Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

O'R GOGLEDD. Cjr\

News
Cite
Share

O'R GOGLEDD. Cjr\ CIOLCH I LLADMERYDD. Yr oeddwn yn dra awyddus i dynu oddiwrtho ef ryw nodiad ar y dull o ddewis pregethwyr i gyfar- fodydd blynyddol, ac nid oedd dim pellach oddi- wrth fy meddwl na cheisio ei osod mewn un math o 'rwyd.' Pa ddyben i wr fel myfi fuasai amcanu at y fath beth ? A red meirch ar y graig ? Er na welodd ei ffordd yn rhydd i drafod y prif an- hawsder, eto y mae tuedd uniongyrchol y sylw a wnaeth i osod y mater mewn sefyllfa iachus ac esmwyth. Diolch yn fawr iddo. Hyderaf y tu- eddir ef i ysgrifenu ar y peth yn helaethach eto, a hyny yn lied fuan. EIN BEIRDD. Yr ydym fel Enwad wedi colli o'r Gogledd yma yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf gryn nifer o feirdd penigamp. Diau y bydd i'w cyfansodd- iadau godidog edmygwyr yn mysg glewion lluaws o'r oesau a ddeaant. Mor chwith y teimlad o fod heb y fath gewri anrhydeddus Y mae yn Hawen- ydd i ni, er hyny, fod ereill yn dyfod i'r golwg mor addawol. Dyna Pedrog wedi cael cadair yn Eisteddfod Porthmadog, a Gerallt yn wr ieuanc wedi cipio saith gini yn yr un lie. Cafodd Mach- reth Bees y gadair yn Eisteddfod Ffestiniog hefyd. Os y caiff y beirdd hyn fyw am dymhor eto, diau y ceir clywed ychwaneg yn eu cylch. Mae y tri yn ddynion cyfeillgar, yn bregethwyr rhagorol, a'r cyntaf a'r diweddaf yn weinidogion nodedig o barchus. Dysgwyliaf y maddeuir i mi am grybwyll gyda bost hyderus am Gwalchmai, Hwfa, Tafolog, Gwilym Eryri, &e. Y PARCH R. HUGHES, ABERSOCH. Efe ydyw y gweinidog y cyfeiriais ato yn ddiw- eddar fel un wedi newid ei enwad. Ni fynwn er dim wneuthur un cyfeiriad gwenwynig at y gwr na'i droedigaeth; ond ystyriaf mai tegwch a ni fel Enwad ydyw gwneyd y ffeithiau canlynol yn hysbys. Dygwyd Mr H. i fyny gyda'r Methodist- iaid yn rhywle yn Mon. Wedi iddo ddyfod yn llanc ymunodd a mi, a chafodd gefnogaeth i ddechreu pregethu. Nid hir iawn y bu cyn cyf- arfod ag amgylchiad a'i gwnaeth yn angenrheid- iol iddo roi pregethu heibio. Ail-ddechreuodd yn rhywle yn Morganwg, ae yn 1868 urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys fechan oedd yn Adulam, Tre- degar. Symudodd oddiyno i Ebenezer, Pont- ypool, ac oddiyno drachefn, er's tair blynedd ar ddeg, i Abersoch a Bwlchtocyn. Bu am ysbaid yn hynod o boblogaidd yn ei gylch, ond er's dwy neu dair blynedd yr ydoedd pethau wedi myned yn annymunol. Bu Mr H. yn dra ymarhous i'w gadael, ond teimlodd o'r diwedd mai hyny oedd raid. Mor fuan agly rhedodd amser ei rybudd, ymunodd a'r Methodistiaid. Cafodd dderbyniad ar unwaith fel aelod, a deallaf fod y cwestiwn o'i dderbyn fel pregethwr i ddyfod o dan sylw y Cyf- arfod Misol nesaf. Pregethodd lawer gwaith yn hynod o ddylanwadol; ac os ydoedd ei alwad a'i barchusrwydd wedi lleihau yn y blynyddau diw- eddaf, ni ellir priodoli hyny i unrhyw gwtogiad ar ei ddoniau fel pregethwr. Yr ydwyf yn dy- muno y goreu iddo o waelod fy nghalon, ac yn dra hyderus na chymer fantais anheg ar y caredig- rwydd a ddangosasom ni fel Enwad tuag ato, i niweidio yr achosion yn hen faes ei lafur. Gresyn na thueddasid ef i fyned drosodd yn gynt, er arbed y clwyfau a gafodd ei deimlad, ac yn enwedig er ysgoi y clwyfau a gafodd yr achos yn Abersoch. Y CYNHAUAF. Y mae llawer iawn ohono heb ei gael, a'r hin er's tro bellach wedi troi yn hynod o anfanteisiol tuag at hyny. Credaf fod yr hyn a gafwyd o ansawdd ragorol, er fod y gwellt yn llawer iawn byrach, yn enwedig mewn tiroedd ysgeifn a theneuon. Clywais amaethwr cyfrifol yn dyweyd na welodd ef mor haidd a'r ceirch mor isel en prisiau yn ei oes ef, er ei fod flynyddau dros ei driugain. Tebyg y rhaid i lawer roi eu hanif. eiliaid i fewn yn gynar, yr hyn, gan fod y portbiant yn fychan, a eilw am ofal a ebynildeb, yn enwedig yn nechreu y tymhor. BOANERGES. 0

Advertising

Y DEIGRYN.

WAUNARLWYDD.

Y WYDDFA.

Advertising

BRYNTEG, GER WREXHAM.

CANOL Y RHONDDA.

LLUNDAIN.