Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

AL&%r% als Jl1 IDrrcT)t

'---YN NGHANOL Y WLAD

. I . Y PARCH. FRED EVANS,…

HErO GrWEINIBOGrlON.

News
Cite
Share

HErO GrWEINIBOGrlON. GAN Y PARCH. W. J. LEWia. CARBONDALE Mawr ydyw y beio sydd gan ddynion trwy y wasg, yn y cyhoeddiadau misol ac yn y "Drych," ar weinidogion yr ef- engyl na baent yn pregethu yn erbyn pechodau yr oes, megys meddwdod, an- lladrwydd, twyll ac anonestrwydd, cen- figen a malais. Carwn wybod pa le y mae yr eglwys hono oddefa i'w gweinid- og bregethu yn erbyn y pechodau uch- od na byddai iddo gael "notice to quit" yn y fan; ac os na chymerai hyny Ie. yn y fan, 'byddai cystal iddo godi ei bac oddiyno gyda brys, os ydyw yn meddwl byw ar yr hyn y mae yn ei gael gan- ddynt; oblegid y mae yr eglwysi wedi myned i'r fath sefyllfa na oddefant bregethu gwirionedd yn erbyn eu pech- odau. Nid yn unig y mae aelodau cyff- redin yn rhy ddolurus, ond hefyd y mae swyddogion yr eglwysi yn rhy groen- deneu i oddef pregethu gwirionedd plaen y Beibl. Gwir mai dyledswydd gwein- idogion yr efengyl ydyw pregethu gwir- ioneddau gair Duw yn ddidderbynwyn- eb yn erbyn pob math o bechodau- golchi dwylaw yn lan oddiwrth waed pawb, trwy fynegu holl gyngor Duw; bod yn wyliedyddion effro ar y mur i rybuddio dynion o'r perygl y maent ynddo wrth fyw yn eu pechodau; ond beth ydyw y canlyniad i'r rhai sydd yn gwneyd hyn? Gosod gag ar eu genau trwy gau drws y pwlpud yn eu h erbyn. Yn awr, y mae y rhan fwyaf o weinid- ogion yr efengyl yn ddynion tlodion, a theuluoedd ganddynt i'w cynal; ac y maent yn gwybod os pregethu yn ddi- dderbynwyneb a wnaent fel y mae eu cydwybod yn dweyd wrthynt am wneyd, mai ymadael raid iddynt. Felly, ti weli, ddarllenydd, ei bod hi yn brofedigaeth fawr i weinidog goiiest sydd a'i am- gylchiadau yn gyfyng, i bregethu yn er- byn Benjaminiaid y bobl y mae yn ym- ddibynu arnynt anv-ei fara a chaws! Y gweinidogion sydd yn ei gwneyd hi oreu yn y blynyddoedd hyn ydyw y rhai sydd yn traethu gweniaith i'n heglwysi. Mae yr eglwysi wedi myned i'r sefyllfa hono y desgrifir hi gan y proffwyd Esaiah, pan y mae yn dweyd, "Dos yn awr, ys- grifena hyn mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diweddaf yn oes oesoedd; mai pobl wrthryfelgar. yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynant wrando cyf- raith yr Arglwydd; y rhai a. ddywedant wrth y gweledyddion, Na welwch, ac wrth y proffwyd, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn-traethwcb. i ni wen- iaith, proffwydwch i ni siomedigaeth." Es. 30: 8-10. Dyna ddarluniad o sefyllfa pethau yn yr eglwys y dyddiau hyn, ac fel y mae y Proffwyd Michah yn dweyd, "Os un fyn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a dy- wed yn gelwyddog, proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd y bobl hyn." 0 ie, dyma y proffwyd mwyaf poblogaidd gan yr eg- lwys yn y dyddiau hyn. Pwy fedr breg- ethu yn erbyn meddwdod gyda chymer- adwyaeth, pan y mae yr eglwysi mor llawn o feddwon? Ie, pwy fedr breg- ethu yn erbyn anlladrwydd, twyll ac an- onestrwydd, malais a chenfigen ac hun- anoldeb pan y mae yr eglwysi mor llawn o'r pethau hyn? Gorchwyl caled ofn- adwy ydyw pregethu yn erbyn pechodau anwyl y bobl! Eto, dyledswydd gwein- idogion yr efengyl ydyw bod yn onest dros Dduw tuag at ddynion, a gadael y eanlyniadau i'r Arglwydd. Amser yn ol daeth cais oddiwrth gym- deithas ddirwestol y gwragedd, yn dy- muno ar i'r holl weinidogion bregethu ar ddirwest yn holl eglwysi y dref yr un nos Sabboth; ac felly y gwnaethant. Ar ddiwedd yr oedfa, wedi i mi bregethu, dyma un oedd yn caru melus chwant yn fwy na charu Duw yn troi at frawd ac yn dweyd wrtho, "Wel, fachgen, beth gawn ni i'w yfed? Ni chawn yfed dim gyda hwn ond dwr." Ac nid oedd neb yn fwy ei fwstwr ar ei liniau na'r gwr hwn am i'r Arglwydd achub y byd, ac yntau yn gwneyd ei oreu ar yr un pryd i ddamnio y byd trwy gynal y fasnach sydd yn damnio miloedd bob blwyddyn! Cefais i deimlo gwaethaf y dyn hwn a rhai oedd o'r un nodwedd ag ef ar ol hyny. DdarIlenydcl, beth feddyliet ti am ddyn yn cyfarfod a gweinidog yr efengyl yn y dref ac yn tynu potel o chwisci o'i boced ac yn ei rhwbio hi yn ngwyneb y gweinidog, a dweyd wrtho, "Dyma botel o chwisci wyf fi wedi bod yn ei lIanw hi yn awr; dyma destyn i chwi i bregethu y Sabboth." A beth feddyliet ti, ddar- llenydd, am dri blaenor yn dal breichiau y dyn yma i fyny pan oedd ei fater yn cael ei drin yn y cylch swyddogol? Ie, a'r dyn hwn a'r ddau flaenor yn ceisio gweithio cynllun i daflu y gweinidog all- an mewn modd dirgelaidd, ac wedi idd- ynt fethu yn eu hamcan yn myned allan eu hunain, Na ddeled fy enaid i'w. cyf- rinach byth. Yr wyf yn dweyd y pethau hyn er dangos y canlyniadau i weinid- ogion bregethu yn erbyn pechod anwyl y bobl. Mae un peth yn amlwg, fod yr eglwysi wedi cael eu llenwi a dynion an- nuwiol—dynion diofn o Dduw, dynion yn byw yn nglyn a phechodau sydd yn cau allan o deyrnas nefoedd, dynion yn ceisio yr eiddynt eu hunain ac nid yr eiddo Crist Iesu. Cyn y gwelir llwydd- iant ar yr efengyl i achub y byd, y mae yn rhaid glanhau yr eglwysi oddiwrth gymeriadau meddw, anllad, anonest, twyllodrus. Mae yma anmhosibilrwydd i'r efengyl i Iwyddo yn yr agwedd y mae yr eglwys ynddi yn y blynyddoedd hyn, a chyn y gwelir hyn, bydd yn rhaid i weinidogion gael eu gwneyd yn llawn o rym gan ysbryd yr Arglwydd i fynegu i'r bobl eu camweddau a'u pech- odau i dy Jacob, ac i fod yn barod i dderbyn erlid, gwawd a dirmyg. Beio y gweinidogion am na byddant yn pregethu yn erbyn pechodau a llyg- redigaethau yr oes! Pwy sydd yn myn- ed i ddal eu breichiau i fyny i wneyd hyny, pan y mae swyddogion yr eglwysi mor groen deneu a neb i oddef y gwir- ionedd? Mae ugeiniau o weinidogion yr efengyl yn gruddfan yn herwydd yr agwedd sydd ar bethau yn yr eglwysi; ac eto yn teimlo yn rhy llwfr a gwan i sefyll yn erbyn y llifeiriant. O! cyfod- fjd Duw a gwasgarer ei elynion, a ffoed ei gaseion o'i flaen ef." Mae fod dyn- ion sydd yn diota a meddwi, ac yn byw mewn pechodau gwarthus, yn gweddio Duw yn ngwydd y byd yn gwatwar Duw ac yn caledu y byd. Dyma ryfyg ofn- adwy! Gwared ni, Arglwydd daionus, oddiwrth y cymeriadau damniol hyn; "Oblegid amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw tor priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth swyn gyfaredd, casineb, cynhenau, gwynfydau, llid, ymrysonau ymbleidio, heresiau,cenfigenau, Ilofruddiaetb, medd- wdod, cyfeddach a chyffelyb i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhag-ddweyd wrthrych, megys ag y- rhaddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneutbur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw." A brysied y dydd na fydd dim. lie iddynt yn eglwys Dduw ar y ddaear chwaith yw ein dymuniad. «» » »

■» » » LLYFR NeWEDD IAWN.

[No title]

U WCJI FEI (LMA DA ETII.í…

t.. Y DDtEARGRVN IN INDIA.