Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

29 articles on this Page

Englyn—"Lliw."

Yr Eryr.

Yr Urdd Iforaidd.

Y Gwanwyn.

Yr Estron.

Lena Price, Merch IVir. a…

Yr Unig.

Deigryn ar Fedd Gwalch Ebrill.

[No title]

DINAS Y CARIAD BRAWDOL.

ASHLEY, LUZERNE CO., PA.

Cyhoeddiadau Brodyr Dyeithr…

YN GWNEYD YR OLL A HAWLIR…

IACHAU CUR PEN.

Gweision a Morwynion Cymru.

Aelod Peryglus.

Clwb Gwerinol Dinas New York.,

Parson Price a'i Symphony.

Ysgrifau Cymro Gwyllt.,

Iforiaeth yn America.

CERDDORFA MEWN ADDOLDY.

Advertising

- RilWIVG IflFKIF A CHWARE.

BARDDONIAETH.

Y Gobeithlu.

Ymddygiadau Gwrthun.

Yr Ysgol Farddol a'i Hawdwr.

News
Cite
Share

Yr Ysgol Farddol a'i Hawdwr. MRI. GOL.: Cofied y brawd Dafydd Morganwg mai am gondemnio y llinell "Cyrhaeddfawrallugreddfol" yr achos- wyd y nodiadau yn y DRYCH. Amcanodd dau frawd o Wilkesbarre brofi drwy gymorth yr rsgol Farddol ei bod yn gywir, a chyfeiriasant fi at yr "Ysgol," gan nodi y tudalen, &c. Wedi ufuddhau i'r gorchymyn pendant hwn troais i ed- rych, a dyma ddywedir: "Y goddefir i gydsain galed gynorthwyo un feddal i fod yn gyfartal o ran sain i'w pherthynas galed," ac un engraifft a roddir yw, "Rhua crefydd rhag rhyfel-rh yn helpu g i ateb c," a dyna'r unig esboniad a rodd- ir ar y llinell. Yn awr gofynaf a ydyw yr uchod yn esboniad digonol? Na, prawf y camsyniad a wnaeth y ddau frawd o Wilkesbarre nad yw. Gwelwch nad yw y llinellau a ddyfynir yn y DRYCH yn cy- ffwrdd ar y gynganedd yn yr agwedd sydd arni yn y llinell a gondemniais. "Rhua crefydd rhag rhyfel" yw yr unig linell to the point, a chyfaddefaf nas gall- aswn i byth ddeall y gynganedd oddiwrth yr esboniad a roddir arni, gan na ddy- wedir dim am allu yr h yn caledu yr g. A chaniatewch i mi nodi allan yr hyn a ystyriaf yn wall pwysig yn y fan hon. Yn ol "Cyfrinach y Beirdd" gosodir y gynganedd hon i lawr fel rlieol, ond yn yr Ysgol Farddol dywedir mai goddefiad yw, ac nid oes eisieu i mi eich hadgofio fod gwahaniaeth dirfawr rhwng goddef- iad a deddf; a gwn y caniatewch hefyd i mi ddweyd eto mai Cyfrinach y Beirdd ydyw yr awdurdod uchaf ar y pwnc. Drwg genyf am yr awgrym ar ddiwedd llythyr D. Morganwg fy mod yn canmol un llyfr "ar draul sarhau a chamgyhuddo llyfr arall." Os mai felly y deallasoch fy nodiad, gallaf eich sicrhau nad oedd dim yn mhellach oddiwrth fy meddwl ar y pryd. Teimlaf yn bersonol rwymedig a diolchgar am yr help a gefais wrth draed yr athraw hwn, ac nid oes unrhyw lyfr wedi bod o gymaint gwasanaeth i feirdd ieuainc a'r Ysgol Farddol. Nid oes eis- ieu ei chanmol, ac y mae uwchlaw gallu neb i'w drygu. Yr eiddoch yn frawdol, Hem sen, N. I": EFROG.

BYR EBION 0 RACINE, WIS.

Anerch Priodasol.