Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

GOLLYNGIAD Y SENEDD.

News
Cite
Share

GOLLYNGIAD Y SENEDD. MAE y Senedd wedi ei gollwng, ar ol eis- tedd am yn agos i wyth mis yr eisteddiad bwyaf a fu yn nghof neb sydd yn fyw. Bu yn eisteddiad cynhyrfus ar lawer adeg, hyd oriau man y boreu, ac weithiau hyd doriad dydd, ond anaml y bu eisteddiad mor ddi- ffrwyth mewn mesurau o fudd i'r Wladwr- iaeth. Ceisir rhoddi y wedd oreu ar bethau yn yr Araeth o'r Orsedd. Araeth y FRENINES y gelwir hi, ond Arglwydd SALISBURY sydd wedi rhyddi y geiriau yn ei genau hi; ac nid oes ynddi ddim ond a allesid ddysgwyl, na dim na wyddai pawb o'r blaen. Y mae mewn heddwch a'r holl fyd. Mae wedi dyfod i ddealldwriaeth a'r CZAR ac a'r AMEER yn nghylch y terfynau yn Afghanistan, a'r ymrafael a China yn nghylch Burmah wedi ei gwastodi ac y mae helynt y pysgota rbyngom a'r America wedi ei gyflwyno i ddirprwyaeth o'r ddwy blaid. Cydnebydd fod yr amseroedd yn gyfyng, ac yn arbenig fod yr amaethwyr yn cael eu gwasgu, ond datgana ei hyder fod y gwaethaf drosodd, a dyddiau gwell i dd'od. Addefa fod yr Iwerddon wedi llyncu i fyny y rhan fwyaf o amser y Senedd, ond dys- gwylia fod mesurau wedi eu pasio er llwyr adferu trefn i'r wlad bono ac wedi cyfeirio at rai mesurau neillduol a basiwyd, a'r teyrngarwch a ddangosodd ei deiliaid iddi yn mlwyddyn ei Jubili, datgana ei gobaith am gael parhau i deyrnasu dros y wlad, tra y caniateir iddi gael byw. Yn awr y mae yr olwg a roddir ar befcbau yn yr Araeth ar ddatodiad y Senedd, a'r hyn ydyw cyflwr y wlad mewn gwirionedd yn wahanol iawn. Sonia yr Araeth am lwyr adfer trefn yn yr Iwerddon, pan ar yr un adeg y mae rhyddid ymadrodd yn yr Iwerddon yn cael ei wahardd-cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu rhoddi i lawr—aelodau Seneddol yn cael eu gwysio ger bron brawd- leoedd a'u traddodi i garcharau—ymladd- feydd creulon yn myned yn mlaen rhwng y bobl a swyddogion y gyfraith—a bywydaa yn myned yn aberth i fyrbwylldra aflywod- raethus heddgeidwaid heb ddeall terfynau eu hawdurdod, na gwybod o ba ysbryd y maent. Mae son am I lwyr adfer trefn' trwy y fath foddion yn ynfydrwydd hollol. Ni wnaeth y Mesur Gorthrechol ddim ond llwyr gythryblio y wlad, a chynddeiriogi y bobl; ac ofer hollol ydyw dysgwyl adferiad trefn i'r Iwerddon, heb ddileu y ddeddf greulawn a gormesol yma, a gosod y wlad yn hollol ar yr un tir a rhanau ereill y Wladwriaeth ac nid hyny yn unig, ond y mae yn rhaid caniatau i'r bobl fesur helaeth o hunan-lywodraeth; a gellir bod yn sicr mai pa hwyaf yr oedir ef mwyaf oil raid ganiatau. Buasai yr Iwerddon, dair blyn- edd yn ol, yn foddlawn ar lawer iawn llai nag a'i boddlona yn awr ac os ii tair blyn- edd arall heibio heb wrandaw ar ei chais teg a rhesymol, hawlia fwy eto ac os daw yr ysgariad a fygythir, y blaid sydd yn gwrthod caniatau yr hyn a geisir fydd yn gyfrifol am hyny. Mae rhanau ereill y deyrnas yn cymeryd achos yr Iwerddon i fyny fel eu hachos eu hunain. Nid rhwng y blaid Wyddelig a'r Senedd y bydd y ddadl mwy- ach. Mae miloedd yr ochr yma i'r culfor sydd yn ein gwahanu oddiwrth yr Iwerddon yn cymeryd yr achos i fyny. Ymrestrant gyda'r Cynghrair Cenedlaethol, a ffurfir canghenau ohono yn y wlad yma; a'r diwedd fydd nid yn unig rhoddi i'r Iwerddon fesur teg o hunau-lywodraeth, ond hefyd godi y cri, ac addfedu y farn am fesur cyffelyb i ranau ereill y deyrnas. Mae yr holl wlad mewn berw cynbyrfus oblegid yr iau drom sydd wedi ei gosod ar war y Gwyddel trwy y ddeddf anghyfiawn a bas- iwyd ac y mae y teimlad yn troi yn gyflym o'i du ac eto er mor amlwg yw hyn oil, yr oedd gan Arglwydd SALISBURY y gwyneb- galedwch i roddi yn ngenau ei MAWRHYDI y geiriau camarweiniol fod mesurau wedi eu pasio a lwyr adfera drefn i'r Iwerddon. Mordaith ystormus a gafodd y Weinydd- iaeth o'i chychwyniad allan ar y 27ain o Ionawr, hyd nes y cafodd ryw gilfach a glan iddi ar yr 16eg o'r mis hwn. Hwylio yn anniben y bu am lawer o fisoedd, a syrth- iodd ar le deufor gyfarfod fwy nag unwaith, ac yn brin yr aeth heibio i lawer man, ac nid oes porthladdoedd prydferth yn ei banes. Parodd Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL drallod nid bychan iddi. Dychrynodd Ar- glwydd SALISBURY unwaith, o leiaf, am ei einioes, ac am y Hong a'i llwyth ac anfon- odd i gyrcbu Arglwydd HARTINGTON o bell i ddyfod i'w gynorthwyo, a chynygiodd roddi y llyw o'i law id do, ond dewisodd hwnw yn hytrach gadw yn glir ond rhodd- odd GOSCHEN drosodd iddo ac addawai gadw heb fod yn nepell oddiwrtho, a rhoddi pob help a allai oddiallan iddo, ond heb gymeryd y cyfrifoldeb. Ac un o'r pethau mwyaf darostyngol i'r Weinyddiaeth bres- enol ydoedd ei bod o dan reolaeth y rhai oddiallan, y rhai hefyd nad oedd unrhyw gydymdeimlad rhyngddynt a hwy, oddieithr I yn unig ar un pwynt. Yr oedd hoedl y Weinyddiaeth ar law yr Encilwyr. Gallasent eu dymchwelyd mewn un noson. Buasent wedi gwneyd byny fwy nag unwaith, oni buasai eu bod yn gweled mai y canlyniad anocheladwy fuasai dychweliad GLADSTONE i awdurdod ac yr oedd yn well gan yr En- cilwyr bob peth na hyny. Cadwasant y Toriaid i mewn yn unig er mwyn cadw Mr GLADSTONE allan nid oherwydd eu bod yn caru y naill, ond oherwydd eu bod yn casau y llall; ac yr oedd y fath gynghrair anheil- wng yn ddiraddiol i'r ddwy blaid, ac ni chynygiwn ddyweyd i ba un o'r ddwy yr oedd yn fwyaf felly yn unig dywedwn, nad oes dim yn fwy dirmygus na phlaid bolitic- aidd mewn awdurdod, nid trwy ewyllys yr etholwyr, ond trwy bleidlais adran wrtbry- felgar o'r blaid wrthwynebol. Teimlai llawer o'r hen Doriaid oblegid y sefyllfa yr oeddynt ynddi ac nid unwaith na dwy- waith y bu yn gyfyng ar Arglwydd SALISBURY oblegid y gwrthryfel a dorai allan yn mysg tylwyth ei dy ei bun. Dichon nad oes yr un o aelodau y Wein- yddiaeth wedi gwneyd ei bun moranmhobl- ogaidd yn eisteddiad y Senedd a Mr BALFOUR, Prif-ysgrifenydd yr Iwerddon. Cydnabyddir ei allu gan bawb, ac ar rai achlysuron traddododd areithiau grymus a brofai ei fod yn ddyn pell uwchlaw y cyff- redin ond profodd ei ysbryd uchelfrydig, a'i dymher sarhaus ei fod yn hollol anghy- mhwys i'r safle y codwyd ef iddi. Mae yn wir fod y sefyllfa yti un o anhawsder mawr. Buasai yn anmhosibl i unrhyw ddyn gyf- lawni y swydd heb anfoddloni llawer, a dyfod i wrthdarawiad a rhywrai. Mae genym engreifftiau o rai o'i flaen ef, y bu yr un swydd yn fagl iddynt. Mae yn ddiau y swydd anhawddaf yn y Weinyddiaeth. Ond ni bu erioed neb anghymhwysach iddi na Mr BALFOUR. Y mae yn ddiffygiol mewn pwyll, a hynawsedd, a boneddigeiddrwydd, yr elfenau mwyaf hanfodol iddi. Mae gan- ddo allu nodedig i ddihuno gwrthwynebiad, a chreu rhagfarn yn ei erbyn. Caseir ef gan yr aelodau Gwyddelig a chas cyflawn ac nid rhyfedd, oblegid nid ymddygai tuag atynt gyda gweddusder cyffredin, heb son am foneddigeiddrwydd Prif ysgrifenydd. Daliai ar bob eyfle i'w sarhau, ac yr oedd fel pe ar ei oreu i'w cyffroi; ac nid gorch- wyl anhawdd oedd hyny. Ond yr oedd dyn o'i dymher a'i ysbryd ef yn hollol anghy- mhwys i'r sefyllfa y codwyd ef iddi. Nid oes yr un o aelodau y Weinyddiaeth a gymerodd ran amIwg yn y gweithrediadau wedi enill iddo ei hun gymeradwyaeth uchel. Dangos- odd Mr W. H. SMITH ar y cyfan ysbryd digon hynaws, er ei fod yn rhy barod i ddefnyddio y Cloadur, a chadwodd Mr MATTHEWsheb wneyd camgy meriadau amlwg iawn; ond er nad oes yr un ohonynt wedi enill iddo ei hun anrhydedd fel gwladwein- ydd doeth a medrus, nid oes yr un:ohonynt wedi profi ei hun mor anghymhwys i'r safle y cyfodwyd ef iddi a Mr BALFOUR; ac nid oes eisieu deonglydd craff i weled beth fydd tynged y fath Weinyddiaeth. Mae yr ys- grifen yn amlwg ar galchiad y pared. Mae gan Mr GLADSTONE a'r blaid fawr a gynrychiolir ganddo bob calondid wrth edrych yn ol. Mae ei safle yn well ar ddiwedd yr eisteddiad nag ar ei dechreu. Nid yw wedi colli dim, ond y mae wedi enill peth. Ni chollodd yr un sedd a ddelid ganddi yn yr un o'r etholiadau a fu, ond enillodd amryw ohonynt, ac enillodd gyda y fath fwyafrif a brofai yn ddiamheuol fod cyfnewidiad hollol yn marn a theimlad y wlad. Ac yn y lleoedd na lwyddodd i ddwyn seddau oddiar y Toriaid, llwyddodd i ostwng eu mwyafrif, yr hyn a ddengys fod y wlad yn d'od i ddeail pethau yn well ac am yr Encilwyr, y mae pob etboliad a gafwyd yn I dangos nad yw eu nifer hwy yn y corffor- aethau etholiadol ond ychydig, a'u dylan- wad yn llai na hyny. Un etholiad cyffred- inol a'u hysgubai ymaith agos oil. Mae amryw hefyd oedd yn Encilwyr yn nechreu y Senedd-dymhor erbyn hyn wedi dychwelyd o'u crwydriadau i'r hen gorlan, fel y mae Mr GLADSTONE a'i blaid yn rhifyddol gryn lawer yn well ar ddiwedd yr eisteddiad nag ydoedd ar y dechreu. Mae eto amryw o'r Encilwyr mewn petrusder mawr, a bydd raid iddynt yn fuan wneyd eu meddyliau i fyny naill ai i fyned drosodd yn llwyr at y Tori- aid, neu gymeryd eu safle fel cyntyn y blaid Ryddfrydol. Nis gallant sefyll yn blaid wahaniaethol. Cymer yr etholwyr yr achos i'w dwylaw eu hunain, ac iddynt hwy y perthyn ei benderfynu. Gallwn ddysgwyl amser cynhyrfus yn misoedd y gauaf. Cyn y bydd mis Hydref heibio bydd yr ymgyrcli wedi dechreu o ddifrif yn y wlad nid am fod etholiad cytfredinol yn yr ymyl, er nad oes neb a wyr pa mor fuan y daw byny; ond y mae argyhoeddiad cryf yn mhob plaid mai yr etholwyr sydd i benderfynu y mater, ac y mae pob plaid yn parotoi i osod eu hachos yn glir o'u blaen. Dywedir fod Mr CHAMBERLAIN yn myned i siarad yn Bir- mingham ac yn Belfast cyn gadael y wlad ac y mae Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL yn meddwl peri i'w lais gael ei glywed yn mhob cwr o'r deyrnas. Nid yw Mr GOSCHEN ychwaith yn meddwl bod yn ddystaw. Ond nid yw y gwyr hyn i gael y maes yn gwbl iddynt eu hunain. Mae yr hen arwr Mr GLADSTONE yn cael ei ddysgwyl i Notting- ham cyn canol Hydref i ledu y faner a dysgwylir Syr W. HARCOURT i fyned dros- odd i'r Iwerddon; a llawen genym ddeall fod Arglwydd SPENCER, a Syr GEORGE TREVELYAN yn bwriadu ymweled a Chymru, ac ni bydd hyn oil ond dechreu gwaith mawr y tymhor. Mae eisteddiad 1887 yn v Senedd i bob amcan ymarferol wedi bod yn fethiant hollol, a gwaeth na hyny ac nid oes bellach ddim i'w wneyd ond troi at y wlad er gwybod beth a ddywed y bobl sydd yn creu Seneddwyr.