Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y GOLOFN WLEIDYDDOL.

News
Cite
Share

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. CAN GWLEIDYDDWR. Terfyny Senedd-dymhor—Gwaith y tymhor — Sefyllfa y Pleidiau- Ymwelwyr o'r Iwerddon. DYDD Gwener diweddaf y caed TERFYN Y SENEDD-DYMHOB am eleni. Yr oedd llu mawr o'r aelodau wedi dianc cyn hyny. Ffurfiol yn unig oedd y gweithrediadau ddydd Gwener. Ymladdwyd brwydr olaf y tymhor nos Lun cyn hyny. Aeth Mr Gladstone i fyny i Lundain o Benarlag bob cam i wrthdystio yn erbyn creulonderau y Weinyddiaeth yn yr Iwerddon. Bwriadai Syr W. Harcourt alw sylw y Ty at waith yr awdur- dodau yn tori i fyny gyfarfod rheolaidd a hedd- {rchol yn Ennis, ond cyn nos Lun yr oedd cyf- afan Mitchelstown wedi cymerydlle. Angerdd- olai hyn yr holl helynt. Daeth nifer mawr yn nghyd. Siaradodd Harcourt am awr a chwarter, ac yr oedd ei araeth yn gyfanwaith o ymres- ymiad didroi yn ol. Yn wahanol i'w arfer, ychydig o'i watwareg finiog oedd yn ei araeth y tro hwn. Ymddangosai fel un yn teimlo yn rhy ddwys i achosi unrhyw ddifyrwch i'w wrandawyr wrth dywallt ar ei elynion ei hyawdledd llosgawl yn ei arddull arferol. Ateb- odd Balfour ef goreu y gallai. Mae ynddo allu, ond y mae yn hynod o anfedrus i'w swydd bresenol. Nid oes dim yn ddeniadol ynddo. Daw ei holl ddiffygion allan yn amlwg. Chwerwi pawb a wna. Ymddengys fel un caled a dideimlad iawn—fel un wedi ei dori allan i weinyddu deddf gorthrech yn ei holl lymder a'i chreulonder. Cyfyngodd Gladstone ei hun yn benafi drychineb Mitchelstown. Yr oedd yno gyfarfod i fod. Daeth miloedd yn nghyd. Nid oedd y cyfarfod hwn wedi ei wahardd. Yr oedd yn berffaith reolaidd. Bwriadai Labouchere, Brunner, Ellis, yr aelod dros Feirion, ac ereill, i anerch y cyfarfod yn ychwanegol at yr aelodau Gwyddelig oedd yn bresenol. Mynai yr awdur- dodau fyned a reporter y Llywodraeth i'r cyf- arfod. Ceisiodd 22 o heddgeidwaid weithio eu ffordd trwy y dyrfa i fyned a'r reporter at y cerbyd a wasanaethai fel esgynlawr. Dechreu- asant guro y bobl a'u pastynau. Cynhyrfodd hyn y bobl, a gwnaeth y rhai oedd a ffyn gan- ddynl ddefnydd ohonynt. Ffodd yr heddgeid- waid i'r barracks, ac o'r ymgueddfa yno saeth- asant ar y dyrfa. Lladdwyd tri a chlwyfwyd llawer. Mae yn wybyddus erbyn hyn fod nifer o'r heddgeidwaid yn feddw. Yr oedd rhai ohonynt yn feddw am bump o'r gloch y boreu hwnw. Dyma swyddogion y Frenines Dyma y bobl a gedwir genym ni i reoli yr Iwerddon Dywedodd Mr Gladstone nad oedd hawl gan reporter y Llywodraeth mwy na rhyw reporter arall i fyned a beddgeidwaid i wneyd ffordd iddo trwy y dorf. Safai y reporter hwn ar yr un tir yn hollol ac ereill o'r un alwedigaeth. Os oedd y Llywodraeth am gael adroddiad cywir a llawn o'r areithiau, dylasent wneyd yr un modd ag y gwna ereill mewn cyffelyb amgylchiadau -sef dyfod i gyd-ddealldwriaeth ag awdurdodau y cyfarfod. Yn lie hyny torasant y gyfraith wrth aflonyddu y cyfarfod. Yn wir, y mae braidd yn anmhosibl ysgoi y casgliad fod y Weinyddiaeth a'i bryd ar derfysg er mwyn ceisio cyfiawnhau ei gwaith yn pasio Mesur Gorthrech. Ond diwrnod du yn ei hanes fydd dydd Gwener, y 9fed o Fedi, 1887. Mae wedi ei nodi a gwaed. Mae teimlad angerddol yn y wlad yma mewn canlyniad. Pe ceid etholiad cyffredinol yn awr, ysgubid y Toriaid a'r Encil- wyr yn o lwyr o lawer o'r etholaethau. Os na ofala y Weinyddiaeth bydd perygl i werin Lloegr, Ysgotland, a Chymru, godi mewn gwrth- ryfel yn ei herbyn. Mae y creulonderau hyn wedi bod yn cael eu cario yn mlaen trwy y blynyddoedd, a hyny gan Ryddfrydwyr yngys- tal a Thoriaid, ond ychydig a wyddai gwerin Prydain am danynt, a theimlent mai creadur i'w gosbi oedd y Gwyddel. Erbyn hyn mae pob peth wedi newid. Dadlenir y cwbl. Ymddengys pethau yn eu goleuni priodol. Gwelir trais a gormes y mawrion ar y truan a'r tlawd. Mae Mr O'Brien, un o'r aelodau Gwyddelig, yn ngharchar Cork am wneyd araeth o blaid y gwan. Dyn o iechyd cymharol wan ydyw, ac eto cedwir ef mewn ystafell oer, damp, ac yn mesur naw troedfedd wrth bedair, ac heb ond llygedyn o oleuni yn cael ei ollwng iddi. Ceisier sylweddoli ei sefyllfa. Digon tebyg y bydd amryw ereill cyn pen llawer o wythnosau yn y carchardai yn gorfod cysgu ar welyau coed-nid gwelyau mohonynt-a byw ar fara a dwfr, ac heb ddigon o hwnw. Goruchwyliaeth o newyn graddol ydyw, ac nis gall dynion o gyfansodd- iadau gwanllyd ei ddal. Yr oedd yn wahanol yn amser Forster. Cai pob un ei wala o fwyd da, a phapyrau, a moethau ereill. Nid felly Balfour a'i gwmni. Llafur caled, ac yn sefyllfa y troseddwyr gwaethaf yw y drefn yn awr. Gwneir y pethau hyn yn liysbys, a cheir gweled y ffrwyth pan ddaw y cyfle cyntaf. GWAITH Y TYMHOR. Anaml y bu Senedd-dymhor hwy na'r hwn a ddaeth i ben ddydd Gwener, ac amser o waith caled a fu i'r Weinyddiaeth. Y gwaith cyntaf a gymerwyd mewn Haw oedd diwygio Rheolau y Ty gwaith angenrheidiol iawn. Cyflwyn- wyd i'r Ty gyfres o welliantau, ond y Cloadur yn unig a basiwyd. Pan gaed hwnw gadawodd y Weinyddiaeth y gweddill. Deallwyd yn eglur wrth hyn mai eu huaig amcan oedd cael y Cloadur, er mwyn hwylysu y ffordd i basio Mesur Gorthrech. Daeth yr anonestrwydd i'r golwg yn fuan. Proffesid awydd cryf am ddi- wygio yr holl Reolau cyn cychwyn ar y gwaith, ond wedi cael yr offeryn i gau genau y Ty, taflwyd y gweddill dros y bwrdd yn ddigon diseremoni. Mae un cysur yn deilliaw o hyp. Bydd y Cloadur at wasanaeth y Rhyddfrydwyr pan ddeuant i awdurdod, ac oni osodir ef mewn grym i basio mesurau gwir angenrheidiol, bydd anfoddlonrwydd mawr yn y wlad. Hwyrach y teimla y Toriaid y pryd hwnweu bod wedi helpu eu gelynion yn anfwriadol. Galluogwyd hwy yn y Senedd flaenorol i atal gwaith, ond bellacb bydd y Cloadur i'w rhoi i lawr. Mesur Gorthrech, Mesur Tir yr Iwerddon, Mesur y Mwnau, a Mesur Allotments ydynt brif gyn- yrchion y tymhor. Gwnaeth yr Arglwyddi eu rhan yn effeithioi i gyfnewid y mesurau olaf er gwaeth. Bydd yn rhaid gwneyd rhywbeth, a hyny yn fuan, i Dy yr Arglwyddi. Ni oddefir i ddosbarth o bobl nad ydynt yn cynrychioli neb ond eu hunain i ddinystrio mesurau sydd er budd i'r lluaws. Mae sefydliad fel hwn yn hollol anghydweddol ag ysbryd yr oes. Un o orchwylion cyntaf Gweinyddiaeth Ryddfrydig fydd ei ddifodi neu ei ddiwygio yn drwyadl. Ond er nas gellir dyweyd fod llawer o fesurau wedi eu pasio yn y tymhor diweddaf, eto hwyr- ach fod mwy wedi ei wneyd i oleuo a hyfforddi y wlad nag a wnaed mewn odid i dymhor yn hanes y Senedd. Drylliwyd hefyd yr hen lyffetheiriau a gadwent aelodau yn ol. Dihun- wyd y Ty i'w gyfrifoldeb. Ymdrechai aelodau newyddion i wneyd eu gwaith yn effeithioi. Profwyd yn ddigon eglur fod yr adeg i Wein- yddiaeth neu unrhyw swyddog ohoni wneyd gwaith amheus yn ddisylw wedi myned heibio. Daeth i'r golwg hefyd pwy oedd yn gymhwys i'w waith, a phwy oedd heb fod. Y mae tri methiant truenus. Smith fel Arweinydd y Ty, Balfour fel Ysgrifenydd yr Iwerddon, a Matthews fel Ysgrifenydd Cartrefol. Teg yw cydnabod fod y tri yn y swyddi anhawddaf i'w llenwi, ond y mae eu methiant yn amlwg i bawb, ac y mae yn amheus a welir yr un ohonynt yn ei swydd pan gyferfydd y Ty nesaf. Yr an. hawsder fydd gwybod beth i wneyd a hwy. Mae Smith yn ddodrefnyn addas i Dy yr Ar- glwyddi, a hwyrach y ceisir cael lie ar y fainc farnol i Matthews, ond am Balfour anhawdd yw gwybod pa le i'w osod. Os na bydd Arglwydd Hartington wedi ymuno a'r Weinyddiaeth mae yn bosibl y gwneir Goschen yn arweinydd y Ty cyn y cyferfydd eto. Tywyll iawn ywrhag- olygon y Weinyddiaeth ar hyn o bryd. Yn dduach yr a y ff'urfafen bob dydd, a dysgwylir ystormydd mwy nag a gafwyd hyd yma. SEFYLLFA Y PLEIDIAU. Naturiol ar derfyn y tymhor ydyw cymeryd cipolwg ar sefyllfa y gwahanol bleidiau yn y Ty. Gellir gwneyd byr waith a'r Encilwyr mor bell ag y mae a fyno y wlad a hwy. Gwir eu bod yn lluosog yn y Ty, ond nid ydynt yn unol, ac y maent yn mhell o fod yn gysurus. Dechreu- asant y tymhor yn ffroenuchol a bostfawr, ond y mae yr etholiadau a Mesur Gorthrech a bleid- iwyd ganddynt wedi haner eu lladd. Nid ydynt yn celu hyny yn gyfrinachol. Hawdd gweled ar eu gwedd eu bod yn teimlo fod eu dyddiau wedi eu rhifo. Y maent yn dechrou sobri. Gallant bellhau y dydd drwg drwy barhau i gefnogi y Weinyddiaeth bresenol, ond ei bell- hau ydyw, ac nid ei atal. Hwyrach y daw yn nghynt nag y tybiant. Yn nechreu y tymhor sonient yn hyderus am drefnu eu plaid yn mhob etholaeth. Ychydig o son sydd am hyny yn awr, ac y mae rheswm da am hyny. Darfu i fab Mr John Bright-nid yr aelod Seneddol-y mae hwnw yn ddigon iach-anfon cylch-lythyr allan i Ryddfrydwyr Rochdale yn eu gwahodd i gyfarfod i drefnu eu byddin fel Encilwyr, ac yr oedd nifer yr atebion yn penderfynu y mater yn effeithioi. Darfu iddo yntau gyda gonest- rwydd nodweddiadol o'r teulu hysbysu hyny i'r wlad. Gwn am un etholaeth yn Nghymru—yr etholaeth fwyaf yn y Dywysogaeth —lie yr an- fonwyd miloedd o gylch-lythyrau i wahodd y rhai a dybid eu bod yn cydymdeimlo a'r achos i gyfarfod mewn tref neillduol, a daeth saith yn nghyd. Hwn oedd ail gyfarfod y blaid a dylid pwyso y saith yn gystal a'u rhifo. Yr oedd enw y prif ysgogydd yn ddigon o sicr- wydd am fethiant unrhyw achos. Tebyg ydyw yn mhob man. Ceidw y Toriaid gyda eu gilydd, er fod llawer ohonynt hwythau wedi dychrynu ar ol gweled sefyllfa pethau yn yr Iwerddon y dyddiau diweddaf. Mae y Rhyddfrydwyr yn Hawn calon i gyd. Gwelant fod pob peth yn gweithio yn eu ffafr, ac y mae eu hen arweinydd mewn iechyd ac ysbryd rhagorol. YMWELWYB A'R IWERDDON. Ymwelir a'r wlad gan ganoedd, os nad miloedd y dyddiau hyn. Bwriada llawer o aelodau Sen- eddol fyned yno. Dyma gam yn yr iawn gyf- eiriad, ac nid oes dim yn well i argyhoeddi dynion na gweled pethau fel y maent. Mae Mr Brunner yr aelod dros Northwich, newydd ddychwelyd, ac y mae am droi ei ymweliad i amcan ymarferol. Gwelodd y tlodi a'r trueni sydd yno, ac ofna y gauaf. Awgryma ef godi trysorfa yn y wlad hon i'w helpu, ac y mae ef eisoes wedi cyfranu mil o bunau i'w chychwyn. Awgryma i'r drysorfa gael ei gweinyddu gan gynrychiolwyr o Ysgotland, Lloegr, a Chymru. Barna y byddai yn fantais i gael Arglwyddi Spencer, Aberdeen, a Wolverton yn ymddir- iedolwyr. Mae ganddo ef fras-gynllun o'r hyn a ddylid wneyd o'r arian. Dyma y ffordd i uno y ddwy wlad. Un o'r pethau gwrthunaf ac ynfytaf ydyw son am gadw yr undeb rhwng y ddwy wlad, ac ar yr un pryd ei gormesu a charcharu ei dynion goreu. Y mae ffordd mwy rhagorol, ac yn hono y mae gobaith y bobl. Dywedir fod teimlad yr Iwerddon wedi newid yn llwyr tuag at Loegr yn awr, a hyny yn unig am fod arwyddion o gydymdeimlad yn ngwerin Prydain. Aed y neb sydd yn son fod sefyllfa y Gwyddel yn well na'r eiddo ni drosodd i weled pethau, neu tawed. Tystiolaeth unol yr ymwelwyr ydyw. nad oes cymhariaeth, a'i bod yn rhyfedd pa fodd y daliodd y bobl cyhyd o dan y fath orthrwm. +

BEDYDDIO PLANT.