Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
.HU..L..b Yr A tun.
HU ..L..b Yr A tun. Gloew-fyth oluclog", ad-afol1 Drwy'r canrifau'n wastad Dyr angen llu; o'i chyflenwad, Un hael yw, yn forwyn i wlad. San Pedro, Calif. E. EVANS.
LIon gyfarchiad I'riodasol.
LIon gyfarchiad I'riodasol. EI Mr. Thomas Joseph a Miss Edith Jen- kins, Pittsburg, Pa.] Mor hawdded yw priodi, — — Ac hyfryd yw mwynhau Danteithion y cyfamod hwn Heb wg i lwfrhau; Dau arall aeth i'w fynwes, Arosent vn eu hedd- Hapusrwydd fel boreuddydd gwyn Fo'n bythol loewi'u gwedd. Mae Tom ac Edith bellach Yn llawen fel y dydd, A blodau serch a chariad pur Yn eu haddurno sydd; Deniadol allor Hymen, Ddiddymodd y gair dau, Fe ddodwyd hwnw'n un am hyn, Maent hwythau'n llawenhau. Hardd ledu bo'r cyfamod, Fel pren blodeuog, hardd, Llon'd ty o blant fo'r blodau cain, Fyth i addurno'ch gardd; A phan ddaw hwyrddydd bywyd, Clir fyddo wybren hedd, A thonau pur o nef-foddhad Fo'n tori ar eich gwedd. Pittsburg. MAESYDDOG.
---Eduyfed Nid ;Yw.
Eduyfed Nid ;Yw. TON-"Llwyn On." Mae'r wawr deg yn tori a'r byd yn dadebru 'Rol oriau o gysgu yn nghawell y nos; Dystawrwydd a giliodd, y caddug ddi- flanodd, A'r huan a wenodd a'i anian glaer, dlos, Caf glywed caniadau gan lawer o leisiau, Ar ddolydd a bryniau, hwy seiniant mor fyw; Ond bachgen o Gymro fan hon geir yn wylo 'Rol brawd sy'n noswylio-Ednyfed nid yw. Daw blinder dan ddwyfron a hiraeth i'r galon, I hoffwyr llenorion am Gymro o nod; Wrth feddwl na chant eto ddarllen na gwrando Ffraethineb diguro un dawnus ei glod; Eisteddfod henafol- gwisg dduwisg barch- usol, 'Rol arwr 'Steddfodol, ei phlentyn a'i llyw; Daeth cwmw] dros heulwen ein moesddysg glan, rtrylen, Medd adsain Ceridwen, Ednyfed nid yw. Sir enwog Gaerfyrddin, gwna ollwng dy ddeigryn Ar ol dy eginyn, gwir Gymro oedd ef; TJn draethai bob amser am Gymlu a'i cheinder, A'i phlant da, goleuber, rhai goreu dan nef; Ednyfed awenydd, galarus yw'r newydd, Fod dyn mor ysblenydd yn farw a gwyw! Ednyfed y Cymro, mor galed ffarwelio, Mae'r awel yn sio-Ednyfed nid yw! E. PUNTAN DAVIES. Philadelphia, Pa.
D,, ffry it y Glaslju
D,, ffry it y Glaslju Rhwng creigiau cryf Eryri wen, Mae pentref bychan tawel, Yn llechu rhwng cilfachau erch Y ban-fynyddau uchel; Yn gwarchod maent y lanerch fad Rhag dyrus frad yr awel. Henafiaeth sydd a'i delw ar Bob llanerch yn y dyffryn; A bythol gofir am y fan Tra pery'n wyrdd y celyn; Can's yma'n gorwedd yn ei fri Mae Gelert ein Llewelyn. Barddoniaeth sydd yn dawnsio ar Glogwyni certh y rhandir; A'r creigiau crog sydd uwch y Hi, Fan hon a ysbrydolir; Acenion mawl y tadau gynt, Yn swn y gwynt sibrydir. Gerllaw y llan, hen lanerch hoff, Dwy afon ymbriodant; Y Colwyn fad a'r Gwynant ber- Fan hon yn un ymdoddant; A mwy mewn hedd bob rhwystrau maith Sydd ar eu taith wynebant. Hen greigiau serth Eryri sydd Yn crogi uwch y Glaslyn; Fel rhyw dragywyddol gestyll cryf, I'w gwylied rhag pob gelyn; A'r huan teg yn tynu eu llun Ar loew fron y Glaslyn. Y blodau mad, y briaill teg, A'r helyg ar ei herchwyn, Ogwyddant oil fel pe mewn serch Am gusan iddi estyn; Ond murmur dros y graian man Wna dyfroedd glan y Glaslyn. Y Ladi wen, o'i huchel sedd, Ar fldanedd serth y clogwyn, Yn gwylio sydd, tra'r awel fwyn Chwareua ar ei thelyn; Ond brysio tua'r dyfnder maith, I ben ei thaith wna'r Glaslyn. Fan hon, yn mhriddell oer y llan, Yn murmur tonau'r Glaslyn, Fy nhadau er's canrifoedd sydd Yn gorwedd yn y dyffryn; A minau hoffwn yn fy nhro Gael bedd yn ngro y Glaslyn. Granville, N. Y. LLYFNWY.
Y Ddiweddar MTS. Amy Griffith,…
Y Ddiweddar MTS. Amy Griffith, Man- kato, Minnesota. [Llinellau o gydymdeimlad a Mrs. Phoebe Owens a'i brodyr a'i chwiorydd.] Yn y fintai fawr sy'n teithio Tua'r wlad tudraw i'r Hen, Amy Griffiths a'n rhagflaenodd- Mae ei holaf daith ar ben; Eistedd wna ar fryn Caersalem, A'i golygon dry yn ol, A thrwy dywyll niwl yr afon Sylla ar y dorf o'i hoi. Ac yn ol ei dullwedd tawel, Sibrwd wna y geiriau hyn: "A oes rhai o'm hen gyfeillion Wedi suddo yn y glyn? Na, mi' gwelaf hwy yn Iluoedd, Yn nesau at lan y dwr; Croesant hwythau yn ddiogel Yn nghwmpeini'r grymus wr." A oedd glyn hen gysgod angeu Drwy dy fron yn peri braw? A ddaeth Ceidwad pechaduriaid Yno'i ymaflyd yn dy law? A oedd tonau yr hen afon (Pan gest olwg arnynt hwy) Yn creu dychryn nes it ofni Na chaet bythol fyned trwy? "Pan fy nhraed yn araf lithrent Riwiau serth y tywyll lyn, Daeth yr archoffeiriad ffyddlon Welais ar Galfaria fryn; Dwedai'n dyner 'Paid ag ofni,' Fi yw dy ffyddloilaf frawd— Yn fy mynwes ddwyfol bellach Gorphwys wna dy enaid tlawd." "Pan yn ymchwydd yr Iorddonen, A'r tymestloedd yn crynhoi, Presenoldeb Duw Tiberias, Barodd i'm holl ofnau ffoi; Ymddangosai yr hen afon T mi'n llydan iawn yn wir, Ond cyn im' ei sylweddoli Sangai'm traed ar Ganaan dir." Mankato. GWYNGYLL.
CYFAKFOI) SJEFVBi.U IN PIA'MOUTH.
CYFAKFOI) SJEFVBi.U IN PIA'MOUTH. GAN Y PARCH. D JONES, SCRAKTON, PA. Awst 5ed, yn y prydnawn a'r hwyr, y cynaliwyd cyfarfod i gydnabod y Parch. I William Jones, gynt o Dawn, Missouri, yn weinidog yr eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn Plymouth. Mae yr eglwys wedi bod heb weinidog er pan ymadaw- odd y Parch. Gwernydd Newton, yr hwn sydd yn weinidog llwyddianus yn bres- enol ar un o eglwysi Cynulleidfaol Seis- nig Cleveland, Ohio. Bu llawer o wa- lianol ddoniau yn gwasanaethu yr eg- lwys yn ystod y ddwy flynedd ddiwedd- af, ac y mae yn debyg lawer o ymgeis- wyr am y weinidogaeth, ond ar y gwein- idog ieuanc o Dawn y syrthiodd y goel- bren. Mae yn enedigol o'r Bala, tref sydd wedi magu llawer o bregethwyr, ac wedi rhoddi addysg i lawer mwy. Rhoddwyd canmoliaeth ddiamwys iddo yn y cyfarfodydd, gan rai a'i hadwaenai pan yn llanc gartref cyn iddo ddechreu pregethu, ac y mae mesur helaeth o Iwyddiant wedi ei ganlyn fel efrydydd a gweinidog, a gobeithio nad yw yr hyn sydd wedi myned heibio ond rhagymad- rodd ac ernes o fwy yn y dyfodol. Mae wedi dyfod i faes rhagorol. Mae yma eglwys 4uosog a chynulleidfa gref-a chystal defnyddiau yn mhob ystyr ag sydd yn y rhan luosocaf o'r eglwysi. Rhoddir gair da i'r frawdoliaeth hon am eu caredigrwydd i'w gweinidogion blaen- orol, ac nid oes genym ameuaeth na dderbynia y brawd Jones yr un cydym- deimlad a chydweithrediad a'r rhai fu yma yn y blynyddoedd o'r blaen. Gob- eithiwn y bydd yr undeb yn cynyrchu dedwyddwch ac liapusrwydd o Ir ddau du. Estynwyd gwahoddiad gan yr eg- lwys i bregethwyr a gweinidogion y cylch i ddyfod yn nghyd i gydlawenhau a hwynt, ac i ffurfio adnabyddiaeth a'i gweinidog newydd, gyda'r amcan iddo ef i gydweithredu a gweinidogion ac eg- lwysi y dyffryn er mantais lledaeniad teyrnas Crist. Derbyniwyd y gwahodd- iad yn garedig a daeth tyrfa fawr yn nghyd, fel nad oedd achos darllen dim ond un llythyr, a hwnw oddiwrth y Parch. D. P. Jones, Scranton. Llywyddwyd cyfarfod y prydnawn gan y Parch. R. S. Jones, D. D., Scranton, a dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Theophilus Da- vies, Plains. Wedi ychydig o eiriau ag- oriadol gan y llywydd, galwyd ar y brodyr canlynol: Parchn. B. 1. Evans, Scranton; J. P. Thomas, Nanticoke; D. J. Jones, gynt Coaldale; Ifor Thomas, Taylor; James Jenkins, Warrior Run; Evans, Pilgrim, Plymouth; J. J. Jen- kins, Glen Lyon; Owens, (Monafab) di- weddar o Gymru; Samuel Lewis, Scran- ton; Tudwel Williams, Slatington; D. M. George, Pittston; Roderick Davies, Parsons; Mr. Morgans, o Goleg Oberlin; William Surdival, Jermyn; Peter Rob- erts, Olyphant; D. L. Davies, Edwards- ville; Mri. John Isaacs, Thomas D. Jones a John J. Davis, diaconiaid yr eg- lwys; Parchn.'Hugh Jones, Neath, Brad- ford Co., brawd y gweinidog etholedig. a E. J. Morris, Wilkesbarre, ac yn olaf y gweinidog ei hun. Gall y darllenydd ddychymygu fod lla- wer wedi ei ddweyd gan gynifer o siar- adwyr. Dywedwyd llawer o bethau ys- mala, "rhwng digrif a chwareu," llawer o bethau iachus, angenrheidiol i'w myn- egu a llawer o bethau sylweddol a gwir dda. Ni oddef gofod i ni groniclo an- erchiadau y brodyr yma i gyd, ac ofn- wyf nas gallwn wneuthur cyfiawnder a'r doniau amrywiol. Cytunwyd gan yr oil o'r siaradwyr i ddymuno yn dda i'r gweinidog a'r eglwys yn Plymouth. Yn yr hwyr dechreuwyd y cyfarfod gan y brawd Williams o Slatington, a phreg- ethwyd i'r gweinidog gan y brawd R. S. Jones, D. D., Scranton, ac i'r eglwys gan yr ysgrifenydd. Gwnaeth y brodyr hyn eu goreu ar v pryd, a therfynwyd cyfar- fodydd dymunol iawn trwy i'r gweinid- og gyhoeddi y fendith. Arhosed yr am- ddiffyn ar y gogoniant yw ein dymuniad.
. I . SURPRISE PAKTV I PHILI-TPS.
I SURPRISE PAKTV I PHILI-TPS. Chicago, Ill., Awst 20.-Nos Iau, y 29ain cynfisol, ymgynullodd lluaws o gyfeillion y Parch. D. T. Phillips yn addoldv Cymry y South Side ar State St., gan ffurfio yn orymdaith er rhoddi surprise party iddo cyn ei ymadawiad am Gymru. Cyraeddwyd y ty tua 8:30, a chafwyd y parchedig frawd yn nghanol helbulon ymfudo. Wedi myned i mewn aed at y gwaith yn ddiymdroi; dewis- wyd Morris Thomas yn llywydd y cyfar- fod yr hwn a gyfododd ac a draddododd araeth ardderchog, a chyflwynodd ar ran y cyfeillion ysgrifbin aur i r anrhy eddus frawd. Caed anerchiadau gan R. Bowen (Glan Ebwy), Deudraeth, D. V. Samuels ,Esq., D. G. Davies, (Bydwellt- ydd), Evan Lloyd, State St., a Mr. Da, vies, South Side; yna galwyd ar Mr. Phillips, yr hwn a ddiolchodd yn wresog i'w gyfeillion, a'i lygaid yn dangos ei deimlad yn fwy na'i leferydd. Cafwyd amser da a chyfarfod hwyliog. Drwg genyf na buaswn wedi cael anerchiadau barddonol Glan Ebwy a Bydwelltydd. A ganlyn yw anerchiad Deudraeth ar gyflwyniad yr ysgrifbin: Dawn elli daenu allan-arf i bawb Yw'r ysgrifbin bychan; Ti gofi o fewn teg hafan Feillionawg le gyfeillion glan. Dy galbn deg wiwlon di gelu-fydd Yn foddus o Gymru; Ami i dro y Cymro cu Yn hybwyll gwnei ohebu. I'th lan gyfeillion anwyl—yn fynych Anfoni o'th breswyl; Hanes cynes ac anwyl, Oil yn hardd a llawn o hwyl. Un haeddol yn Drafnodydd Yw'r dengar Dan i Gaerdydd. Llawn ochos llawenychu—'e gafodd Ei gyfiawn ddyrchafu; Hir oes i was yr Iesu Yn mro gain hen Gymru gu. -Un Oedd Yno.
—-■♦ ♦ ^— WeddygoD yn ei Gymerad^yo.
— -■♦ ♦ — WeddygoD yn ei Gymerad^yo. "JERSEY CITY, N..T., Mawrth 2,- Anogodd fy 'mnrtdve fl i ddefnyddio Allen's Foot-Ease.powdr S Drill Doluru." Chwyslyd, Cyrn a Bnnious YrwTf yn ei vs?wyd i'm hesgidiau ac yn cael mawrles. D. D riark." Ar werth gan yr hoi Gvfferwvr a Gwerthwyr Esgidiau. 2oc. Sampl AM DDIM Cyfeirier-Alleu fe. Olmstead, Le Eoy. N Y.
MouMmuOymru
MouMmuOymru Mri. Gol: Gwelais yn y "Drych." ym- ofyniad gan W. R. Williams, Port- land, Oregon, gydag olwg. ar "Mon, mam Cymru, gwlad gu gain, paradwys Ynys Prydain." Gelwir hi, med dTrebor Mon, "ar gyfrif cyfoeth ei thir, a brasder ei lianifeiliaid; a phan oedd newyn yn bygwth holl siroedd Gwynedd, caed Mon yn ystorfa gyfoethog o ydau ac erth- yclau at gynal bywyd dyn ac anifail hyd at gyfiawnder." "Y mae haelioni yn y Sir A ddorir yn ddiareb; Dwg 'fara a chaws, neu fir a chig," I'w gynyg i bob gwyneb, Fel na bo angen neb yn hir Ar randir ei thiriondeb." Priodolir yr enw iddi hefyd am mai hyhi oedd gorsaf benaf y Derwyddon, ac feiiy hi cedd Athen a chartref dysgeid- iaeth a moesoldeb am ganrifau lawer cyn y goresgyniad Rhufeinig. Rhoddir amrywiol enwau eraill ar y wlad, megya "Ynys Cadeirn," "Ynys Moliant Hen," "Yr Ynys Dywell," "Y Fel Ynys," a "Mon Wlad." Diau i'r hen Frytaniaid a'r Derwyddon deithio'n mlaen tua Mon; a gwlad-ychu yn y "Fon Wlad," y wlad derfynol, neu terfyn eithaf y daith; ac fel yr oedd y trigolion yn amlhau, rhai a deithiasant yn ol (neu hwyrach eu plant) tua mynyddoedd Eryri a Meirion. Ie, yn Mon y mae y Llan a nodwch ai "fin dwr y Fenai deg," cyferbyn a'r Faenol, ar lan Arfon, preswylfod G. W. D. Asheton Smith, Ysw. Cellweirir yn ami gyda'r Llan dan sylw, trwy gys- ylltu y plwyf agosaf ag ef, yn nghyda dau for-gyfarfod, "trobwll, neu Pwll Ceris sydd yn afon Menai—Llanfair- pwllgwyngyll go ger -y- chwyrndrobwll- llandisilio-gogo-goch. Dyma ddarluniad yr anfaiwol Glanmor am y lie: "Swn y mor yn sio'n mhell, Ar drothwy oer ei draethell; Mor eilwaith yn ymrolio, Yn llanw trwm mewn llyn-tro; Ton geulog, sarphog, a si, Ei chynwrf yn trochioni. Swn dryghin, megin y mor, Yn gyru hyd y goror— Mor gauaf mawr ac eorth, Breccini'n berwi'n y Borth." Wilkesbarre, Pa. G. MECHELL.
Jack y Swan a Jesse Roberts.
Jack y Swan a Jesse Roberts. Mri. Gol: Mi 'rwyf yn cynyg yr ateb- iad canlynol i W. F. Owen: Dywed eich gohebydd, R. R. Williams, L'Anse, Mich., mai yn Awst, y flwyddyn 1853, y crogwyd John Roberts y Swan yn Nghaernarfon, sef yr un flwyddyn ag y daeth ef i'r wlad hon. Yr wyf yn credu ei fod yn gywir, o herwydd fod dyddiad y flwyddyn yn fy meddiant ychydig am- ser yn ol. Yr oeddwn yn byw ar y pryd hyny am yr ochr i'r heol i Jesse Rob- erts, yn mhentref Roewen, a Jack yn byw yn ngwaelod y pentref. Dywedir eu bod yn ddau gefnder. Ar brydnawn Sadwrn yn Awst hudwyd Jesse gan Jack i'r mynydd i hela cwningod i le o'r enw Ceryg y Pryfaid. Dywedodd Jack wrth Jesse am edrych a oedd gwningen yn-y twll, a phan yr oedd ef yn edrych saethodd Jack ef yn ei war. Gwelais Jesse wedi ei saethu felly. Dywedir i Jack ei ladd er mwyn ei oriawr, yr hon a ffeiriodd yn Abergele am gloc a hen oriawr wael. Buwyd yn hir cyn dod o hyd i'w gorff o herwydd i Jack ei guddio yn Ceryg y Pryfaid, mewn bedd wedi ei gwneyd gan natur neu gan yr hen Gymry gynt. Cwn i gefnder Jack ddar- fu ddylyn y gwaed ac felly deuwyd o hyd i'w gorff. Bydd rhai yn rhoddi yr ystyr canlynol i'r geiriau Ceryg y Pryfaid-ceryg y rhai a brofid yn llys Ceridwen i fod yn aelodau rheolaidd y grefydd ac yn urdd- edigion cyfrinion anrhydeddus y beirdd. Dyma, meddir y coleg lie yr addysgid ieuenctyd mewn defodau crefyddol. Milwaukee, Wis. Z. A. MATHER.
tlawdden atfiymry America.
tlawdden atfiymry America. Mri. Gol: Bu y Parch. Vyrnwy Mor- gan, awdwr talentog cofiant yr hynod a'r athrylithgar Kilsby Jones, yn Linn Grove yma Awst 8, 9, yn pregethu ac yn darlithio yn boblogaidd a chyda bodd- lonrwydd anarferol. Yn ystod yr ym- weliad, ac yn nghanol yr ymddyddan- ion, daeth enw Deon Ty Ddewi, y Parch. D. Howell (Llawdden,) i fyny, a dar- llenodd Mr. Morgans lythyr a dderbyn- iasai oddiwrtho pan ar gychwyn ei daith i America. Yr oedd yn dda iawn genyf glywed oddiwrtho, oblegid ei sylw cared- ig a'i gymwynasgarwch i mi 'yn berson- ol trwy offerynoliaeth yr enwog Dewi Wyn o Essyllt, a chan y dymunai Llaw- dden gael ei gofio at Gymry America, gofynais am fenthyg y llythyr, gan dyb- ied y byddai yn dda gan y "Drych" gyf- Iwyno cais yr enwog Llawdden i Gymry lluosog y wlad fawr hon. Ar ol geiriau cyfrinachol at Mr. Morgan yn Saesneg, ysgrifena yn Gymraeg: "Pob llwydd i chwi ar eich taith drawsforawl, a llaw Duw fyddo yn gysgod drosoch ar for a thir. Byddwch cystal a chyflwyno fy serch gwresocaf at Gymry yr America; a dywedwch wrthynt, os byth y bydd iddynt ymweled a Thy Ddewi y cant 'wely, a thy, a than, bara a chaws, bir a chig' yn y deondy-h. y. un ar y tro." Yr eiddoch. EVANS. Linn Grove, Iowa.
B<»]a DinbvcV",
B<»]a DinbvcV", Mri. Gol: Mewn atebiad i John Jones, yr Hafod-pwy bynag ydyw o, yr hwn a hola am fodolaeth Bela y ddewines (neu o'r hyn lleiaf fel y credai llawer o hen bobl fod ganddi allu i ddadguddio pethau cudd a witchio a rhoi marc ar ladron, &c.,) dywedaf yr adwaenwn ddau ddyn a fu yn Ninbych yn ymholi a Bela. Un o honynt a ymholai yn nghylch ei briod a gredai oedd wedi cael ei witchio gan ryw gypsen grwydrol am ei nacau o gardod. Bu hefyd gyda Jack Ffynon Elian, ac un arall yn Ngwrec- sam, nad wyf yn cofio ei enw. Cred- odd gwraig William Edwards (dyna oedd ei enw,) Coetmor, ger Caergwrle, ei bod wedi cael ei witchio; aeth i'w gwely ,a bu yn ei gwely bymtheg mlyn- edd. Mae yr hanes ofergoelus, fel y clywais ef gan ei phriod, yn hynod a digrifol. Ond llechai Bela a'r oil o hon- ynt wrth guddio eu hanallu i ddad- II wneyd waith y gypsen, trwy nad allai ei phriod eu hysbysu o'r awr a'r mynyd y ganed hi, er mwyn consultio ei phi an- ed a'u harwyddion cyfrinol. Yn mhen pymtheg mlynedd adeiladwyd ty newydd yn y Coetmor, a phenderfynodd gwraig Ben Evans, y Cigydd, adferyd Mrs. E., a thrwy ddweyd wrthi fod dylanwad y witch wedi darfod arni ar ol dod i'r ty newydd, cydsyniodd Mrs. Evans i geisio codi o'i gwely. Cafwyd hi i'r gadair yn y llofft i fwyta pryd o fwyd, a thranoeth yr oedd yn surprise i William Edwards pan ddaeth i'r ty i'w giniaw weled ei briod yn eistedd wrth y bwrdd wedi ei gwisgo a dillad Mrs. Evans. Mae tua deg mlynedd ar hugain er pan ei hadfer- wyd. Bu farw ei phriod pan oeddwn ar ymweliad a Chymru yn niwedd '93, a dechreu '94, a bum yn ymddyddan a Mrs. Edwards, ac ni chlywais iddi farw, er ei bod yn hen iawn. Y person arall aeth at Bela oedd Tom Jones, Cae Llin, Cyman—yn ardal fy ngenedigaeth, yr hwn oedd wedi colli ei ffured. Andros oedd Tom am ei helwr- iaeth, ac yr oedd yn haner addoli ei ffured, ac yr oedd son am ei ffured a'i gallu i gael cwningod a Ilygod o'u tyll- au yn daenedig trwy y cylchoedd. Ond un noson lladratwyd y ffured, a phan welodd Twm obaith ei elw helwrol wedi myned, cyfeiriodd at Bela i Ddinbych. Bu ran o ddeuddydd yn gwneyd y daith ar ei draed. Aeth y gair ar led fod Twm wedi bod gyda Bela, ac yn ol cyfarwydd- yd Bela dywedai Twm y byddai y lleidr yn ddigon hawdd ei adnabod yn bur fuan os na ddychwelid y ffured yn ol; ac ofnai llawer tad a mam weled marc ar eu mab. Aeth fy nhaid at Twm gan ei fygwth a ffon os deuai marc ar George, ei fab, ond bu taith Twm at Bela yn foddion dychwelyd y ffured yn ol i'w lloches yn ysgubor Twm. Dygwyddodd hyn tua 48 mlynedd yn ol.
[No title]
Nebraska. YMYL ALUN.
M. a'i Bolitics.
M. a'i Bolitics. Mri. Gol: Gofyna John M., Youngs- cow n, 0., pa beth sydd gan Ap Williams o dragj wyddol Dakota i'w ddweyd, ob- legid yi anffawd o roi McKinley yn Ar- lywydd ac achosi gostyngiad yn y cyf- logau. Wel, gallaf fforddio bod yn c'a- wel a dystaw, a gadael i'r adfywiad am- lwg sydd bron yn mhob cangen o ddi- wydi^nau ein gwlad lefaru. Mae y mel- inau yn agor wrth y degau, gan roi gwaith a chyflog i ganoedd o filoedd o rai oedd yn segur o dan ffug-weinydd- iaeth y Dems a'r Pops fu yn eu cynorth- wyo i lethu ein llaw-weithfeydd; ac hef- yd mae y soup houses wedi eu cau. Ond nid yw y deillion Demopopyddol yn gweled; na, y maent "fel y grug yn y diffaethweh, ni welant pan ddel daioni. Gwelaf yn y papyrau dyddiol fod yr arian gwyn (y duw Demopopyddol) yn gostwng yn ei bris yn barhaus, a'r gwen- ith yn codi yn ei bris; a hyny er gofid dirfawr i elynion McKinley. Dywedai Bryan fod y gwenith a'r arian yn efeill- iaid anwahanol, eu bod yn ddieithriaid yn myned i lawr gyda'u gilydd; neu yn codi ar ganiad ei udgorn ef. Ond dyna ddamcaniaeth dwyllodrus Bryan wedi ei chwalu i bedwar gwynt y nefoedd, a heidiau crwydrol Coxey yn gadael y soup houses. Beth ddywed John M. am ddibrisiad yr arian? Gadawaf ar hyn gyda'r dymuniadau goreu i John' M., gan obeithio os etholir Coxey yn Llyw- odraethwr Ohio y ca ef y plum i fod yn gonsul ar un o fynyddoedd y lleuad. Darllener a ganlyn: "Chester, Pa., Aug. 16.-The employees of George C. Hetzel & Co., manufactur- ers of worsted goods, have been noti- fied that the wages paid in 18^2 would be restored on September 6 next. The no- tice was a surprise, as the restoration was granted by the firm without the sol- icitation on the part of the hands. Helt- zel & Co. employ several hundred peo- ple. Since 1892 two reductions of wages have been made, aggregating 20 per cent., and until about three weeks ago the mill has been running on half time. The firm has of late received many new orders and the employees are working full time." W. AP. WILLIAMS. Langford, S. D.
Achosion Dirywiad.
Achosion Dirywiad. Mri. Gol: Mae y genedl sydd yn codi am Saesneg-eisieu bendith Seisnig, Ysgol Sul. Seisnig, pregethu Seisnig- pobpeth o ran hyny yn Saesneg. Maent fel Israel gynt, eisieu bod fel y cenedl- oedd o'u hamgylch. Ar bab eth mae hyny yn esgor? Wel, bore Sabboth Ys- gol am haner awr wedi naw, a phregeth yn nglyn a'r Ysgol; ac arweinia hyny i rodiana, ymweled a chymydogion, a gwledda yn ystod y dydd sanctaidd. Dyna yw bod fel y cenedloedd o'u ham- gylch-ysbeilio Duw o ran helaeth o'i Sabboth. "A ysbeilia dyn Dduw, eto chwi a'm hysbeiliasoch." Yr amser mwyaf llwyddianus ar genedl Israel oedd yn nyddiau Dafydd a Solomon, yn dymorol ac yn grefyddol, a dyna y cyf- nod y bu y genedl yn rhodio yn fwyaf manwl yn ol deddfau yr Arglwydd. Yr oeddynt yn byw yn agos at yr Arglwydd, a Duw yn ei ragluniaeth yn eu bendith- io. Dywedir fod yr aur a'r arian yn Jer- usalem fel ceryg y dyddiau hyny. Felly hefyd yr amser mwyaf llwyddianus ar y Methodistiaid Calfinaidd erioed oedd pan oeddynt yn cadw yn fanwl at reolau y Cyffes Ffydd. Pan ddechreuwyd llacio efo y ddysgybliaeth eglwysig-gadael bylchau yn y mur—daeth y gelyn i fewn fel afon. Mae adfeiliad crefyddol yn dechreu yn gyffredin mewn esgeulusdra teulu- oedd i dwyn y plant i fyny yn egwydd- orion y gwirionedd. Felly yr ydym yn cael yn Llyfr y Barnwyr—"A chyfododd oes arall ar eu hoi hwynt, y rhai nid ad- waenent yr Arglwydd i'w garu a'i ofni a'i wasanaethu," er y gwyddent yn hanesiol am dano, trwy fod eu tadau wedi bod yn rhyfela cymaint a'r Can- aaneaid, ac wedi hyny yn treulio cynifer o fiynyddoedd i ranu, meddianu a thrin y wlad, a dengys na thalasant y sylw a ddylasent i hyfforddiad ysbrydol eu plant. Onid oes perygl ein bod ninau yn gyffelyb, wedi dyfod o Gymru i'r wlad hon yn gydmaroi dlawd, ac yn dechreu sefydliadau newyddion yn y coed, neu ar y prairie? Yn nghanol trafferthion bywyd, esgeulusir yr oes sydd yn codi; tyf ein plant i fyny yn ddyelthr i fawrion weithredoedd yr Ar- glwydd. Mor bell ag yr wyf wedi sylwi mae adfeil- iad mewn iaith yn rhagflaenu adfeiliad mewn crefydd. Beth pe bae y T. C. a'r gwahanol enwadau Cymreig yn eu Cyf- arfodydd Dosbarth a'r Cymanfoedd yn ceisio mabwysiadu rhyw gynllun fyddai > tan fendith Duw yn foddion i'n cael ni- cenedl y Cymry-lynu yn fwy selog wrth ein ein g'Vu. iatau i ni "l,vYbod, ond yn e. niwneydiawnddej.. yn ein meddiant, byctc y wlad, fel y mae y aill. Mae rhyw duedd aidd—bod yn wehenwyr wyr coed i'r Saeson heb rc. Mae yn rhyfedd na bae Cymreig sydd yn fyw yn cyrn udd oddiwrth y rhai hyny sydd we, Dyna hanes llawer cymydogaeth—;>. daaau wedi dechreu efo ychydig, ond trw lafur a lludded di-ildio, wedi dyfod i fer't'- iant o eiddo lawer, ac wrth farw yn gadael eu tai a u tiroedd i'w plant, v rhai ar o' cael_ magrwraeth foethus, ac heb arfer gweithio, sydd yn rhentio y ffermvdd an yn myned i'r trefl i ddiogi ac ymddirvwio yn grefydool a chymdeithasol. Anwvl gvd- genedl, cymerwch rybudd cyn iddf fyned yn rhy adiweddar; a dygwch eich plant i fyny i barchu eu crefydd, eu hiaith a'u CE"ED!-1 LLYWEDROG, Venedocia, O.
Tariff Dingley a'r Arian Cylchredol.
Tariff Dingley a'r Arian Cylchredol. Mri. Gol: Mae yn debyg na fydd i'r Gwerinwyr ein henllibio o hyn allan am ofyn iddynt am y llwyddiant addawedig. gan fod eu mesur anwyl wedi pasio a dod yn gyfraith. Dyma eu meddygin- iaeth addawedig. Gadawn i hanes ben- derfynu pa un aJ mesur er lies y "trusts" ynte er lies y bobl ydyw. Ond gallwn ddweyd fod y Sugar Trust wedi cnill eu miliynau yn barod oddiwrtho. Llawer niaf y Gwerinwyr wedi ei evlid ar gvijeith Wilson; ond a fyddant hwy yn ddijoi. gonest i gyfaddef retina: t mesur Dingley, os ffaela ddod a'r llwydd- iant addawedig? Nid oes dim yn ym- ddangos yn fwy amlwg i mi na'i feth- iant; ond buasai yn dda genyf allu cael golwg wahanol arno, gan fod y wlad mewn sefyllfa mor druenus. Dywedai McKinley a Hanna cyn ;rr etholiad mai eisiau agor y melinau oedd ac nid y bathdai; ond dywedodd McKin- ley ar ol yr etholiad, yn Philadelphia, nad oedd un dyben agor y melinau nes ceir marchnad nwyddau; a dyna oedd- ym ni yn ei ddweyd cyn yr etholiad. Felly y prif gwestiwn yn awr ydyw, A ydyw y tariff yn myned i agor y farch- nad i werthu nwyddau ein cloddfeydd a'n llaw-weithfeydd? Os ydyw, mae yn rhaid iddo roddi mwy o arian yn llaw y ffarmwr a'r mwnwr. Nid ydyw cyf- raith i godi prisiau nwyddau yn unig yn ddim ond gorthrwm, os nad ydyw hefyd yn chwanegu at allu y bobl i brynu y nwyddau hyny. Yn awr, mae pobl y Gorllewin yn llosgi eu corn, am na chant ddigon am dano i brynu glo, ac mae y glowyr yn methu prynu corn am nad allant werthu glo. Yn ol rhes- ymeg McKinley ei hun, ni agorir y felin nes agor y farchnad; ac y mae yn am- lwg i ddyn rhesymol nas gall tariff Dingley agor y farchnad, ac nid ydyw yr amser caled ond megys dechreu. Onid ydyw yn bryd bellach i newydd- iaduron roddi y gwir o flaen y bobl? Os parheir i roddi cant y cant o fantais i wledydd arianol yn erbyn rhai safon aur, nid oes dim gobaith am fwy o bris- iau; onid ydyw rheswm yn dweyd na chymer ond amser byr, o-dan amgylch- iadau o'r fath i ddarostwng gwledydd gwareiddiedig i'r un sefyllfa a gwledydd haner gwareiddiedig, Asia a South Am- erica. Aeth McKinley i'r gadair Arlywyddol o dan amgylchiadau mwy ffafriol na'r un Arlywydd yn hanes y wlad, sef pan oedd newyn yn yr India a haner cnydau yn Australia a South America. Ond ni dder- byniasom ni ddim mantais o'r braidd, am fod gan y gwledydd hyny ddigon o nwydd- au i'w hanfon i'r farchnad i gadw y prisiau i lawr; a chan ein bod mewn cymaint o ddyled i wledydd Ewrop, yr oedd yn rhaid i ni fyned i'r farchnad ar yr un tir a'r gwledydd hyny. Hefyd, yr ydym yn setlo ein balance of exchange bob amser mewn nwyddau, os gallwn; ac nid mewn aur; ac er i anffawd gwledydd eraill ein galluogi i werthu mwy o $200,000,000 eleni na'r llyn- edd, eto ni chawsom yn agos yr un bris am dano. Wrth. edrych ar ystadegau y flwyddyn oedd yn terfynu yn Mehefin, yr wyf yn gweled ar ol cymaint o balance of trade o'n tu, ar ol talu llogau ar ein dyled, talu i longau tramor am gludo ein nwyddau i farchnadoedd Ewrop, a'r arian a werir yn Ewrop gan ein cyfoethogion, ein bod wedi chwanegu at ein dyled tua $40,000,000. Yn ol Dingley ac Aldrich bydd i'r tariff ne- wydd ddyfod a mwy o gyllid o$60,000,000 nag fydd eisiau i gario y llywodraeth yn mlaen; ac eto pleidleisiodd pob Gwerinwr yn erbyn i'r arian hyny fyned i dalu dyled y wlad, pan wnaeth Stewart y cynygiad. Yn awr, beth all fod amcan y fath gyn- llun? Mae yn amlwg i mi mai ON hamcan ydyw cadw y greenbacks i fewn a'u tyru yn y trysorlys, ac felly lleihau yr arian cylchredoA er elw y bankers. Ar ol pasio y tariff dyma McKinley yn anfon cenadwri i'r Gydgyngorfa yn erfyn am benodi Currency Commission, yn ol cynllun y bankers yn Indianapolis; a'r un dyn wedi anfon tri dyn i Ewrop i geisio setlo cwestiwn yr arian ar delerau dau- fetelaeth! Diolch i'r nefoedd fod digon o aelodau yn y Senedd, heb werthu eu hun- ain, gorff ac enaid i'r Trusts! Gwae i'r wlad ac i'r byd gwareiddiedig os eir a'r hawl oddiar y llywodraeth i wneyd ei har- ian a'i roddi yn llaw y speculators. Dylai yr American Bank yn amser Jackson fod yn ddigon o rybudd. Nid oes neb yn erbyn i'r banciau ddefnyddio yr arian; ond os y rhodder yr hawl iddynt greu yr holl arian, dyn a helpo y dyn tlawd a'r ffermwyr wedi hyny; byddant at drugaredd yr annhrugar- og, a haul rhyddid wedi machludo. Felly, ddarllenydd, mae wedi dod yn amser yn hanes y wlad, ag mae o'r pwys mwyaf i ti wybod i bwy wyt yn pleidleisio, Os gwneir camgymeriad yn awr, cofia y cymer efallai oesoedd i'w ddadwneyd, a bydd y drwg vn aros wrth dy ddrws am byth. Nid cwes- tiwn plaid sydd o'th flaen, ond dynoliaeth a rhyddid. Yr eiddoch, Marble, Col. G. D. GRIFFITHS.
WEST P1LLHAX, IIX.
WEST P1LLHAX, IIX. West Pullman, Ill., Awst 18.-Mae marchogion yr olwynfarch yn gwneuth- ur rhyfeddodau mawr y dyddiau hyn, ond credwyf fod W. R. Williams, un o experts y Piano Co., yn myned tu hwnt iddynt oil. Wythnos i heddyw cych- wynodd ar ei olwynfarch oddiyma i Wlad Canaan, gan olwyna bob cam o'r ffordd; a bydd wedi cyraedd yno lawer o ddyddiau cyn yr ymddengys y Ilinell- au hyn ar glawr y "Drych." Cofied y darllenydd mai yn Ohio y mae y Canaan uchod. Mae yr Acron Mining Milling & Co. wedi symud o Akron ac ymsefydlu yn y lie hwn. Maent wedi ardrethu y White & Kinney Shoe Factory, yr hon oedd yn wag er ys tair blynedd, ac wedi dechreu ar y gwaith o gymysgu pob math o thv- iau o baent. Rhoddant waith i amryw yn bresenol, a dywedodd eu goruchwyl- iwr, E. C. Andrews, y gallant roddi gwaith i lawer yn rhagor yn bur fuan. —Deudraeth.
[No title]
-Hysbysir fod priodas urddasol i gymeryd lie yn fuan rhwng Cadben Ar- thur Hay, brawd i larl Erroll, a swydd- og yn y Cameron Highlanders, a merch i Mrs. Schenley, sydd yn meddianu 11a- wer o eiddo yn nghymydogaeth Pitts- burg, ond yn byw yn LJundain. | Bei^ j niweidio yn ans^u dwy siafft-un i lawr gryn driytna, un arall yn myned i waelodion y gwaith. Yr oedd Mr. Evans wedi cychwyn i lawr i'r olaf. Yr oeddynt yn gollwng coed i lawr n-wy y gyntaf, ac yn eu dadlwytho ar blatform yn ymyl genau y Hall. pryd y neidiodd un pren nes aeth i lawr i'r siafft gan ddisgyn ar Mr .Evans a'i daro yn ei wegil, tua 75 troedfedd o'r top. Cafwyd meddyg ato, ond bu farw yn mhen tua phedair awr ar hugain, heb fod yn ymwybodol o gwbl ond unwaith, a hyny ond digon i ofyn am lasiad o ddwfr. Cymerodd hyn le Mehefin 20fed. Anfonwyd am Dr. Keating o ddinas San Bernardino, a chynaliwyd trengholiad Meh. 24ain; y dyfarniad oedd "marwol- aeth ddamweiniol heb fai ar neb." Dyna yr hanes fel y cafodd yr ysgrifenydd ef gan Dr. Keating. Yn sicr nis gallwn lai na chredu nad oedd yno esgeulusdra ar ran rhywrai. Cafodd Evan Evans gladdedigaeth 01 gWK.fianaelh >'r Episcopal Cmirch Bernir ei fod yn agos i 60 ToiWy<T? °6 Mab ydoedd rr hybarch wohn Evans, Glan Gors Bach, Sir Aber- teifi, wedi hyny Ixonia, Wis., ac yn ddi- weddat Fish Creek, ger Bangor, Wis. Mae dau frawd i Mr. Evans yn Fish Creek, un chwaer yn West Salem, Wis., ac un chwaer, Mrs. Allen, yn Oakland, Calif. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn cref- yddol iawn. Nid oedd ond newydd ddechreu gweithio yn y Rose Mine pan gytarru a'i ddiwedd. Cymrc arall a gyfarfu a damwain oedd ein mab Griffith J., machinist. Fel yr oedd yn dangos i un o'r prentisiaid pa fodd i wneyd gwaith ar un o'r machines mawr yn y Santa Fe Shops, yn y lie hwn, Mehefin 22ain, tarawodd gas pipe ef yn ei droed ac aeth trwy yr aelod yn agos wrth fon y bysedd. Collodd lawer iawn o waed, ond yr oeddys yn meddwl ei fod yn gwella; pa fodd bynag aeth yn waeth, ac yn mhen dwy wythnos bu yn rhaid gwneyd operation a chymerwyd bys ei dioed ymaith. Tra dan y driniaeth cafodd wasgfa, a throdd yn gen-gload arno. Bu yn sal iawn, a rhyfedd ei fod yn fyw. Gweithiodd y meddygon yn galed, diwyd a gofalus, a daeth prif feddyg yewmni ato ddwy waith o Los Angeles, gan roddi pum potelaid o anti- toxin iddo trwy injection. Credwn mai dyma wnaeth les iddo. Meddyg o Paris, Ffrainc, ydyw y darganfyddydd. Erbyn hyn mae y gewynau bron wedi dyfod atynt eu hunain; a gall agor ei enau a chymeryd lluniaeth; ond parhau yn wanllyd iawn y mae. Meddylia y medd- ygon fod y gwaethaf drosodd, a hyder- wn yn fawr y caiff adferiad buan. Yr oedd y bibell aeth trwy ei droed yn fod- fedd o faint. I
... Mamau yn 31 hob inn si…
Mamau yn 31 hob inn si yn ei Ganmol. Gilbertsville, N. Y.. Rbaar 31, '95.—"Anwyl Dr Haud-Mae arnaf eisieu i bob Eaam wyh-d y fath. fefidvglyn rhyfedd yw Dr. Hard's CoPe Cure. Blinid efn genetb ddenfla oed yn eehryripg gan y- c lie. Auogodd cyfaill ni i roddi iddi'Dr. Hand's Wi > Onre. Cefaia ef yn bollol yr byn yr bawl- id ei fod a byddai yn well genj f golli püm dalar na tod hebddo.—Mrs. Hubert Strail." Meddyg- lynan Dr. Hand i b'ant ar werth gan bob cyffer- ydd. Scents.
Y DIWEDDAR WILLIAM JONES.
Y DIWEDDAR WILLIAM JONES. El Farwolaeth yn Penrhos Llugw y, Mon Mewn Canlyniad i Ddamwatn. Chicago, III., Awst 13.-Bu farw yn Cefndwyffrwd, Penrhos Llugwy, Sir Fon ar y 5ed o Gorphenaf, William Jones' mab Griffith ac Anne Jones, yn 32 mlwydd oed. Ganwyd ef Hydref 20 1865, yn Southport, Lloegr. Bu farw ei anwyl fam pan oedd ef ond blwydd a naw mis oed, a chafodd ei ddwyn i fyny yn ofalus dan ofal ei ewythr a'i fodryb yn Cefndwyffrwd. Wedi marwolaeth ei ewythr, daeth i feddiant o'r oil oedd ar y ffarm, a bu yn ofalus i gadw cartref da i'w fodryb. Er fod y teulu wedi bod yno er's 102 o fiynyddoedd, ni fu y lie erioed i'w gydmaru mewn llwyddiant a threfn yn mhob ystyr ag ydyw yn bres- enol, yn ol tystiolaeth ei feistr tir, Ar- glwydd Boston, yr hwn anfonodd lythyr o gydymdeimlad ag ef, yn nghyd ag an- rheg fawr iddo, er ei galonogi pan ar ei wely cystudd. Bu yn wael am rai mis- oedd. Cyfarfu a damwain oddeutu ped- war mis yn ol yn agos i Amlwch, trwy i'r tren ddychrynu y ceffylau, ac effeith- iau hyny fu achlysur ei farwolaeth Wedi i Mrs. Griffith Jones, Harrison St., Chicago, (yr hon sydd ar ymweliad a'r Hen WIad, ac yn fam-yn-nghyfraith iddo.) ddeall am y ddamwain aeth yno yn ddioed i gynorthwyo yn yr amgylch- iad, yr hon nad ellir cael ei gwell; a bu yn gweini arno tra y bu byw. Hapus iawn fu y cyfarfyddiad, trwy eu bod eill dau yn byw a chymdeithasu yn agos iawn at yr Arglwydd. Gadawodd chwaer, yr hon sydd yn byw yn Lloegr, i alaru ar ei ol, yr hon a weinyddodd arno yr holl amser y bu yn sal, yn nghyd a lluaws mawr o gyfeillion a pherthynasau iddo. Gorph. 9, hebryng- wyd ei weddillion gan dyrfa fawr i fyn- went eglwys Penrhos. Yn eu plith yr oedd tair o fodryboedd iddo (sef chwi- orydd ei fam), sef Mrs. Daniel Jones, Harlech, Mrs. Williams a Mrs. Owens o Gaergybi, gynt o Liverpool. Cafodd gladdedigaeth hynod o barchus. Yn y cyfarfod eglwysig un noswaith yn Heb- ron, pasiwyd penderfyniad ein bod fel eglwys yn cydymdeimlo yn fawr a'r brawd Griffith Jones yn ei brofedigaeth. iV3", fyddo yn noddfa iddo yn nydd trallod.-D. R. W.
[No title]
— I LLEIHAD MIDWN YFEID.- Yn ol yr adroddiadau o Washington dangosir I-leihad mawr yn nefnyddiad diodydd a gwirodydd yn ystod y flwyddyn yn di- weddu Mehefin 30, 1897. Y mae y 11el- had yn 6,000,000 o alwyni o wirodydd, a 1,400,000 o farilau o ddiod frag. Cyf- rifa y cyfarwydd fod pedwar ugain gwydriad o chwisci mewn galwyn yn $8. Golyga 6,000,000 o alwyni felly lei- had o $48,000,000. Cynwysa baril o gwrw 400 gwydriad, y rhai, yn 01 5c. yr un, a chaniatau y gwastraff arferol^ sydd yn gyfartal i $21,000,000, sef y Ileihad mewn cwrw yn unig.
---'Cwjiiip A oiiibyuiaeth…
Cwjiiip A oiiibyuiaeth Cjmra. Baner ein Hannibyniaeth-a blygai Oblegid gormesiaeth; Gwaedai rhyddid—iddi daeth Dial ac ofnadwyaeth. MAGHRAETH MON. Llanfaehraeth, Mon.
Y Gwti;liiwr Myfyrgar.
Y Gwti;liiwr Myfyrgar. 'Wedi holl lafur y dywell lofa, I dir engyl gyda'r nos dringa; Am fantell y proffwyd y breuddwydia, A rhyw hudol obeithion sibryda, *n ei siom a'i chwys, Ah!—mor felus Ar ei wefus yw—"Myn'd i'r Athrofa." ELFED.
Mrs. Richard Bowen (tHan Ebwy),…
Mrs. Richard Bowen (tHan Ebwy), South Chicago, Ill. Menyw yn llawn amynedd—yw Miriam, Mae'n morio mewn mawredd; Hi ddwyn i fyd y ddawn a fedd Yn ddiarswyd ger Hedd Orsedd. Yn rhodio mae mewn anrhydedd—gwelir Hi'n gwylio pob gwaeledd; Yn y swyn gerbron y sedd Y nofia mewn tangnefedd. Da heulwen y dihalog—a ddenir Gan ddoniau godidog Arwest gref dawn Crist a'i Grog Oil edwyn y rhai Ilidiog. DEUDRAETH.