Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
12 2)n>cb,
12 2)n>cb, A WEEKLY NEWSPAPER, ESTABLISHED 1S51. Issued Every Thursday Morning. TH03IAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, y. T. CHICAGO OFFICE—148 MONROE ST. IMPORTANT TO ADVERTISEKS —The attention of business men in general is called to Y DRYCH- CoLUMBIA as a superior advertising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other publication. It has offices in Utica. New York and Chicago, and is the only Welsh newspaper published in the United States. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Brit- ain and the British Dependencies. It is there- cognized National Organ of the Welsh people.
DYDDIAU MEBYD IN NGHYMRU.
DYDDIAU MEBYD IN NGHYMRU. Adgofion Bore Oes yn Nghymoedd Eryri- Taith i'r Deheudir. GAS GWILYM ERYRI. Wel, Dafydd, ymddengys fod yn rhaid i ni symud ein lodgin, gan i Columbia farw yn sydyn ofnadwy, a ehael ei chladdu yn mynwent y DRYCH. Y mae golwg ddoniol ddigrifol ar wyneb y DRYCH, yn nghyd a golwg ddifrifol dtymaidd-enwan yr hen newyddiadur- on fel ceryg beddi ar ei wyneb, er cof am yr hen Faner a'r n-asg, ac yn ddiweddaf oil dyma y brydferth Columbia newydd gael ei chladdu yn ei fynwent! Os parha marwolaetiiau fel hyn i gymeryd lie yn r: ami, rhaid i'r DRYCH brynu ychwaneg o dir tuag at gael He iddynt, a phan wneir hyny, onid priodol, rhesymol a pharchus fyddai gosod cofgolofnau i ddynodi itynged golygwyr a pherchenogion yrheri newyddiaduron parehus a gladdwyd yn yr hen fynwent; beth wyt ti yn ei fedd- wl, Dafydd, am yr ideal Wel, ie, yn tefe, eithaf rhesymol fyddai rhoddi gwybod i'r byd dynged yr hen ffyddlon- iaid hyny. Efallai nad oes a fyno hyn a'n hadgofion; pa fodd bynag am hyny, y mae yn rhaid dweyd rhywbeth am y marw, ac hefyd am ein ty lodgin new- ydd, gan obeithio y gwna y landlord ymddwyn yn garedig tuag atom, ac y ca Will y lodgiwr gystal chware teg ac a ga William y mab. Dafydd, a wyt ti yn cofio am y daith faith ryfygus ac anturiaethus hono i'r South'? Wyt bid siwr; y mae ugeiniau o flynyddoedd er hyny onid oes? Y mae rhywbeth yn fy mhen i yn fy ngbymell i adrodd hanes y daith hono, ac ond i ti beidio digio wrthyf am i mi adrodd dy gampau mi af yn mlaen. Rhywbryd yn bur fore, yn rhywle yn nghyffinian y deuddeg oed, dygwyddodd i Gruffydd Dafydd, Dafydd Ty Gwyn, a'r ysgrifen- ydd, fyned i Bare Pen Boncan i gasglu /llys a mafon duon, a thra yH mwynhau y eyfryw, daeth i feddwl Grnffydd yr idea i ni ein tri gymeryd taith i'r Deheudir. Yr oedd yr idea wedi bod yn berwi yn mhenglog Grnffydd er's amser, am y rheswm fod iddo frawd yn Merthyr ar y pryd yn gweithio mewn twll glo; felly eisteddasom i lawr i fwrw y draul, ac i gynllunio, gan nad oedd ffarwelio a'n rhieni, perthynasan, a'n cyfeillion i gym- eryd lie o gwbl—cynllunio i ddianc oedd yr amcan. Gan fod Gruffydd getyn yn hynach na ni ein dau, a'i lon'd o elfenau hen ddyn a nodweddion hen lane, yr oedd ei gyngorion a'i gynlluniau yn cael gwell sylw. Yr oedd yn hawdd iawn i ni ein tri benderifrnu cydrhyngom a'n teimladau, gan nad oedd genym y fath beth; yr oedd yr hen ysgol-feistriaid wedi lladd hyny er's llawer dydd, a'n rhieni wedi ffustio y gweddillion allan o'n corpws. Yr hyn oedd yn goglais serch Gruffydda Dafydd fwyaf ydoedd gorfod ffarwelio a phmiies yr Inn, yr hen Giw Du' Fn^e> Dafydd. Jennie, a Lady Mary, yn nghyd a'r cwn hela. Nid oedd genyf na mxilj ci na chath i ollwng fy sercji ^T^ynt; 7T oe^dwn yn ber ffaith rydd fel Iwmp ogareg; ac nid oedd pell- der y daith ychwaith yn ein digaloni, er fod Merthyr a'r South i'n tyb ni ar y pryd, yn mhen pellaf y byd-nid oedd peth felly yn aflonyddn dim arnom, na phwnc yr arian chwaith, gan fod genyf un swllt ar ddeg, gan Dafydd ddeg swllt, a dywedodd Grnffydd fod ganddo yntau oddeutu chweigian. Dechreuasom broffwydo y canlyniad- au. Yr oeddym i ddychwelyd, sef i dalu ymweliad a'r ardal yn mhen deng mlyn- edd; byddai gan bob un locsyn, a watch, dillad brethyn du a hetiau silk, a boots hefyd gyda sodlau uchel, a byddai y cyfnewidiad yn gyfryw fel nas gallasai neb ein hadnabod, a byddai holl ferched glan yr ardal yn sylwi arnom, ac yn ym- ladd a'u gilydd am ein cael yn gariadau iddynt, felly gosodwyd y gobeithion hyn yn brif nod ein hanturiaeth. Trefnwyd pob peth tuag at gymeryd y daith y dydd LInn canlynol. Dychwelasom i lawr i'r pentref, a rhoddasom ffarwel i holl goed iach crin y parciaw, grug Craig y Llan, ffos loitchio Buarth Gwyn, cywion ieir a gerddi yr Inn, i'r cwn hela a'r ponies, i'r hen foot ball, y glanhau cyllill a'r snags, i gario dwr o ffynon y Graig, a llaeth en- wyn o Perthi a Chwmcloch, i llyn Cymal a llyn Cam, i'r efal y go, ac i gongol y bont, ac yn ddiweddaf oil i Joe bach yr Inn, yr hwn fyddai yn erlid ein sodlau i lawr o'r Inn. Ar y Sul olaf, yr oeddym yn cymeryd mwy p sylw ar bob peth, yn syllu yn fanwl am y tro olaf ar y ddwy afon, ar geryg yr afon lie y byddem yn gwneyd ein campau, a'r settars a chae Tyucha, lie y derbyniodd Tal o Eifion niwad i'w droed tra yn cicio pel droed; sylwi hefyd ar yr hen ysgol lie y cawsom lawer cwrban sobr; sylwi am y tro olaf ar yr hen gapel, yr hen flaenoriaid, yr ys- gol Sul, ein hathraw ffyddlon, sef Rhys Glangwynant; meddwl mai dyna y tro olaf y cawsem y fraint i adrodd iddo yr hen adnod rwydd a syml hono, "Cofiwch wraig Lot." Yr oeddym ein tri erbyn hyn yn teimlo rhyw lympiau yn ein gyddfau, ond ni pharhaoddyn hir, golch- wyd ef i lawr gan bowliad o fara llaeth. Os wyf yn cofio yn iawn, yr wyf yn credu mai Dafydd Prichiad, Pentir, oedd yn pregethu yn y gylchdaith hono ar y Sab- both hwnw, ac os oes rhyw rai yn fyw yn cofio yr hen bererin, cofiant y byddai mor sych a mawnen; felly tra yr oedd yn pregethu ar y nos Sul hwnw, gan nad oedd yn gwaeddi a chanu ei bregeth, cef- ais amser i mi fy hun i feddwl am y daith i wlad yr Hwntws, yr hon oedd i gymer. yd lie fore tranoeth.
EPISTOLAU 0 FLORIDA.
EPISTOLAU 0 FLORIDA. GAN Y PARCH. G. GRIFFITHS, MILWAU- KEE, WIS. JACKSON, FLA., Ebrill 12.—Wedi llwyr flino ar erwinder eithafol gauaf y gogledd orllewin, ac yn gweled dim arwydd o gyfnewidiad i dynerweh tywydd, gwnaethym fy mhac i fyny' yn lied frys- iog, a chychwynais o Milwaukee y 9fed cyfisol trua Florida, gwlad yr haf parhaus, Paradwys y rhynllyd, Gilead yr afiach, a mangre dybiedig y Ffynon ryfeddol y breuddwydiodd Ponce de Leon am dani, sydd yn adnewyddu i hen bobl brydferth wch a hoender ieuenctid. Nid anmbri- odol nac annerbyniol, efallai, i'r darllen- ydd yn yr epistol rhagymadroddol hwn, fydd crynodeb o hanes yr Hisbaenwr uchod, fel un o'r tramoriaid cyntaf cys ylltiedig a hanes yr orynys, sydd erbyn heddyw wedi cyraedd cyhoeddusrwydd a bri mwy na chyffredin, fel Mecca pererin- ion o wledydd eraill yn ogystal ag 0 Dal- aethau eraill ein gwlad ein hunain. gan adael dygwyddiadau y daith, yn nghyd a nodiadau ar leoedd neillduol o fewn Florida y tariaf encyd ynddynthyd lyth- yrau dylynol. Mewn hanesiaeth wronol diau fod enw Juan Ponce de Leon yn un o'r rhai cy- hoeddusaf a mwyaf hyglodus. Cyflawn- odd orchestion milwrol diail yn mron yn y rhyfelgyrch yn erbyn Mooriaid Grana- da, ac o herwydd hyny dyrehafwyd ef i'r rhestr enwocaf yn mysg marchogion llys Ferdinand ac Isabella. Croesodd For y Werydd gyda Christopher Columbus yr ail waith i'r cyfandi" newydd ddargan- fyddedig hwn, a bu a wasanaeth mawr iddo yn ei archwiliadau. Yr oedd yn nodedig hyd yn nod yn mhlith y gwron- iaid hyny am ei feiddiadau a'i gyflawn- iadau hefyd. Cyfarfuant ar for a thir a rhwystrau ac a pheryglon digon i brofi eneidiau y rhai cryfaf eu calonau o'r ced- yrn; eto cafwyd ef, yn anad un o honynt oil, nid yn unig yn abl i'w cyfarfod, ond i'w darostwng gyda hyny, ac nid anfyn- ych, i'w gwneyd yn iswasanaethol i'w cenadaeth. Wedi y rhoddai ei fryd ar gwmpasu rhyw amcan, neu sicrhau rhyw wrth- rych, nid allai rhwystrau cyffredin blygu ei ewyllys, oeri twymder ei sel, ostwng ei uchelgais, na gwanychu ei benderfyniad i gyraedd ei gamp. Ac os oedid ei ob aith am flynyddau, dysgwyliai yn amyn eddus am dano. Mewn un a chymaint o synwyr ac yni y matter of fact man yn- ddo, nid edrychasem am arwyddion 0 hygoeledd a phenchwibandod anymarfer- ol adeiladwyr cestyll yn yr awyr gydag unpeth yr ymroddai ;iddo; ac er hyny nodweddid y rhan olaf o'i oes gan bethau felly. Fel yr oedd yn heneiddio, yr oedd ei afael mewn bywyd yn tynhau, a'i awydd am iddo gael ei estyn ar y <^daear> ac am a wn gael cartrefu yma yn dra- gywydd, wedi dod i fod yn nwyd lywod- raethol ei natur a'i holl anturiaethau. Pa fodd i adfeddianu ireidd dra, iechyd a bywiogrwydd bore ei oes oedd pwne gwastadol ei efrydiaeth. 'Daeth ei ddy- muniad i fod. yn dad i'w ddychymyg wyllt a ffol ar hyny. Mynttimiai ei fod wedi darganfod ffynon yn Florida, pan fu drosodd yn America y tro cyntaf, a gyn- yrchai ddylanwad felly ar bawb a yfent o'i dyfroedd. Ac mor ddiegwan oedd ei ffydd yn ngwirionedd a sicrwydd ei wel- edigaeth, fel y croesodd y mor ddwy waith wedi hyny i Florida i chwilio am dani! Ond ofer, wrth gwrs, fu ei lafur. Yn ofer ac am ddim y gwariodd ei arian, ac y beiddiodd ystormydd y mor mawr ¡ llydan yn ysgraffau bychain a gweiniaid y eyfnod hwnw. A'r tro diweddaf yr oedd yma derbyniodd archoll gan saeth oddiar fwa un o'r brodorion, a brofodd yn angeuol iddo. Hwyliodd drosodd i Cuba, ac yno y terfynodd ei yrfa lawn o'r dygwyddiadau mwyaf rhamantus. Mae miloedd ar ol yr arwr Ponce de Leon wedi dod i Florida i amcanion cy- ffelyb. Bu cant a phump ar hugain o fil- oedd yma o wahanol fanau yn treulio y gauaf y llynedd, a bernir i gymaint arall fod yma y gauaf diweddaf. Mae y rhif luosocaf o honynt heb ymadael eto. Cef- ais drafferth fawr pan ddaethym yma tua naw o'r gloch neithiwr i gael ystafell mewn Hotel; bu raid i mi deithio mewn cerbyd o'r naill i'r Hall cyn llwyddo. Cefais o'r diwedd le cysurus iawn yn y Grand View Hotel, ac nid oedd y pris mor afresymol ag y dysgwyliwn.
CYSURWYR Y DYN TLA WD.
CYSURWYR Y DYN TLA WD. GAN SKIWEXYDD, LADD,^LL. Yr ydym yn defnyddio penawd erthygl olygyddol a ymddangosodd yn y DRYCH yn ddiweddar, am mai yr ysgrif gry- bwylledig a'm cynyrfodd i ysgrifenu yr erthygl hon. Nid wyf yn ameu geirwir- edd nac amcan da y Golygydd mewn un modd, ond credwn fod gwedd arall i'r pwnc dan t3ylw, ac fod gormod o gymell- ion i'r gweithiwr tlawd i gynilo yn cael ei wthio i'r newyddiaduron, ac yn cael ei gyhoeddi o'r areithfa. Y mae yn syndod pa fodd y mae y gweithiwr diwyd sydd a haner dwsin, mwy neu lai, o blant gan- ddo yn gallu cael y ddau pen o'r llinyn i gwrdd. Y mae gormod o gynildeb yn bod yn barod, ac mae plant a theulu y tlawd wedi dyoddef IIawer trwy yr oesau o achos y "cynildeb" y sonir eymaint am dano, nes y mae wedi dyfod yn ail natur i anianawd teulu y tlawd, am fod ein henafiaid wedi eu dysgu i gynilo gan off- eiriaid a phregethwyr yr oesau. Yn wir, y mae penaethiaid a swyddog- ion corfforiaethau, a phawb eraill sydd wedi cyraedd amgylchiadau cysurus, yn chware yr un don ar danau tyner y "dyn tlawd," ac yn ei gymell i fod yn foddlon ar ei sefyllfa, gan mai dyna "ewyllys Duw;" a'r canlyniad yw fod ei anianawd wedi ei droi o'r lion i'r lleddfol prudd- glwyfus, a chynildeb wedi dyfod yn ail natur iddo. Yn y dyddiau presenol y mae tlodi wedi cyraedd ei begwn eithafol, a theulu y tlawd bron a newynu yn ymyl ia oesol pegwn tlodi; ac eto i gyd chwar- euir yr un hen don dragwyddol yn ei glustiau, er mwyn diwallu ei angenion a chryfhau ei .obeithion gwanaidd, cyn yr elo ac na byddo mwy yn myd y tlodi a'r newyn oesol. Hefyd, myn thai i ni gredu fod Duw wedi darbod digon ar gyfer pawb. Os felly, pa angen cynilo sydd? Dywed hen ddiareb fod Duw yn gofalu am bob un a ofalo am dano ei hun. Pe buasai Duw wedi gweithredu yn rhagluniaethol ar gyfer pawb, diau y buasai gwedd arall ar gymdeithas. Mae pob peth yn dang os fod dyn yn ddeiliad damweiniau ac amgylchiadau, ac yn effaith o achos an- esboniadwy. Beia rhai gwymp y ddyn- oliaeth yn Ngardd Eden. Dyna fo, yn wir; fe allai hyny. Rhaid gwneyd 'bwch diangol" o'r hen fam Efa! Darbododd Duw helaethrwydd o feddyginiaeth ys- brydol cyn i'r cwymp hwnw gymeryd lie, ac nid oes arian nac aur i'w bwrcasu, dim ond credu; ond efengyl iachawdwr- iaeth dymorol yw "cynildeb." Gwran- dewch ar hen Ficer Llanymddyfri yn codi ei destyn- "Wrth im' fyw yn gynil gynil, Aeth un ddafad imi 'n ddwyfil; Ond wrth im' fyw yn afrad afrad, Aeth fy nwynl yn un ddafad." Y mae gwirionedd y frawddeg yn eith- riadol yn ddiau, ond yn y cyffredinol- rwydd mae yn syrthio yn fyr; canys nid yw y tlawd yn berchen aritit ddafad heb son am y swm anferth o ddwy fil. Mae agwedd a safon cymdeithas y dyddiau hyn y fath fel nad all y tlawd gynilo dim, a byw yn agos fel y dylai. Y mae ang- enrheidiau bywyd mor ddrud nes y mae y gweithiwr tlawd yn gorfod byw ar lai na haner digon, ac eto cymellir ef i gyn- ilo a pharotoi ar gyfer "amser gwlawog! j Gwlawog yw hi 0 hyd ar y truan tlawd ar y goreu. Y mae yn wir fod ambell un o blith y tlodion yn ymddyrchafu i am- gylchiadau cysurus trwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad; eithr pe edrychem i fewn i'r mater er cael allan y gwirionedd, a gweled pa fodd y mae y tlawd hwnw wedi ymddyrchafu, dadblygai y ffaith ei hun fod rhyw ffawd neu gilydd wedi bod yn gynorthwy i'r tlawd hwnw i ym- ddvrchafu. Ac mor fynych y cyfeirir at rai felly i fod yn esiamplau i ddylyn ol eu traed-i fod yn gynil a darbodus, yn ddiwyd a gweithgar-i fod yn ffyddiog ac uchelgeisiol! Mae y cymellion yn dda, gwnant y tro i arwain y gwanaidd trwy y byd yn esmwyth, megys canllawiau i arwain deillion dros afon. Hen arferiad a ddylid ei alltudio allan o fodolaeth yw cymell pobl i gynilo; pan y mae yr amser yn ffafriol i hyny gwna pawb eu goreu er eu mwyn eu hunain, ac y mae yr hwn a esgeulusa ddeddf natur yn sicr o ddy- oddef y penyd. Ar ol y cynildeb cymer y meistriaid fantais ar y bob! i ostwng eu cyflogau, yna gwerir yr hyn a gynil iwyd i ymladd y frwydr am iawnderau. Bydd genym air yn mhellach ar wane y corfforiaethau. ->
HYNAFIAETHAU CYMREIG.
HYNAFIAETHAU CYMREIG. GAN Y PARCH. H. C. PARRY (CEFNI), D. D. Mae genym luaws o enwau personau a lleoedd wedi eu dwyn i mewn i'n hiaith; a thrwy hir arferiad ymadroddol, a chynef- indra defodol, wedi eu Cymreigeiddio, os nad eu Cymroeiddio yn y fath fodd, ac i'r fath raddau, fel yr edrychid arnynt, ac yr ystyrid hwy yn Gymraeg gwreidd- iol, o darddiad cynwynol, neu gysefin. A phan y crybwyllir yr enwau wrthym, yr ydym yn barod i gydnabod y eyfryw fel Cymraeg, fel Cymro, neu fel peth yn pprthyn i Gymru; pryd nad yw y eyfryw erFfrau namyn estroniaid i'r Gymraeg, a dyeithriaid a dyfodiaid i'r cyff mawr gwreiddiol cenedl y Cymry. Gwyddys fod hyn yn ffaith gyffredinol, perthynol i bob rhan o Gymru, er y dichon yn fwy neillduol ac arbenig i ddau ranbarth o Gymru, sef Morganwg yn y Deheu, a Dyffryn Clwyd, Swydd Ddinbych, yn y Gogledd. Yr ydym yn alluog i olrhain y ffaith yn ei pherthynas a Morganwg, at ddyfodiad ac ymsefydliad Marchogion Normanaidd Gwilym y concwerydd, yn mrasdir porfaog a chynyrchiol gwastad- eddau yr hen Essyllwg (Siluria); yn cymeryd i fewn Gwent a Morganwg, gwaelodion Henffordd, Brycheiniog, a Maesyfed. O'r rhai y cawsom y Strad- ling, y Basset, Nevel, Herbert, Talbot, Surdwal, Leision, ac amrai eraill, y rhai a ymdoddasant i genedl y Cymry, gan ymgymysgu a hwynt, a dyfod yn Gymry mewn iaith, a llenyddiaeth, ac ymarfer- ion, a theimlad, ac felly collwyd y Nor- man yn y Cymro, oblegid ceir rhai o brif dclynioi y genedl yn Normaniaid o darddiad, megys Vavasor Powel, Row- land Grey, a Siarles Bwttwn, Public, a Macsen, yn nghyd a lluaws mawr o'r cyffelyb. Daeth teuluoedd Normanaidd yn fore i Wynedd, gan ymsefydlu o gylch Rhuth- yn, a Gwrecsam, a Dinbych, yn Swydd Dinbych. Eraill yn nghylchoedd Fflint, a Threffynon, a Llaneurgain, yn Swydd Fflint, neu Callestr, pryd y ceir rhai to'r wehelyth yn trigfanu yn Swydd Gaerlle on-ar-y-Ddyfrdwy. Nid ydym yn ben derfynol am yr adeg y daeth y Norman- iaid i Wynedd, os nad yn amseroedd rhwysg Arglwyddi y cyffiniau; ieirll mawrion Normanaidd, dan Freninoedd Normanaidd Lloegr, o Wilym 1. hyd gwymp Richard III. yn mrwydr maes Bosworth, pryd y darfu i deulu y Tudur. iaid o Benmynydd Mon, lanhau yr or- sedd-oddiwith y gorthrymwyr Plantag enetaidd, a chymeryd meddiant eu hun- ain o honi, ar esgyniad Harri VII. i or- sedd Prydain! A'r tylwyth Cymroaidd hyn sydd yn dal eu gafael ynddi byth! Mae llawer o'r enwau Normanaidd wedi dyfod yn anwyl gan galon y Cym ro er's oesau bellach ar gyfrif eu gwasan- aeth i'r Cymry yn wladwriaethol a chref yddol, megys y Myddletoniaid, y Salisbr- iad, y Dolbeniaid,y Thelweliaid, y Ffoug- iaid, y Knowlesiaid, yr Humphresiaid, a'r Dryhurstiaid, yn nghyd a'r Bidulphiaid. Dau deulu enwog iawn yn Hanes Din- bych yn y dyddiau hyny oeddynt y Salisbriaid a'r Myddletoniaid. O'r cyn- taf y tarddai yr ysgolhaig a'r boneddwr Cymreig cenedlgarol, William Salisbury, o fendigedig goffawdwriaeth, yr hwn a gyfieithodd y Testament Newydd gyntaf i'r Gymraeg. O'r teulu arall y deilliodd Cadben William Myddleton, yr hwn a droes holl lyfr y Psalmau ar fesur cerdd, gan ei gynganeddu yn gywrain a chywir yn ol rheolau mwyaf rhwymgaeth y gynganedd Gymreig, a hyny yn nghanol ei ofalon a'i oruchwylion morawl, fel llong-lywydd ar un o lestri rhyfel ei wlad! Ac o'r teulu hwn y daeth Syr Myddleton, yr hwn a dynodd yr Afon Newydd 0 Fryniau Caerloew (Glocester), i ddyfrhau dinas Llundain, yr hyn oedd an o'r gorchestion penaf yr oes hono. Bydd genyf air yn fy nesaf am Salisbriaid Dyffryn Clwyd.
CADW Y SABBOTH.
CADW Y SABBOTH. SAy Y PARCH. A. JONES, CARBONDALE, PA. Os oes modd, carwn ddweyd gair am ysgrif y Parch. R. S. Jones, D. D., Provi- dence, ar "Gadwraeth y Sabboth." Yr wyf yn cydlawenhau ag ef yn mhob ym- gais a wneir i ddyrchafu, a diogelu a hyrwyddo y ffydd Gristionogol, ac yn mhob symudiad sydd yn tueddbenu yn hyny; eithr synwyd fi yn aruthr ei fod yn gallu anwesu sel mor gul ac mor ddy- eithr i ysbryd y gwirionedd, ag a fynegir yn rhai o'i sylwadau. Yn sicr, nid mewn ysbryd dallbleidiol y mae gwasanaethu Cristionogaeth. Credwyf mai gwaith da wneir gan weinidogion Scranton wrth geisio darbwyllo masnachwyr fod deddf y wlad yn nglyn a chadwraeth y Sabboth yn dda, ac yn teilyngu ufudd-dod pawb; eto hawdd iawn ydyw rhoddi gormod o bwys ar werth cyfraith a chosb, i hyd yn nod iawn drefn cymdeithasol, heb son am gynaliaeth a llwyddiant Cristionog- aeth. Ond nid yn y cysylltiad yna yr wyf yn synu, er mai priodol ydyw nodi fod Cristionogion da yn gwahaniaethu gyda golwg ar v priodoldeb o noddi cref- ydd neu foesoldeb, neu eu sefydliadau, drwy rym ac awdurdod cyfraith wladol. Boddlonaf ar y pethau canlynol: Arweinir ni i gredu ei fod yn golygu nas gall fod y fath beth a Christion cywir a deallus sydd heb fod yn dwyn mawr sel dros y Sabboth, ac yn enwedig y Sab- both Cristionogol, neu nas gall Cristion- ogion egwyddorol lai na bod yn unfarn gyda golwg ar bwysigrwydd c-adwraeth y Sabboth i achos Cristionogaeth ar y ddaear. Nid oes help fod miloedd 0 Gristionogion yn y dallineb yma, eithr y mae yn syndod fod un o grebwyll Mr. Jones yn myntumio y fath olygiad. Hef- yd, dengys cwrs ei ysgrif ei fod yn tybio fod awdurdod y Sabboth Cristionogol mor eglur a diamwys, fel mai dyn dwl iawn, neu ddyn drwg iawn yn unig all ameu dim yn nghylch hyny. Pell iawn ydwyf o fod yn Seventh Day Adventist, ond mor wir a hyny, nid ar ffwlbri i gyd y'maeut hwy yn adeiladu, ac nid yn an- ymarferol hollol ydyw eu penboethni. Credwyf fel un fod ganddynt wrthddadl euon crvfion, ac fod yn anmhosibl ar ol edrych i fyny y ddwy ochr i'r pwnc, i fod mor fympwyol ein hysbryd wrth sef- yll dros ein golygiadau. Yn mhellach, apelia Mr. Jones at ein balchder, neu ein rhagfarnau cenedlaeth- ol fel Cymry Cristionogol. Onid arf per- yglus i'r eithaf ydyw hwn, aGo yn achos mawr y gwirionedd pa raid i ni wrtho? Nid plant ydym fel cenedl i fod, i gael ein tywys yn barhaus yn ol deddf ac ar- ferion yr amser gynt. Pa glod sydd o gadw y Sabboth mewn ysbryd coelgref- yddol a slafaidd? Teyrngarwch i wir ionedd mawr bywyd ydyw hanfod pob moesoldeb a chrefydd, ac felly apelier atom ar sail y gwir, ac fel perchenogion deall, ac nid fel rhai sydd i aros yn ngaethiwed gwyddorion y byd o barch i henafiaeth a chenedlaetholdeb. Gadawer hen apeliadau o'r fath hyn i wasanaeth ofergoeliaeth, ac awn fel cenedl i lys barn a gwirionedd. Os ydyw cadwraeth y Sabboth o hanfod gwirionedd tragwydd- ol bywyd, o ddyfnder ein parch i wirion- edd, a'n hymdeimlad a'n dibyniad arno yn unig y daw y warogaeth ddyledus a buddiol. Ond cyraedda fy syndod ei uchelbwynt pan yn edrych ar Mr. Jones yn taflu ei watwareg finiog a dygasog ar ben y Thomas H. Jones, pwy bynag ydoedd, feiddiodd ymgynyg at gychwyn mudiad yn erbyn y Sabboth Cristionogol. "Gob- eithio nad Cymro ydyw, ond mai dyn du' ydyw, ac mai rhai oedd ef a'i gyfaill wedi eu geni a'u magu yn Texas neu New Organs!" Pe byddai Thomas H. Jones yn euog o feddwdod, anlladrwydd, neu lofruddiaeth, byddai priodoldeb mewn gobeithio a dymuno fel hyn; eithr atolwg a ydyw yn anfri ar ddyn i ddadleu yn rhesymol ei olygiadau mewn materion gwladol a chrefyddol? A ydyw yn an- nheilwng o genedl y Cymry i ni ymarfer barn annibynol ar bynciau fely Sabboth? Beth ond dallineb Pabyddol sydd yn hyn? Anhawdd credu fod Mr. Jones yn byw yn y tywyllwch ysbrydol gymaint. Lladd yr ysbryd annibynol, a digaloni agoredigrwydd meddyliol mewn cenedl, fyddai lladd ei nerth, ei harddweh a'i gogoniant. Rhaid mai syrthio i brofed- igaeth wnaeth Mr. Jones yn yr ysgrif grybwylledig, ac y gwna ymddiheurad am ei drosedd i'r Crist mawr sydd yn ymgnawdoli yn ein byd ni. Anhawdd dychymygu ei fod am foment yn barnu fod sel fel hyn yn cydweddu a mawr- frydigrwydd ac ysbrydolrwydd gwirion- edd Crist.
Y BACHGrEN DALL A I CHWAER.…
Y BACHGrEN DALL A I CHWAER. (7AN WATCYN WYN. 1. 'Roedd Gwen a John yn chwaer a brawd, Anwylaf welwyd yn y byd; ■Rofedd tyner law yr eneth dlawd Yn llaw y bachgen dall o hyd: Arweiniai ef o le i Ie, I ael y bryn, a min y don; Gwarcheidiol angel dan y ne', Oedd GwenTw banwyl John. 11. Ar foreu teg o hafddydd mwyn, Cydrodient allan law yn llaw, Dros gopa y meillionog dwyn, A thros y ffrydlif fechan draw: Ond cyn eu dychwel, storom gref Ymdorai'n sydyn am eu pen, Wrth groesi'r afon tua thref, I'r llif aeth John a Gwen: III. Fe gariwyd Gwen i'r eilfyd mawr, Gan genllif chwyrn y gornant gref; A'r bacbgen dall heb wybod fawr O'r helynt gariwyd tua thref: Bu farw: ac wrth ysgwyd Haw Gofynai, "B'le mae llaw fy Ngwen:" Ar hyn ei chwaer a'i thyner law Wna'i groesaw yn y nen:
Y NAILL AR GYFER Y LLALL.
Y NAILL AR GYFER Y LLALL. GAN R. C. ROBERTS, DEERFIELD, N. Y. Yr hyn sydd yn swyno dynion i yfed ac sydd yn eu meddwi yw alcohol, a gwna dogn fechan wenwyno dyn i far- wolaeth ar y cychwyn. Tyner ymaith yr ychydig alcohol sydd mewn cwrw, ac ni wnai dynion ei yfed mwy na dwfr y gwter. Gwelir hen yfwyr yn drachtio cider wrth y chwart er mwyn yr ychydig alcohol sydd ynddo. Pan ddarganfydd- wyd y ffordd i wneyd alcohol, tybiwyd ei fod y feddyginiaeth oreu yn y byd. Efe oedd adferydd bywyd anffaeledig yr oes hono; ond mawr fn y siomedigaeth. Mae Duw doeth a daionus wedi darparu dig- onedd o ymborth at gynaliaeth dyn ac anifail, ond nid oes ddyferyn 0 alcohol ynddo yn ei gyflwr naturiol. Nid yw alcohol yn un o angenrheidiau bywyd; i'r gwrthwyneb, os cymerir ef i'r cylla, mae natur yn ymddwyn ato fel sylwedd estronoL yn gwrthdystio yn erbyn ei bresenoldeb, ac yn ei anfon allan o'r corff can gynted ag y gellir. Nid yw yn fwyd na diod, ac nid yw yn cael ei dreul- io yn y cylla; mae yn myned yn union- gyrchol i gylchrediad y gwaed, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam. Llyncer capsule yn cynwys alcohol, a bydd arogl yr alcohol ar yr anadl yn mhen ychydig eiliadau. Nis gellir gwadu bod alcohol yn llesol mewn lluaws 0 anhwylderau, ond tybiaf fod ei gymeryd hyd feddwdod yn niweidiol bob amser. Mae yr iechyd perffeithiaf i'w gael trwy ochelyd alcohol a chyfferi eraill i gynyrfu gweithrediad- au y corff, nag ychwaith i gynyrchu di- deimladrwydd. Un o ganlyniadan mwyaf truenus diota yw y blys afiach, a'r wanc anni- walladwy a'r syched cynyddol ac anorch- fygol sydd yn cael ei greu. Wedi dyfod dros un spri, rhaid cael spri fwy y tro nesaf, a rhaid cael gwirod cryfach y naill dro ar ol y llall. Diffyg ystyriaeth o hyn sydd yn gwneyd llawer yn feddwon. "Gallaf fi gymeryd gwydriad pan fyn- wyf, a pheidio pan fynwyf, peidiwch a meddwl y gwnaf fi fochyn o honof fy hun," ebe y dyn. Druan o hono; mae yn rholio i'r gwter yn ddiarwybod iddo ei hun. GrtAlw Dr. Talmadge feddwdod yn gyfuniad o apoplexy a dementia. Mae y corff yn cael ei barlysu a'r meddwl yn cael ei wallgofi gan alcohol. Bydded i ddyn feddwi unwaith, ac yna byw yn sobr ngain mlynedd, dywedir y gall meddyg medrus weled ol y meddwi ar ei ymenydd ar ol ei farwolaeth. Nid oes afiechyd mor ofnadwy o erchyll a'r delirium tremens—clefyd etifeddol y meddwon. Yn y gorphwylledd dychryn- 11yd hwn rhaid gwylied y dyn yn bar- haus rhag iddo roddi terfyn ar ei fywyd ei hun. Trown ymaith oddiwrth yr ol- ygfa druenus. Geilw rhai y meddwon yn ynfydion, ond mwy priodol eu galw yn gaethion. Y rhai hyny yw yr ynfydion sydd yn cellwair gyda'r ddiod feddwol, gan dyb- ied y gallant lywodraethu eu blys, a chadw o fewn terfynau cymedroldeb, pan y mae miliwnau wedi gwneyd yr un ym- gais, ac wedi eu claddu yn medd y medd- won ond caethion anewyllysgar yw y meddwon. Dymuniad calon llawer o honynt yw byw yn sobr, ond nis gallant. Wedi colli ei gymeriad a dinystrio ei gar- tref, ei wraig wedi marw o doriad calon, ei blant yn cardota bara, wedi bod lawer gwaith ar ddibyn uffern yn y tremens, "mi a'i ceisiaf (y ddiod) dra- chefn" yw ei iaith. Mae holl feddylfryd ei galon ar yfed bob amser. Mae llawer o gynlluniau wedi eu mabwysiadn i gyf- yngu ac atal y drwg mawr hwn. Mae rhai cyfreithiau wedi eu gwneuthur i re- oleiddio arfer tobaco, ond nid i'r un graddau a diodydd meddwol. Mae y to- baco a'r gwirod yn gynorthwyol y naill i'r llall Bron yn ddieithriad mae y rhai sydd yn yfed diodydd meddwol yn arfer tobaco. Mae y duedd i yfed yn cael ei ychwanegu ar ei ganfed trwy arfer to- baco. Mae y cyfleusderau i yfed yn cael eu dyblu, gan fod y ddau yn cael eu gwerthu dros yr un bwrdd. Pe rhoddid y ddau arferiad yn yr un cwch a'i ded- frydu i ddifancoll, credaf y byddai yn hawddach enill y fuddugoliaeth. Y ddeddf a fabwysiadwyd gan Dalaeth South Carolina y flwyddyn ddiweddaf sydd yn tynu fwyaf o sylw yn bresenol. Ymddengys fod cyfnewidiad mawr er gwell yn y Dalaeth. Llai 0 feddwi, llai o droseddau, a swm da o arian yn dyfod trwy y gyfraith newydd. Diau y gwelir Talaethau eraill yn mabwysiadu yr un cynllun. Rhai o nodweddion canmol- adwy y gyfraith hon yw, nad oes elw per- sonol oddiwrth y fasnach; mae yr oil dan awdurdod y Dalaeth. Atelir tretio, gan na oddefir yfed lie y mae y gwirod yn cael ei werthu; nid oes "fancy drinks" yn cael eu cymysgu i ddenu pobl i yfed; ni werthir ar goel nac yn y nos; mae y salwn a'r bar yn cael eu diddymu, a thrwy hyny mae y cyfleusderau a'r tem- tasiynau i yfed yn cael eu lleihau yn ddirfawr. Arwydd dda yw gweled y