Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Erastus.—Yr oedd eiddo un arall wedi ei gysodi cyn derbyniad yr eiddoch chwi. Gildas a ddymuna ein hysbysu mai y brawd ieuanc Mr L. Lewis, organydd, St. Ffagans, Trecynon, oedd y cyfeilydd yn y perfformiad o Gantawd yr Ysgol,' gan Gor Bethel, enw pa un a adawyd allan gan y cofnodydd. Telerau y Tyst a'r Dydd. Anfonir ef trwy y Post am Chwarter yn oly telerau canlynol:—1 (os teUr yn mlaen) am 2s; 2 am 3s 4c. a 3 am 4s. 6c. Os na thelir yn mlaen, 1 am 2s. 2c., 2 am 3s. 9c.; a 3 am 4s llc. Hysbysiadau. Heb fod dros dair llinell, Is. y tro; am bob llinell ychwanegol,3c. Ond ymddengys Hysbys^aoau am yspaid o amser am brisiau llawer is. qplll GREAT WESTERN RAILWAY. AMERICAN EXHIBITION. ON SATURDAY, September 24th, a FAST EXCURSION train for LONDON will leave ABERDART3 at 11.30 p. m, Mountain Ash 11.35, Merfchyr 11,25, Ab rcanaid 11.30, Aberfan 11.35, Quaker's Yard 11,50, Llancaiach 12.0, Rhymney Junction 12 5 a m (Sunday Morning). Tredegar Junction 12 15, Crumlin (High Level) 12.20, Pontypool (Clarence-street) 12,35, Pontypool-road 12.40, and Abergavenny at 1.0, to return September 26th, or at higher fares on September 27tli. For full particulars, see bills. ON MONDAY, October 3rd, a CHEAP EXCURSION TRAIN for BRISTOL AND WESTON-SUPER-MARE will leave ABERDARE at 6.45 a m., Mountain Ash 655, Merthyr 6.40, Abercanaid 6.45, Aberf m 6.55, Quaker's Yard 7.10, Llancaiach 7.20, Rhymney Junction 7.25, Tredegar Junction 7.30, Crumlin (High Level) 7.40, Pontypool (Clarence-street) 8.0, and Po itypool Road at 8.15. a.m., to return same day. For fares, &c., see special bills. 23-9. r J. GRIERSON, General Manager. DYDOIADUR YR ANNIBYNWYR AM 1888. DAN OLYGlAliTU Y rARCHEDKjiOX D. JONES, B A., Abertawe, ac R. W. GRIFFITH, Bethel. Pris Is. 6c. gyda rhwymiad hardd a llogellau, a 6c. mewn llian. BYDD, megys arfer, yn eynwys yr holl gyfnewidiadau enwadol, ac ni arbedir traul na thrafferth i'w wneyd yn gywir a chyflawn. Cofler ein rheolau syltaenol-1. Ni roddir enwau gweinidogion nac eglwysj newydd i fewn lieb gymeradwyaetli Vggrifenvdd y Cyfundeb y pertbvn y cyfryw iddo. 2. Si roddir enwau pregethwyr cynortliwyol newydd i fewn heb gymeradwy- aeth gweinidog yr eglwys y mae yn aelod.olioni; ac os na fydd gweinidog yno, by da yn ofynol eael eymeradwyaeth d iaconiaid yr eglwys. Wrth y rheolau hyn yr ydym wedi gweithredu o'r dechreuad, ac wedi dwys ysfcyriaeth yr ydym yn penderfyjiu g ynti wrthynt. Anfoner pob gwybodaeth i Rev D. JONES, B.A., 19, Carlton- torraee, Swansea, erbyn Hydref lat, 1887, a'r lioll archebion i Mr Wa. HUGHES, Printer, Dolgelley. 9.9.r CYSTADLEUAETH Y It CEJN AD HEDD; RHODDIE GWQBR O £ 1 i'r GOREU, 10s. i'r AIL, 5s. i'r TBYDYDD, a nodant allan yr UGAIN GOFYNIAD mwyaf Pwysig yn y Beibl. Penderfynir eu Pwysigrwydd gan nHer y pleidleisiau a gaat gan y cystadlenwyr. Gyda phob rhestr o'r Ugain Gofyniad, anfoner Cbwech Postage Stamps i jQlygydd y Cenad Hedd, Rev J. Bowen Jones, B. A" Brecûn, erbyn Hvdref 12fed, Rhoddir dyfarniad y Gwobra j yn y Cenad Hedd am Tachwedd, 1887. r
-YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. TORIAD I FYNY Y SENEDD. Dydd Gwener diweddaf, cyfarfu nifer o'r aelodau yn y ddau Dy Seneddol i ddwyn yr eistedd- iad presenol i derfyniad ffurfiol. Darllenwyd Araeth y Frenines gan yr Arglwydd Gang- hellydd, yn mynegi ei bod ar dir eyfeillgar a holl deyrnasoedd y ddaear. Tyner iawn oedd y cyfeiriad ynddi at amgylchiadau cyfFrous yr Iwerddon. Cydnabyddai eu bod wedi cael tipyn o drafferth gyda'r mater, ond hyderai y byddai i'r deddfau a basiwyd adfer trefn yn y wlad hono, a sefydlu heddweh yn mysg ei deiliaid yn gyffredinol. Arglwydd Salisbury gjfansoddodd yr Araeth fel nad ydym yn rhyfeddu dim at ei eiriau canmoliaethus ef am waith caled yr eistedd- iad diweddaf, a'i obaith y byddai i'r mesurau creulawn a basiwyd i'r Iwerddon adfer heddwch i'r wlad annedwydd hono. Ond yn ol yr arwyddion presenol, nid oes heddwch a thawelwch i fod tra y ceisir eu rheoli trwy drais a gorthrwm amiyoddefol i ddynion gwaraidd. Ofnwn nad yw ond dechreuad gofidiau yno, ac y ceir gweled amseroedd blin yn y gauaf dyfodol. DAMWAIN ERCHYLL AR Y REII/FFORDD. —Ychydig ar ol ] 2 o'r gloch ddydd Gwener diweddaf, cymerodd damwain le ar y reil- ffordd yn agos i Doncaster, y fwyaf erchyll a ddygwyddodd er's llawer o flynyddoedd yn y wlad hon. Ymddengys fod rhedeg- feydd ceffylau yn cael eu cario yn mlaen yr wythnos ddiweddaf yn Doncaster, a miloedd o ddyeithriaid yn dylifo i'r dref bob dydd, a'r rhan fwyaf ohonynt yn dychwelyd gartref yn yr hwyr. Dydd Gwener oedd dvdd mawr y rhedegfeydd, a'r dydd hwnw oedd y cynulliad lluosocaf. Yr oedd excursion trains yn rhedeg i'r dref o bob cyfeiriad yn orlawn o ddynion, ac yn eu mysg cyrhaedd- odd un o Sheffield o fewn milltir i orsaf Doncaster, a stopiodd yn y man arferol i gasglu y tocynau. Fel yr oeddid wrth y gorchwyl hwnw, wele express yn dyfod i fyny o'r tu ol gyda chyflymder o 20 milltir yn yr awr, ac yn rhedeg i fewn i'r excursion train oedd yn sefyll. Yr oedd y gwrth- darawiad yn ofnadwy, a'r canlyniadau yn druenus ac angeuol i laweroedd. Ar y fynyd tarawyd pawb, yn swyddogion a theithwyr, a syfrdandod, fel na allent wneyd dim, na syflyd o'r fan lie yr oeddent ar y pryd am ychydig amser. Ysgytiwyd yr holl gerbydau gan y gwrthdarawiad oedd fel taranfollt, ond y cerbydau olaf gafodd ei nerth mwyaf, a'r rhai oedd ynddynt dder- byniodd y niwed mwyaf, ac yno y cafwyd y lladdedigion. Rhedodd y peiriant yn grwn trwy dri o'r cerbydau hyny, ac ni fedrai neb ddianc allan, gan mor sydyn y cymerodd le. Yr oedd yr olygfa a'r ysgrechiadau yn ddigon i rwygo y galon galetaf-y cerbydau yn ddarnau man, a'r teithwyr yn blith draphlith wedi eu taflu draws eu gilydd y byw clwyfedig a'r meirw yn gorwedd yn gymysg a'u gilydd. Dechreuwyd yn dra buan ar y gorchwyl o ryddhau y trueiniaid, a chafwyd hwynt yn dyoddef oddiwrth archollion ar bob rhan o'u cyrff, yn hen ac yn ieuanc, gwryw a benyw. Cafwyd un a'i ben wedi ei dori oddiwrth ei gorff megys a bwyell, ac un arall a'i ymysgaroedd allan. Anmhosibl ydyw dyweyd pa nifer a archollwyd, gan i rai gael eu cymeryd i dai cyfeillion iddynt, ac ereill i westai yn y dref, yn gystal a'r rbai a gymerwyd i'r ysbyty. Tra yr ydym yn ysgrifenu y mae 23 wedi colli eu bywydau, ac y mae lie i ofni y bJdd nifer y lladdedigion yn fwy yn fuan,. Qafpdd rhai yn yr amgylchiad hwn, fel mewn amgylchiadau cyffelyb, waredig- aetbau anesboniadwy, Diangodd ambell un yn ddianaf oedd o fewn ycbydig droed- feddi i ereill a laddwyd mewn eiliad. Golygfa doddedig oedd gweled baban wyth mis oed yn gorwedd ar fynwes ei fam yn ngbanol y dadfeilion, a hono wedi ei lladd. Cafodd un dyn ei wraig a'i blentyn bach yn mysg y meirw. Gwr a gwraig hefyd gafwyd yn gyrff yn ymyl eu gilydd. Pa fodd y cy- merodd y peth le S) dd y n cael ei ofyn, ond gan y gwneir ymchwiliad swyddogol, ofer ydyw taBu y bai ar neb cyn hyny. Yr oedd gyriedydd y tren redodd i'r llall wedi bod yn ngwasanaeth y cwmni am 20 mlynedd, ac yn ddyn o ymddiriedaetb. Dywedir nad oedd yn arferol i'w dren ef sefyll yn y lie hwn, ond ddarfod iddo gael gorchymyn i sefyll yno y diwrnod hwn. Hefyd fod i ar- wydd gael ei roddi iddo cyn cyrhaedd y fan i sefyll. Dywed ef na welodd yr arwydd na dim arall cyn iddo basio y tro oedd yn y llinell, ond ei fod y pryd hwnw yn rhy agos i'r excursion i allu stopio ei beiriant. Ofer ydyw dyfalu sut y bu; ceir y cwbl allan hyd y gellir yn yr ymchwiliad. Y syniad tor- calonus yw mai pleserdeithwyr oedd y dy- oddefwyr. Dynion wedi gadael eu cartrefi, a llawer eu teuluoedd, gadael eu masnach a'u galwedigaethau, ac wedi myned allan i fwynhau eu hunain am y dydd i weled rhedegfeydd ceffylau. Ar y pryd, fel yr oeddynt yn ymyl pen y daith, yr oeddynt yn llawn o ysbryd eu mwyniant, yn siarad yn hwylus am ragoriaethau eu dewisol geffylau, ac hwyrach rai ohonynt yn betio eu harian, ac mewn moment wele hwynt yn safn marwolaeth. Diwrnod a gofir er galar gan laweroedd fydd diwrnod Rhedegfeydd Ceffylau Doncaster yn 1887.
Y BLWYDD-DALIADAU
News
Cite
Share
Y BLWYDD-DALIADAU Mewn canlyniad i ymdroekion Mr Bradlaugh, penodwyd Pwyllgor N eillduol gan y Ty Gyff- redin yn ddiweddar i wneyd ymchwiliad i'r blwydd-daliadau a delid i ddisgynyddion dynion oedd wedi gwasanaethu eu cenedlaeth mewn gwahanol foddau. Y mae y pwyllgor hwnw wedi dwyn ei adroddiad i mewn, a gallwn feddwl ei fod yn gyfryw ag a foddlona hyd y nod Mr Bradlaugh ei hun, mor bell ag y mae ei gyfarwyddiadau yn myned. Mewn amgyloh. iadau y gwneir gwasanaeth eithriadol i'r wlad, cymeradwya y pwyllgor fod y blwydd-dal i derfynu gyda'r derbynydd, ac nid i ddisgyn o ach i ach fod y genedlaeth dderbynia y gwas. anaeth i dalu am dano, ac nid ei osod yn fai c ar ei holafiaid. 4--
LLOFRUDDIO BABANOD.
News
Cite
Share
LLOFRUDDIO BABANOD. Yn ystod mis Awst, cafwyd wyth o fabanod yn yr afon Lee. Mae yr amgylchiadau yn gyfryw na adawant le i gasglu ond eu bod oil wedi eu taflu i'r afon yn fyw. Mae yr awdur- dodau wedi cymeryd y mater mewn llaw i geisio cael allan pwy sydd yn euog o'r fath anfadwaith. Pa un a lwyddir i gael hyny allan ai peidio, dengys y ffaith fod cynifer wedi eu cael yn yr afon fod sefyllfa moesoldeb y dref yn druenus o isel, oblegid nis gellir credu fod rhieni cyfreithlon wedi gallu bod mor greulawn. Plant oeddent i ddynion wedi dwyn eu hunain i warth, ac am ei guddio trwy lofruddiaeth.
Galwadau. --------
News
Cite
Share
Galwadau. TREFKIW.—Bydd yn hyfrydwch gan gyfeillion Mr Peter Price, o Brifysgol Bangor, glywed ei fod wedi derbyn galwad daer ac unfrydol oddiwrth yr eglwys Annibynol ucbod, a'i fod yntau wedi ei hateb yn gadarnhaol. Bwriada ddechrea ar ei weinidogaeth y Sabbath cyntaf yn Rhagfyr. Mae Mr Price yn ysgolhaig gwych, yn bregethwr galluog a derbyniol iawn, ac yn gyfaill cywir. Diamheu fod yr eglwys wedi bod yn hynod o ddoeth yn ei dewisiad. Bendith D\1w ar yr undeb.-Cyfaill.
Cynwysiad. ~
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cynwysiad. Hysbysiadan 1,2 Cymanfa Liverpool a Birkenhead 3 Colofn y Dadgysylltiad 5 Coleg y Brifysgol, Aberystwyth 6 YfQweliad a. Llaustephan-Dyffryn Nedd 7 Llwyddiant a Siom y Byd 5 T Golofn Wleidyddol 6 Llith o'r America-Y Senedd Ymherodrol-Hyn a'r Llall-Llanelli 7 At ein Gobebwyr-Yr Wythnos 8 Y BRIF FRTHYGL- Gollyngiad y Seuedd 9 Agoriad Capel Penally, ger Tenby-Meline a'r Cylchoedd—Rhos a'r CyJchoedd-Llnndain 10 O'r Gogledd Barddoniaeth Brynteg-Canol y P.houdda-Wauuarlwydd Yr Efengylau 12 Priodasan, Marwolaethan—Gohebiaethau 13 Hysbysiadau 13,14,15,16