Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
111 IDr)2cb, A WEEKLY NEWSPAPER, ESTABLISHED 1SS1. Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, S. Y. CHICAGO OFFICE-US MO:SROE ST. -0- IMPORTANT TO ADVERTISERS:—The attention of business men in general is called to Y DRYCH- CoLtJMBiA as a superior advertising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other publication. It has offices in Utica, New York and Chicago, and is the only Welsh newspaper published in the United States. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Brit- ain and the British Dependencies. It is the re- cognized National Organ of the Welsh people.
, EBR ILL. r;----+---
EBR ILL. r; -+- CAN MORIEN 31 ON HUGHES. Ebrill. hoff us fis wyt ti, Haulwen ddygi di i ni: Rhagredegydd wyr o Fai, Lloni calon drom a wnai: Mis i Robin ddechreu'i gan, Mis sy'n deffro'r blodau man; Porth y gwauwyn. Ebrill bach, Yn dy gwmni 'ry'm yn iach; Merch y gauaf, Ebrill fwyn, Canu'r ydwyf yn dy swyn; Cana'r ddaear. cana'r plant, Cana'r bryn, y ddol a'r nant; Mis cawodydd maethlon braf, Rhagymadrodd wyt i'r haf.
DYFERION 0 LAN SUPERIOR.
DYFERION 0 LAN SUPERIOR. GAN R. R. WILLIAMS, L'ANSE, MICH. Anfonwyd cryn lawer o ddyferynau o'r lan ddeheuol yma i'r llyn mawr o ddwfr croew hwn, a chan ei fod yn ddihysbydd ei ddyferion, a'i ddwfr yn ffres, dysglaer a newydd bob dydd o'r flwyddyn, cania- taer i mi ysgrifenn ychydig ddyferynau eto ar ddyfodiad y gwanwyn a'i wynt- oedd deffrous. Ar y cyfan cawsom auaf lied dyner ar y glanau yma; ni chaed tywydd eithafol o oer, na thymestloedd rhuthrol a brawychus. Cawsom drwch da o eira yn gyson trwy y pedwar mis diweddaf, a gwnaeth y masnachwyr mewn coed ddefnydd yn iawn o'r cnwd gwyn i gael y boncyffion at eu melinau llifio, a bydd y rhai hyny yn dechreu ar eu gwaith o'u llifio a'u parotoi i'r farch- nad, ddydd a nos, trwy y misoedd dyfod- ol. Edrychai pethau yn bur fygythiol ar. ddyfodiad y gauaf, a daroganid amser o flinfyd, newyn, ac eisieu. Bu y farchnad haiarn a chopr yn lied isel trwy yr haf diweddaf, a phan ddaeth diwedd y flwyddyn, a'n porthladdoedd yn cael eu cloi gan rewynt, a'r llongau yn troi i mewn i auafu, a phob gobaith am ad- newyddiad masnach yn cilio o'n gafael— toraeth o'r mwnau ar law, wrth bob gwaith, a dim galw am dano; a'r wein- yddiaeth yn Washington yn bygwth cario allan ei haddewid o dynu y tariff ac agor porthladdoedd y wlad i wledydd tramor anfon eu mwnau in marchnad- oedd, fel nad oedd ysbryd yn y cwmniau i gadw eu mwngloddiau i redeg trwy y gauaf, ac ataliwyd llawer yn hollol. a thaflwyd miloedd o fwnwyr allan o ddi- wrnod o waith-pentrefydd a threfydd lied helaeth trwy y parthau hyn yn cael eu taflu i gyfyngder a thlodi ar unwaith, gwnaed apel gan amryw o'r sefydliadau yn Michigan a Wisconsin at eu llywod- raethwyr am gymorth, ac ateboddaw- durdodau y ddwy Dalaeth trwy anfon cynorthwy i Bessmar, Ironwood, &c., &c yn haelionus. Gwnaed casgliadau trwy ardaloedd y mwn copr er cynorth- wyo eu cydfwnwyr yn y .gweithfeydd haiarn. Ni bu y caledi yn agos can waethed yn nghymydogaethau y copr. < Bu tipyn o gynwrf yn Ashland a manau eraill wedi iddynt dderbyn yn haelionus gyflawnder o angenrheidiau er eu di- wallu, a'r. nad oedd yr adnoddau yn cael eu rhanu wrth fodd y rhai a'i derbyniant. Er i'r bobl gymwysaf a allesid eu cael wneyd eu goreu er diwallu angen pob un yn ol ei angen, bu agos iawn i'r truein- tod angenns a myned ar rtreic am na chawsant wneyd (el y tytoent hwy oedd oreu a'r elusen a anfomd iddynt. A bu oonndau i r lleoedd l weled i ^hon aehaedfoayraxlnodd- an a gyfranwyd yn cael eu rhanu yn deg mor bell ag yr oedd yn bosibl. Mae p^ au yn edrych gryn lawer yn well y ffordd yma yn awr, ac ni chlyNNyd fod neb wedi newynu na rhynu; ond bu yn ddigor^, f- yng ar lawer o deuluoedd, a(^a" amgylchiadau llaweroedd. Nid oes y neb, hyd yn nod o'r Democratic y hoffi y change y sonid cymaint am dano a roddai amser da i bawb! Mae yn debyg nad yw gweinyddiaeth y blaid mewn awdurdod yn awr ya gyfrifol am yr oll o'r aflwydd, ond ca ei beio o'i blegid, a cholla yr awenau yn ddiau mor fuan ag y gellir ei symud. Onid yw y blaid sydd yn rhedeg y wlad yn awr yn hollol yn fwy medrus i chwalu na chasglu, dad- wneyd yn hytrach na gwneyd, tynu i lawr ac nid adeiladu? Ni fynwn er dim feddwl am foment nad oes yn y blaid hon filoedd, a chanoedd o filoedd o ddynion gonest a chydwybodolagwladgarwch yn berwi en gwaed, ond nid ydynt yn medru gwrthweithio a dal i lawr y teimlad cryf a gorchfygol o bleidgarwch, a chyfodi i fod yn wladweinwyr urddasol ryw sut neu gilydd. Dichon mai dylanwad cryf yr elfen dramor yw un o wendidau y blaid hon; rhaid addef fod a wnelo yr hen lane o Rufain fwy a symudiadau y blaid sydd a'r awenau yn ei Haw yn y vad yn awr; yn rhengau y Democrat- iaid y ceir toraeth gwehilion cymdeithas yn mhrif drefydd ein gwlad. Mae y wlad mor fawr a'i hadnoddau mor am- rywiol a gwasgarog, fel mai gwaith mawr, dyrys ac anhawdd ydyw deddfu i gyfarfod a gwahanol reidiau mor am- rywiol. Hawdd yw beio a chanfod diff ygion, ond nid mor hawdd ydyw gwneyd yn well yn ami. Credaf yn wirioneddol mai y blaid oreu i'r wlad hon a'i phreswylwyr ydyw y blaid ddaeth i awdurdod ac a wnaeth y fath wrhydri o dan arweiniad y gwlad garwr Abraham Lincoln-y blaid hon er ei holl ddiffygion, sydd wedi rhoddi i'r Talaethau Unedig y gwelliantau helaeth- af a'r rhagorfreintiau rhagoraf a gaed yn y wlad er adeg ei hannibyniaeth ar Loegr. Dyma y blaid a gadwodd y wlad rhag ymranu yn ddwy blaid, os nad ychwaneg na dwy; dyma y blaid a ad- drefnodd y wlad ar ol y difrod a'r draul a wnaed gan y blaid arall-a dyma y blaid a roddodd hawl i bob dinesydd o'i mewn gael 160 erw o dir yn gartref rhad a rhydd am ddim ond byw arno a'i ddiwyllio; a choeliaf fod gan y blaid hon yn y wlad waith eto i'w gyflawni cyn y bydd ei chenadwri wedi ei gwblhau. Teg yw i mi wneyd crybwylliad yn y fan yma, fel un dyferyn bach, ddarfod i gyfaill i mi o Bangor, Pa., anfon llyfr yn anrheg i'r lie hwn ar ol iddo weled cais o'm heiddo yn y DRYCH at rywun cym- wys o hen drigolion plwyf Llanberis am gasglu hanes y plwyf, pryd yr oedd llyfr wedi ei gyhoeddi, ac ni wyddwn. Dyma y llyfr o fy mlaen, a'i enw yw "Hynaf- iaethau a Thraddodiadau Plwyf Llanber- is a'r Amgylchoedd, gan William Wil liams, Ceunant Coch Llanberis." Cpf. ais fwy o wybodaeth am y plwyf a'i dri- golion nag a gefais erioed yn flaenorol, a bwriadaf alw sylw ato yn helaethach mewn dull gwahanol. Diolchaf i'r gwr am ei anrheg, ac erfyn ei faddenant am fy nygn anwybodaeth o'r fath lyfr pan wnaethym y cais uchod trwy y DRYCH. Gweddai i mi wneyd yn hysbys hefyd i mi gael gwybod pwy yw "Cousin" yr holais am dano, ac i mi gael llythyrau caredig a chyfeillgar iawn oddiwrtho, a deallaf mai hen chwarelwr ydyw yntau, ond wedi ymdrechu trwy ddiwydrwydd a chynildeb i gael addysg golegawl a dringo i safle o ymddiried uchel, ac er gyda'r Americaniaid, yn Gymro twym- galon a llenor o nod, ac wedi ysgrifenu llawer i'r wasg, a gobeithiaf y parha i addysgu a dyddanu ei genedl yn y dy- fodol. Dafn bach arall y carwyf ei daflu yw am yr ysgrif flaenaf yn y DRYCH, Ebrill 5ed, gan y Parch. W. F. Jones, Alma, Mich. Da genyf fod fath wr yn y Dal- aeth, er nad wyf yn gwybod dim am dano ond a welaf yn y DRYCH. Dyma ysgrif a dal yn dda am ei darllen, a thai ei darllen drachefn a thrachefn; gobeith- iaf fod pob un o ddarllenwyr y DRYCH wedi sylwi arni. Darllenir mwy na mwy yr oes hon, fel y dywed yr ysgrif hon. ond i ba ddyben? Clywais ddyn yn dy- wedyd y dydd o'r blaen ei fod ef yn dar- llen llawer iawn i basio yr amser heibio, ac nad oedd un math o ddim ar ei gof oedd wedi ei ddarllen ar ol rhoddi y llyfr o'i law! Yn briodol iawn y sylwa Jones: "Fe ddylai pob darllenwr, panyn cymer- yd llyfr i'w ddarllen, ofyn y cwestiwn, I ba beth yr wyt ti dda?" Yn nglyn a hyn am ddarllen, &c., dywedir gan lyfr- gellydd llyfrgell gyhoeddus Chicago, fod ton y rhai a fwynhant y llyfrgell gy- hoeddus yn y ddinas fawr hono wedi newid yn fawr er gwell ar ol y Ffair fawr. Dywed y llyfrgellydd, yr hwn sydd yn ei swydd i wylio dros y llyfrau a gymerir oddi yno i'w darllen, mai toraeth y llyfrau a gymerid y blynyddoedd diw- t, eddaf oeddynt ffugchwedlau, hanes teith- iau, a'r cyffelyb-pethau o natur ysgafn a lied ddifudd i'w darllenwyr i fyw yn feddyliol arnynt; ond mae y gwahaniaeth yn amlwg y misoedd diweddaf yn chwaeth lenyddol y rhai a fenthycant o'r llyfrfa. Gwelodd yr lanci darllengar yn y Ffair orchestwaith celfyddyd o'r hen wledydd, a daeth i gofio mai nid gan yr American prysur y cedwir doethineb, a bod ganddo lawer i'w ddysgu eto oddi- wrth yr hen wledydd, a chanlyniad hyn yw dod i ddeall fod y llyfrfa gyhoeddus yn fyr o lawer o'r gweithiau diweddaf ar wyddoniaeth a chelfyddyd, a bu orfod anfon am ganoedd o gyfrolau i wledydd tramor i ddiwallu yr alwad a chyfarfod a chwaeth a grewyd trwy y Ffair a'i har- ddangosiad. Pe na wnaethid ond hyn gan y cynulliad mawr yn Chicago nid aethai y draul a'r drafferth yn ofer. Symud y mae] y byd, a symud yn bur gyflym, a chyflyma eto. Piti garw fod dyn yn ymyl ei adael, a hyny pan mae y llygad yn cil agor. O! mi welir pethau rhyfedd yn yr haner canrif ddyfodol. Dywedodd y dyn athrylithgar Edison un o'r dyddiau diweddaf yma, y deuai dyn yn fuan na byddai ganddo amser i'w golli i gysgu ond pur ychydig, ac mai ar- feriad afreidiol oedd cysgu wyth a deng awr allan o bob pedair a'r hugain! Trwy fod yr oesoedd blaenorol mor ddiffygiol i oleuo tywyllwch y nos, iddynt arfer cysgu gormodedd trwy y canrifoedd. -Mynegodd iddo ef fod yn effro i weithio am ddeuddeng awr a thrigain yn ddiw- eddar i orphen rhyw beiriant oedd yn ei wneyd i'w anfon i Lundain, Lloegr, ond dywedai un a weithiai iddo ei fod ar ol hyny wedi cysgu trigain a dwy o oriau— dim ond deffro tipyn bach i fwyta! Mae gan ferched y dref hon gymdeith- as wnio, a gwnaethant 300 o ffedogau o bob math a lliw, a llawer iawn o wahan- ol ddilladau eraill, a chanol yr wythnos ddiweddaf gwnaed ffair ar y cwbl a swper da, a gwnaed o elw glan at dalu i'n gweinidog$509.11. Go dda ar amser z7, caled. Mae y Cymry sydd yma ac yn Red Jacket yn iach ac yn cael digon, a diolch am hyny. Bu y cyfaill J. P. Roberts, mab Price Roberts, Fair Haven, Vt., yma yn treulio Sabboth gyda ni ddech- reu y mis hwn, a chaed hwyl yn Gym- raeg. Un dyddan iawn yw Job, fel ei dad, a'i bleser yw son am ei dad a'i fam, yn arbenig am eu taith o Pennsylvania i Racine, Wis., ac yn ol i Fair Haven, a'i dod yn picio allan o'r cars i brynu rhyw- beth i'w fwyta, ac iddo aros yn rhy hir a cholli y tren, ac i'r teulu orfod myned hebddo i ben eu taith, er iddo redeg ei oreu ar ol y cars, a llon'd ei freichiau o afalau. Nid allodd ei oddiweddyd! Cof- ion at hil G-omer bod ag un. Cafodd pob copa o'r Cymry sydd yn L'Anse yma gyf- arfod i ganu a bwyta, siarad a chwerthin un noswaith y gauaf, ac yn oedd yr hen gyfaill J. D. Rowlands bron a neidio yn Gymraeg wrth'glywed y berdoneg yn canu yr hen alawon Cymreig. Wei, pan symudir rhyw ddau neu dri o honom i'r I fynwent yma bydd y Gymraeg wedi dar- fod am dani yn L'Anse am byth, mae'n bur debygol. Daw yma bedwar DRYCH bob wythnos ac un Cyfaill bob mis-dyna ein holl gysylltiad bron a'r byd Cymreig. Dywedodd yr hen ddyn wrthyf un Sab both yn ddiweddar yn'y bregeth, "Pe cawset ti glywed yr hen fodryb Mal a Sion Dafydd y Ddol yn gwaeddi Amen, a diolch yn gynes yn Gymraeg yn Capel Coch, buasai yn fwy o foddion gras i ti 0 lawer na'r bregeth gywrain Saesneg sychlyd hon." Mae o yn gall a llawn o ddichellion drwg; bydd yn siarad Cym- raeg o hyd wrthyf fi yn y capel yma.
--.__-----------Y DIWEDDAR…
Y DIWEDDAR HAYDN PARRY. Fel y crybwyllwyd yn ein newyddion pellebrol, torwyd y cerddor rhagorol hwn i lawr gyda sydynrwydd, yn mlodau ei ddyddiau, o enyniad yr ysgyfaint, yn ei breswylfod yn Llundain. Yr oedd ei fam wedi myned i dreulio gwyliau y Pasc gyda'i mab a'i deiilu bychan, ond ni ddychmygodd ei bod yn myned i weini ar Haydn yn ei oriau diweddaf, ac y byddai yn rhaid iddi ganu yn iach am byth iddo ac edrych arno yn cau ei lygaid yn yr angeu! Yr oedd ei dad, Dr. Parry, yn y Gogledd, a daeth y frysneges alarus i'w law gyda'i fod yn dihuno yn y Rhyl. Coleddai Dr. Parry y syniadau uchaf am dano, nid yn unig am ei fod yn fab iddo, ond yr oedd ei gynydd a'i weithiau cerddorol yn cyfiawnhau hyny. Yr oedd ei genedl a'r byd cerddorol hefyd yn dys- gwyl llawer wrtho, ac y maent yn cyd- wylo ac yn cydocheneidio a'i deulu galar- us. Edrychid arno fel un o'r chwareu- wyr goreu ar y piano yn y deyrnas. Y ,mae ei gantata "Gwen" a'i operas "Cig- arette" a "Miami" yn cael lie anrhydedd- us yn mysg gweithiau cerddorol goreu yr oes. Yr oedd yn hynod lwyddianus hef- yd fel proffeswr yn Ngholeg Cerddorol y Guild-Hall, Llundain, a chymerai ddyddordeb neillduol yn nghynydd pob un o'i ddysgyblion. Claddwyd ef yn West Hampstead, mewn beddrod cyfag- os i'r eiddo Syr George Macfarren, a Mr. Walter Bache. Gweinyddwyd gan y Parch. Killin Roberts, o eglwys All Saints, Margaret Street; a chanwyd hymnau Cymreig uwch ben y bedd gan gantorion perthynol i wahanol gorau Cymreig y brifddinas. Traddodwyd an- erchiad byr a theimladwy gan Dr. Evans (Ymneillduwr). Y prif alarwyr oeddynt Dr. Joseph Parry (tad), Mrs. Haydn Parry (gweddw), Mr. a Mrs. Watkins (rhieni y weddw), Mr. Mendelsshon Parry (brawd), Mrs. Mendelsshon Parry, Mr. H. Watkins, Mr. E. Fisher, a Mr. Wayte. Cynrychiolid y Guildhall School of Music gan Syr Joseph Barnby, ac amryw broff- eswyr.
[No title]
-The Church in China, yw enw cyf- nodolyn dau fisol a gyhoeddir yn Shang- hai gan yr Esgob Graves.
CAMSYNIAD Y COLEGWYR.
CAMSYNIAD Y COLEGWYR. GA Y PARCH. A BR AM JONES, CARBONDALE, PENNA. Darllenais ysgrif y Parch. R. R. Davies, yn yr hon y cyfeiria at dduwinyddiaeth aruchel Coleg Yale. Mae y brawd, mi debygwn, yn llafurio o dan gamsyniad cyifredin iawn yn mysg efrydwyr ieu- ainc. Daw llawer o honynt i gyfarfydd- iac a meddyliaeth ddiweddaraf yr oes am y tro cyntaf ynmhersonau eu hathrawon eolegawl, a thybiant o herwydd hyny mai yma y mae doethineb, ie doethineb gudd- iedig! Gwn am y profiad yn dda, ond gwn hefyd fod synwyr cyffredin y werin brofiadol a deallus yn llawer ar y blaen fel rheol i ddoethineb y mawrion yma. Nid yw uchel feirniadaeth yr oes bresen- ol yn llawel* amgenach na dyfodiad i benglogau ein mawrion colegawl y syn- iadaeth ymarferol sydd wedi bod yn llywodraethu y cyffredinolion o ddynion, er dyddiau Paine a William Penn, ac yn mhell cyn hyny. "Necessity is the mo- ther of invention," meddir, ac yn yr hen ysgol fawr "bob dydd," fel y dywedem yn Nghymru, y dysgir yn fwyaf effeith- iol egwyddorion bywyd ymarferol. Cym- wyso at dduwinyddiaeth yr egwyddorion a ddysgir yn mywyd ymarferol y byd ydyw y drefn sydd wedi nodweddu cyn- ydd duwinyddol erioed. Ar ol graddio yn ysgol y byd y gall dyn astudio i bwr- pas bethau yr ysbryd. Creadur amgylch- iadau i raddau helaeth iawn ydyw dyn. Y byd tymorol ydyw y byd nesaf ato, a tljrwy hir a thrafferthus brofiad y mae ef yn dyfod i sylweddoli ei natur a'i ddeddf- au. Y dynion mwyaf dwl o angenrheid- rwydd i ddeall y byd ysbrydol, ydyw y dynion sydd yn gwybod leiaf am y byd tymorol, ac y mae bod yn hyddysg yn mhethau bywyd tymorol yn anhebgorol i wneuthur duwinydd cyson ac ymarfer- ol. Ond astudio hyn, gwelir efallai pa- ham y dywedai Crist fod teyrnas nefoedd yn debyg i deyrnas pethau cyffredin nat- ur a bywyd ymarferol; a phaham hefyd y mae cymdeithas a chrefydd wedi der- bvn ei "geni drachefn" lawer tro o reng- aa y werin a'r bobl gyffredin. Wrth ymwneyd a bywyd ymarferol y dysgir dyn i feddwl yn iawn ac yn ymarferol am fywyd, ac oddi yma yn unig y gall ddyf- od y meddwl all ffurfio syniadau cymed- rol a gwir oleuedig am drefn Duw yn ei ymwneyd a dyn. Felly o'r byd y mae yr eglwys yn derbyn ei gwirionedd mewn ystyr. Gwareiddiad sydd yn gwneyd ein duw- inyddiaeth. 0 feddwl a phrofiad y wer- in y mae ein hathrawon yn dysgu doeth- ineb. Nid oes gan athrawon Yale ddim a'r nad ydynt wedi ei gymeryd o wybod- aeth pawb. Fel dynion sydd yn ym- wneyd ond yn anuniongyrchol a bywyd cyffredin, gellir dysgwyl cael ein dysg- awdwyr proffesedig yn mhell ar ol yr oes yn hytrach nag o flaen yr oes, ac yn ym- glymedig wrth draddodiadau, dychmyg- ion, a mympwyon yn fwy na phawb. Yn sicr y mae gan y pregethwr neu y gweinidog fantais arnynt, o herwydd ei fod yn byw fel rheol yn fwy yn y byd, er nad o'r byd. Y mae ganddo gystal man- tais a neb o honynt i ymgydnabyddu a meddyliau dysgawdwyr yr oes a'r oesau, ac yn sicr o fod mewn gwell safle i ffurfio barn ddiduedd ac annibynol. Gallwn yn rhesyraol ddysgwyl mwy o gymesuredd yn nuwinyddiaeth yr eglwysi a'r pwl- pudau nag yn y colegau a'r cadeiriau proffeswrol. Nid oes yn mhlith y proffesedigion col- egawl yr yni, y talentau, a'r wybodaeth nad ydynt hefyd yn wasgaredig drwy gorff y werin weinidogaethol. Mewn gwirionedd, pa fantais all dyn gael i as- tudio duwinyddiaeth yn Yale rhagor nag yn un o fwthynod Cymru? Yn hytrach credwyf y gellir astudio i fwy o bwrpas yn y bwthyn bethau mawrion duwinydd- iaeth. Y mae mantais ac anfantais yn nglyn a'r bwthyn a'r coleg; ond y mae anfanteision y bwthyn gyda digonedd cyfleusderau eraill ein hoes, yn cael eu gorbwyso gan ei fanteision yn yr astud- iaeth neillduol hon. Gall y dyn ieuanc o feddwl effro ac astudgar heddyw fod yn dduwinydd o'r radd flaenaf heb fod led troed yn ein hathrofeydd.
Y PARCH. JOHN UOBEUTS/TOWYN.
Y PARCH. JOHN UOBEUTS/TOWYN. Dydd Meroher, Mawrth 28, bu farw y gweinidog da hwn, yn 46 mlwydd oed. Brodor oedd 9 Lanuwchllyn, ac yr oedd yn frawd i'r Parch. O. W. Roberts, gynt o Plainfield, N. Y. Addysgwyd ef yn y Bala, ac ordeiniwyd ef yn weinidog yn Llanelltyd, Ganllwyd a Llanfachreth. Wedi ei sefydliad, gwnaeth waith Ilwydd- ianus yn y daith yma, trwy addysgu pobl ieuainc oedd dan ei ofal, ac yn ei amser ef yr adeiladwyd capel Llanfach- reth, a gwnaeth ei ran tuag at dalu dyled y capel yma trwy gasglu ei oreu tuag ato. Wedi bod yn Llanelltyd, symudodd i Llan Ffestiniog fel olynydd i Mr. Math. er yn y flwyddyn 1877, ac yn y flwyddyn 1883 derbyniodd alwad i Bryncrug a Towyn, Meirionydd, lie y bu hyd ei far- wolaeth. Bu am amryw fisoedd yn gys- 1 tuddiol, ac yn cael ei ddirdynu yn aruthr, a phan y cydymdeimlid ag ef, dywedai yn y fan, "Beth yw fy nghystudd i wrth < boenan fy Ngwaredwr anwyl." Gadaw- odd Mr. Roberts briod a 5 o blant bach i alaru ar ei ol; ac ni bu tad a phriod tyn- erach yn y byd.
AP DEULYN YN EI FEDD!\
AP DEULYN YN EI FEDD! GA-N- JOLLY FOX, DENVER. DENVER, COL., Ebrill 10.—Wedi afiech- yd byrlb,-orphenodd ein cyfaill a'r cym- rawd E. T. Evans (Ap Deulyn) ei ddaear- ol rawd yn Cripple Creek, Col., ar y 5ed dydd o Ebrill, 1894, yn 36 mlwydd oed. Brodor oedd o Talyllyn, ger Trefriw, G. C., lie yr erys yn awr ei dad galarus, brodyr a chwiorydd. Gallwn sicrhau y cyfryw iddo dderbyn pob cynorthwy all- ai braich o gnawd estyn, ond yr hen elyn, y pneumonia, a orfu. Ei ddymuniad diweddaf ydoedd ar i'w gyfeillion symud ei weddillion i Denver i'w daearu; ac er fod symud y gweddillion ar draws y mynyddoedd yn ymgymeriad ag oedd yn gofyn traul anferth, cydymffurfiwyd a'i gais. Dygwyd yr holl dreuliau yn ewyll- ysgar gan ei gefnder G. T. Evans, Lam artine, Col. Brydnawn Sul, wedi gwasanaeth byr ond hynod effeithiol gan y Parch. Owen Jones yn ystafelloedd eang a chyfleus "Cartref y Cymry," 1300 Curtis St., awd a'r gweddillion i orphwys i fynwent brydferth Fairmount. Dymuna G. T. Evans, trwy gyfrwng y DRYCH, ddiolch i Gymry Denver am y fath arddangosiad ar ddydd yr angladd, i'r chwiorydd am y blodau amryliw a drudfawr, ac i "Gar- tref y Cymry" am eu hewyllysgarwch, a'u dynoliaeth fawr yn achlesu y gwedd illion. Yr ydoedd yr ymadawedig yn hoff iawn o Colorado; yma y mynodd fyw, ac yma y gorfu farw. Cydnabydd- ir ei gyraeddiadan daearegol gan fwnwyr profiadol trwy y Dalaeth, astudiodd nat- ur ei chribog greigiau, ac i ansawdd ei chuddgelloedd, nes bod yn abl i "Weled ger y graig hagr wedd Oed hono wrth ei danecld." Tynai sylw cyfalafwyr yn ei gyraedd- iad daearegol a mwnawl, a bu yn llanw swyddau o gyfrifoldeb o dro i dro. Yr ydoedd Ap Deulyn yn adnabyddus er's blynyddoedd fel lienor a bardd, ac ym hyfrydai lawer yn meusydd cynyrchiol lien, awen a chan. Ysgrifenodd lawer i golofnau y DRYCH, a byddai ei erthyglau a'i farddoniaeth bob amser yn chwaeth- us ac adeiladol. Gelli hyfforddio cysgu yn dawel Ap Deulyn, bu dy fywyd byr, yn Hawn gwaith; wedi rhwyfo llawer fel y mwyafrif o honom yn erbyn llifeiriant creulawn adfyd a siomedigaethau, cefaist fedd ar ddiwedd y daith. Byddwn gyda thi yn ebrwydd iawn. Planer derwen coffadwriaeth, Tyfed llawryf gwych eu gwedd, Plethant eu cangenau helaeth Yn garedig uwch dy fedd; Oesol ddafnau gwlith y nefoedd Fyddo'n disgyn arnynt hwy, Ac oddi yno drwy'r blynyddoedd I eneiniCth drigle mwy.-E. C. Roberts..
O'R DDINAS YMERODROL.
O'R DDINAS YMERODROL. GAN MENAIFARDD. NEW YORK, Ebrill 16.—Y mae i'r Parch. E. D. Evans, gweinidog parchus yr Annibynwyr, gydymdeimlad llwyraf l gyfeillion Cymreig y ddinas yn y brofedigaeth chwerw ddaeth i'w ran, sef marwolaeth annysgwyliadwy ei anwyl fam yn Nghymru. Deallwn hefyd mai parhau yn wael y mae ei briod hoff. Duw fyddo yn noddfa a nerth iddo yn ei brof- edigaethau chwerwon. Yn nghwmni Brenin y Te cawsom y pleser o ymgydnabyddu ag un o swydd- ogion y weinyddiaeth, sef Gwilym Cadle o Scranton, Pa. Y mae yn foneddwr Cymreig siriol, ac yn haeddol o ymddir- iedaeth ei Frenin. Nos Fercher, yn mhreswylfod Mrs. Thomas, 216 East 28th, gan y Parch. Hugh Pritchard, unwyd mewn glan bri- odas Mr. William E. Jones a Miss Anna Thomas. Deallwn eu bod yn bwriadu ymadael a'r ddinas a thrigo yn Boston. Y mae i'r cyfeillion cerddgar hyn ein dy. muniadau goreu. Y Parch. R. T. Roberts, Racine, Wis., fydd yn gwasanaethu yn mhwlpud 13th St. y tri Sabboth nesaf, yna y Parch. Abel J. Parry (B.), Cefnmawr, G. C., un o hoelion wyth enwad parchus y Bedydd- wyr yn yr Hen Wlad. Cynelir cyfarfod y clwb Gwerinol nos Sadwrn, Ebrill 21ain, 'pryd y dysgwylir anerchiadau gan C. James ac eraill. —Mewn pregeth ddiweddar ar "Gen- edlyddiaeth Dramor yn America," dyw- edodd Archesgob Ireland fod yr Eglwys Babaidd yma wedi dyoddef gormod oddi- wrth ddiffyg American iaeth; rhaid i un cen.edloldeb fod yn oruchaf yn y wlad hon, a hwnw yn Americaniaeth; ar y telerau hyn y mae America yn derbyn tramoriaid yn ddinasyddion. Nid oedd j Padrig Sant yn Wyddel o enedigaeth; yr oedd yn Wyddel yn unig drwy ei ym- gysegriad a'i lafur er gwneyd lies i'r 1 Werddon, —Bwriada Bwdiaid Japan barotoi cyff- < es ffydd, er gwneyd eu credoau yn hys- f bys i'r bobl, a gwrthweithio dylanwad j credoau diamwys y Cristionogion, ac y maent mewn penbleth beth i'w roi yn eu tyffes. <
f DIWEDDAR BARCH. J. MORGAN…
f DIWEDDAR BARCH. J. MORGAN THOMAS, ALLIANCE, 0. JAN Y PARCH. J. P. WILLIAMS, YOUNGS- TOWN, O. Fel y mynegwyd yn y DRYCH am yr wythnos ddiweddaf, bu farw y gweinid- og da hwn i Iesu Grist, fore ddydd Sad- wrn, Mawrth 31. Er ei fod yn gwanychu o ran ei iechyd er's rhai misoedd, ni fedd- yliasai neb fod awr ei ymddatodiad mor agos. Dyoddefodd oddiwrth- amrywiol anhwylderau corfforol, ac er pob gofal o eiddo y meddygon goreu, rhoddodd ang- eu derfyn ar fywyd y dyn da a defnydd- iol hwn, ar y dydd olaf o Fawrth, yn 69 oed. Un o brif fendithion y nef i genedl neu oes yw dynion galluog o feddwl, ac ofn Duw yn llywodraethu eu gweithrediad- au. Dynion o'r nodwedd yma ydynt brif nerth a gogoniant pob cenedl ac oes. Gofynodd Louis XIV. i un o'i weinidog- ion, beth oedd yr achos ei fod ef, oedd yn llywodraethu gwlad fawr boblog fel Ffrainc, yn analluog i orchfygu gwlad fechan fel Holland. 'Oblegid," meddai y gweinidog, "nad yw mawredd gwlad yn dibynu ar eangder ei thiriogaeth, ond ar gymeriad ei thrigolion." EithA.O-fil- roniaeth, nis gellir ei gwell. Mae dÝn." gymeriad yn allu yn ei oes, a gellir ed- rych ar y dynion hyny ag y mae y ddwy elfen o allu wedi cydgyfarfod ynddynt, -sef gallu meddwl a gallu cymeriad, fel y colofnau sydd yn dal cenedl ar ei thraed; a phan y mae un o'r colofnau yn syrthio, mae yr holl genedl yn teimlo yr ysgyd- wad. Nid gormod yw dweyd fod un o'r colofnau wedi syrthio yn marwolaeth ein hanwyl frawd Mr. Thomas. Ganwyd ein gwrthrych yn agos i Lan- gadoc, Swydd Gaerfyrddin. D. C., yn Medi, 1825. Nid ydym yn tybied fod Mr. Thomas, fel y rhan luosocaf o feib- ion athrylith yn mhob oes a gwlad, yn hanu ond o deulu cyffredin. Y mae llu- aws mawr o'r dynion gwerthfawrocaf i gymdeithas wedi eu magu ar aelwydydd lie na wyddid dim am foethau cyfoeth; a diau geuym pe buasai rhieni y bachgen John M. Thomas yn gallu rhagweled y dyfodol, y buasai meddwl am y safle an- rhydeddus a enillai iddo ei hun, a'r gwas- anaeth gwerthfawr a gyflawnai i'w Dduw a'i genedl. yn dwyn cysur i'w meddyl- iau, ac efallai yn rhoddi yni ychwanegol ynddynt i lafurio er darparu ar gyfer ei angenrheidiau. Ond y mae gwobrwyon llafur yn fynych o'r golwg, a da yw fod y serch naturiol sydd gan rieni ateu plant, fel rheol, yn ddigon o gymellydd iddynt i wneyd eu goreu drostynt, yn annibynol ar bob ystyriaeth arall. Nid ymddengys iddo ef, mwy nallu- aws o'i gyfoedion, gael rhyw lawer o add ysg pan yn blentyn. Prin yr oedd y wawr wedi tori y pryd hwnw ar achos addysg y werin yn Nghymru, ac ambell wyliwr yma a thraw oedd yn dysgwyl am y bore. Yr ydym yn casglu yr arfer- ai gyrchu am rai blynyddoedd i'r ysgol genedlaethol yn ei gymydogaeth enedig- ol; a hawdd genym gredu iddo wneyd cynydd amlwg mewn dysg. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn dra ieuanc, o hen eglwys barchus Cwmllynfell. Rhoddwyd deheulaw cymdeithas iddo gan y gwein- idog enwog, y Parch. Rhys Pryse, yr hwn hefyd a'i cymellodd i ddechreu preg- ethu. Gwyddom am rai o'i gyfoedion a dderbyniwyd i'r eglwys yr un prydag ef, ac a'i clywsant yn pregethu y bregeth gyntaf o'i eiddo, a dygir ganddynt y dystiolaeth uchaf i'w ragoriaethau add- awol y pryd hwnw. Y pryd hwn yr oedd y Parch. Ll. R. Powell (diweddar o Alli- ance, 0.) yn cynal ysgol er parotoi preg- ethwyr ieuainc i'r colegau; a chafodd amryw o'r rhai fuont yn cael eu rhifo yn mysg prif weinidogion Cymru ddechreu- ad eu haddysg yno. Ac yn eu mysg treuliodd Mr. Thomas rai blynyddau gyda'r athraw dysgedig hwn. 0 herwydd yr "amryw ddoniau" a gydgyfarfyddent ynddo, enillodd sylw y cynulleidfaoedd, ac yn y flwyddyn 1846 rhoddwyd galwad i Mr. Thomas gan eg- lwys Glyn Nedd, Sir Forganwg, ac yn Hydref o'r flwyddyn hono ordeiniwyd ef i waith y weinidogaeth efengylaidd. Bu adfywiad neillduol ar y canu, ac ar yr Ysgol Sabbothol yn y tymor byr y bu Mr. Thomas yn weinidog yno, a derbyn- iwyd nifer Iluosog o ieuenctyd y gynull- eidfa yn aelodau o'r eglwys. Ofnai Mr. Thomas yn ami mai un o brif gamgymer- iadau ei fywyd ydoedd gadael yr eglwys o dan amgylchiadau mor llwyddianus yn ei hanes. Fodd bynag, hyny a fu, canyg yn Gorphenaf, 1849, ymfudodd i Ameri- ca, mewn cydsyniad a'r alwad a dder- byniodd oddiwrth yr eglwys Gynulleid- Faol Gymreig yn ninas New York. 0 her- wydd ei ymrwymiad priodasol cyn gad- lel Cymru, dychwelodd yn 1850; ac ar y Wain o Awst o'r flwyddyn hono ni a'i awn yn ymuno mewn priodas a Miss Sarah P. James o Lanover, boneddiges a fu yn gydmar bywyd ffyddlon iddo. rrwy gymelliadau cryfion ei briod a shyfeillion, ymryddhaodd oddiwrth ei