Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

PRIODASAU EURAIDD,

DATHLIAD HAPUS YN MINERAL…

[No title]

Family Notices

MAKWOIAETH SYDYN MR. THOMAS…

[No title]

Advertising

[No title]

News
Cite
Share

Wilkesbabbe, PA., Meh. 10.—Un o'rpeth- au sydd yn destyn cryn lawer o siarad yn y cylchoedd hyn yn bresenol, ydyw oyfraith y talu bob pythefnos sydd wedi ei phasio yn neddfwrfa y Dalaeth hon yn ddiweddar. Nid yw y gyfiaith hon yn dyfod i rym cyn mis Awet, ond sibrydir fod y Red Ash Coal Co. yn bwriadu oydymffurfio a hi y mis hwn; ond y mae hyny yn ameus iawn. Mae y Wilkesbarre Record am heddvw yn dweyd nad yw y gyfraith ond llythyren farw, gan nad oes darpariaeth ynddi i roddi dirwy ar y neb a'i troseddo. Dywed rhai yn erbyn y gyfraith, am ei bod yn rhoddi dau gyfleus- tra am un i fEyliaid meddw i chwareu eu pranoiau, a thlodi eu hunain a'u teuluoedd, yn gystal a phoeni pawb o'u owmpas, ond nid yw y fiaith fod rhai yn camddefnyddio oyfreithiau da yn ddigon o reawm dros eu cadw o fodolaeth, onide byddai llun rhyf- edd ar y byd yn fnan. Oyfraith newydd ar. all sydd yn oynyrfu llawer ar beirianau siarad y bobl yn y cylohoedd hyn, ydyw oyf- raith byrddau yr ysgolion dyddiol. Y mae yn y gyfraith hon ddarpariaeth i wneyd yr holl ddinas yn un bwrdd oyffredinol, yn He bod yn dri rhanbarth fel yn bresenol. Mae y rhan ganolbarthol a mwyaf oyfoethog o'r ddinas yn erbyfl y cyfuniad hwn, am y byddai byly yn trymhau eu trethoedd hwy, ao y mae y rhanau mwyaf pellenig ao allan- ol o'r ddinas yn bleidiol iawn i'r uniad, am y byddai eu baich hwy yn cael ei leibau. Dywed rhai nas gellir cymwyso y gyfraith newydd hon at y ddinas yma, gan nad oes ond un o'r rhanbarthau yn perthyn yn holl- ol i'r ddinas, a bod y ddau ranbarth arall yn oymeryd rai lleoedd byohain i fewn sydd yn dygwydd bod yn ymyl y ddinas, ao felly nad oes ond un rhanbarth cyflawn yn perth- ynyn briodol i'r ddinas, a dywed rhai fod diffygion eraill yn y gyfraith hefyd. Felly mae y byrddau ysgol yn gweithredu hyd yn hyn yn 01 yr hen drefn. Y mae yn anhawdd gwneyd cyfreithiau mor glos, fel na all yr lanoi ddiano allan rhwng y oraoiau yn rhyw- le.— W.