Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

. LLITH O'R AMERICA.

News
Cite
Share

LLITH O'R AMERICA. CLEVES, OHIO, MEDI lAF, 1887. BYDDAF yn darllen yn ein Llyfrgell yn Cincinnati y London Times, y Daily News, a'r Liverpool Mercury, ac yn cael ychydig o hanes fy hen wlad a'i thrigolion helbulus a'i gor- thrwm. Ond yn y TYST A'R DYDD mae fy hyfrydwch penaf. Yn fy ymweliad yn 1880 yn cynrychioli Undeb Ysgolion Sul America yn y JRaiJces' Centennial yn y Brifddinas, cefais fy anfon gan Undeb Ysgol Sul Llundain i Stroud, Gloucester, ac Exeter, i gymeryd rhan mewn cyfarfodydd coffadwriaethol. Yn Stroud, cefais i a fy anwyl ferch sydd heddyw yn ei bedd dderbyniad hynod o serchog gan foneddwr cyfrifol a chrefyddol o'r enw Mr Winterbotham. Yn y prydnawn daeth gweinidog Rodborough i ymweled a mi, a gwahoddodd fi i bregethu yn ei gapel prydnawn y Sabbath. Wrth ym. ddyddan deallais mai Cymro ydoedd, a mawr oedd llawenydd dau Gymro i gyfarfod yn ngwlad y Saeson, ac efe oedd y Cymro cyntaf i mi ei gyfarfod ar dir Lloegr. Cefais gynull- eidfa luosog ac astud, a mawr bleser i draethu fy nghenadwri. Ar ol yr oedfa, dywedodd Mr Rees, y gweinidog parchus, wrthyf, mai yr enwog George Whitfield a ddechreuodd yr achos yn Rodborough, ac yn ei amser ef yr adeiladwyd y capel. 0 flaen y pwlpud mae yn aros y gadair y byddai yr anfarwol a nefolaidd Whitfield yn eistedd ynddi, fel y tystia y tablet sydd ar ei chefn. Fel hyn, yn hynod o annys- gwyliadwy, cafodd un o blant y Bala, ar ol trigianu yn Ohio am driugain mlynedd, yr an- rhydedd a'r fraint o bregethu lie bu George Whitfield, yr ainfarwol bregethwr, yn cyhoeddi anchwiliadwy olud Crist, ac yn enill lluoedd i'w feddianu. Cefais hefyd yr hyfrydwch o yfed te gyda Mr Rees a'i hynaws wraig, a mwynhau eu cyfeillach grefyddol a dyddorol-gwledd i gorff ac enaid. Heddyw, darllenais yn y TYST A'R DYDD gyda gwir deimlad a dwys alar, fod y Parch J. Rees, Rodborough, wedi marw Y n y fan, daeth adgofion am fy ymweliad fel llif- eiriant i fy meddwl, a theimlad o ddiolchgarwch am gydnabyddiaeth a chymdeithas Mr Rees a'i deulu caredig. Deallaf trwy yr un rhifyn o'r TYST A'R DYDD fod un arall o gawri crefyddol Cymru, sef yr enwog athraw a phregethwr Dr Edwards, Bala, wedi ymadael a'r fuchedd hon, a dechreu ei fywyd tragywyddol tudraw i'r lien. Yn 1840, tra yn ymweled a thref fy ngenedigaeth, cefais y fraint o'i adnabod a mwynhau am ychydig amser ei gyfeillach siriol ac adeiladol. Yr oedd ty fy rhieni ar gyfer ty Mr Charles, ac yr ydwyf yn cofio cymdeithasu a chwareu gyda'i blant. Un ohonynt fu yn gymhar bywyd i'r enwog dduwinydd, ac yn fam i'w blant sydd yn eu cymeriad a'u sane yn Eglwys Crist yn deilwng o'u rhieni cyfrifol a defnyddiol. Yn ddiweddar, bu dau o'm cymydogion oed- ranus farw-dynion cyfrifol a chrefyddol, yn fy ngadael, yn fy 77 mlwydd o'm hoedran, y dyn hynaf yn y gymydogaeth. Er fy mod mewn iechyd a nerth, a newydd ddychwelyd adref o lan Mor y Werydd yn New Jersey, 800 milldir o fy nghartref, mae yr hen benill— Son am farw glywaf yma, Son am farw glywaf draw; Dyma'r swn a fydd gan ereill Am danaf finau ma's o law, yn arwyddnod i mi. Gwyliwch, gan hyny, am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dyn. Mae ein petbau gwladol yn gyffredin yn esmwyth a llwyddianus, ond fod yr haf poeth a sych wedi niweidio rhanau helaeth o'r wlad yn anarferol. Mae yr olygfa ar ein byd crefyddol yn amlygu marweidd-dra cyffredinol, a mawr angen am ddiwygiad eto mae teyrnas Crist yn gwreiddio ac yn ymledaenu dros ein eang wlad, ac yn efengyleiddio ein 60,000,000 poblogaeth. B. W. CHIDLAW. »

Advertising

--Y SENEDD YMHERODROL. ---------".----------------------_--_----"---_

HYN A'R LLALL.

LLANELLI.

Advertising