Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

... CLEYELAND, OHIO.

EMPOIilA, LYON CO., KANSAS.

[No title]

0 LANAl YR OHIO.

.I. MARW YN SSBSTY SEATTLE.

-060 DIBWESX AC AELODAETH…

♦ « » CTMRV STAMFORD, CONN.

-*-->♦ LLITH 0 CLAY CO., IOWA.I

♦ « » DINAS Y CARTAD BRAWDOL.

N0D10IS 0 SIR LUZERNE.I

—•» »» EISTEDDFOD LANCASTER,…

—<» » » SHAWNEE, PERRf CO.,…

t.. Y DDtEARGRVN IN INDIA.

News
Cite
Share

gogledd, yr hyn a ddangosai fod yr ym- siglad (vibration) yn un gogleddol a deheuol. Rhoddir y pelenau plwm mewn tyllau yn mhedair cornel postyn, a gwel- ir nerth yr ysgydwad oddiwrth y pellder oddiwrth y postyn y disgyna y peleni. Wrth ochr yr afon mae amryw hollt- iadau mawr yn y tir, ac mewn dau neu dri o leoedd y mae arwynebedd y ddaear wedi gostwng pump neu chwe niodfedd am gryn bellder. Ond yma ni chawsom ond cwr dwyreinol yr ysgydwad. Yn Sylhet a Kassia a Jainta y bu yr ysgyd- wad fwyaf fel y sylwais. Gan fod y rhan o'r wlad yn dwyn pSvthynas neillduol tCr Cyrnry, a chanoedd yn eu mysg yn cymeryd dyddordeb yn y lie, credaf y bydd tipyn o fanylion am y ddaeargryn yn y lie yn dderbyniol, ac o bosibl trwy hyn y dygir eraill i gymeryd dyddordeb yn ac i gydymdeimlo a'r bobl yn eu cyf- yngdra mawr. Felly rhoddaf yma gyf- ieithiad tra rhydd o bellebriadau prif ddirprwywr (chief commissioner) As- sam at Lywodraethwr Cyffredinol India (Viceroy.) Credaf eu bod yn gywir yn eu hadroddiad am y galanastra ac hefyd wedi eu hysgrifenu mewn cydymdeim- iad a'r dyoddefwyr: "Shillong, Meh. 13.—Cymerodd daear- gryn ofnadwy le yn Shillong prydnawn ddoe, Meli. 12fed, am 5 o'r gloch. Mae holl adeiladau ceryg y lie, yn cynwys ty y Llywodraethwr, swyddfeydd y llyw- odraeth, yr eglwys, y jail, a'r holl dai oeddynt eiddo personol wedi eu dym- chwelyd i'r llawr. Credir nad achoswyd llawer o farwolaethau, ond lladdwyd Mr. McCabe yn ei- dy. Gofidiwn yn fawr o herwydd ei farwolaeth, ac y mae yn golled fawr i'r weinyddiaeth. Cafodd amryw ddiangfa gyfyng ac yn eu plith fy ngwraig a minau, ond ni laddwyd Ewropead arall am a wn i. Collodd am- ryw eu bywydau yn y swyddfa argraffu perthynol i'r llywodraeth. Lladdwyd un neu ddau o'r milwyr, a rhyw nifer yn y farchnadle (bazaar); hyd yn hyn nis gwyddom y manylion. Mae y olledion personol ac eiddo y Hywodraetli yn fawr iawn, canys ni achubwyd ond ychydig yn unlle. Mae holl bapyrau swyddogol a'r swyddfa argraffu dan yr adfail. Gwlawiodd yn drwm a dibaid drwy y dydd a'r nos, ac yn ami teimlwyd ysgyd- wadau. Y mae sefyllfa y merched a'r plant, y rhai sydd yn dyoddef o herwydd diffyg cysgod oddiwrth yr elfenau, yn dra blinderus. Ceisiwn ddarparu nodd- ed am dymor clan yr amgylchiadau poenus hyn. Nis gwn pa mor eang fu y ddaeargryn, ond a barnu oddiwrth ei lymder, ofnwn ei fod yn cyraedd yn mhell. Pellebriad 2, Meh. 16.—Ni chaed ne- wyddion o Sylhet a Cachar. Mae y gal- anastra ar Fryniau Cherrapunji yn fawr iawn, ac y mae rheilffordd Cherra wedi ei dinystrio. Ofnwn fod rhif y marwol- aethau yn fawr yn y gweithfeydd glo a'r chwarelau calch yn Cherra. Lladdwyd Mr. Rosenrode trwy i'w dy syrthio ar- no. Mae Gowhatty a Goalpara wedi eu llwyr ddinystrio. Ychydig o fywydau a gollwyd. Pellebriad 3. (yr un dydd).—Yn awr dychwelodd Mr.. Sprachey, swyddog y rheilffordd, yr hwn aeth i Cherra. Dwg newyddion torcalonus am y He. Mae amryw bentrefi wedi eu hollol ddinystrio, a chwympo i lawr i ochr y bryn. Mae Chattuk, lie wrth droed y bryniau weu. suddo i'r afon, ond achubodd am- ryw eu bywyd trwy fyned ar y cychod ddefnyddid i gludo calch. Dywed y peir- ianydd gweinyddol (executive engineer) swyddog ag sydd yn gofalu am adeilad- au a ffyrdd y llywodraeth, fod tref Syl- het wedi ei llwyr ddinystrio ac amryw bentrefi wedi soddi (subside). Trwy hyn collwyd llawer o ymborth, ac ofnwn y bydd dyoddef mawr yn Sylhet o her- wydd prinder bwyd. Os yw bosibl, an- fonweh i mi beirianydd a swyddogion eraill i gynorthwyo dirprwywr Cynorth- wyol Sylhet yn vr argyfwng ofnadwy hwn. Nis gwn a oes rhanau o Bengal mor druenus, ond y mae Sylhet yn gofyn cymorth, ac nis gallaf fl ei roddi yn awr. Peiiebriad 4.-Meh. 20.—Yr ydym oil yn gwneyd ein goreu. Mae y tywydd yn wlawog ac yn barhaus. Teimlir ysgyd- wadau. Ymddengys mai Bryniau Cherra- poonji gafodd nerth yr ysgydwad. Yno syrthiodd ochr y bryn, gan gario gydag ef amryw bentrefi. Mae haner y ffordd o Shillong i Cherra wedi ei dinystrio. Ofnir i lawer yno golli eu bywyd, ond nis gwyddom y nifer yn awr. Ni choll- odd unrhyw Ewropead ei fywyd. Gan nad oes tramwyfa i Sylhet yn awr yr ydym yn pryderu yn nghylch pa fodd y gellir rhoddi bwyd i'r rhai adawyd yn fyw. Pellebriad 5.-Yr oedd y ddaeargryn. yn Gowhati, Goalpara, isowgong a Man- galserai yn ddinystriol iawn, teimlwyd ei dylanwad yn Tezpur a Dhubri; diang- odd Dibrugar a Sibsagar heb fawr niwed Ni achoswyd fawr golled yn nyffryn y Brahmoputra. Agorir y ffordd o Shill- ong i Gowhati ar fyrder, ond cymer gryn amser cyn y bydd y ffordd i Sylhet yn glir. Ofnir fod o 4,000 i 6,000 wedi colli eu bywydau ar fryniau Cherra. Pelebriad 6.—Mae ochr y bryn yn par- hau i lithro, ac y mae y bobl adawyd yn fyw wedi chwalu yn mhell o'u hen gar- trefi. Dinystriwyd Tura, yn Mryniau Garo. Ni laddwyd unrhyw Ewropead. Cawsom ddau ysgydwad' cryf neithiwr (Meh. 22,) ond ni wnaed fawr niwed. Pellebriad 7.—Da genyf hysbysu fod y newyddion diweddaf yn rhoddi lie i ni gredu nad ydyw rhif y lladdedigion mor fawr ag yr ofnwyd. Ymddengys fod holl bentref Shella-poblogaeth yr hwn oedd 3,658-wedi treiglo i'r afon, ond yr oedd y bryn yn myned yn ddigon araf fel y gallodd y rhan fwyaf ddianc am eu byw- yd. Collodd oddeutu 250 eu bywyd yno. Mae pentrefi cyfagos eraill oedd yn sef- yll ar fryniau wedi eu dinystrio a chred- ir fod oddeutu 400 wedi eu lladd. Yn nosbarth Sylhet credir i 300 o bobl gael eu Iladd." Gwelwch oddiwrth hyn fod y ddaear- gryn yn un ofnadwy a'r difrod achoswyd yn dorcalonus—miloedd yn nghyd a'u heiddo wedi eu. dinystrio. Holl dai yr Ewropeaid trwy y Bryniau wedi eu dymchwelyd i'r llawr. Yn wir mae y safle yn ddifrifol. Mae y golled i'r Gen adaeth yn anadferadwy, yr wyf yn ofni. Mae y maes yn man gwaethaf yr ysgyd- wadau. Yn Shangpoong cwympodd ty y cenadwr a'r capel; yn Jowai syrthiodd dau dy cenadol, capel ardderchog, ys- goldy ac ysbyty helaeth; yn Shillong 1; dinystriwyd tri o dai eenadol, capel mawr a chostus, a, dau ysgoldy; yn Mairang a Mawphlang dinystriwyd y tai cenadol; yn Cherra dinystriwyd dau dy cenadol, ysbyty mawr a chostus, ys- goldy gwerthfawr, ysgo: Dduwinyddol a chapel eang. Mae y iai yn Lietkynsen a Shella hefyd wedi eu dinystrio. Yn Sylhet dinystriwyd y capel a dymchwel- wyd murian y ty cenadol oedd wedi ei losgi yn y gwanwyn. Pa faint mwy gymerodd le yn nghanol y wlad yr nis gwyddom, ond y mae meddwl am hyn yn ein parlysu. Nid oes un ty cen- adol ar Fryniau Kassia heddyw! Mae holl eiddo y Genadaeth wedi eu dinys- trio! Trwy drugaredd Duw achubwyd bywydau y cenadon a'u teuluoedd. Mae y ffeithiau hyn yn siarad ac apeliant at y byd, ac yn enwedig at y Cymry, y rhai sydd wedi cymeryd y fath ddydd- ordeb yn y rhan hon o'r byd a gwneyd llawer i'w dwyn i'r peth ydyw yn gref- yddol a moesol.