Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
PLYMOUTH, LUZERNE CO., PA.
PLYMOUTH, LUZERNE CO., PA. PLYMOUTH, PA., Mai 2.-Hwyr y 23ain cynfisol, cynaliodd Cymdeithas Pobl leuainc capel y T. C. gyfarfod adloniad- ol, o dan arweiniad eu gweinidog, y Parch. R. E. Williams, ar ol yr hwn y caed gwledd gorfforol o'r fath oreu. Yr oedd yr adrodd, y canu, a'r dadleu yn dda, a gwnaeth y "Female" yn gystal a'r "Male Party" eu rhan yn rhagorol. Y mae mawr glod yn ddyledus i'r per- sonau hyny a gymerasant gymaint o lafur ac o boen i wneyd parotoadau ar gyfer y cyfarfod hwn; hefyd i'r ardal am y cynorthwy a roddasant iddynt. Cymerwyd rhan yn yr 'adrodd gan Lizzie James, Mordecai Prosser, Mable Phillips, Morris Williams, Deby Walt- ers, Grace Hughes, Willie Richards ac Ella James; yn y canu gan Maggie Rees, Gertie Jones, Ruth Hughes, Viola Da vies, D. H. Davies, Grace Evans a Myf- anwy Davies, a chyfeiliwyd gan William Jones a Lodwick Davies; yn y dadleu gan Edith Walters a'i pharti, Lizzie Walters a Jennie Owens. Gwasanaeth- pwyd wrth y byrddau a chyda'r arlwyon gan Misses Lizzie Morgans, Lizzie Walt- ers, Mamie Prosser, Phebe Jenkins, Mary Thomas, Rachel Evans. Mary Williams, Grace Johes, Maggie Williams, Annie Closs, Lizzie Thomas, Mrs. R. E. Williams, Mrs. James Price, a Mrs. Thomas R. Evans; yn nghyd a Messrs. William Arthur, William Owens, Llew- ellyn Owens, Johny Hughes, David D. Morgans, Griffith D. Jones, Rees Jones, Morris Hughes, ac Abraham Jones. Beirniadwyd y cystadleuaethau gan Mri. D. J. Evans, Thos. R. Evans a William Lewis. Y mae golwg hardd ac addawol ar y Gymdeithas hon, a gall wneyd mawr les i'r ieuenctyd. Y mae swn yn y gwynt yn awr eu bod yn myned i baro- toi ar gyfer entertainment arall ar un- waith, o'r un natur ag a gafwyd y Nad olig, yr hon a roddodd foddlonrwydd cyffredinol. Hyderwn mai felly y bydd Methwyd a chael y mwyafrif «"r eg lwysi i ymuno i groesawu yr efengylwr Mr. Moody i'n tref yn y misoedd dyfod ol, a hyny yn benaf o herwydd fod v costau yn fawr, a'r amser yn ddrwg. Ond gan nad yw Wilkesbarre ddim yn mhell, dysgwylia rhai o honom gael ei glywed yno; ac ni hyderwn y lledaenir y tan santaidd i'r gymydogaeth hon. Gwaith da sydd wedi ei gychwyn yn ein tref o godi fund i gynorthwyo gwedd won ac amddifaid y trueiniaid a gollodd eu bywyd yn y Slope. Deallwn fod rhai wedi myned at gyfoetiiogion dinas New York i ofyn eu hewyllys da, a'u bod yn derbyn rhoddion tywysogaidd ganddynt. Gwanaidd yw masnach yn dal yn ein tref, ond coleddir gobeithion am amser gwell. Os y deil cloddwyr y glo meddal i sefyll allan yn hir, dysgwylir y bydd iuwy o alw am 10 caled. "Fu drwg er- ioed na fyddai dda i rywun," ebe yr hen ddiareb, felly y darogenir y bydd gyda'r streic fawr bresenol. Y mae yr holl wiithfeydd yn gweithio ychydig fwy o amser yn bresenol D2g yr oeddynt y m:'s diweddaf. Brysied yr amser y ca pawb weithio amser llawn, yw dymuniad.- Shadrach.
[No title]
U ndodiaid yw yr unig enwad crefydd- ol i wneyd arddangosiad yn Ffair Ganol Auafol San Francisco. Gwrthododd yr enwadau eraill, am y cedwir y Ffair yn agored ar y Sabboth. Yn arddangosiad yr Undodwyr ceir darlun o'r offeiriad Pabaidd aeth yn genadwr gyntaf i Cali- fornia. b
DYDDIAU MEBYD YN NGHYMRU.
DYDDIAU MEBYD YN NGHYMRU. Adgofion Bore Oes yn Nghymoedd Eryri- Xaitli i'r Deheudir. GAN GWILYM ERYRI. Wedi hyny cariodd bob un ei gwdyn ar ein hysgwyddau, ac ymaith a ni trwy waith Brynfelin, tua'r Gymwynas, sef Aberglaslyn. Gwelsom yr hen glochydd ac Evan Owan yn pysgota yn y dyfnder islaw. Eisteddasom ar yr hen wal geryg i syllu ar y creigiau ysgythrog, ac ar y geifr oedd yn dringo y cyfryw greigiau; yr oeddynt newydd gael eu hymlid gan Matt Gruffudd Prys, yr hwn oedd fel ei feistr yn llawn gwenwyn. Byddai yr hen godo hwnw yn ddyddiol yn hysio yr hen Fot ar ol geifr Craig y Llan. Yr oeddym ein tri yn cydymdeimlo a'r geifr, ac yn eu hanog i ddod gyda ni i Ferthyr allan o gyraedd Mott a'i feistr. Rhodd- asom ffarwel i gadair Rhys Goch Eryri, ac i'r Lady Wen. Y mae traddodiad yn dweyd mai yn y gadair hon y byddai Rhys Goch yn cyfansoddi ei gywyddau; os felly, dewisodd y llecyn mwyaf rham- antus yn holl Gymru. Un tro, tra yn cyfansoddi cywydd i'w rian, ymddangos- odd hono iddo yn sylweddol,mewngwisg wen yn dysgleirio fel yr haul, gan eistedd wrth ei ochr; a chan fod ei gwisg mor ddysglaer gadawodd ei delw ar y graig, yr hyn sydd yn aros yn ganfyddadwy hyd y dydd heddyw. Cofied y darllen- ydd nad oeddym ni y bechgyn yn talu sylw o gwbl i hen draddodiadau fel y gwnai yr ymwelwyr wrth y miloedd; byddem yn rhyfeddu ac yn dwbwl synu uwchben y canoedd fyddai yn talu ym- weliad a bedd y ci Gelert, yr hwn a ladd- odd Tywysog Llewelyn, ond wedi i ni gael synwyr ar ol ymadael a'r ysgol ddyddiol, cawsom ar ddeall y dirgelwch, a daethom i werthfawrogi pethau hen- afol. Yn y Pass hwn hefyd y byddai Glas ynys yn cyfansoddi ei fugeilgerddi. Yr oedd swn disgyniad y dyfroedd rhwng y clogwyni, a'r echo oedd yn ei gynyrchu o'r naill graig i'r Hall, heb son am ar- ddunedd yr olygfa, yn ddigon i gynyrchu awen mewn corff marw. Pa ryfedd fod un o allu Glasynys yn dewis y fath lan- erch tuag at oglais ei awen. Yr ydym ein tri yn hanu o hiliogaeth y beirdd, ac er mor ieuanc oeddym, fflamiodd dwy linell i geg Gruffudd tra yn eistedd ar yr hen wal hono fel hyn: "Dyma ni yn myn'd i daith, at foys y South i chwilio am waith;" ac meddai Dafydd, "yn car io'n cydau ar ein cefn, cawn ddyfod adra ar ben y goach fawr." "Na," meddai Gruffudd, "dydi hwna ddimynganu." "Ydi," medda Dafydd, ac aeth yn ffrae wyllt; ac o'r diwedd yn gwffast, a thafl- odd Gruffudd gwdyn Dafydd i'r dyfnder islaw, a chariodd y lli hwnw hyd at bont Aberglaslyn. Cafwyd ef allan o'r dwfr ac eisteddasom ar y bont. Rhoddais wers reit dda i'r ddau, yn nghyd a'u hanog i roddi heibio farddoni am byth, ac am a wn i na wnaethant hyny, gan na welais bwt o waith yr un o'r ddau o hyny hyd y dydd heddyw. Yr wyf yn credu y buasai yn fendith i filoedd i wneyd yr un peth; buasai llai o ffraeo a chwffio wedi cymeryd lie yn ngwlad y menyg gwynion. Wel, dyma ni wedi cyraedd Pont Aberglaslyn bellach. Er gwybod pa ffordd i droi, pa un ai trwy Llanfrothen, ynte trwy Porthmadog, tynwyd para docyn, a blewyn Llanfroth- en gariodd y dydd, fel y bu yn iechyd i esgyrn holl ieir ffordd Porthmadog. Wel, hogia, dacw Robin a William Robart y Rabar yn dwad; gadewch i ni ei chychwyn hi, onide fe ddywedant yn y pentra iddynt ein gwel'd yn ffoii'r South, a bydd yn rliaid anfon Die Goodman y cwnstabl i'n dal. Cyfarchodd Robat William ni, gan ofyn lie yr oeddym yn myn'd. Atebodd Gruffudd mai i'r Pen- rhyn i hel cocos. Holodd William Robat Dafydd yn fanwl, a dywedodd Dafydd nad oeddym yn myn'd yn ddim pellach na'r Fedw-Fudr i hel eirin. Beth bynag i chwi, cawsant allan mai i'r South yr oeddym yn myned, a dechreuodd y ddau ein cyngori sut i wneyd wedi myned yno, gan ddweyd fod yno wlad ofnadwy, ac mai cymysgfa o bobl anwaraidd oedd yn byw yno Ychydig iawn o Gymry oedd yn byw yno-Ffrancod a phobl dduon oedd y rhan fwyaf, ac nid oedd yn ddich- onadwy i ni allu dysgu eu hiaith. Buas- ent yn ein gosod o dan y ddaear am chwe mis er mwyn duo ein crwyn a dysgu yr iaith. Pa fodd bynag, rhoddodd Dafydd fenthyg chwechyn i Robin am beidio achwyn pan elai i'r pentra, felly ymaith a ni yn benderfynol, gan addaw peidio gwrando ar neb. Wedi cerdded rhyw ddwy filldir dechreuodd y cylla alw am gynorthwy i gynal y cyrff i gerdded, felly troisom i fewn i'r Tlyrni, lie caws om bob un bowliad o fara llaeth. Holodd yr hen Forris ni yn ddidrugaredd. Dywed- wyd wrth hwn mai i 'Stiniog i rybela yr oeddym yn myn'd. Er fod yr hen flaen. oriaid wedi ein rhybuddio lawer gwaith i sefyll ar y gwir, fe ddarfu iddynt ang- hofio dweyd wrthym am deithio i'r South ar y gwir, a chan i Robin Rabar ddweyd wrthym nad oedd neb yn y South yn gwybod beth oedd peth felly, felly na feied y darllenydd ni am arfer moddion i achub ein penau. Yr oedd ein hen ysgol- feistriaid yn gyfrifol i raddau pell am hyn. Canasom yn iach a'r Tlyrni. Yr oedd dwy iar ar ben y gamdda, ac yr oedd y demtasiwn yn ormod i Gruffudd-cod- odd gareg, tarawodd un yn sopan i lawr- Gwelodd Morris hyn, a gorfu i ni ei heglu hi nerth y carna. Yr oedd rhyw ysfa ryfeddaf yn nwylaw Gruffudd, fel pa bryd bynag y gwelai ieir ei fod yn fyw trwyddo, ac yr oedd yn anelwr digurot Dysgodd hyn ar domenau yr Inn, a llaw- er cyflafan ddifrifol fu ar yr hen domen- au hyny. Yno y byddem yn cael gwared a'r felancoli, ac hefyd ddial cam ar ol cael ein cwrbanu gan aelodau yr Inn; ac ar yr hen domenau hyn y byddai canoedd o gywion ieir yn dysgwyl dydd eu dien. yddiad tuag at ddiwallu angenrheidiau y gwesteiwyr, ond byddai lluaws yn ewrdd a'u diwedd gan y sharp shooters cyn y dyddiau penodol i'w parotoi i'r bwrdd. Aethom yn mlaen hyd at y Fedw Fudur. Yr oeddym yn gwybod am y llecyn hwn yn eithaf. Yr oedd dwr yn rhedeg o'n danedd er's meityn cyn cyraedd y llanerch ddeniadol. Gardd yn llawn o eirin duon o faintioli afalau surion oedd yn y Fedw Fudr; pa un a oedd yr ardd yn rhydd i bawb elai heibio gymeryd yr eirin heb ganiatad yr hen Shiani fel free lunch ai peidio, yr oedd yr ardd wrth ochr y ffordd mewn trofa, ac yr oedd yr olygfa ar yr eirin yn addfed ac yn pwyso y cangenau yn fendigedig o ddeniadol, a'r demtasiwn yn ofnadwy i hogia bara ceirch a llaeth. Dywedodd Gruffudd wrthym nad oedd dim drwg i'w cymeryd—iddo gael caniatad gan yr hen Shiani bob tro yr elai heibio i Factri Park, felly cymerasom yn ganiataol fod hyn yn ddigon i'n cyfreithloni i lenwi ein cydau ar ein taith, ac nad oedd Gruff- udd yn efelychu act Efa i'n twyllo yn ngardd yr hen Shiani, ond buan y caw- som allan mai ein twyllo gawsom, canys daeth yr hen Shiani allan gyda chi mawr, a rhuthrodd hwnw i Dafydd, cymerodd afael yn mhen ol ei glos, a gwnaeth y rhan hwnw yn rhibwns ufflon. Neidiais dros y gwrych ac ymaith a fi fel y fell- dith. Arosais am ysbaid i ddysgwyl y ddau, a phan ddaethant yr oedd golwg ar y ddau fel pe buasent wedi bod trwy ffactri wlan; yr oeddynt yn edrych yn fwy tebyg i'r hen Ewa na'r un dau wel- ais yn fy mywyd. Gorfu i mi ranu fy eirin rhwng y ddau ac yna yn mlaen a ni i'r daith.
GOHEBIAETH ATHRYWYN.
GOHEBIAETH ATHRYWYN. Y Streic Fawr yn Illinois-Cyffro-Yr Eth- oliadau Diweddar. SPRING VALLEY, ILL., Mai 1.—Y mae yn y cylch hwn-Spring Valley, Ladd, Seaton, Loecyville, Peru a La Salle, o leiaf 4,000 yn gweithio yn ac o gylch y pyllau glo, ac er yr 21ain o Ebrill y mae pob offer yn llonydd, a phob enaid yn teimlo dyddordeb yn y symudiad cyffgred inol hwn yn mhlith cynrychiolwyr y black diamond yn y Talaethau Unedig. Yr ydym ni yn y parthau hyn yn gor- fod llawnodi contract blynyddol cyn cael trwydded i weithio yn ac o gylch y glo- feydd, ac nid oedd y cytundeb uchod allan hyd ddiwedd Ebrill; eto mae yn debyg na allesid penodi un dydd i ateb pawb, felly yn ddibetrus daeth pawb o honom allan ar y dydd penodedig. Sab- both, yr 22ain, hysbyswyd pobl y lie hwn fod nifer fawr yn La Salle yn myn- ed i weithio dydd Llun. Aeth y gair ar y trydan ac adenydd y gwynt i'r man leoedd cylchynol, a thua 3 o'r gloch y bore canlynol yr oedd y brass bands yn gwysio cleciadau cerdd i gywair pob ystafell. Gorymdeithiwyd yn drefnus a heddychol i La Salle. Cyraeddwyd yno yn blygeiniol cyn awr gwaith, ac atal- iwyd rhawd yr angliydffurfwyr, heb ond i un tra rhyfygns gael un niwed. Yn fuan deallwyd fod lie newydd i'r de oddiyma a elwir Toluca yn parhau i weithio, ac er fod 28 milldir y ffordd fyr- af i gyraedd yno, tua 3 o'r gloch pryd- nawn dydd Iau diweddaf yr oedd o bob ardal yn y cylch a enwyd uchod tua 4,000 ar eu ffordd i Toluca, yn cael eu cyfarfod yno gan tua 1000 o fanau eraill. Mr. Devlin, hen oruchwyliwr y lie hwn cyn streic ofnadwy '89, ydyw y prif oruchwyliwr yn Toluca, ac eiddo ef a'r Santa Fe ydyw y gwaith. Wedi clywed am symudiad y byddinoedd a nodwyd ar y gwersyll, pellebrodd y treiswr hwn at yr awdurdodau yn mhob man atp gym- orth, gan gamddarlunio pethau trwy dwyll a chelwydd. Ar hyn penderfyn- odd yr acting Governor Gill fyned ei hunan i gyfarfod y fyddin fawr o weith- wyr cyn galw un milwr i'r maes. Caf- wyd cyfarfod cyhoeddus, llefarodd Gill ac eraill, ac nid oes un wedi myned i weithio yno hyd yn hyn beth bynag. Yn awr, yr oedd yn Toluca filoedd o ddyn- ion cloffion a dolurus 28 milldir o'u car- trefi. Gorchymynodd y Llywodraethwr gerbydres arbenig i'w dychwelyd adref yn rhad ac am ddim. Cymerodd 28 o gerbydau. Gan fod y mwyafrif o'r glo wyr yn y lie uchod yn bobl dduon, ofnir yr ant i weithio eto; ond caed newydd heddyw oddiwrth y peirianwyr a'r tan- wyr ar y rheilffyrdd na thynant un car o scab coal. Y mae hwn yn symudiad mawreddog a theilwng, ac hyderwn y bydd y canlyn- iad yn elw i'r wlad yn gyffredinol. Y mae y gwahaniaeth rhwng y pris a delir am gynyrehu glo, a'r pris a ofynir yn y farchnad am dano, fel rheol, yn afres ymol. Yn yr etholiad diweddar gwnaed trwy ewyllys y bobl yn Ladd, Ill., y bardd a'r llenor J. R. Thomas (Sciwenydd) yn us- tus heddweh; y mae ei gyfeillion yn ei longyfarch, ac efe oedd yr unig Gymro yn y township hwn dderbyniodd un an- rhydedd o'r fath yn yr etholiad. Hefyd, y mae y Cymro tawel a dich- lyn Thomas Walters, gynt o Cleveland, Iowa, yn dechreu bore yfory ar ei oruch- wyliaeth fel boss mewnol yn ngweithiau Ladd, yn lie William Baxter. Y mae hyn yn newydd da i lawer, canys yr oedd Baxter yn rhy gul genedl-bleidiol. Pas- iodd Tom ei arholiad yn anrhydeddus y gauaf diweddaf. Thomas L. Jones, cyn lywydd y bwrdd trefol, yw y top boss. Cymro i'r earn yw Tom, ac yn hael yn mhob achos da; y mae ef wedi gwneyd mwy dros gynydd a diwylliant y dref efallai nag un triawd yn y lie. Yn Spring Valley etholwyd J. B. Stone, yr is oruchwyliwr ar y bwrdd trefol, trwy fwyafrif mawr. Y nef a'i helpo; y mae cenedlaeth gwiberod ganddo i gyd- eistedd ag ef, rhai o honynt yn warth i gymdeithas waraidd. Parhau mae y bwrdd ysgol i gael ei lywodraethu gan Rufain, er fod y Hyw- ydd a'r prif athraw yn profféSu bod yn rhywbeth arall. Cwrcydant i blant Mari.
! Cymanfa Cynulleidfaolwyr…
Cymanfa Cynulleidfaolwyr Dwyreinbarth Ohio. Cynelir y Gymanfa uchod yn Tal- madge, ar y dyddiau Gwener, Sadwrn a Sabboth, Mehefin 1-3. Pregethir nos Wener. Cynelir y cynadleddau ddydd Sadwrn. Dysgwylir i'r Parch. B. Har- ris, Alliance, i bregethu ar y pwnc gos odedig, sef "Gonestrwydd Crefyddol." Cofted yr eglwysi am yeasgliad arferol ar gyfer treuliau y Gymanfa.—J. P. Williams.
[No title]
-Dymuniad Cadwgan Fardd i Miss Edith Rees, merch y Parch. LI. Rees a Mrs. Rees, Morrellville, Johnstown, Pa.: Edith gu dy daith i gyd-a fyddo Yn foddus a hyfryd; Heb awel groes, ond bywyd Yn llawn hedd a llon o hyd. Duw'r cariad o'i rad a rydd-ei wenau Daionus it' beunydd; I rodio 'n llaw gwaredydd, I wlad Ion at engyl dydd. —Cadicgan Fardd. -Dywedir fod 32,000 milldir o wifr dan heolydd New York, -sef gwifrau pell- ebrol, pellseiniol a golenni trydanol.
O'R WESTERN RESERVE, OHIO.
O'R WESTERN RESERVE, OHIO. Yn Marw ar y Ffordd i Gladdu ei Dad—Cyf- alaf a Llafur-Ymladd y Saloons— Llenyddol, &c, QAN IOAN YSTWYTH. YOUNGSTOWN, 0., Mai 3.—Dywedais yn y DRYCH am y 26ain, fod yr hen fam dduwiol Mrs. Evans, Weathersfield, yn wael ei iechyd; erbyn hyn mae genyf i gofnodi i'r hen elyn creulawn angan ddyfod heibio gan ei chymeryd hi yma ith ganol yr wythnos ddiweddaf. Gellir yn ddifloesgni ddweyd ei bod wedi myned oddiwrth ei gwaith at ei gwobr. Bu farw fel y bu fyw, a'i phwys ar yr Iesu. Ei hoedran ydoedd 84 mlwydd. Cafodd angladd barchus a lluosog iawn dydd Sul diweddaf, si chladdwyd hi yn Weathers- field, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Ebenezer Evans a D. J. Davies o'r ddinas hon. Wyr iddi hi ydyw y Parch. Richard E. Roberts (T. C.), Eb- ensburg, Pa. Teimlir chwithdod ar ol yr hen fam dduwiol hon, ond gellir cyfleu yr adnod hono yn rhwydd at yr ymadawed- ig, "Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn meirw yn yr Arglwydd." Yn y sylw wnes o waeledd yr hen fam uchod yn y DRYCH o'r blaen, darllener am ddegau o flynyddau yn lie "deg" o flynyddau. Un o drigolion henaf a pharchusaf trefgordd Weathersfield ydoedd Evan Davies, Niles, yr hwn a hunodd yn yr angeu ar ol byr gystudd o'r pneumonia. Ganwyd ef yn Nghymru, Hydref, 1824. Symudodd i'r drefgordd uchod oddeutu 45 mlynedd yn ol, a bu yn byw yno oddi- ar hyny hyd nes ei gymeryd ymaith gan angeu. Bu am flynyddau yn oruchwyl- iwr ar felinau rholio James Ward & Co. yn Niles. Yr oedd yn Township Trustee er's chwe mlynedd. Gadawodd amryw blant i alaru eu colled ar ei ol, ond maent oil wedi tyfu i fyny. Cafodd gladdedig- aeth barchus, pryd y cymerwyd rhan gan Gyfrinfaoedd yr Odyddion a'r Maswniaid Rhyddion. Torcalonus i'r eithaf yn nglyn a'r am- gylchiad uchod ydoedd marwolaeth Thomas, un o feibion yr Evan Davies uchod, yn Chicago, pan ar ei ffordd ad- ref i angladd ei dad. Athraw yn yr Im- becile Asylum yn Elgin, 111., ydoedd y mab hwn, ac mae amgylchiadau ei far- wolaeth yn codi y cwestiwn, A ddarfu iddo gael ei lofruddio, oblegid cafwyd ef a'i benglog wedi ei falurio yn basement y Custom House yn Chicago. Cydymdeim- lir yn fawr a'r teulu hwn yn eu trallod blin. Gwneir ymgais taer gan amryw o'r trethdalwyr yma tuag at newid dull y llywodraeth ddinasol yn ein dinas, sef cael barnydd heddgeidwadol yn lie maer, neu ethol y cyfryw i wneyd gwaith maer, ac yna ni fyddai y swydd faerol yn unig ond mewn enw. Dosberthir deisebau gan y Maer Miller a'i gyfeillion i'w har- dystio gan y sawl sydd yn ffafriol i beth au fod fel ag y maent am ei dymor ef; dosberthir deisebau gan yr ochr arall er newid pethau yn awr. Delir y byddys drwy fabwysiadu y dull newydd yn cyn- ilo miloedd oddoleriyn flynyddol. Tebyg mai yr ochr ga fwyaf o enwau o'i phlaid garia y dydd. Yn bersonol, credwyf mai teg fuasai gadael y tymor hwn ddirwyn i ben, gan fod Mr. Miller wedi myned i gost a thrafferth tuag at gael ei ethol yn faer. Cynaliwyd cyfarfod brwdfrydig gan yr Anti-Saloon League yma. Yr amcan mewn golwg gan y bobl dda hyny wrth gynal y cyfarfod uchod oedd, pasio pen- derfyniad tuag at roddi deisebau yn nwy- law y cyhoedd i'w hardystio gan bawb ag sydd yn caru gweled cynydd mewn sobr- wydd, yn ogystal a gweled rhif y salwns yn lleihau. Danfonir y deisebau i'r cyn- rychiolydd Montgomery yn gofyn iddo bleidleisio dros fesur Haskel. Mae y mesur yn gam tuag at ysgubo allan o fodolaeth amryw o'r tyllau aflan sydd yn ein dinas. Meddylier am yn agos i 300 o dafarndai mewn dinas o 40,000 o boblog- aeth! Mae yn ofnadwy, a dylasai pob Cymro a Christion wneyd ei oreu tuag at wella y sefyllfa. Dywedir y bydd Eisteddfod ar raddfa eang yn cael ei chynal yn Sharon, Pa., y Nadolig nesaf. Cyhoeddwyd un i'w chynal yma hefyd dan nawdd yr Iforiaid, ac i'w chynal yr un dydd, oddiar lwyfan yr Eisteddfod Nadolig diweddaf; a sib- rydir hefyd y bydd gwech Eisteddfod i'w chynal yn Cleveland y Nadolig. Os gwir yr hyn oil a glywir mawr fydd ein breint- iau Eisteddfodol tua'r gwyliau nesaf. Go ahead, boys. Jesse Francis sydd fachgenyn tua 14 mlwydd oed, ac yn fab i'r doniol Daniel E. Francis, Alice Street, y ddinas hon. Er ieuenged Jesse, y mae wedi ei benodi yn negesydd (page) yn Nhy y Cynrych- iolwyr yn Columbus drwy ddylanwad y cynrychiolydd Montgomery, allan o law- er o ymgeiswyr. Dywedai y Vindicator, un o'r papyrau dyddiol: "Jesse is a bright boy and will soon be passing bills himself." Mae y cyflog yn $75 y mis. Da iawn Jesse bach; hei lwc it ddyfod yn Jesse mawr. Yn ddiweddar yn yr hydref diweddaf daeth y Parch. D. Jewett Davies yma i wasanaethu diadell fechan y T. C. dros y gauaf; yn awr, mae yr eglwys wedi estyn gwahoddiad iddo aros yma am chwe mis neu flwyddyn yn rhagor ar yr un telerau, sef yr hyn allasai yr eglwys wneyd. Nid ydyw M r. Davies wedi ateb eto. Carasai llawer hebl aw yr ysgrifenydd gael gwybod beth sydd wedi dyfod o'r pwyllgor sydd a'r Gymanfa Ganu Un debol dan ei ofal. Bu twrw mawr yn y gwersyll tuag adeg y Nadolig diweddaf am y Gymanfa Ganu, ond os gwybyddir pa le mae y pwyllgor gan rywun neu rywrai, da chwi dywedwch wrth filoedd darllenwyr y DRYCH. Yn awr, fechgyn, deffrowch o'ch cysgadrwydd, a gadawer i ni gael y wledd yr haf dyfodol fel na'n siomir ni. Mae yr Anrh. Anthony Howells, y Consul o Gaerdydd, ar ei ffordd i dalu ymweliad a'i gartref. Mae Mr. Howells yn aelod o Gymdeithas Dewi Sant yma, ac mae y Gymdeithas wedi penodi pwyll- gor o Gymry pybyr a gweithgar tuag at roddi derbyniad teilwng i'r brawd an rhydeddus. Mae rhagolygon am gyfar- fod adloniadol llewyrchus o dan nawdd y gymdeithas uchod, nos Wener, Mai 4ydd. Rhoddir gwobr am y datganiad goreu o unrhyw unawd i soprano, "Daughter of the Senate," i rai dan 16 oed, am adrodd "Y Bachgen Dall a'i Chwaer," araeth ddifyfyr, &c. Mae yma ddysgwyliad mawr am glyw- ed Miss Rosina Davies. Meddyliasom na chawsem y fraint o'i chlywed, ond chwythwyd ein hofnau i ffwrdd gan y DRYCH. Gyda bod agwedd pethau yn fasnachol yn gwella yn y cylchoedd hyn-melinau rholio a man weithfeydd fel pe yn dech- reu adfywio, dyma dristweh, ofn ac an- sicrwydd yn cymeryd meddiant o bawb yn y ffaith fod y glowyr wedi dyfod all- an ar y streic. Os parha yn hir fe fydd ein dinas mewn ystad hollol segur, obleg- id ni ellir rhedeg y gweithfeydd mawr- ion yma heb lo. Mewn gwirionedd mae rhai gweithfeydd yn y cylchoedd wedi sefyll o achos hyn eisoes, a rhagor ar sef- yll. Mae yn fwy na thebyg y bydd i ffwrneisiau blast sefyll o herwydd prin der golosg. Gobeithio na ddaw pethau i'r pwynt yr ofnir.
JOHN P. ST. JOHN.
JOHN P. ST. JOHN. GAX IAGO DDU, WAUKESHA, WIS. Dyma enw sydd bellach mor adnabydd- us trwy y Talaethau Unedig ag unrhyw un o'i meibion clodfawr. Ganwyd ef yn Brookville, Ind., Chwef. 25, 1833, o rieni tlawd. Cychwynodd tua California pan tua 18 oed; yna aeth i Mexico, South America, a'r Sandwich Islands; ac ar ei deithiau cymerodd ran flaenllaw yn y rhyfeloedd Indiaidd yn California ac Or- egon. Yn 1859, symudodd i Illinois, ac yn Charleston, Ill., cymerwyd ef i fyny yn ol rheolau y "Black Laws" am gyn- orthwyo hogyn du i ddianc o'i gaethiwed. Plediodd yn euog, a rhyddhawyd ef. Yn 1862, cafodd ei dderbyn at y;'bal. yn dwrne. Yn fuan ymunodd a'r fyddin Undebol, a bu yn gwusanaethu fel Cap- ten, Major, a Lieut. -Colonel ynyfyddin. Wedi darfod y rhyfel bu yn arfer y gyf- raith yn Independence, Mo., o 1864 hyd 1868. Yn 1869 symudodd i Olathe, Kan- sas, lie mae ei gartref presence [Cafodd ei ethol yn Seneddwr Talaethol yn 1872, yn Llywydd y Dalaeth yn 187S a 1880. Yn ystod tymor diweddaf ei lywyddiaeth cafodd lwyr droedigaeth i fod fyn Wa- harddwr; cyn hyn yr oedd yn Werinwr o'r fath fwyaf selog. Gadawodd y blaid Werinol am y rhes- wm i'w cynadledd yn 1884 beidiojpasio penderfyniad o gydymdeimlad a Gwa- harddiaeth, a bu cryn dwrf a therfysg ar y pryd yn y gwersyll Gwerinol. Yr un flwyddyn cafodd ei benodi i redeg am yr Arlywyddiaeth ar y tocyn Gwaharddol, a chododd y bleidlais Waharddol o 10,366 i Dew ei raglfaenydd, i 150,626 iddo ef. Pryd yma y dechreuodd y blaid dynu sylw ac enill nerth. Cyraeddodd y bleid- lais trwy yr holl Dalaethau yn 1886, i 294,863. Yn fuan wedi ei ymadawiad a'r blaid Werinol a'i benderfyniad i redeg ar y tocyn Gwaharddol, dechrenodd ei gar- iad cyntaf (trwy y wasg) dywallt cwpan ei llidiowgrwydd ar ei ben. Ni ddyodd- efodd merthyr politicaidd erioed fwy na St. John. Galwyd ef dan bob enw gwat- warus, Iluchiwyd celaneddau drygionus ato, dirmygwyd ef fel adyn duaf y ddaear a llosgwyd ef mewn effigy gan ei elynion! Beth oedd ei drosedd ? Dim, ond iddo fyned dan argylweddiad mai gwahardd y fasnach feddwol oedd ei ddyledswydd fel dyn a Christion, a bod ynddo ddigon o wroldeb moesol i sefyll yn gyhoeddus dros hyny. Ar fin dydd yr etholiad, pan oedd pob peth yn rhedeg yn deg ac esmwyth, a St. John ar ei yrfa areithyddol yn enill pobl wrth yr ugeiniau a chanoedd i rengau y Gwaharddwyr, wele daranfollt fel o wybren glir a digwmwl yn disgyn ar glustiau pobl America, yn mron yr holl wasg Werinol yn eylioeddi ag un anadl, "St. John wedi gwerthu allan i'r Demo- cratiaid," Nid oedd amser cyn yr ethol- iad i wadu y celwydd; yr oedd yr effaith yn drydanol a niweidiol; collodd St. John ganoedd os nad miloedd o bleidleis- iau. Yr oedd hanes y cynllwyn yn deb- yg i hyn: Daeth un Legate (politician wedi rhedeg allan) at J. S. Clarkson, cad- eirydd y Bwrdd Gwerinol Cenedlaethol, gan ddweyd wrtho fod ganddo awdur- dod oddiwrth St. John i wneyd cytundeb ag ef neu y Bwrdd Gwerinol Cenedlaeth- ol am gynorthwy i St. John. Gwnaeth Clarkson gynyg trwy Legate, yr hwn oedd dwyllwr, i brynu St. John drosodd i Blaine, yr hwn gynyg brofodd yn af- lwyddianus. Y mae Clarkson, mewn ymddyddan gyda gohebydd y St. Louis Globe-Democrat (Rep.), Ionawr 13, 1885, yn cyfiawnhau ei hun fel hyn: "Teimlwn ei bod yn iawn, pe gallaswn wneyd hyny, o symud y rhwystrau oddiar ffordd y blaifi Werinol, a'r achos dirwestol, trwy symud- iad St. John o'r ffordd. Nid oedd genyf ameu- aeth nad oedd yn iawn i ddynichwel y blaid Ddemocrataidd trwv foddau bradwrus a gau, pe's gallesid gwneyd hj-ny. Nid wyf am gelu fy nghred fod St. John yn elfen yn y rhedegfa y dylid cael gwared o hono, neu ynte o'r hyn lleiaf y dylai gael ei reoli gan y Gwerinwyr os oedd yn myned i gynorthwyo unrhyw blaid." Am na chymerai St. John ei brynu gan Clarkson, cymerodd yn ganiataol ei fod wedi ei brynu gan y Dems., a chyhoedd- odd yr anwiredd ledled y Talaethau. Er fod St. John wedi gwadu y gwerthiad trwy y wasg, ac ar yr areithfan, drosodd a throsodd, y mae miloedd hyd y dydd "hwn yn credu yr ystori. Ni ledaenwyd y gwadiad erioed fel y lledaenwyd yr an- wiredd. Nid oes cymaint a hyn o deg- wch eto wedi cyraedd cydwybod y wasg Americanaidd, oddieithr mewn rhai eithr- iadau. Y mae hyn yn beth i dristau o'i blegid, ond y mae yn wirionedd. Yn boliticaidd, "Trechaf, treisied; gwanaf, gwaedded," yw y rheol. Dywedai John J. Ingalls, o Kansas, "Nad oes le i'r gyf- raith foesol mewn politics," Tra yn Gravesend, credai McKane hyny yn ddi- ameu. ond beth yw ei farn heddyw yn Sing Sing ? Nid yw St. John eto wedi ei ladd. Y mae y wlad yn teimlo oddiwrth ei ym- resymiadau a'i hyawdledd o hyd; y mae yn enill nerth, ac yn enill edmygwyr bob dydd. Diau fod y rhai gafodd droedig- aeth drwyddo mor lluosog neu luosocach nag un dyn ar y llwyfan Americanaidd. Er 1884 y mae yn mron yn gyson yn yr areithfa-yr hanes diweddaf welsom am dano oedd ei ddadl gyda Gwerinwr en- wog yn Chicago. 0 ddechreuad isel a thlawd, mae St. John wedi ymgodi yn uchel a gwneyd gwaith mawr. Calondid eto i fechgyn Cymreig i ddringo i fyny. Mynwch wybod eich bod ar yr iawn, yna sefwch ar y graig hono pe bae y ddaear yn symud. Hen lwynog politicaidd cyfrwysddrwg a diegwyddor ydyw Clarkson. Efe yw perchenog, a golygydd mewn rhan, yr Iowa State Register; y mae hefyd yn dad i lawer o driciau a gweithrediadau pech adurus. Yr oedd ar y blaen yr wythnos- au diweddaf i gael gan ddeddfwyr Iowa i roi eto hawl i'r salwns agor o fewn ei therfynau. —Y mae Blumencron, golygydd y u '5 "Fremdenblatt," Vienna, dros 90 oed. ond yn edrych ar ol ei bapyr mor ofalus ag erioed. —Dathlwyd cant ac unfed pen blwydd De Bossy, meddyg enwog yn Havre, Ffrainc, yn ddiweddar, ac y mae yr hen wr eto yn ddigon heinif i wneyd gwaith mawr fel meddyg.
0 MILWAUKEE I IOWA.
0 MILWAUKEE I IOWA. Ar Neges Ddrycli-ol-Cyniry Selog-Yr Eg- lwysi Gyuueig-Tir Da ac Amaeth- wyr Cefnog. GAN W. E. EVANS, MILWAUKEE. Dydd Mercher, yr lleg cyfisol, gadew- ais ddinas Milwaukee gyda'r bwriad o ymweled a rhai o sefydliadau Cymreig Iowa a Nebraska ar ran y papyr Cymreig Talaethol, y DRYCH. Bum o'r blaen ar deithiau cyffelyb trwy Dalaeth. arall dros ei gydymgeisydd blaenorol, yr hwn erbyn hyn, ys dywed Gwilym, "sydd wedi ei gladdu yn mynwent y DRYCH," ond er wedi marw, na ddigaloned ei bleidwyr, oblegid wrth graffu gwelant ei fod yn byw bywyd uwch yn bresenol, ac yn cael ei adlewyrchu yn ffyddlon ar wyneb y DRYCH. Da genyf hefyd gyfarfod a chy- nifer yn y gwabanol leoedd yn ddigon syml eu llygaid i ganfod hyn, ac yn ddig- on rhyddfrydig eu hysbryd i roddi de- heulaw cymdeithas i'w gymwynaswr. Bore dydd Iau cyraeddais Columbus Junction. Y mae yma dref gynyddol, er nad yw ei lleoliad yn caniatau proffwydo llawer o bethau gwych am dani. Flyn- yddau yn ol ystyrid Columbus City (yr hon a saif o fewn dwy filldir i'r Junction) yn lie o bwys; ond erbyn hyn y mae y lie hwn i raddau yn colli tir, ac o angen- rheidrwydd pethau, felly y gwna gan nad yw y ffordd haiarn yn dod trwyddi, yr hyn sydd yn un o hanfodion cynydd dinasol y dyddiau hyn. Tua pum milldir o'r ddinas hon gor- wedda y sefydliad Cymreig Long Creek. Y mae hwn yn sefydliad gwir Gymreig, ac heb ond ychydig o elfenau estronol yn y tir; ac nid yw y pryf eto wedi dechreu bwyta gwraidd yr iaith ynddo. Mae bron yr oil o'r ffermwyr sydd yn y lie hwn mewn amgylchiadau cysurus, a llawer o honynt yn lied arianog. Pobl cyrion deheuol Meirionydd a gogledd Trefaldwyn sydd yn britho y lie, ac o'r braidd nad ellid ychwanegu mai gwyr un ty a thylwyth un aelwyd ydynt oil. Teimlwn ar unwaith fy mod yma yn ym- daith yn nghanol fy mhobl, a chefais am- ser difyr a chartref oddicartref yn eu plith. Llanwyd fy nghwpan hyd orlifiad a charedigrwydd i'm nerthu i grwydro rhanau eraill o'r Dalaeth heb ddigaloni yn nghanol y tir. P?, le bynag yr arwein- ir fi gan yr ysbryd DRYCH-yddol rhag- llaw, ni ddysgwyliaf weled sefydliad mwy ffyddlon i'w iaith a'i amcanion. Fel y mae'n hysbys, papyr gwir Gymreig yw y DRYCH, ac os ydych am allu ei farnu yn deg gwnewch hyny mewn un ysbryd ac un iaith, a sicr yw y try y glorian. Felly y mae y sefydhvyr hyn yn ei farnu. ac y mae iddo le dwfn yn eu serchiadau oil. Y mae yma dri o gapelau heirdd-dau yn perthyn i'r Corff ac un i'r Annibyn- wyr. Nid yn mhob Talaeth y mae yr eg- lwysi Methodistaidd yn esgobaethol. Y mae yn dygwydd bod felly yma, ac yma hefyd y mae calon yr esgobaeth; a da genyf oedd cael cyfarfod a'r gwr sydd trwy ei lafur diflino wedi eu gwneyd felly, ac er fod y dyn oddi allan a'i oleuni wedi tywyllu, eto mae y dyn oddi mewn yn parhau yn gryf a'i olygon yn glir. Y mae yr eglwysi Methodistaidd o dan ofal bugeiliol gwr sydd er yn ienanc a difarf, etv) yn llawn cymwyN.ler i'r gwa-Ith-y Parch. John Johns. Sicr yw y bydd mwynhau gweinidogaeth o natur hon, adael argraff ddaionus ar yr eglwysi, ac onide bydd raid chwilio am y bai o'r tu allan i'r weinidogaeth ei hun. Yr wyf fi bob amser wedi arfer mesur pobl neu eg lwysi yn v cyfanrif, wrth gvmeriad, &c., eu harweinydd, a da genyf allu dweyd yn ddibetrus na raid i'r eglwysi hyn gap- io ond i ychydig yn y Talaethau, ag ed- rych arnynt o'r safle hon. Gwyn fyd y bobl y mae yn tori bara yn Sabbothol iddynt, oblegid y mae yn y bwyd elfen- au i gynyrchu mer, ond gwneyd y def- nydd priodol o hono. Am is-arweinwyr eglwys Salem ni ddywedaf ddim rhag fy nhybio gan rywun yn rhwym wrth gys- ylltiadau. Gallaf ddweyd mai lied an- mhriodol fuasai cymwyso adnod y diw- eddar Edward Morgan atynt, "0 Fetho- distiaeth, os y rhai hyn yw dy flaenoriaid y mae dyddiau dy lwyddiant yn awr ar ben." Yn eglwys Bethel, y gwr sydd wrth y Z;1 llyw yma ydyw eich gohebydd sylwgar a gwreiddiol Humphrey R. Richards. Bydd darllen ei ysgrifau coeth a doniol yn ddigon i argyhoeddi pawb o'i gymwysder i'r gwaith. Felly ni ddywedaf fwy ar y pen hwn. Y mae yma dir ffarmio rhagorol- gwastadedd didor am filldiroedd lawer. Yr unig fai arno i sefydlwyr newydd yw uchelder ei bris. Amrywia o §45 i $60 y cyfer. Gorwedd y lie o dan leni, ac un ewmwl du a bygythiol yn hofran uwch ei ben, sef yr ysbryd henlancyddol sydd wedi cymeryd meddiant haiarnaidd yn- ddynt.. Da fyddai i un neu ragor o hon- ynt dori y cylch, ac o bosibl yr ai y rhwyg yn fawr, ac y gwasgarai y tywyll- wch. Melus clywed fod rhai o honynt a'r bwriad hwn ganddynt, ac yn pender- fynu ei gario allan pe gorfyddai iddynt orfod dod i lanau y Michigan i gael digon o ysbrydoliaeth i'w gario allan. Bydd- wch wych, a brysiwch.
SAN FRANCISCO, CALIF.
SAN FRANCISCO, CALIF. SAN FRANCISCO, CALIF., Mail.—Ychyd- ig ddyddiau yn ol chwareuodd y Tonza Band yn Ffair y Byd emau o "Cigarette" Opera y diweddar Haydn Parry, a dydd Sadwrn chwareuwyd "Gwyr Harlech," a "God Bless the Prince of Wales," ar y clychau yn un o'r tyrau. Y mae lluaws o Gymry o bob cyfeiriad wedi bod yma, ac oil o honynt yn datgan eu cymerad- wyaeth o'r hyn a welsant. Mae y Parch. R. V. Griffith wedi gad- ael yma am y Dwyrain, i fod yn absenol am ddau fis. Diau na cha lawer 0 ham- dden, am ei fod yn dueddol i roi ffordd i gymellion y Cymry i bregethu iddynt ar ei daith. Y llongau Cymreig yn y porthladd yn bresenol ydynt: Motgomeryshire, Cadben Edwards; Chinsura?, Cadben Williams: Dannerdale, Cadben James; a'r Carnar- vonshire, Cadben Hughes. Dysgwylir y Flintshire i fewn yn fuan. Perthynol i gwmni Davies, Borth, G. C., yw y llong- au uchod. Ofnir fod y Hong newydd Afon Alaw wedi colli ar ei thaith o Gym- ru i San Francisco. Ar ol bod allan o Abertawe dair wythnos, fe olchwyd i'r lan ar lanau Lloegr ddarnau o goed gyd- ag enw Afon Alaw ar un darn, a hefyd ddarnau o'i bywydfad. Y mae allan yn awr 112 o ddyddiau, ac os na chyraedda yma yn mhen ychydig ddyddiau, fe rodd- ir i fyny bob gobaith am ei diogelwch. Un o Ddeheudir Cymru yw ei Chadben, ac mae yn boblogaidd yn mhlith y mor wyr.—Arvonian.
PWT 0 SAN FRANCISCO.
yn ngodreu ac yn ngheseiliau y mynyddoedd pan oedd merched bron yn anadnabyddus yn y wlad. Bydd arogl deniadol y coginio yn codi chwant bwyd ar bron bawb aiff i mewn i gaban Papa Peaks, a bydd yn rhaid iddynt gael bwyta o'r danteithfwyd cyn y gadawant y Forty-nine Camp. Amcan yr holl bethau hyn ydyw portreadu yn gywir fywyd yr aur-gloddwyr boreuol yn y Dalaeth hon, a rhoddi dryehfeddwl cywir i'r ymwelydd o fywyd yr Argonauts a ddygodd California i fodolaeth a'igwneyd y Dalaeth bwysicaf yn yr Undeb. Nid oes yn y Forty-nine Camp ddim a wna niwed i neb, ond pob un a aiff i'r Ffair ac ymadael heb dalu ymweliad a'r adran yma bydd wedi esgeuluso un o'r pethau mwyaf dyddorol tu fewn i'r muriau. Un noson yr wythnos ddiweddaf pan oeddwn yn rhodiana yn arafaidd ar un o lwybrau y Ffair, gwelwn ddyn mewn prysurdeb mawr yn dyfod i fy nghyfar- fod. Pwy ydoedd ond Dr. Jones (Ap Alltud Eifion). Yr oedd ei het yn ei law a'i anadl yn ei law arall mewn lucre o excitement yn chwilio am y Forty-nine Camp. Yr oedd Mrs. Jones bron allan o anadl yn ceisio cadw i fyny ag ef, ac yn hollol yn y tywyllwch o amcan a chyrch- fan y Dr. hyd nes iddo yn ddamweiniol ofyn i mi am y Camp. Myned i roddi surprise i Mrs. Jones oedd amcan y Dr.; ond clywais fod ei surprise ef yn llawer iawn mwy pan welodd ddyn yn cael ei saethu yn farw gelain yn mhoethder y ddawnsfa, a'i gorff marw yn cael ei gar- io allan heb atal y ddawns nac effeithio yn y gradd lleiaf ar deimladau neb. Yr wythnos ddiweddaf cafwyd yma yr un peth ag a (gafwyd yn ninas Chicago yn ystod Ffair y Byd, sef Cydgyngorfa Crefyddau. Nid oes dadl nad ydyw am- can y cyrddau hyn yn ogoneddus dros ben, ac y bydd cyn hir i ddaioni mawr ddeilliaw o honynt. Bydd iddynt fod yn foddion i ddileu sectau afrifed ac opin- iynau rhyfedd llawer o ddynion galluog yn mhlith amrywiol genedloedd y ddaear. Cafwyd yma gyfarfodydd llewyrchus dros ben, a da gan ein calon oedd gweled enw Cymro yn mysg y llef- arwyr blaenaf ar y llwyfan, sef Proff. Lloyd o Oakland. Gwyn fyd na welid mwy o'n cydgenedl yn codi eu penau mewn cylchoedd tu allan i'r eglwysi Cymreig, a demandio parch a gwarog- aeth mewn cylchoedd o ddysgedigion a gwyddonwyr. Ni waeth peidio na darn- guddio y gwir, y mae yn ffaith anwad- adwy fod mwyafrif mawr o ieuenctyd ein cenedl yn cyfyngu eu hunain yn or- modol i'r cylch Cymreig, a thrwy hyny yn colli y manteision o loewi eu hunain mewn amryw gangenau buddiol a fydd- ant o les mawr iddynt, ac yn hyrwydd- iad cryf i wneyd eu nod yn y byd yma. Y mae yn ddigon hawdd bod yn genedl garol a chadw y tan Cymreig yn boeth yn ein mynwesau heb fod yn orgenedl garol, ac aberthu pob peth ar allor dall- ineb dielw.