Parch. Thomas Thomas, Sharon, Pa. Blin genym nodi marwolaeth y cym- ydog hynaws James Davis, Brier Hill, sef brawd y County Commissioner, J. M. Davis. Ganwyd ef yn Palmyra yn 1845. Mae ei hanes ef yn ddyddorol iawn am ei fod yn ddolen o'r hen gadwyn gyntaf o'r hen sefydlwyr Cymreig yn y Western Reserve. Yr oedd ef yn wyr i John Davies, Bryncesyg, o Sir Aberteifi, yr hwn oedd y Cymro cyntaf a brynodd dir ac a sefydlodd yn Palmyra Town- ship, tua'r flwyddyn 1830. Adnabyddid ei dad wrth yr enw "Evan Davies, Tod Farm," am ei fod yn gofalu am dyddyn y diweddar Gov. Tod am lawer o flyn- yddau. Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn o ymarweddiad uniawn a phwyllog, o dymer garedig a haelionus. Yn egwydd- orol yn nglyn a phob peth a wnelai. Yr oedd yn aelod a Thrustee o'r Plymouth Congregational Church, lie y teimlir colled ar ei ol. Gadawodd wraig ac un ferch ac amryw o berthynasau mewn galar dwys. Llanwyd pwlpud y Plymouth Church y Sul o'r blaen gan y Parch. Daniel T. Thomas, Madison Ave. Congregational Church, Cleveland, sef mab i'r diweddar ddiacon a Christion addfwyn a serchog, Thos. E. Thomas, Brookfield gynt. Cof- ir am Mr. Thomas yn ddyn ieuanc gwyl- aidd flynyddau yn ol, yn dylyn cyrddau llenyddol ac Eisteddfodau y Western Reserve, ac yn canu tenor yn nghor W. Miles ac eraill. Mae addysg a chyfieus- derau erbyn hyn wedi eu diwyllio fel y mae yn un o gedyrn yr areithfa, a da genym nodi fod iddo air da fel gweinid- og lafurus a llwyddianus yn y ddinas boblog ar Lyn Erie.—John M. Jones. ER COF AM EDNYFED. Ednyfed a'i gred yn y Groes—dreuliodd Yn drylen ei feroes; Ei awen fyw a'i iawn foes, Riniodd ei gywir einioes. Dyn oedd hwn adwaenai ddaioni—Duw, Yn ei der oleuni; Haul anian "Yr Aileni," Yn ei fron dywynai fri. Un siriol pan yn siarad-oedd efe Rhydd ei farn yn wastad; Gwron Duw gai wrandawiad, Oedd ei lef dros lwydd ei wlad. Ac arwr miniog ei eiriait-oedd ef Dros ddwyfol wireddau; Bri ei goethion bregethau Oedd y Gwir yn lladd y gau. Bunyan o anian ddidderbynwyneb A fu, a'i ryddid yn fyw arwyddeb; Ffughoniadau a senau trawsineb, Iddo'n gysonol, oedd yn gasineb; A dyn amryddawn, llawn o gallineb Oedd ef fuddianai hedd a'i foddineb; Ei rydd awenydd hoffai rwyddineb Mewn odlau swynol a mwyn dlysineb, A ffrwyth yni ffraethineb-oedd riniol Awen naturiol, yn ei watwareb. Cymrawd da'i anianawd oedd— Defodwr difai ydoedd; laith her athrylith barod-feddai hwn I foddhau'r Eisteddfod; Arweiniai ef y "Ddefod," A'i bwyll clir yn mhebyll clod. Ein cenedl sydd yn cwyno—gofldia I Gyfoedion am dano; Mewn hiraeth am ei nerth o Mae'r Awenau yn merwino. Ednyfed i'r byd nefol-ehedodd, O'i adwyth ddaearol; Ond anianawd eneiniol Ei ras ef erys o'i ol.—Qicynddf-