Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
A WEEKLY NEW SPAPEE. ESTABLISHED…
A WEEKLY NEW SPAPEE. ESTABLISHED 1851, Sssned. Every Thursday Morning. AROMAS J. GIUFFITIIS, Proprietors VTJOJ. No Y, ———&—— IMPORTANT TO ADVERTISERS i-The attention of business men in general is called to Y DRYCH- COLTJMBIA as a superior advertising medium, being read by thous mds who cannot be reached by any other publication. It has a large circu- lation, with subscribers in every State and Ter- ritory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized Na- tional Organ of the Welsh people. «* r- -102\:1.
Y GKOES A I GRASUSAU. --
Y GKOES A I GRASUSAU. GAN IEUAN DDV, NANTICOKE, PA. "Na ato Duw i mi ymffrostio, ond yn nghroes ein Harglwydd Iesn Grist." lor, o fryd ei dyner fron,—i'w cadw Cawd Ceidwad i ddynion— Un a'i gariad iddo'n goron,-a berchir, O'r groes y gwelir gras Ei galon. Rhoes gymod o'i waed dros gamwedd,-a deddf Ei Dad gadd anrhydedd; Tal llawn oedd yr lawn a'i rinwedd, Ac arwr ol conero'r bedd. O'r Groes a'i hedd, ffynon gras yw,—ban glwys Yw lle'r Ben-glog heddyw; lach yw y fan, a gwych i fyw, Man dedwydd i'm henaid ydyw. 0'1' groes! Iesu'r grasusawl,-o fwriad Fu farw'n fuddugawl; Ac i'w dy dyg y duwiawl, Y groes im1 mwy, gras a mawl. Cynes yw'r Groes ereswedd,-hi beunydd Fydd baner tangnefedd; 0 dan hon caf donau hedd,-byw elw, Ac o farw dani caf orwedd. Craig yw y groes, craig yr oesoedd,-addas Nodded i freninoedd; I fywyd dyg dyrfaoedd-o Babel, A byw iaith Bethel mewn bri byth bythoedd. Y groes i'r nef yw'r grisiau,-addawa Faddeuant pechodau- Rhydd hedd-ar lioll rinweddaua'u meithrin Wna'r groes iesin mam y grasusau.
CREFYDD A GWfI>»OBE&. --
CREFYDD A GWfI>»OBE&. GAN Y PARCH. DANIEL THOMAS WILD ROSE, Mae y byd Cymreig erbyn hyn yn gwybod am y gyfrol werthfawr hon gan y Parch Joseph Roberts, D. D. Mae y gwaith celfyddydol arni yn deilwng o'i chynwys mewnol; y papyr yn dda; yr ar- graffiad yn eglur a glanwedd a'r rhwym- iad yn gryf a destlus. Lleinw y llyfr fwlch pwysig mewn llenyddiaeth Gym- raeg. Nid oes ond ychydig mewn cyd- mariaeth wedi ei gyhoeddi ar y llinell hon yn yr iaith Gymraeg; ac nid yw yr ychydig hwnw wedi cael fawr o gylch- rediad yn y wlad hon, fel y mae hwn yn llyfr y mae ar ein cenedl yn America wir angen am dano. Mae wedi ei ys- grifenu mewn iaith goeth a syml aYar- ddull yn glir a darllenadwy. Pe buasal y llyfr yn y ffurf draethodol, y mae yn ddiau y buasid yn gallu trin y mater- Ion yn fwy rheolaidd a chyflawn; ond y mae yn ameus a fuasai mor ddefnyddiol a llesiol i'r bobl yn gyffredin ag ydyw fel y mae yn gyfres o bregethau-y rhai sydd wedi eu cyfleu, fel ag i osod y mat- erion yn y drefn fwyaf naturiol. Y mae y testynan wedi eu dethol, nid yn unig fel ag i gynwys y materion, ond hefyd i roddi trefn ei ffurf i'r cyfan- soddiad a'r pregethau, fel rheol sydd ddadblygiad naturiol o'r tes- tynau. Fel hyn, y mae gwyddoniaeth y llyfr hwn yn gwreiddio yn y Beibl ac yn tyfu allan o hono. Mae yr awdwr yn iach yn y ffydd, a hyn sydd yn eyfrif am un o brif rinweddau y llyfr. Mae tair ffordd i geisio cysoni y Beibl a gwyddoreg. 1.-Gosodir, gwyddoreg ar dir rhesym- oliaeth, a gwneir hi yn safon i brofi gwirioneddau y Beibl. Os ceir fod rhyw ranau o hono yn dal y profion hyn, cyd- nabyddir hwynt yn wirionedd, a theflir y gweddill allan fel hen draddodiadau a chwedlau disail. Nid yw y gyfundrefn hon yn gadael ond ychydig iawn o Feibl i ni, ac y mae yr ychydig hwnw bron mor ddinerth at ei waith ag yr oedd Samson wedi i'r Philistiald dori ei wallt a thynu ei lygaid. 2.—Dygir gwyddoreg a'r Beibl at y llinell derfyn rhwng y naturiol a'r ys- brydol a cheisir eu • cysoni yn y fan hono. Tra na ellir dweyd fod y tir hwn yn gyfeiliornusynddo ei hun, eto y mae yn beryglus ac yn agor y ffordd i gyf- eillornadau. Mae y rhai sydd yn deall y materion ac wedi eu sefydlu yn ngwir- ioneddau crefydd yn gallu cerdded y tir hwn heb dderbyn niwed, ond y mae per- ygl i'r anwybodus a,'r ameus i lithro a syrthio arno. Mae fel gwneyd i ddyn- ion gerdded cahllaw y bont. Gall y rhai medrus ei cherdded yn ddigon diogel, ond i'r lluaws y mae yn beryglus. Hef- yd y mae llawer un na fuasai byth yn If meddwl am danur ei bun i'r dwfr, eto Yn ddigon ffol i ddylyn eraill i geisio cerdded y ganllåW; ';ac yn y diwedd syrthio i'r afon. Mae yn sicr fod y llwybr hwn, a gymerir gan lawer o ddynion da wedi bod yn fwy. niweidiol i grefydd na rhesymoliaeth noeth. 3.—Dygir gwyddoreg at y Beibl a chysonir hwy yn y fan hono. Dyma y mae Dr. Roberts yn ei wneyd yn y llyfr dan sylw. Mae yn croesi yr afon, nid y tu isaf i'r bont; fel y gwna y dosbarth cyntaf, nac ar y ganllaw fel yr ail, ond yn union ar ganol y bont, lie mor ddi- ogel fel y gall y plentyn gwanaf ei gerdded heb ddim niwed. Dengys y llyfr yn gyntaf fod gwydd- oreg wedi ei phrofi a'i sefydlu, yn cy- tuno a'r Beibl, pan ddealler ef yn iawn. Gwyddoreg anmherffaith a'r Beibl heb ei ddeall sydd yn croesi eu gilydd. Dangosir fod y Beibl yn rhoddi sicr- wydd am bethau fel ffurf gyntefig mater hunaniaeth y corff dynol, &c., pryd nad oes gan wyddoreg ond damcaniaeth an- eglur yn eu cylch. Y mae y Beibl yn datguddio pethau, fel cynyrchiad mater, dechreuad bywyd, &c.,y rhai na all gwyddoreg gymaint a rhoddi yr awgrym lleiaf yn eu cylch. Tra nad ydym yn cytuno a syniadau gwyddonol yr awdwr ar bob pwynt; eto y mae yn amlwg ei fod wedi astudio y pwnc yn drwyadl; ac y mae yn ei drin yn deilwng. Mae y llyfr yn ychwanegiad gwerthfawr at lenyddiaeth Gymraeg, a dylai fod yn llyfrgell pob Cymro un- iaith, o herwydd y mae hwn yn un o brif bynciau y byd yn bresenol. Er fod y maes hwn yn llawn o lyfrau yn yr iaith Saesneg, eto ychydig o honynt sydd mor ddiogel a defnyddiol a'r gyf- rol fechan hon. Gobeithiwyf y ca y llyfr dderbyniad cyffredinol gan ein cenedl.
YN MVSfi AMAETHWVR COLUMBUS.…
YN MVSfi AMAETHWVR COLUMBUS. GAN R R. WILLIAMS Pan yn agosau at y Gareg Wen, deall- ais fod D. Jones, sydd yma yn awr, yn gefnder i'r hen gyfaill Dewi Arfon a'r ddau felly yn wyrion i'r hen Dafydd Jones,' Gareg Wen, yr hwn oedd frawd i William Jones, Bryncoch, a Griffith Jones, Cae Hen, Rhostryfan. Gwr add- fwyn a thyner oedd Dafydd Sion, fel y'i gelwid. Efe yw awdwr y penill tra ad- nabyddus: "Mae Sion wan yn gruddfan tan y groes, Yn dysgwyl gwawr ar lawr tan lawer loes." Cyfansoddodd Dewi Arfon 'feddargraff i'w daid fel y canlyn: "Du fedd y sant Dafydd Sion-Gareg wen, Gwr gwyl, a hardd Gristion: Ga'dd enw, sai'n hwy'n nhy Ion Na cherf ar lechau Arfon." Er fod gwr y Gareg Wen yma wedi ei eni a'i fagu yn ardal Columbus, cymer lawer o ddyddordeb yn ei hynafiaid yn ngwlad ei dadau. Yr oedd ei ferch yn fy adgoflo am blant Ty Du. Cyfarfum yn Lledwigan a hen fardd Iled ddyddan o'r enw John J. Jones, yn henafgwr wedi rhoddi helbio i lafurio ei dyddyn, ond yn byw ar y lie; ac i'm tyb i gwell yw gwneyd felly na symud i'r pentref- ydd. Dyma eto hen ddisgynydd o ardal Nant Uchaij, Llanberis, ac ar enw hen gartref ei dad y gelwir y tyddyn lie y trig-Hafod Gynffon. Cofiwn yn dda am ei henafiaid-Griffith a Williams yr Hafod Gynffon; ac y mae John C. Wil- liams yma yn dwyn llawer o ddelw y teulu. Daethym i dy yn ardal Salem lie yr oedd dau nai a nith i'r Parch. Edward Rees, a chefais ymgom felus gyda hwy am yr hen ewythr a'i hynodion; ac yma bu raid aros i gael ciniaw y dydd hwnw. Dymunant gael eu cofio at bob un o'r teulu sydd eto ar dir y byw. 6yfarfum ag ami i hen gymeriad pur od. Ni fyn- ai rhai eu bod yn darllen dim ond y Beibl yn Gymraeg. Y mae drwy yr holl Jien sefydliadau y bum ynddynt dair a phedair cenedlaeth; a gwelir ambell i un yma ac acw o'r hen sefydlwyr cyntaf yn hen wyr a hen wragedd wedi myned i'r gongl, a bywyd wedi dyfod yn faich —eu nerth wedi dod yn boen a blinder iddynt. Nodweddid y rhai hyn ar eu dyfodiad i'r wlad newydd gan awydd am lawer o dir, ac yr oeddynt yn prynu 40 ac 80 erw moreaml ag y gallent, ond troes gyrfa eu bywyd a dechreuasant werthu darn ar ol darn nes dod i feddu ty a gardd. Aeth hyny drachefn iddynt yn faich; ac erbyn hyn mae un ystafell yn y ty yn ddigon, a hyd yn nod eistedd yn y gadair freichiau ar glustog es- mwyth wedi dod iddynt yn flinder, llesg- edd henaint wedi amgau o'u deutu; blinder wedi meddianu yr oil o'r corff oedd gadarn unwaith. Ha! gwelaf hen- aint yma yn ei liw ei hunan! Mae y byd a'i holl fwynderau wedi methu a'u dyddanu yn awr. 0 druain o'r hen bobl, wedi eu gadael un yma ac un acw. Y monwentydd erbyn hyn sydd yn gartref i fwy o lawer o'n cenedl yn mhob man y ffordd hon erbyn hyn. Yn mhob ty yr af iddo yma dangosir i mi ddarluniau o'r tad a'r fam, ac weithiau y taid a'r nain, wedi eu tynu yn fawrion a'u fframio yn hardd; a dyma bron yn mhob ty ydyw addurn penaf y parlyrau a'u dodrefn drudfawr. Bydd y wraig yn ami yn dangos yr ar- luniau hyn a chanddi ami i sylw o'i chof am eu rhagoriaethau. "Dyma lun fy nhad a fy mam ddaethant yma a thwr o honom ni y plant yn fan i ddechreu clirio lie bach i godi ty cyffion a chlirio darn o dir newydd bob blwyddyn, ac er- byn eu bod wedi gorphen ein magu a chael y tir yn weddol lan yr oeddynt wedi myned yn rhy hen, druain o hon- ynt! Gwelsant amser caled, a'u hunig gysur oedd y byddai y lie yn gartref i ni yn eu henaint," ddywedai un wraig a'i dagrau yn disgyn i'r llawr. Rhwng yr arluniau hyn ar barwydydd y parlyr- au a'r beddfeini yn y monwentydd, ced- wir mewn cof y naill genedlaeth ar ol y Hall yn barchus iawn drwy yr holl sef- ydliadau; ac er pob ymdrech myned heibio y mae dull y byd. Mae yn amlwg iawn yn yr ardaloedd hyn fod gwein- idogaeth y gwr rhagorol, y Parch. John J. Roberts, wedi gadael argraff barhaol; a'i gymwysder fel gwr Duw wedi bod yn myned i fewn ac allan o flaen y bobl yma am oes gyfan. Y mae ei weddw oedranus yn barchus iawn, ac yn gwneyd ei chartref gyda'i merch, priod y Parch. John R. Jones, (Hendref). Efe ydyw olynydd ei dad-yn-nghyfraith yn weinidog yma, ac fel y tybiwyf, yn meddu llawer o debygolrwydd i'w rag- flaenydd, yn arbenig felly fel cyfansodd- wr pregethau. Rhaid gwrandaw ar Jones yma a'u holl egni neu ni ellir ei fwynhau a'i werthfawrogi. Mae ei breg- ethau fel cadwen o'r dechreu i'r diwedd, ac os collir dolen o'r gadwen bydd ei gwerth wedi ei golli. Y mae pregethau rhai fel gwreichion oddiwrth forth- wyl y gof, a llosga pob un o honynt dwll, ond nid felly yw hi gyda Jones; gwna ef gadwen i rwymo ei wrandawyr a hi. Y mae gan y gwr hwn allu arben- ig a gwybodaeth eang; ac y mae yn fardd rhagorol, yn deall hualau barddas yn berffaith. Dywedwyd wrthyf gan un cymwys i wybod ei fod yn deall cyfrin- ion y cynganeddion yn berffaith, ac y gwnai y beirniad cymwysaf yn y wlad. Bellach dyma fi yn troi fy nghefn ar Columbus eto, wedi mwynhau fy hun ac adnewyddu fy natur. Gorphwysais dipyn yma yn ystod prysurdeb y cyn- auaf a'r tywydd gwresog. Daeth y cyf- aill Morris Griffith gyda mi i ail daflu drwy ranau o'r ardaloedd, ac yn wir gwerthwyd nifer dda o "Dafydd Mor- gan" gydag yntau. Ni fynai ef gael ei wrthod; ac yn ddiweddaf oil daeth Mrs. John M. hefo mi i hel y cyrion eithaf, a chafwyd helfa bach lied ddel gyda hith- au. Gwerthwyd i dair o wragedd nad oeddym, wedi eu gweled o'r blaen. Un oedd Mrs. Griffiths, chwaer i weddw y diweddar Barch. Robert Williams, La Crosse, Wis., a thad yn nghyfraith Dr. Howells, golygydd y "Cyfaill." Hefyd, yr hen wraig siriol Mrs. Williams a'i merch a'i mab. Cefais ymgom ddyddan gydag ef yn y ty hyd nes y daeth ei chwaer i adgofio iddo am y cynauaf a'i brysurdeb! Cyfarfyddais yma a hen chwarelwr dyddan o Lanllyfni-David R. Owens, wedi bod yn amaethu yma am 52 mlyn- edd; ac un arall fu yn gweithio yn chwarel Llanberis, ac yn ber- thynas agos i John Pritchard y Wern, ger Clynog, gwr Ellen fy chwaer, o'r enw Evan P. Jones. Cyfarfum hef- yd a thair cyfnither a chefnder i'm hen gyfaill John Cross. Mab i hen chwar- elwr arall o Lanberis sydd yma yn am- aethwr da ydyw William W. Williams, Gorphwysfa; ac y mae efe a'r gwr car- edig Evan R. Roberts yn flaenoriaid eg- lwys Bethel yma. Mae'n weddus ac yn ddyledus arnaf gydnabod ar goedd gwlad yr argraif a wneir arnaf gan ddiwydrwydd, glan- weithder a thretnusrwydd gwragedd yr amaethwyr—eu tai glanwedd a'u gwisg- oedd gweddus, a'u dull o ddwyn i fyny eu plant i'w cynorthwyo gyda eu gorch- wylion ar y ffermydd. Gwelir y fam a'r ferch yn cyd-wneyd holl orchwylion y ty a'r Ilaethdy, yn nghyd a'r meibion, gyda'r tad—y teulu oil, o'r ieuengaf i'r hynaf, yn cymeryd dyddordeb dwfn yn holl helyntion eu cartrefi, fel y gwelir drwy yr holl wlad gartrefi yn ol gwir ystyr ac amean y sefydliad dwyfol- dinas Cariad. Diolchaf o'm calon i bawb am eu caredigrwydd i mi sydd ddyeithrddyn yn eich plith.
[No title]
-Dywedai Canon Doyle, o Wexford, Iwerddon, yn ddiweddar, "nad oedd dynes weddus yn y wlad yn cymerad- wyo marchogaeth yr olwyn."
Ai)iH»FI0N AM ii-ii iFFITH…
Ai)iH»FI0N AM ii-ii iFFITH fWBEHTS. GAN Y PARCH. DANIEL WILLIAMS IOWA. Chwith genym: feddwl fod yr "Hen Griffith Roberts," fel y gelwid ef, wedi Yrnadael a'r fuchedd hon. Ychydig wyddai Cymry y Dwyrain am dano; canys un daith yn unig a gymerodd trwy y Talaethau Dwyreiniol; ond gwyddai holl Gymry Wisconsin, Iowa a Minnesota yn dda am dano, oblegid bu am haner can mlynedd yma, yn llanw He pwysig yn mhlith y gwylwyr ar y mur. Yn Nghymanfa Minnesota, rhwng dwy oedfa y prydnawn, cawd sylwadau rhagorol arno gan y Parch. W. Machno Jones. Gresyn garw na fuasai gan Mr. Jones awr o amser yn lie pymtheg mynyd. 0 Benmachno, mae'n ymddangos, y daeth Mr. Roberts i'r America. Glan- iodd yn Racine yn Gorphenaf, 1845— deuddeg mlynedd a deugain yn ol. Yn mha long y croesodd y mor, a phwy oedd gydag ef, nis gwn. Daeth llawer iawn o Gymry dros y cefnfor y fiwydd- yn hono. Yn mis Mai y croesodd fy nhad, a'm mam yn Awst. Yn yr un Hong a hi yr oedd y Parch. John R. Daniel a'r Parch. Robert Williams, La Crosse. Dyma hefyd y flwyddyn y croes- odd "John W. Jones y Drych," a'r di- weddar, William Evans, Lockport. Oni allem gael ysgrif gan un o'r hen bobl sydd yn gwybod ac yn cofio am rai o'r llwyth Cymreig ddaeth drosodd yr haf hwnw? Mae ambell un o deulu y "Re- publican," o leiaf," eto ar dir y byw. "Capel a welais yn Racine," meddai Griffith Roberts, "a thua haner cant o eglwys. Arferai y Cymry y pryd hwnw fyned at bob boat a alwai yn y porth- ladd, i edrych a fyddai yno Gymry ne- wydd am aros yn y ddinas neu y cylch- oedd. Y dynion a'm cyfarfu oedd W. Edwards, clockmaker, a W. W. Vaughn." Y tro cyntaf i Mr. Roberts weled y diweddar Barch. Rees Evans, oedd yn dechreu canu yn nghapel Ra- cine y Sabboth canlynol. Wedi treulio ychydig amser yn nghyff- iniau Racine, symudodd Mr. Roberts i Dodgeville, lie bu yn byw am flynydd- oedd; fel "Griffith Roberts, Dodgeville," y cofia yr ysgrifenydd glywed son am dano gyntaf. Daeth tua diwedd y blyn- yddoedd hyny ar daith drwy ddosbarth Welsh Prairie, a phregethodd ei breg- eth ar y "Y wraig a'r diferlif gwaed." Yr oedd hon yn un o'i bregethau hynod; soniai yr hen saint gryn lawer am dani. Pregethodd hon hefyd yn nghapel Jeru- salem-Cymanfa Minnesota, yn 1873, a chafodd oedfa hynod. Cofiwn yn dda fel y rhedai y dagrau dros wyneb un dyn yn y gynulleidfa wrth wrandaw. Aeth o Dodgeville i Iowa, i gyffiniau Welsh Prairie neu Williamsburg, ac oddiyno i gymeryd gofal eglwysi Horeb a Bethel, sefydliad Mankato. Wedi llafurio yno am bedair blynedd ar ddeg a'i ddal gan henaint, symudodd i bentref Lake Crys- tal, lie y terfynodd ei yrfa yn niwedd mis Mai. 0 ran ei ddyn oddiallan, lied dal a theneu oedd, trwy pur fawr, llvgaid lied fawr ac aeliau gurddol trymion. Yr oedd y llygad yn fywiog a gwyllt, troad y llygad weithiau y fath ag y buasai dyn dyeithr yn cael ei demtio i dybio bod rhyw anmhariaeth ar y meddwl. Ni threuliau gymaint o amser chwaith ag ambell un o flaen y drych i gribo a throi y gwallt. Fel pregethwr safai yn uchel. Yr oedd ei lais yn gryf a hyglyw. Yr oedd digon o amrywiaeth yn ei ddull o draddodi, yn symudiad y llygaid, y pen, a'r Haw, ac yr oedd y meddyliau yn newydd, gwreiddiol a dyddorol. Y materion a driniai oeddynt mor iach, ymarferol, a phwrpasol, fel y cai wrandawiad parod gan bawb. Enwodd Mr. Jones wyth neu ddeg o'i bregethau hynod. Clywsom ei bregeth ar "Gyw'r Gigfran," a mwyn- hasom hi yn fawr iawn. Clywsom la- wer o son hefyd am "Bregeth yr iar," ond ni chlywsom hono erioed. E:r nad ellir dweyd ei fod yn arw am, bregethu yn athrawiaethol, yr oedd y bregeth bob amser yn fer duwinyddiaeth iachus. Nofiai beunydd yn sianel yr efengyl. Nid y rhai ddaethant o'r Hen Wlad haner can mlynedd yn. oj perthynai G. R. i'r hen ysgol o dduwinyddion a phregeth- wyr. Mae duwinyddiaeth Cymru wedi cael twist yn yr haner canrif diweddaf, ac yn ol barn yr ysgrifenydd, nid gwell fu er hyn. Bithr yr oedd G. R. wedi llyncu y syniadau duwinyddol a ffynai yn yr Hen Wlad yn moreu y ganrif bresenol, a'r rhai hyny bregethai bob amser. Fel lienor eisteddai ar faine uchel. Ysgrifenai yn dda a dyddorol. Ceir darnau o'i waith yn y. "Cyfaill" a ddal- ient i'w darllen drosodd a throsodd, ac yn y "Drych." Waeth mo'r llawer beth fyddai y pwnc, yr oedd yr un newydd- deb a dyddordeb ag a ddeuai dros ei wefusau o'r pwlpud, yn rhedeg i flaenau ei fysedd ac i'w ysgrifbin pan yn ysgrif- enu i'r wasg. Mae ami i gofiant a ys- grifenodd yn codi y mynyd yma o flaen fy meddwl-un Siencyn Ddwywaith, Jabez Lloyd, Thomas G. Davies, Tho- mas G. Owens, &c. Tua phymtheg mlynedd yn ol aeth ar daith i'r Dwyrain. Treuliodd dri mis yn Ohio, Pennsylvania a New York. Wedi cyraedd adref anfonodd dipyn o'r hanes i'r "Drych." Yr oedd ganddo ar y daith un fantais. "Yr oeddwn," medd- ai, "yn bregethwr dyeithr yn ystyr eith- af y gair. Mae rhyw ddosbarth o wran- dawyr nas gellir tynu eu sylw drwy un ffordd arall, a daethym inau, rywfodd, ar fy nhaith, yn gyfeillgar iawn a'r dos- barth hwnw, er y chwerddais yn fy llawes lawer tro wrth alw y cyffelyb yn eraill. O'r tu arall yr oedd i mi anfan- tais, o herwydd y mae yn groes i ddeddfau natur, i ddysgleirdeb haul na lleuad ddod o'r gorllewin. 'A ddichon dim da ddod o Minnesota?' oedd i'w ganfod ar wedd y lluaws. Gwir fod gwahaniaeth mawr rhyngof fi a'm cyd- ymdeithydd parchus a thalentog o Gym- ru, ond synai rhai yn ddirfawr na bu- asai llawer mwy. Wedi cyraedd adref o'r daith, rhodd- odd y cyfeillion fath o reception iddo, a rhoddasant iddo bar o wydrau aur; a darllenodd yntau ar ddiwedd y cyfarfod res o englynion. Dyma ddau neu dri o honynt i'r darllenydd: Adrodd 'rwyf am y gwydran-na, tybiwyf Mwy tebyg i berlau; Rhyw gymysg aur a gemau, Pur o hyd maeat yn parhau. (Ni ddylwn) 'rwyf bron addoli—yr a"r I Ar oror y meini; 'Rhen saint mewn braint a bri 'N ddiamod a'i rhoddodd imi. Ha! wyr mawr yn aur i mi—i edrych A gwydrau'n ei lenwi; Addurn dwl yw y ddwy D I'r llygad er 'i alluogi. Arthur heb ryw ffordd wyrthiol—yn ei fyw Ni fedd well yspectol; Am aur mae pawb yn 'morol, Na i neb nid wyf yn ol. Un gwendid, am a wn i, oedd yn per- thyn i'r hen frawd; yr oedd yn gryn gaethwas i'r bibell. Tra yr oedd y bib- ell yn ei geg un noson, yn Foreston, tuag ugain mlynedd yn ol, aeth fy nhad yn ei ben ar y pwnc. Wedi ceisio am- ddiffyn ei hun ami dipyn trodd at fy nhad yn sydyn a dywedodd, "Glywsoch chi fod J- L- wedi rhoi gora, i smoc- io?" "Na chlywais i, sut y bu hyny?" (Cyfaill mawr i'r ddau oedd J- L—) "We!, mi freuddwydiodd ryw noson, welwch chi, fod yr hen W— yn dod i'r ty (cyfaill mynwesol i J- lr- oedd wedi marw er's wythnos neu ddwy) ac wedi eistedd ar y gadair fel yna, dyma j— L—yn codi at y silf ac yn cynyg y box tybaco iddo fo; ond mi drodd yr hen W— ac mi rodd ryw edrychiad ofn- adwy arno fo, fel dasa fo'n dwyed, 'Mewn difri, J- L-, beth ydach chi'n cynyg peth fel yna i mi?' Mi wnaeth y breuddwyd a'r edrychiad gymaint o ar- graff ar J- L— na smociodd o byth, medda nhw." Ond drwy ymholiad, rai misoedd yn ddiweddarach cafodd yr ysgrifenydd allan mai dros amser y bu diwygiad J- L- yn hyn. Rhaid i mi gael dweyd un hanesyn eto cyn terfynu: Cafodd brofiad rhyfedd iawn mewn cysylltiad a'r tybaco, tua phymtheg mlynedd yn ol. Pregethai un bore Sabboth mewn ysgoldy mewn lie a elwid "Gwlad Canaan," y pryd hwnw ychydig o bentref Lime Spring. Yn ysgoldy yn gwrandaw yr oedd bachgen o Gymro, oedd newydd ymuno a'r Free Methodists. Un erthygl yn Nhyffes Ffydd yr enwad hwnw yw na all neb sydd yn ymwneyd a'r tybaco fod yn Gristion. Gyda fod y pregethwr o'r ys- goldy aeth y llano ato a dechreuodd arno yn ddiseremoni—fod ei ymwneyd a'r ty- baco yn gwrthdaro, yn gwrthweithio, os nad yn dyfetha ei holl waith fel Crist- ion! -Tystiai y j-hai oedd yn bresenol— a hawdd genyf gredu, o herwydd mae y Hanc yn siaradwr Ilithrig, yn hollol ben- derfynol o'i bwnc, ac yn hynod ddidroi yn ol mewn dadl-fod yr hen frawd wedi cael ei wthio yn ddisymwth i gongl ddigrifol a difrifol anghyffredin. Yr oedd yn hen gyfarwydd ag amddiffyn ei hun o flaen ymladdwyr duwinyddol, ond dyma ymladdwr yn cymeryd mantais gas arno, yn ei daraw, a hyny yn hollol duirybudd, megys yn mhwll ei galon. Mae yn ameus iawn genym a gafodd y fath brofiad yn ei oes ag a gafodd y boreu hwnw wrth ysgoldy Gwlad Can- aan. Anghofir yr hen arferiad anffodus yma o'i eiddo, ond cofir gan lawer am ei ddyddanion dyddan a'i bregethau tra byddant byw. Pery ei ysgrifau gwerth- fawr tra y pery yr iaith; a bydd i'r gwaith gwerthfawr a wnaeth am haner can mlynedd hyd Dalaethau y Gorllew- in yma ei osod yn ddiameu yn mhlith y rhai a fyddant fel ser byth ac yn dra- gywydd.
LMTHVR MRS. ELIZ t J. THOMAS.
LMTHVR MRS. ELIZ t J. THOMAS. Ei Phrofiad yn Nghylch Vasglu-Angen am Drysorfa Capeli Heir<ld— Efeng- yl wr I>ifrifol. TRACY, MINN., Awst 4.—Yr wyf wedi bod ar daith gasglyddol, a phan ar daith felly byddaf yn dod o hyd i ddau neu dri o bethau. (1,) Nid y bob! gyfoeth- og yw y rhai mwyaf parod i gyfranu. (2,) Bron yn ddieithriad mae y gwrag- edd yn fwy haelionus na'u g*wyr. Mewn mwy nag un amgylchiad wedi i'r gwr estyn ei rodd dyma y wraig heb ofyjj iddi yn estyn ei rhodd hithau. (3,) Byddaf yn dod o hyd i ddynion a merch- ed yn mhlith y Saeson yn llawn ysbryd cenadol a pharod i gynorthwyo achos crefydd mewn gwlad newydd, He bynag y bo yr angen. Tipyn o ameuthyn i mi oedd treulio ychydig ddyddiau yn Mankato, wedi bod i ffwrdd am 17 mlynedd. Treuliais amryw flwyddi yn y lie hwn, ond nid heb brofi y dail surion. Dyma y man y darfu ni golli ein bachgen hynaf. Da oedd genyf weled y fath gapel hardd gan y Cymry. Hawdd yw gweled wrth ei basio pwy mae Cymry Mankato am el anrhydeddu, o herwydd byddaf bob am- ser yn meddwl fod yr allanol yn aw- grymu yn lied gywir beth yw y mewnol. Mae ein capel ninau yma wedi ei or- phen; ac yn wir mae yn adeilad hardd. Saif ar gongl pedair ffordd, a rhes o goed tua 15 mlwydd oed ar yr ochr og- leddol iddo. Derbynied pawb ein di- olchgarwch am y cymorth maent wedi ei estyn i ni. Yr wyf bob amser yn meddwl y dylai fod genym fel enwad drysorfa adeiladu; arbedai hyny fyned oddiamgylch i gasglu, ac ni fyddai yr eglwysi yn gwybod dim oddiwrth gyf- ranu ychydig yn flynyddol i'r drysorfa. Pan gyphwynir hon fe fyddaf yn barod i gyfranu rhywfaint ati. Mae yr efengylwr Fellows, Minneap- olis, wedi bod yn yr ardal ar ei ffordd i'r Gorllewin. Un bregeth gawsom gan- ddo y tro hwn. Rhybuddia y bobl yn ofnadwy o difrifol rhag pechodau yr oes; a gesyd y ddawns, y cardiau, tori y Sabboth, arfer tobaco a trwyddedu saloons oil dan yr un pen. Ei destyn y tro hwn oedd "Wele, Satan a'ch ceis- lodd i'ch nithio fel gwenith;" ac yn sicr yr oedd yn bregeth hynod ddifrifol. Yr Arglwydd welo yn dda roi iechyd a nerth iddo am flynyddau lawer eto i godi ei lais i ddweyd am y perygl mae dynion ynddo. Mae dyn o'r enw Pritchard, o Blue Earth wedi prynu fferm, yma 160 o er- wau, o fewn ychydig dros ddwy filldir i'r capel newydd. Mae ty da a grove fawr a llawer o goed ffrwythau a ffynon arni; ond dim ond $2,500 dalodd am danL
t1.j YR r>V( H FEIKNI AID.
.j YR r>V( H FEIKNI AID. GAN Y PARCH. D. E. EVANS 1M. D ) KINGSTON. Pan adeiladwyd y deml yn Jerusalem rhaid oedd wrth ddefnyddiau daearol. Dyn hefyd fel yr oedd yn ei gyflwr isel a naturiol, oedd y cyfrwng trwy yr hwn yr oedd darparu, casglu, ac yna gosod yn nghyd nes gorphen yr adeiladaeth ag oedd yn "degwch bro a llawenydd yn holl ddaear." Eto nid y defnyddiau ag y gallesid eu gweled a Ilygaid o gnawd; ac nid dim o ddyn oedd yn gosod gog- oniant ar y deml; ond ei mewnol hi, yn neillduol ei sanctaidd sancteiddiolaf, yn cynwys y presenoldeb dwyfol. Felly hefyd am deml dynoliaeth ein Har- glwydd; yr oedd yn rhaid wrth ddef- nyddiau o'r byd hwn; a rhaid wrth ddyn. Eto, nid y pethau hyn roddent werth a gogoniant iddi hithau, ond y dwyfol yma hefyd. Y'mae teml bresen- ol ar y ddaear, teml y Gair; rhaid oedd i ddefnyddiau hon hefyd fod yn ddae- arol, a rhaid hefyd oedd wrth ddyn i'w dwyn yn nghyd, eu cymwyso a'u hadeil- adu. Ond yma fel yn y ddwy deml ar- all, nid y defnyddiau na'r dyn sydd yn rhoddi gogoniant iddi; eithr y Dwyfol ynddi hithau. "Ie, y mae gwendidau," meddai rhyw- nn, "yn mhob peth dyn." Oes, ond yr oedd defnyddiau y deml gyntaf yn ddae- arol, ac yr oedd defnyddiau teml ein. Harglwydd, fel y cafwyd hwy trwy Mair, yn cyfranogi yn helaeth o wen- didau dyn yn y cyffredin. *A oedd hyny yn tynu oddiwrth ogoniant y Ceidwad? Ai nid ychwanegiad ato oedd hyny? Beth os yw y dynol yn y Beibl yn cyn- wys llawer iawn o wendidau ymddang- osiadol, yn neillduol gwendidau mewn ymddangosiad i bob dysgeidiaeth ddae- arol, pa mor uchel bynag, mewn beirn- iadaeth? "Canys efe a dyf o'i flaen ef fel blagyryn a gwreiddyn o dir sych, &c. Y dyn anianol^' &c. Ceisir egluro a phrofi fod gwendidau ymdangosiadol allanolion y Beibi yn