Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

29 articles on this Page

Englyn—"Lliw."

Yr Eryr.

Yr Urdd Iforaidd.

Y Gwanwyn.

Yr Estron.

Lena Price, Merch IVir. a…

Yr Unig.

Deigryn ar Fedd Gwalch Ebrill.

[No title]

DINAS Y CARIAD BRAWDOL.

ASHLEY, LUZERNE CO., PA.

Cyhoeddiadau Brodyr Dyeithr…

YN GWNEYD YR OLL A HAWLIR…

IACHAU CUR PEN.

Gweision a Morwynion Cymru.

Aelod Peryglus.

Clwb Gwerinol Dinas New York.,

Parson Price a'i Symphony.

News
Cite
Share

Parson Price a'i Symphony. MRI. GOL.: Dyddorol iawn ydyw gwaith y cerddor gwir alluog J. W. Par son Price o New York yn ymdrechu cael allan rai cerddorion Cymreig sydd wedi cyfansoddi symphony i'r offerynau. Y mae Mr. Price i'w esgusodi yn ei berth ynas a mi, gan na wyddai fy mod wedi cyfansoddi un. Yr achos i mi gyfan soddi symphony oedd hyn: Pan oedd Mr. J. H. Roberts (Pencerdd Gwynedd) yn gyfrifydd yn Chwarel Bryn Eglwys, byddem ein dau ar ol noswylio yn myned i ochrau y bryniau i ddiwvllio ein hunain yn y gelfyddyd gerddorol. Treuliasom lawer o oriau yn hynod hapus yn y modd hwnw. Yr oedd ef yn chwareuwr med- rus ar yr harmonium, a chan fod genyf un byddai yn dra mynych yn dod i'r Beu- dy Bach, lie yr oeddwn yn byw, i chware rhai o Symphonies Handel, Mozart a Haydn. Dyna y meddylddrych cyntaf i mi o berthynas i Symphony. Wedi rhai blynyddoadd o astudio caled ar hanfod gwir gerddoriaeth, yn neillduol ar han- fod Symphony, yn y radd uchaf ami, penderfynais gyfansoddi un. Y testyn i'w weithio allan ynddi oedd, Caethiwed a Rhyddid (Slavery and Liberty). Wedi ei gorphen, y peth nesaf a wnaethym oedd myned a'r Symphony at Rowland Davies (Orlando), organist Machynlleth, ond er ei fod ef yn un o brif chwareuwyr Cymru ar y pryd, profodd y Symphony yn rhy galed iddo, felly gadewais hi iddo i'w hastudio a'i harfer ar y pipe organ am ychydig wythnosau. Pan wedi ei meis troli yn drwyadl, cefais air oddiwrtho vn gorchymyn i mi fyned i Machynlletb, ei fod yn barod iddi. Aeth amryw o honom i'r eglwys, ac aethym i a John Davies, tad Orlando, at y Bwrdd Crist, mewn trefn i glvwed yr organ fawr yn well. Cymerodd i Mr. Davies ugain mynyd i'w pherfformio. Aeth trwyddi fel y cyfansoddais hi, a phrofodd fod yn- ddi fwy o greadigaethau nag a feddyliodd y cyfansoddwr. Yr oedd y Symphony yn profi gallu yr organ fawr a'r chwareuwr hyd yr eithaf. Y mae y Symphony genyf, a chyfan- soddais ddwy eraill yn ddiweddar. Bu- asai yn dra dymunol genyf argraffu y tair Symphony, yn nghyda Requiem a gyfansoddais ar ol Gwilym Gwent, yr hon oedd yn un o'r tair oreu allan o saith yn nghystadleuaeth Scranton beth amser yn ol; hefyd amryw o Anthemau, a'r Gantawd a anfonais i Eisteddfod fawr Chicago. Ond o ddiffyg arian i ddwyn y draul nis gallaf ar hyn o bryd. Pe bai cerddorion America yn rhoi gwahoddiad i mi i ddarlithio ar gerddoriaeth gwnai lawer o help i mi. Pa fodd bynag, teim- laf yn ddiolchgar i'r cerddor galluog o New York am ei waith yn nodi allan Gymry fel rhai galluog i fyned i gysegr santeiddiolaf cerddoriaeth, a chynyrchu rhywbeth sydd yn werth ei wrando. Yr eiddoch, J. WHITTINGTON (loan Cadfarch). Horeb, Venedocia, 0.

Ysgrifau Cymro Gwyllt.,

Iforiaeth yn America.

CERDDORFA MEWN ADDOLDY.

Advertising

- RilWIVG IflFKIF A CHWARE.

BARDDONIAETH.

Y Gobeithlu.

Ymddygiadau Gwrthun.

Yr Ysgol Farddol a'i Hawdwr.

BYR EBION 0 RACINE, WIS.

Anerch Priodasol.