Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y WEXYNEN.

News
Cite
Share

Y WEXYNEN. Morwyn fawrglod, ddarbodol-a hoenus, Yw'r wenynen wibiol: Edn yw dynn o flodion dol A llysiau fel-nodd llesol. Aeres enwog rhosynau-ar edyn Drwy'r hudol berllanau; A pher sugn glan pura'n pau, Hudolus, geir o'i diliau.—Ber'-n. TIROEDD CALIFORNIA.—Gan fy mod yn feunyddiol yn derbyn llawer o lythyrau oddiwrth ddarllenwyr y DRYCH yn ymof, yn am diroedd rhad, cynyrchiol, ac ar delerau rhesymol, yr wyf wedi trefnu i gael taith archwiliadol i Shasta, Tehama, Glenn, Butte a Colusa Counties. Anfonir ataf fod yno rai o'r tiroedd brasaf yn California am brisiau hynod o isel. Yn ychwanegol at roddi hanes cyffredinol am y lleoedd hyn yn y DRYCH, byddaf barod i ateb unrhyw gwestiwn am y lle- oedd i dir-geiswyr.-E. E. Owens, Los Angeles, Calif. Tocio CEFFYLAU.—Bu amser pan y byddai yn beth ffasiynol i dori clustiau a chynffonau cwn, er mwyn eu harddu ('?). Erbyn hyn y mae yr arferiai wrthun hono wedi darfod bron o Brydain. o her- wydd i Syr Edwin Landseer a gwyr da eraill. godi eu lief yn ei herbyn, ac i ynad- on y wlad osod y gyfraith mewn grym i atal y creulondeb. Ond y mae tori neu "docio" cynffonau ceffylau eto yn par- hau. er ei fod yn un o'r pethau mwyaf diystyr a chreulon ar wyneb y ddaear. Yn ddiweddar gwysiwyd Alexander Fraser. a'i feistr, E. K. Fownes, Bays- water. Llundain. am arfer creulondeb at ddau geffyl trwy docio eu cynffonau. Yr oedd pum modfedd wedi eu tori o gynffon un, a chwech o gynffon y llall. Profwyd fod arfau anghymwys wedi eu defnyddio at y gwaith, a llawer o boen di- angenrhaid wedi ei achosi drwy hyny i'r ceffylau. Rhoddwyd tystiolaethau cryf- ion parthed cieidd-dra yr arferiad gail dri o feddygon anifeiliaid, sef y Proffeswr Cox, un o gyn-lywyddion Coleg y Medd- ygon Anifeiliaid, y Proffeswr Pritchard, a James Broad. Yr oedd y tri yn unfryd unfarn fod tocio, pa mor fedrus bynag y gwneid ef, yn greulon, ac nad oedd yn ychwanegu dim at werth na harddwch y ceffyl. Yr oedd natur wedi rhoddi cyn- ffon i geffyl i'w alluogi i amddiffyn ei hun yn erbyn pryfaid. Dywedai'r Proff. Pritchard nad oedd y ceffylau rasus, na'r dosbarth gcreu o geffylau eraill, byth yn cael eu tocio. Yr oedd ef yn gwrthod gwneyd y gwaith: er ei fod wedi colli llawer o fusnes oblegid hyny. Yr oedd y mwyafrif mawr o feddygon anifeiliaid yn condemnio yr arferiad. Wrth roddi ei ddyfamiad dywedai yr ynad nad oedd yn cynieryd i ystyriaeth pa un a oedd tocio ynddo ei hun yn greulon ai nad oedd. Yn yr achos hwn, yr oedd y gorch- wyl wedi ei wneyd mewn dull bwngler- aidd, a chydag arfau anghymwys. Di- rwywyd y gwas i ddeg punt, a thri gini o gostau.

Y DIWEDDAR RICHARD R. OWEN,…

--------Famau Darllenwch Hwn.

ADRAX AMAETHYDDIAETH.I

DULL ESMWYTH 0 GASGLU Y CNYDAU.

1XOFFION AMAETHYDDOL.

Family Notices

Advertising