Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

AL&%r% als Jl1 IDrrcT)t

'---YN NGHANOL Y WLAD

News
Cite
Share

YN NGHANOL Y WLAD GAN J TWYSON JONES, EBENSBURG, PA. Ar ol bod am amser yn nghanol y mwg, Nes teimlo sylfeini fy mhabell yn ddrwg, Mor hyfryd yw myned i geisio iachad A gorphwys ychydig yn nghanol y wlad. Celfyddyd ganfyddaf yn uchder ei bri Yn mhob cwr o'r ddinas mewn profion diri; Ond natur ysblenydd rydd fwy o fwynhad I'm calon luddiedig yn nghanol y wlad. Arddangos y dynol mae'r ddinas o hyd, A'i llu dyfeisiadau yn synu fy mryd, Ond olion y Dwyfol, sef gweithiau fy Nhad, A welaf yn mhobman yn nghanol y wlad. Mae adar y ddiuas yn welw eu gwedd, Ac ysbryd y blodau yn brudd a dihedd; Ond canu mewn nwyfiant a gwenu yn fad Mae'r adar a'r blodau yn nghanol y wlad. Mae twymyn gwag-ffurfiau a balchder tra- haus, Yn bwyta dynoliaeth y dref yn barhaus, Ond ysbryd symlrwydd, gwyleidd-dra di- fad. Yw nodwedd cymdeithas yn nghanol y wlad. Mae bochau trigolion y ddinas yn llwyd, Anmhuredd yr awyr yn llygru y bwyd; Ond blodau hoenusrwydd heb arwydd llesgad, Addurnant wynebau yn nghanol y wlad. Nid rhyfedd yw gweled meddianwyr y byd Yn symud o gythrwfl y ddinas o hyd; Oblegid tawelwch ac iechyd i'w had A geir mewn digonedd yn nghanol y wlad. I'r- £ naid- crediniol mae "gwlad" gan ein Duw, I >!• i II Lie nad oes trallodau i'w cael o un rhyw, Ac arno gorphwysaf nes derbyn yn rhad Dderbyniad tragywyddol i ganol y wlad.

. I . Y PARCH. FRED EVANS,…

HErO GrWEINIBOGrlON.

■» » » LLYFR NeWEDD IAWN.

[No title]

U WCJI FEI (LMA DA ETII.í…

t.. Y DDtEARGRVN IN INDIA.