Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
ill SDnpcb,
ill SDnpcb, A WEEKLY NEWSPAPER, ESTABLISHED 1S51. Issued. Every Thursday Morning. t, THOMAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. X. Y. CHICAGO OFFICE-148 MONROE ST. IMPORTANT TO ADVERTISERS The attention Of business men in general is called to Y DRYCH- COLUMBIA as a superior advertising medium being read by thousands who cannot be reached by any other publication. It has offices in Utica- New York and Chicago, and is the only Welsh newspaper published in the United States. It baa a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union, in C4reat Brit- ain and the British Dependencies. It is the re- cognized National Organ of the Welsh people.
3IYFANWY.
3IYFANWY. GAM GLASYNYS. Y Deryn pur. yn llatai dos At feinir dlos gariadus; Sibryda yn ei chlust fy nghwyn, Hyfrydol swyn 'r afradus; Mae ty nghalon yn ysgyrion, Mae fy ugruddiau "n welw Iwydion, Och, na chawn i heno'n goflaid Wasgu meinwen gymen ganaid; 0: Gwener anwyl, gwella "nglwy, Myfanwy bia f' enaid. II. Yn mrig yr hwyr dan dderi'r llwyn, Dymunol mwyn ymannerch; Darfyddai prudd-der yn fy mron Wrth drosi union draserch; Ciliai gofid. od fai adfyd Toddai'n wyl yngwedd f' anwylyd; Hinon haul ar aeron euraid, Ydyw golwg glan ei llygaid; Hon yw blodyn hardda'r plwy, Myfanwy bia f enaid.
HYN A'R LLALL 0 GYMRU.
HYN A'R LLALL 0 GYMRU. GAX Y PARCH. OWEN EVANS, COLWYN BAY. Anhawdd gwybod pa beth a fyddai o ddyddordeb i ddarllenwyr y DRYCH o'r Hen Wlad. Y mae y ddwy wlad erbyn hyn wedi dyfod mor agos at eu gilydd, fel y mae pob peth o bwys yn y naill a'r llall yn hysbys trwy y newyddiaduron dyddiol, eto mae y DRYCH fel papyr wythncsoi yn Ilwyddo yn rhagorol i gadw i fyny ddyddordeb ei ddarllenwyr yn ei gynwysiad, trwy arlwyo iddynt o wythnos i wythnos ysgrifau tra gwerth- fawr ar faterion o fudd a difyrwcli. Y peth sydd yn tynu mwyaf o sylw yn y byd politicaidd y dyddian hyn ydyw Dad- gysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru. Bu rhai eyfarfodydd lied gynvrfus ar hyn yn ddiweddar yn Nghol wyn Bay. Yn y lie cyntaf, torodd allan anghydfod rhwng periglor y plwyf yma, y Parch. W. Venables Williams, M. A. (Oxon) ag Esgob Llanelwy. Un achos i'r eweryl ydoedd fod Venables Williams yn gomedd cynal gwasanaeth Cymreig yn yr eglwys fel yr oedd yr Esgob wedi gor- chymyn iddo, a'r llall ydoedd ei fod yn gomedd cynal cyfarfod i amddiffyn yr Eglwys, "Church Defense Meeting," yn y neuadd gyhoeddus yn y dref. Y can- lyniad o'r anufudd-dod hwn ydoedd i'w arglwyddiaeth lwyddo i basio deddf i ddadgysylltu yr eglwys sydd yn y dref hon oddiwrth y plwyf-Llandrillo yn Rhos—a'i ffurfio hi a'r dref yn blwyf ar ei ben ei hun, ac anfon yr hen beriglor oedd wedi bod yn offeryn i'w hadeiladu, ac i gasglu dros saith mil o bunau tuag ati, i ffwrdd, gan ei ddadwaddoli o gy- maint a dderbyniai oddiwrthi, a'i gyf- yngu i'r eglwys blwyfol yn Llandrillo. Wedi llwyddo i wneuthur hyn trwy rym cyfraith, y cam nesaf ydoedd penodi per- iglor newydd ar yr eglwys a'r plwyf newydd a ffurfiasid, a chaf wyd un i'r dim i ateb dyben yr Esgob mewn un o'r enw Canon Roberts, yr hwn a ddaeth yma o ardal Brymbo-dyn hynod o gyffredin ei alluoedd, ond o gymaint a hyny yn fwy hydwyth i droi o amgylch bys modrwyog ei arglwyddiaeth. Bellach, yr oedd y drws yn agored i gael eyfarfod i amddiffyn yr Eglwys, a ehlywyd yn fuan "swn yn mrig y mor- wydd;" ond pan ymddangosodd yr hys- bysleni, yn lie cyhoeddi cyfarfod "Church Defense" o dan ei enw, hysbysid y tra- ddodid darlithiau ar hanes yr eglwys gan Esgob Llanelwy a pheriglor Dolwyddel- en. Aethom ni, yr ymneillduwyr yno, rai o honom, o'r cyfarfod gweddi yn ein capel ein hunain, ac un o'r pethau cyntaf a glywsom ydoedd ymosodiad tra haer Hug gan yr Esgob ar Ymneillduwyr yn gyffredinol, a'r Methodistiaid Calfinaidd yn neillduol; daliai y Cyffes Ffydd a'r "Constitutional Deed" yn ei law. gan ddweyd ein bod ni wedi ein rhwymo draed a dwylaw, ac na ddylem, ac nad allai yr un gwir Fethodist godi ei law yn erbyn yr Eglwys. Yr oedd hyn yn or- mod i waed Cymro i'w ddal. Cynyrfwyd rhai o honom fwy nag y dymunasem, o herwydd fod yr ymosodiad mor ddiryb udd, a'i fod hefyd mor ofnadwy o haer Hug ac annheg. Yr hyn, modd bynag, a achosodd y cynwrf mwyaf ydoedd, gwaith y llywydd a'r personiaid ar yr esgynlawr yn rhwystro brawd or enw Moses Williams i ateb yr Esgob. Aeth erbyn hyn yn halibilw glan, a gwnaed rhuthr bygythiol gan y bechgyn oedd yn nghefn y neuadd at yr esgynlawr, ond llwyddwyd i'w hatal rhag gwneyd dim niwed, a daeth Moses i lawr a chymer- odd ei safle ar ben cader ar lawr y neu- add. Tra yr oedd y gwr hwn wrthi aethym i, heb feddwl dweyd dim. i lawr at draed yr esgynlawr lie safai Moses; a phan y gwelodd fi yn dyfod daeth i lawr ac ym- :1 aflodd yn fy mraich, gan ddweyd "Dewch yma Mr. Evans." Rhaidoeddufuddhau, i fyny yr aethym i ben y gader, ac yn fy mywyd ni welais y fath olygfa o'r blaen. Yr oedd pob dyn a dynes a phlentyn o fewn yr adeilad, tua mil o bobl*yn sefyll fel coedwig yn cael ei hysgwyd gan ys- torm, ar benau y meinciau a'r cadeiriau. Siaredais yn gyntaf wrth y bobl yn Gym- raeg, a gofynais iddynt a fyddent mor dda a chaniatau i mi ddweyd ychydig eir- iau yn Saesneg, gan ein bod ni y Cymry yn deall y mater, ond fod y Saeson yn y tywyllwch, a chware teg iddynt cefais ddystawrwydd ar unwaith. Yna troais at yr esgynlawr a dywedais rywbeth fel hyn: Yn gyntaf, gofynais i'r cadeirydd a gan- iatai efe i mi ddweyd gair neu ddau, cef- ais y caniatad yn hollol barod a bonedd- igaidd. Yna dywedais ei fod yn bleser genyf gynyg diolchgarwch i'w arglwydd iaeth, Esgob Llanelwy, am ei ymweliad a Cholwyn Bay. "Credaf," meddwn, "mai efe ydyw yr un sydd wedi gwneyd mwyaf o blaid dadgysylltiad a dadwadd- oliad yr Eglwys o neb o fewn y Dywys ogaeth; y mae yn sier genyf ei fod wedi ei gyfodi i'r gwaith hwn gan Dduw. Hyd yn hyn, nibu dim son am ddadgysgyllt- iad yn Ngholwyn Bay; ond yn bresenol yr ydym yn rhwym o symud yn y mater. Effeithia yr ymosodiad hwn i wneyd rhengoedd yr Ymneillduwyr yn fwy un- ol, cryf ac effeithiol," a chan gyfeirio at y personiaid ar yr esgynlawr, dywedais, "cewch chwithau deimlo oddiwrth ein grym. Y mae Esgob Llanelwy wedi dechreu y gwaith o ddadgysylitu a dad- waddoli yr Eglwys yn Ngholwyn Bay, ond gorphenir ef ar lawr St. Stephan yn Nhy y Cyffredin." Fel hyn y dybenwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf cynyrfus a gynaliwyd yma er's llawer dydd. Diwedd yr un wythnos, yn yr un lie, cafwyd cyfarfod i ateb yr Eglwyswyr, pryd y pasiwyd y penderfyniad canlynol heb ond un neu ddau o bersoniaid yn codi eu Haw yn erbyn: "Fod yr amser wedi dod i'r Eglwys yn Nghymru fel Eg lwys Wladol, beidio a bodoli." Maerhag olygon dadgysylltiad wedi gwella trwy ymddiswyddiad Gladstone, y mae yn ddiameu, os deil y blaid Ryddfrydol wrth ei gilydd. Ond y mae y Gwyddel yn dechreu anesmwytho am ei ymreolaeth, a gall y teflir y wlad i ferw etholiad yn fuan, ond yn fuan neu yn hwyr y mae yr hen sefydliad wedi ei dynghedu i farw. Y mae yn ddrwg genyf ddweyd mai isel ydyw crefydd ysbrydol yn ein gwlad, a'n hangen mawr ni yn Nghymru y dydd- ian hyn ydyw ymweliad grasol o eiddo yr Ysbryd Glan. Y mae manteision add- ysg ynjlluosogi yn fawr, er y buasai yn dda genyf weled yr ysgolion canolraddol yn cyfodi yn fwy cyflym. Y mae genym eisoes Brifathrofar, ac yr oedd fy nghalon fel Cymro yn gwresogi ynof wrth ganfod mai Owen Morgan Edwards, Rhydych- ain—Cymro ieuane o Lanuwchlyn—oedd C tcleirydd y cyngor cyntaf a gynaliwyd mewn cysylltiad a hi. Y mae y Cymro ieuanc hwn, gyda llaw, yn un o emau dysgleiriaf ein cenedl, ac yn gwneyd mwy, efallai, na neb sydd yn fyw "i godi yr hen wlad yn ei hoi." Nis gwn pa beth a ddaw o honom ni y Methodistiaid, a mi wn hefyd y gofala Duw am ei bobl. "Ni ad efe ei bobl, y rhai a adnabu efe o'r blaen." Y tadau, pa le y maent hwy? Yr ydym wedi ein gadael yn blant amddifaid, ac y mae am- ryw o'r plant eto yn weiniaid acyn llesg. Ond nid ydym yn digaloni. Gorchwyl mawr y dyfodol agos, yn ddiameu, ydyw gosod y weinidogaeth yn ein mysg ar dir mwy diogel ac effeithiol; fel y mae, y mae yma lawer iawn o annrhefn, ac fel y mae pob annhrefn, y mae hwn hefyd yn cynyrchu llawer iawn o wastraff mewn arian a doniau, a'r canlyniad gwaethaf o hyn ydyw fod eglwysi yn dyoddef yn fawr o ddiffyg ymgeledd briodol. Mae arnaf ofn fod fy llith wedi myned yn rhy faith o lawer; goddefwch i mi ddweyd wrth ddybenu fy mod yn cael pleser mawr wrth ddylyn symudiadau gwleid- yddol a chrefyddol y wlad fawr yna, fel y maent i'w canfod ar ddalenau y DRYCH. Y MAE yn gryn benbleth ar Sirydd Al- legheny, Pa., yr hwn sydd i grogi dyn yn fuan. Ar ol cyflawni y llofruddiaeth, a-ncanodd y dyn ladd ei hun trwy dori ei wddf, ac er achub ei fywyd, rhoes y meddygon bibell yn ei wddf, trwy yr hon yr anadla. Os rhoddir rhaff am wddf y dyn i'w grogi, bydd y bibell hon islaw idli, a gall yntau anadlu er ei gwaethaf Yr unig obaith yw y bydd i'r cwymp dori gwddf y-dyn.
PWT 0 SAN FRANCISCO.
PWT 0 SAN FRANCISCO. GAX OBEDOG 0 FOX. Rhyfedd y gwahaniaeth rhwng preg- ethwyr a phregethwyr y dyddiau hyn parth eu barn am gadwraeth y Sabboth. Mae ein Ffair gydgenedlaethol ganol gauaf yn dwyn allan linellau cryfton yn naliadau crefyddol dwy blaid parth cadw y Ffair yn agored ar y Sabboth. Mae prif weinidogion y gwahanol enwadau yn rhanedig eu barn ar y pwnc. Fel y cofia y darllenydd, ymladdwyd brwydr boeth yn mhlith rhai o wahanol farnau am gadw Ffair y Byd yn Chicago yn ag- ored ar y Sabboth: ond ar ol llawer iawn o siarad a chyfreithio, agor y pyrth ar y Sabboth a wnaed yno, ac yn agored y mae pyrth y Ffair yma hyd yn hyn, ac yn ol pob arwydd presenol y maent yn debyg o barhau yn agored hyd derfyn v Ffair. Un o'r pethau mwyaf cysegredig yn nghalon y Cymro ydyw cadwraeth y Sab- both, ac nid oes bod yn nghread y Creawdwr mawr yn fwy gwyliadwrus am fod yn llythyrenol gywir yn hyn nag ef. 0 ganlyniad y mae unrhy w amen aeth am y ffordd y dylid cadw y Sabboth yn siwr o gael ei sylw llwyraf. Ychydig amser yn ol ymgyngreiriodd rhai o'r pregethwyr mwyaf tanbaid i barotoideis- eb i ofyn i awdurdodau y Ffair am gau y drysau ar y Sabboth. Gwnaethant lawer cais i gael cyfarfod swyddogion y Ffair er cael cyfleu i'w siarad yn ddall a'u har- gyhoeddi o'u pechodau mawr yn halogi y Sabboth drwy agor drysau y Ffair: ond yr oedd y swyddogion yn rhy lwfr eu hysbryd i wynebu y fyddin fawr bregethwrol, ac felly bu raid iddynt au- fon eu cwyn i'r swyddogion yn ysgrifeh- edig ac nid yn llafaredig fel y bwriadas- ant ar y cyntaf. Ond troi yn glust fydd- ar i'r cyfan wnaeth y swyddogion, ac yn 01 pob arwydd presenol ni wneir yeh waneg- o dwrw ar v pwnc. Arweiniwyci ni i ysgrifenu y llinelhiu hyn ar bwnc y Sabboth a'r Ffair gan y modd y triniwyd y testyn gan un o bregethwvr blaenaf a mwyaf dysgedig ein clinas un nos Sab- both yn ddiweddar. Dyma fel y dy- wedai: "Nid yw y Sabboth o ddechreuad cysegredig. ond a ordeiniwyd gan Moses fel moddion iechyd pan oedd yn arwain cenedl Israel drwy y di- ffaetliwch. Sefydlodd y dydd fel i fod yn orphwysddydd ar y daith, ac yn ddydd o lan- weithdra. Yn nyddiau Moses yr oedd gorph- wys yn beth syml a chyffredin; ond heddyw mae gan ddynion gymaint o haiarn yn y tan fel nad oes ganddynt amser i orphwys; a phe bydd- ai yn orfodaeth ar y masnachwr. y cyfreithwr, y meddyg a'r athraw i orphwys fel yn yr amser gynt deuai y Sabboth yn ddydd o gosbedigaeth. Ni ellir cyfreithloni y Sabboth. Mae yn rhaid gadael ei gadwraeth neu ei ddigadwraeth i'r bobl eu hunain i'w benderfynu. Nid oes ar bob dyn eisieu myned i'r eglwys ar y Sabboth. Mae rhan fawr o'r bobl yn credu fod myned unwaith i'r eglwys ar y Sabboth yn ddigon. Pa fodd y gall y dosbarth yma dreulio eu Sabboth—dydd gorphwys? Mae arnynt eisieu dyddordeb. Pa- ham na roddir iddynt gyfleusdra i glywed cerdd- oriaeth goeth, darllen Ilyfrau da mewn llyfr- gelloedd, a gweled goreuwaith celfyddiaeth? Dylid rhoddi iddynt yr holl gyfleusderau. I'r rhai hyny a ewyllysient fod yn rhyddidyr awyr agored. gadawer iddynt fyned i'r parciau ac i gysgodau y gwyrddlwyni, ac eistedd yn y cor- nentydd yn gwrando y man-raiadrau lie mae Duw yn teyrnasu yn llawn cymaint ag yn yr eg- lwysi. Yn y dull yma gochelir chwantau a drygioni. Yr ydwyf fi yn dueddol i agor y Ffair ar y Sul, ac iddi gael ei chario yn mlaen yn ol cyfarwyddiad dynion o chwaeth ddihalog ac ymarweddiad pur. Dylai y canoedd o bobl sydd yn gweithio yn y Ffair g-ael dydd Sul- dydd o orphwysdra; ond ni ddylid amddifadu y miloedd ar filoedd o ddynion a mere bed o'r ples- er a'r addysg a gaffent yn y Ffair, y rhai ni all- anthebgor yr amser i wneyd hyny ond ar y Sab- both Cristionogol. Nid wyf yn gwybod am ddyn na dynes nad ydynt yn caru y Sabboth, ac ni ewyllysient byth ei weled yn cael ei ddifodi, a chredwyf fod y mwyafrif yn ei arfer yn gywir. Pe buaswn yn lleygwr ac nid yn wein- idog, ac yn gweithio saith diwrnod yn yr wyth. nos, a wyddoch chwi pa fodd y treuliwn y Sab- bothy Awn i'r capel unwaith, nid dwywaith, yn ystod y dydd; ac i unrhyw eglwys a fyddal yn y lie y dygwyddwn fod. Yna cymerwn rod- fa, neu fyned i weled cyfeillion, neu fyned i wrando cerddoriaeth chwaethus, neu i weled ar- luniau hardd. Nid awn i weled rhedegfeydd o fath yn y byd, nac i unrhyw fath o ymryson- f-ydd; ond ymdrechwn wneyd y dydd yn ddydd hyfryd i fy ngwraig, fy mhlant a fy hunan. Mae y Sabboth yn sefydliad rhyfeddol. Dilewch y Sabboth a chwi a ysbeiliwch gvxndeithas o un o'i meddianau anwylaf, ond nid ydyw yn ddydd cysegiedig. Y mae yn ddydd ag y dylid eineill- duo i bob peth a gyfyd chwaeth dyn neu ddynes uwchlaw safon bywyd anifeilaidd, dydd a wna bobl yn well yn foesol ac ysbrydol." Dyna farn un o brif Ddoctoriaid duw- inyddol y ddinas hon am gadwraeth y Sabboth; ond nid yw yn gwneyd yn ol fel y mae yn dweyd, ac y mae, ar y eyfan, yn pregethu ddwywaith bob Sab- both yn ei eglwys, a pha bryd y mae yn dechreu treulio ei Sabbothau yn ol tuedd ei farn nid ydym yn gwybod. Mae cys- ondeb yn beth dymunol iawn i edrych arno yn nghymeriad dyn a dynes. Y diwrnod o'r blaen cawsom yr hyf- rydweh am y waith gyntaf i ysgwyd llaw un o hen bioneers Cymreig California, y y cyfaill dyddan, doniol a chwaethus W. ap Rees o New York. Treuliodd ef a'i briod hawddgar ychydig wythnosau yn ein dinas yn gweled ein Ffair, a sirioli amryw hen gyfeillion a'u presenoldeb. Gadawodd Mr. Rees ein Talaeth tua deu- ddeg neu bymtheg mlynedd ar hugain yn ol i fyned yn ol i New York, ac ni ddych- welodd yma byth er hyny hyd yn awr. Mae amser wedi cyfnewid llawer iawn mwy ar agwedd y wlad a'r ddinas hon yn emvedig nag a wnaeth arno ef. Mae ei ysgogiad ef mor chwim, ei gamrau mor hoew, ei ysbryd mor dirf, ei galon mor llawen a'i chwerthiniad mor iachus a phan oedd yn hogyn ugain oed. Ni oddefodd amgylchiadau i mi gael cy- maint o'i gwmniaeth ag a ewyllysiwn pan oedd yma. Ni synwn glywed cyn hir fod ei galon wedi ei chlafychu gy- maint gan hinsawdd a dymunoldeb ein Talaeth fel lie i fyw yn hir a marw yn hen, fel y bydd ef a Mrs. Rees a'i meib- ion yn coilio i fyny gortynau preswylfod eu pabell yn New York, ac yn dyfod yma i wneyd eu cartref hyd ddiwedd eu hoes ar fin y mor Tawelog. Beth ddywed eg lwys 13th St., New York, am hyn? -m.
AIL EPISTOL 0 FLORIDA.
AIL EPISTOL 0 FLORIDA. GAN Y PARCH. G. GRIFFITHS. DE LAND, FLA., Ebrill 14.—Yr oedd golwg auafol iawn ar wyneb natur yn Wisconsin ae Illinois pan adewais; yn wlawog ac oerllyd, gymaint felly nes oedd y gwlaw yn rhewi, a'r coedydd a'r gwellt glas a ddechreuasai flaguro yn nyddiau cynes Mawrth, wedi eu hamgau megys mewn gwydr gloew. Gadewais Milwaukee yn blygeiniol iawn er mwyn cael ychydig oriau gyda'm teulu yn Glen Ellyn, ger llaw Chicago, ac yn ben- af gyda boneddiges gyfrifol yno, sydd wedi cymeryd cryn ddyddordeb yn fy helyntion er's agos i ddeugain mlynedd, ac wedi bod yn nodedig o dirion tuag at- af trwy y cyfnod maith hwnw. Gadewais Chicago yr hwyr; a chan fy mod yn dra lluddedig wedi trafferthion parotoadau y dydd, gwnaethvm fy ngwely yn tuan wedi cymeryd fy lie yn y gerbydres, gan ymddolenu, nid yn an- nhebyg i filgi byr mewn gogr; ac am wyth awr mwynheais hun dawel a melus y gweithiwr. Gobeithiaf na fum yn ddychryn nos i neb o'm cyd-deithwyr, trwy chwyrnu mor fraw-gynyrfiol ag un o'm brodyr clerigaidd yn Wisconsin. Yr oedd y brawd hwnw, dro yn ol, yn dych- welyd o Iowa yn y nos. Mae toriad ei got braidd yn offeiriadol, a dull a lliw ei goler yn cyfateb iddi. Gwyddai am ei arfer ddrwg; cafodd lawer pwniad poen- us gan ei haner oraf cyn hyny i'w gadw rhag dychrynu y plant, ac yn neillduol ddeffroi y babi. Felly penderfynodd "gadw ar ddihun" y noson hono ar y tren. Ond aeth Morpheus yn drech nag ef; cysgodd, trwmgysgodd, chwyrnodd, a chwyrnodd yn fwy annaearol a rhochus nag arfer. Nid oedd cysgwr ond efe yn y cerbyd hwnw, os yn yr holl gerbydres. Ofnai y rhai oedd yn effro mai 'rhwne yr angeu" oedd yn ei wddf, neu ei fod yn rhagarwydd o ryw drychineb iddynt oil. Mynai rhai yr arweiniai i ddamwain ddinystriol, o herwydd nad allai y gwyl- iedyddion glywed rhybuddion y peirian- ydd i "down brakes." Cadwyd cyngor ar yr achos, penodwydboneddwr o ym- ddangosiad parchus i'w ddeffroi, ac eg- lurhau y sefyllfa iddo. Aeth ato tan grynu, bid siwr; deffroes ef, gan ddywed- yd, "Good and most holy Father, we can't sleep, you snore so." Pwniwyd finau, gan impyn du, nid i'm hatal i "whwrnu," ond i ddweyd ein bod ynym- yl Hamilton, Ohio. Nid oedd berygl yr ail-ymollyngwn i gysgu oddiyno i Cin- cinnati, wrth basio lleoedd mor dlys- ion, ac yr oeddwn mor adnabyddus a hwynt er blynyddoedd fy nhrigias hapus yn y Queen City. Yr oedd yn siomedig- aeth i mi na chyfarfum ag un o'm hen gyfeillion wrth fyned trwy y ddinas, ac na chaniarai fy nhocyn i mi droi ar dde nac aswy i chwilio am danynt. Gwlyb ac oer ydoedd eto, ac y parhaes nes y cyraeddasom fynydd-diroedd Tennessee. O'r Ohio hyd Georgetown, Kentucky, ni welais braidd ddim oedd hudol i'm llygaid. Gallwn feddwl nad oes fawr o welliantau wedi cymeryd lie yno er pan arferai Daniel Boone a'i gyf- eillion gynal picnics yn y coedwigoedd hyny gyda'r Indiaid. Wrth basio trwy Lexington, teimhvn fel gwasgu fy ffroen- au, 0 herwydd yr arogl syrffedus, Freck inridgaidd a dybiwn oedd wedi anmhuro ei awyrgylch foesol. Ond nid drwg pob peth yn yr amgylchoedd yno ychwaith. Gwelais yno wartheg Jerseys a fawr ed- mygwn, a 11u mawr iawn o geffylau bu- ain. nchelryw, a barent i mi gofio gyda hiraeth am fy niweddar gyfaill caredig, Richard Richards, Ysw., Pike Grove, Wisconsin. Yr oeddym weithian yn nghanol y "Blue Grass region," ac oddiyno hyd af- on y Cumberland mae y golygianau yn rhamantus a swynol. Ac i ychwanegu at eu mwynhad i mi, cefais athrawes i'm hysbysu am danynt a'u hynodion, yn mherson boneddiges a ddaeth i'r train yn Danville, Principal ysgol uwchraddol yn y ddinas hono. Yr oedd ei desgriSadau o honynt yn adloniadol neillduol, ac yn benaf oil am gymydogaeth yr High Bridge a'r rhaiadr a welem o'r pellder. Yn nwyrain Tennessee tynwyd fy sylw gan enw gorsaf a threflan sydd bur an- wyl i mi ar amryw gyfrifon, sef "On- eida." Cymerais drem mor helaeth a manwl ag a ellais o'r lie yn yr amser byr y safasom yno. Gwelais ystorfa ar y brif heol a'r enw J. S. Owen uwch ben ei drws, a dyn yn sefyll o'i blaen y dych- ymygwn fy mod yn gweled ynddo ddel- weddau cymrodor, ac a barent i mi sibrwd wrthyf fy hun— "Mae'n Gymro lion, mi gym'raf fy llw." Wedi hyny aethom trwy "Rugby," lie y ceisiodd Tom Brown, y Sais enwog, ac awdwryllyfrdyddan, "School Days at Rugby," sefydlu trefedigaeth o'i gyd- wladwyr. Nid ymddengys i mi iddo fod yn hapus, na doeth yn ei ddewisiad o le i gychwyn un; a gallwn gasglu oddiwrth yr olwg annhrefnus a thlodaidd arno, mai nid "llwyddiant perffaith" y troes allan. Oddiyno i Chattanooga ni welais, am fod yr ail noson wedi ein dal, ond ffwrneisiau llosgi coke y gallwn wneyd fawr o honynt. Parai yr olwg ar y rhai hyny i mi feddwl am Ifrydiau olew a welais ar dan unwaith yn ngogledd Ohio.
0 CHICAGO I NEW MEXICO.
0 CHICAGO I NEW MEXICO. GAN MISS M. G. JOXES, CHICAGO. Y mae arnaf awydd ysgrifenu ychydig o'r pethau welais ac a glywais tra ar fy nhaith i, ac yn ystod fy arosiad yn New Mexico. Aethom i mewn i'r diriogaeth trwy dwnel ar gopa y Mynyddoedd Creig- iog, tua 7,000 o droedfedcli uwchlaw ar wynebedd y mor. Buom yn tynu ar i fyny gyda dau agerbeiriant am hir amser; ond toe. wele ni ar y top ac yn gadael un ar ol gan ddechreu carlamu i lawr. Yr ydym yn troi a throsi, gan fyned dros trestles uchel yn barhaus. Gallem ed- rych i lawr i'r eigion ac i fyny i'r ent- rych, a gweled creigiau i fyny ac i lawr, a choed gwyrddion ac eira gwyn. Yr ydoedd yr olygfa y fath nas gallaf ei desgrifio. Pan oeddym yn dyfod i lawr y mynyddoedd, yr oeddym yn pasio hen adeilad, a hysbyswyd fi mai hwnw oedd hen gartref Die, cludydd llythyrau dros haner can mlynedd yn ol. O'r diwedd, dyma ni i'r gwastadedd, a phethau yn edrych yn rhyfedd iawn i'n golwg—tai byehain, wedi eu gwneyd o glai (dobe houses) a phob peth yn edrych yn sych oddigerth gyda'r afonydd. Yr oedd peth- au yn myn'd waeth waeth i'n golygon, ac or diwedd mentrais ofyn i'r conductor yn mha fath le yr oeddym, a dywedodd yntau mai mewn diffaethweh yr oeddym 90 milldir o hyd. Gofynais beth oedd y gwrthrychau a welem megys a'u penau wedi eu rhwymo, ac atebodd mai math o goed oeddynt, yn cael eu galw cactus pan yn fychain, ond yn myned dan yr enw coed sebon, neu Teign Aloe, ar ol iddynt dyfu. Defnyddir hwy i wneyd sebon. Y mae ganddynt felin i'r perwyl yn Las Cruces, a bum yn defnyddio peth o'r sebon. Peth arall a dynai fy sylw yn fawr oedd sypiau ar ol sypiau o esgyrn sychion, nes gwneyd i mi feddwl am ddyffryn Ezeciel. Yn y diffaethweh mae yr esgyrn yma yn cael eu casglu yn nghyd. Gofynais i ba ddyben, a dywed- asant mai i'w malu i wneyd palmant a phethau cyffelyb. Yr oeddwn yn gweled fy mod wedi cael gwers newydd. Cyn hyn yr oeddwn wedi dysgu nad oedd y diffaethweh yn werth dim, ond nid yw Duw wedi gwneyd dim heb fod o ryw ddefnydd i ddyn. Dyma ni o'r diwedd o'r diffaethweh ac yn drechreu troi a throsi ar hyd glanau y Rio Grand, mewn dyffryn prydferth, a'r mynyddoedd o'n deutu, a'r hin fel yn Mehefin er mai Rhagfyr ydoedd, a ninau yn tynu at ben ein taith, sef Las Cruces. Saif y lie hwn yn nyffryn y Rio Grand, New Mexico, 40 milldir o El Paso, Texas. Y mae pob math o ffrwythau yn gwneyd yn dda yno, yn enwedig oranges, lemons, California grapes, peaches, plums, pears, quinces, ac afalau. Yr wyf yn gwybod am un a chanddo berllan o peaches o dros 7,000 o goed, ac mae y ffrwyth yn felus- ach ac o liw cliriach na rhai California a Michigan. Y mae llawer iawn o dyfwyr ffrwythau yn cyrchu yno yn awr, wrth fod gan gwmni rheilffordd Santa Fe la- wer o dir yno ac o gwmpas ar werth, a hwnw yn dir da i dyfu ffrwythau. Hefyd ystyrir hinsawdd New Mexico gan lawer o feddygon y goreu yn y Talaethau Un- edig, at anhwyldeb yr ysgyfaint, cryd- cymalau, catarrh, a blinderau yr elwlod. Mae yr hinsawdd yn debyg i eiddo A1 giers yn ngogleddbarth Affrica; yr awyr yn sych a'r haul yn tywynu yn ddys glaer; y nos yn glir a'r ser yn edrych fel darnau o arian yn dysgleirio yn yr wyb ren. Os derbynir New Mexico yn Dalatth o'r Undeb y flwyddyn hon, a darpariad- au gael eu gwneyd i'w dyfrhau, fe dyfa yn gyflym, o herwydd lie bynag y mae dwfr ceir cropiau anferth. Prysured y dydd y bydd dwfr trwy holl New Mexico. Y mae yn sicr o fod yn Dalaeth iach a chynyrchiol. Yn fy nesaf rhoddaf hanes taith i weled y Mescalero Apache Indian Reservation, rhyw bedwar ugain milldir o Las Cruces, yr ochr draw i fynyddoedd Oregon, y rhai sydd yn ngolwg y dref. Y ffordd olaf yw gorfodi y claf fyw hyny allo yn yr awyr agored, a chymeryd teithian fel hyn i adrewyddu ei nerth; a theithiau anghysbell fel hyn yw y rhai goreu i'w cymeryd.
CfSVRWYR Y DYN TLAWD. --
CfSVRWYR Y DYN TLAWD. GAX SKIWENYDD, LADD, ILL. Dywedodd un perchenog glofeydd yn y Gydgyngorfa, mai yr unig ffordd i re- oleiddio y gweithiwr tlawd yw gwneyd iddo fwyta heddyw yr hyn a enillayfory; yna bydd yn rliwym o weithio yfory neu newynu. Onid yw hyn wedi ei gario allan yn llythyrenol trwy y wlad yn gyff- redinol? Onid oes llawer wedi bwyta eu cartrefi wrth ddysgwyl amser gwell? Beth wnaeth cynildeb i'r bobl hyn ? Yr atebiad yw hyn-"Gwneyd y cyfoethog yn gyfoethocach, a'r tlawd yn dlotach." Llawer un oedd wedi cynilo i adeiladu ty iddo ei hun sydd wedi ei golli. Ydyw, y mae ei lafurwedi myn'd i ddiwallu gwanc uffernol yr hwn sydd yn rhoi arian ar log. Mae y Hog melldigedig wedi bwyta yr hyn a gynilwyd gan y llafnrwr tlawd, a'i ddiwydrwydd a'i weithgarwch wedi myned i logell ddiwaelod y goludog tra- chwantus. Dylai pob dyn gadw safon bywoliaeth i fyny, a mynu digon iddo ef a'i deulu, beth bynag fyddo y canlyniadau. Canys y fynyd y gwel y meistr fod y gweithiwr yn gwneyd yn dda, ac yn ystorio ychyd- ig arian, y mae yn dechreu ofni fod y gweithiwr am ddyfod i fod yn feistr, a'r canlyniad yw gostyngiad yn ei gyflog; a'r peth nesaf yw streic-"Y trecha treis- ied, a'r gwana gwaedded," fydd yn dylyn. A pha le mae yr hyn a gynilwyd erbyn hyn? Y cyfan wedi ei aberthu er mwyn enill y frwydr a gyhoeddwyd o bwlpud cysegredig y meistr. Y mae hawl natur. iol gan yr hwn sydd yn foddlon gweithio i gynaliaeth o'r fath oreu; ond y mae yr hen arferiad melldigedig o gynilo wedi ysbeilio y gweithiwr o'r hyn ddylai gael. Y mae ambell un yn mhlith y teulu dyn- ol yn caru arian i'r fath eithafion nes y mae yn esgeuluso ei hun a'i deulu er er mwyn "cynilo" tipyn o gregyn hedd- wch. Yna gosodir y cyfryw yn esiampl i'r lluoedd eu hefelychu. Nid yw y cyf- oethogion yn dyoddef oddiwrth bethau fel hyn. Mynant y tai goreu i fyw yn- ddynt, y bwyd goreu i ymborthi arno, a'r dillad goreu i'w gwisgo. Gosodant eu plant yn yr ysgolion goreu er eu par- otoi i lanw y swyddi goreu yn y wladwr. iaeth a phob man arall: a cha y gweith- iwr tlawd dipyn bach o gydymdeimlad llawchwith, er lliniaru ei deimladau cyn- yrfus a therfysglyd. Rhaid iddo ymfodd- loni ar ei sefyllfa ddarostyngol, gan gofio fod ei nefoedd ef yn y byd nesaf (7) Nid allan o le ychwaith fyddai cael tipyn bach yn y byd hwn hefyd. Oer a llwm yw ei fwthyn, gwael a phrin yw ei ymborth, tra mae ei frawd goludog yn byw mewn llawnder a gloddest bob amser. Ei add- ysg yw ei brofiad yn y byd helbulus hwn. Y mae ei blant yn gwybod yn dda beth yw myned i'w gwelyau gwael yn haner newynog—gwyddant beth yw cerdded ystrydoedd y byd yn droednoeth—gwydd- ant yn dda am lymder gwyntoedd rhew- llyd y gauaf-cawsant deimlo awchlym- eid yr oerfel yn fore, heb ddigon o ddill- ad i'w hymgeleddu yn nyfnder y gauaf oer, ac yn fynych iawn heb ddigon o dan i gynesu eu haelwydydd noethlwm. Ai gwastraff yw yr achos o'r pethau hyn ? Nage, yn wir, medd y eyfiawn; gorth- rymder a thrais y cyfoethogion sydd wrth wraidd hyn oil. Eto i gyd, yr unig iachawdwriaeth a gynygir i'r gweithiwr tlawd yw "cynildeb!" Y mae efengyl cynildeb wedi profi ei hun yn fethiant; y mae y Haw anweled- ig wedi ysgrifenu uwch ei phen mewn geiriau tanllyd, "Mene, Mene, Tekel, Peres," ac y mae Dauiel wedi adgyfodi i ddeongli y geiriau—"A'i chwymp sydd yn agoshau." Eisieu mwy o gydym- deimlad a'r tlawd sydd, a llai o gynllnn- io i ymgyfoethogi. Y mae gwir angen pregethu cydymdeimlad yn nghlustiau y cyfoethogion, a dangos iddynt "yn wyn- eb haul, llygad goleuni," fod dydd eu cwymp yn agoshau oni edifarhant. Nid yw yr hwn sydd yn cynyrchu dim yn deilwng o fywoliaeth, nac yn ateb dyben ei fodolaeth; ac felly torir ef i lawr meg ys pren wedi gwywo. Byd i lafurio y-n. ddo yw y byd hwn, a phe gwnelai pawb eu rhan, byddai y baich yn ysgafn a'r iau yn esmwyth. Yna ciliai hen gyfun. drefn y "cynilo" o'r tir, a deuai heddwch i deyrnasu, a chyfiawnder fel tonau y mor.
[No title]
M. R. MURNANE yw enw boneddwr yn St. Paul, Minn., sydd yn honi ei fod wedi cael allan rywbeth ellir ei wisgo fel blod euglwm prydferth ar y fynwes, a fydd yn berffaith amddiffyniad yn erbyn y frech wen.