Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

... CLEYELAND, OHIO.

News
Cite
Share

CLEYELAND, OHIO. Rhyfeddodau Natur—Dwsin o Éistyllau Dwfr-Golygfa Hynod a Mawreddog. GAN D. F. LEWIS Cleveland, 0., Awst 18.—Bore dydd Iau, y 12fed, rhwng saith ac wyth o'r gloch, ymddangosodd cwmwl du, hirfain uwchben Llyn Erie a chyferbyn a'r ddinas—y cwmwl o bosibl yn ddeng milldir o hyd, ac efallai yn filldir o led. 0 dan ei ymyl pellaf yr oedd llain o ffurfafen ddysglaer, ysblenydd, a'r cwm- wl yn hwylio yn gymedrol gyfiym o'r Gorllewin tua'r Dwyrain Ddeheuol, gan ddynesu at y tir yn ei symudiad. Pan oedd y cwmwl yn ei lawn hyd o flaen y ddinas, weled linyn hirfain yn ymestyn allan o'i ymyl gan gynyddu yn ei hyd a'i braffder hyd. o fewn ychydig i wyneb y llyn. Edrychai fel simnai ddu, arswydol yr olwg, tua thair neu bedair milldir oddiwrth y tir; ac fel peiriant aruthrol sugnai y dwfr i fyny wrth y tunelli, nes cynyrfu gwyneb y llyn cwmpas erw o fesuredd i'r gwyllt- ineb mwyaf brochus. Yn syth o dan y sugniad yr oedd pant enfawr, ac hawdd ydoedd gweled y dwfr yn cael ei ruthr- gludo drwy y bibell i'r cwmwl. Yn ys- tod haner awr o amser ymddangosodd deuddeg o bistylloedd, pump o'r rhai oeddynt o faintoli dirfawr, ac yn gwneyd i fyny yr arddangosfa fwyaf synfawr a welodd pobl Cleveland efallai erioed. Yn mhlith y miloedd cafodd yr ysgrifenydd olwg gyflawn a dyddorol arbenig ar chwech neu saith o'r pistylloedd a'u gweithrediadau. Daeth dwy neu dair o honynt i dir, a daeth un o'r tair i fewn rhwng stryd- -oedd Kirtland a Coe avenue, yn erbyn a thros yr Avery Stamping Works, ac o fewn tri chant o latheni i'r fan y safai yr ysgrifenydd a'i gydweithwyr, gan ys- gubo a hyrddio pob peth oeddent wedd- ol rydd fel pla neu wellt drwy yr awyr. Cafodd afael mewn dau neu dri o ddyn- ion a rholiwyd hwy fel marbles ar hyd y tir; gyda'r eithriad o hyn ni wnaed ond ychydig o niwed, a thorodd ymdaith y spout yn fuan, gan nad oedd dim mwy ganddo i'w yfed. Cyfleodd yr amgylch- iad olygfa odidog o newydd-deb aruchel -ac er o nodwedd ddifrifol, eto yr oedd yn gynwysedig o ddigrifwch, mewn gwisg o fawredd annesgrifiadwy.

EMPOIilA, LYON CO., KANSAS.

[No title]

0 LANAl YR OHIO.

.I. MARW YN SSBSTY SEATTLE.

-060 DIBWESX AC AELODAETH…

♦ « » CTMRV STAMFORD, CONN.

-*-->♦ LLITH 0 CLAY CO., IOWA.I

♦ « » DINAS Y CARTAD BRAWDOL.

N0D10IS 0 SIR LUZERNE.I

—•» »» EISTEDDFOD LANCASTER,…

—<» » » SHAWNEE, PERRf CO.,…

t.. Y DDtEARGRVN IN INDIA.