Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLWYDDIANT A SIOM Y BYD.

News
Cite
Share

LLWYDDIANT A SIOM Y BYD. PENOD XLVII. GLYN CYSGODION. YR amser ag yr oedd y fordaith a'i helyntion yn cymeryd lie, yr oedd dygwyddiadau ac amgylch- iadau o nodwedd wahanol yn myned yn mlaen yn nglyn a Glyngweddol, Cefneoedcae, a Phen- crythorfawr. Megys y dywedwyd eisoes, gosodwyd Sarah a Rebecah yn ysgol y dref dan ofal Mrs Parkington, a bu Lewis yn parotoi, a phasiodd yn mhen y flwyddyn i'r athrofa, lie y bu yn llawn ymdrech i wneyd y defnydd goreu o'i ragor- freintiau yno. Nid myned i'r coleg, a thrwyddo er mwyn yr enw ac fel agoriad i gylch y weini- dogaeth, oedd egwyddor Lewis, ond er casglu cynysgaeth o wybodaeth er mantais yn y dyfodol, ac i ddwyn ei feddwl yn llwyr dan yr ymarferiad o fyfyrio bu yn ddiwyd. Rhoddodd pobl Pen- crythorfawr i fyny bob ymchwil am Henry, ac ni phrisiai ei rieni am ei weled gartref oherwydd y gwarth dynasai ar y teulu, er y carent wybod beth ddaethai ohono. Beiai Mrs Harries bawb a phob peth ond ei bachgen anwyl. Mynai gredu mai James Davies a'i arweiniodd ar gyfeiliorn. Ni welai un bai yn Henry-galarai am yr anffawd a thyna i gyd. Yr oedd rhieni James mewn an- nedwyddwch mawr yn nghylch eu mab, eithr ni feient hwy neb ond efe ei hun. Nid oeddynt am ei weled oddieithr iddo dalu yn ol yr arian ysbeiliodd. Teimlent dros ei gyflwr ysbrydol ger bron Duw yn fwy nag am ei enw da yn mysg dynion. Dros enw da eu mab yn mysg dynion yn unig y teimlai rhieni Henry; nid oedd yr ystyr- iaeth o Dduw o gwbl yn eu meddyliau hwy. Gweddiai rhieni James ar iddo gael agoriad llygaid a chyfnewidiad cyflwr, rhag iddo farw yn anedifeiriol ac yn elyn Duw eithr nid oedd un weddi yn myned i'r lan o Bencrythorfawr dros Henry. Yr unig weddiau esgynent drosto ef oedd oddiwrth ereill. Gofalodd Richard a Jane na chawsai y naill na'r llall o'r ddau fod heb weddiau ar eu rhan. Yn fuan wedi ymadawiad Richard o Glyn- gweddol, daeth Mr Fred Vaughan, Plasyrhebog, yno ar ymweliad gyda'r bwriad o wneyd cynyg teg am law Miss Hiscox, yr hon, fel y deallai, oedd yn rhydd, ac yn ol dull y byd hwn o lefaru, yn werth ei chael. Peth mawr yw cael mab neu ferch gwerth eu cael, ond y pwnc yw, beth sydd yn cyfansoddi y gwerth-bydol neu grefyddol, meddyliol neu arianol, moesol neu dymhorol? Yr oedd Miss Hiscox yn werth ei chael yn mhob un o'r ystyriaethau hyn-yn werth arianol, deallol, moesol, a chrefyddol. Yr oedd ei gwir werth yn llawer mwy yn awr nag yr oedd ddechreu cyd- nabyddiaeth Miss Harries a hi. Gwnaeth Mr Vaughan ei oreu i enill ei serchiadau. Ymddyg- odd hi yn hollol foneddigaidd tuag ato, ond cadwai ef draw yn y mater o serch, ac ni roddodd un gefnogaeth iddo yn y cyfeiriad hwnw. Daeth y tymhor iddi ddychwelyd i'w chartref yn ngymydogaeth Stansted, Essex. Nid oedd cymaint o swyn iddi yn Glyngweddol yn awr ag a fu pan oedd Richard yno i'w chymeryd hi ac Elizabeth yma ac acw. Ni charai dreulio y gauaf dilynol yno. Rhoddodd dro gydag Elizabeth ar hyd yr hen rodfeydd, He cawgent lawer prydnawn o fwynhad yn nhymhor tesog haf. Ar un o'r ym- deithiau hyn, aethant yn mlaen yn mhell ar hyd y ffordd o'r Llan nes dyfod i lidiart a heol arweiniai i amae'thdy parchus ei wedd, a grisiau yn myned i fyny oddiwrth y pistyll i borth y gegin, a grisiau yn myned i fyny oddiwrth lidiart bychan i ddrws y ffrynt, o flaen pa un yr oedd man glas o bob tu i'r rhodfa, a gwelyau blodau o amgylch. Croesawyd hwynt i mewn gan wraig y ty, Mrs Ffyddiog. Enw y lie oedd Glwysdy, ac enw morwynol y wraig oedd Pelagius. Dynes hynod ydoedd am ei gwybodaeth Ysgrythyrol, ei chof-cofiai beth anferth o emynau a darnau cref- yddol-ei chrefyddolder, a'i boDeddigeiddrwydd. Yr oedd yn dywysoges a sant mewn gwisg gwlad. Byddai y lie yn orphwysfa angylion yr eglwysi pan ar eu teithiau, a chroesaw i bob gwasanaethwr i'r Arglwydd Iesu. Treuliodd Miss Hiscox a Miss Harries ddwy awr ddedwydd yn ei chwmni. Yr oeddynt wedi gwneyd adnabyddiaeth a. hi yn nghapel y Parch Benjamin Jones, a'i chyfarfod fwy nag unwaith ar eu gwibdeithiau ar hyd yr ardal. Cymhellodd hwynt i gymeryd cwpanaid o de am unwaith yn y Glwysdy gyda hi. Cyd- syniasant yn ddiolchgar. Daeth y gwr i mewn o rywle, ac ymunodd a hwynt yn y gorchwyl a'r gymdeithas ddymunol hono. Gwr unllygeidiog ydoedd, ac efe oedd y gwr blaenaf mewn dylan- wad a deheurwydd yu ngoruchwylion y plwyf. Yr oedd yn wr o uwch dysg a gwrtaith na'i gyd- blwyfolion. Meddai lais ychydig yn gras, fel y dywedir. Yr oedd yn weithgar iawn hefyd gyda chrefydd. Enillwyd ef i fod yn grefyddol yn benaf trwy ddylan wad ei wraig. Dygent eu plant i fyny i siarad Saesoneg. Yr oedd amryw o blant yno, deallus oil, ac yn eu mysg efeilliaid ieuainc. Daeth un ohonynt (Claudia) i ragori arnynt mewn mwynder, daioni, a chefnogaeth o'r oil sydd deilwng. Addfedodd i'r nefoedd, i'r lie hefyd y cymerwyd hi pan nad oedd ond gwraig ieuanc, gan adael rhai ieuainc ar ei hol i rodio yn yr un llwybrau. Yr oedd awyr o berarogl ysbrydol o'i hamgylch lie bynag y byddai. Gwreiddiodd crefydd Mrs Ffyddiog yn y teulu, ac argoela hir aros yno. Cynghorai Mrs Ffyddiog un pregethwr ieuanc yn neillduol arferai alw yno yn y geiriau hyn-I Byddweh yn fachgen da; gofalwch am danoch eich hunan, da machgen i.' Eithaf cynghor i bob pregethwr ieuanc. Cafwyd cymdeithas felus wrth y bwrdd te y prydnawn uchod. Hebryngodd Mrs Ffyddiog hwynt hyd at lidiart ffordd y plwyf. Aeth Miss Hiscox a Miss Harries y Sabbath dilynol i gapel y Parch Benjamin Jones: Sabbath olaf Miss Hiscox ydoedd. Wedi y gwasanaeth, dywedasant hyn wrtho. Ffarweliodd a hi yn serchus, a dywedodd- Yr ydych yn myned yn ol i'ch gwlad ac at eich pobl. Dymunaf i chwi bob bendith fyddo er eich lies; Duw yn unig wyr beth sydd er ein lies. Tebyg na chwrddwn byth ond hyny yn y wlad hon, ond gobeithio y cwrddwn yn y wlad uwchben. Dyma adnod ffarwel i chwi oddiwrth ewyllysiwr da i chwi, "Eithr cynyddwch yn ngras a gwybod- aeth ein Harglwydd lesu Grist." Pedr a'i llefar- odd hi.' Teimlodd Miss Hiscox ddifrifoldeb yr ymadaw. iad i'r byw, ac o'r braidd y gallodd gadw ffynonau y teimlad rhag gorlifo dros yr ymylon. Arosodd yr adgof yn hir ar ei meddwl. Ni chlywodd neb o'r blaen yn ffarwelio ag adnod. Daethai y ddwy i'r oedfa trwy Ddyffryn Baca, a dychwelasant, nid trwy Rosydd Moab, ond trwy Glyn Cysgodion, fel y galwai Elizabeth y fan. Elid iddo trwy droi ar y chwith o ffordd y plwyf a chyda'r cl&wdd, troi ar y chwith drachefn gyda clawdd isaf y cae, dilyn hwnw at y nant lifai dan bont gareg, wedi troi melin Wil Onest. Wedi croesi y bont, arweiniai y llwybr gyda clawdd ar y ddehau, trwy gae Glynweddol, ac allan i'r ffordd arweiniai i'r groesffordd fecban ger llaw i'r Llan. Tramwyfa unig oedd hon, heb yr un ty o'r naill ffordd i'r llall, dim ond cysgodau y coed, a swn dwfr y nant dan y bont gareg. Anfynych cyfar- fyddid a bod dynol yma, Pynciad ambell aderyn ar y cangau yn unig dorai ar ddystawrwydd y lie, a swn tarw Glyngweddol pan fyddai y gwartheg yn pori yn y cae ger Haw. Eithr mynasai Miss Harries sicrwydd nad oedd y gwartheg yno cyn myned i'r oedfa. Dyma fan i fardd a myfyriwr, heb berygl aflonyddwch. Dros y Ilwybr hwn arferai hen offeiriad y plwyf, yn yr oes o'r blaen, fyned o'r amaethdy cyfagos i'r Llan..Nid oedd yr hen ffermwr—trwy gongl cae pa un oedd raid myned at y bont gareg-yn foddlon i'r offeiriad dramwy y ffordd hono, gan nad ystyriai y llwybr yn un cyhoeddus; felly, cauodd y bont i fyny a drain. Bu raid i'r offeiriad droi yn ei ol a myned ffordd arall, ac yr oedd ar ol ei amser. Pregeth- odd ar Trwy ofidiau lawer mae myned i mewn i'r bywyd.' Bu cyfraith rhyngddynt, yr hon a gostiodd rhyw dri chan' punt i'r ffermwr, meddai traddodiad. Tal drud am ychydig bigeidiau o ddrain, a'r Sabbath gostiodd fwyaf iddo yn ei oes, wrth bob tebyg. Peth peryglus yw cau llwybr offeiriad, yn enwedig os bydd ar ddyledswydd felly y profodd y tro hwn, nad beth. Bu y llwybr yn rhydd byth oddiar hyny. Bu plant yn myned drosto flyn- yddau ar ol byn, gan gerdded, rhedeg, llamu, chwareu, tynu cnau, bwyta mwyar duon ac afalau surion wrth fyned i, ac wrth ddychwelyd o ysgol ddyddiol gynaliwyd am ychydig flynyddau yn y Llan gan ysgolfeistr cloff o-glun. Dyben yr ysgol oedd cael pobl i wasanaeth y Llan, a llwyddodd am beth amser nes aed i orfodi yr ysgolheigion i fynychu y gwasanaeth. Aeth bachgen pencrych, penddu ac ereill o blant Ymneillduwyr i sefyll allan. Codwyd strike rhag myned i'r Llan, a daeth yr ysgol yn fuan i'r dim. Dyma un o'u dewisol dramwyfeydd hwy cyn y strike hwnw, yna aeth y llwybr coch yn unig a didramwy braidd wedi hyny. Un hynod ao effeithiol fu strike y plant. Eithr ni wyddai Miss Hiscox a Miss Harries ddim am gyfraith yr offeiriad oedd wedi hir gy- meryd lie cyn hyny, nac am dramwyad y plant i ysgol y Llan, na'u strike oedd i fod ar ol hyny. Mwynhasant hwy eu taith o'r oedfa olaf i Miss Hiscox yn nghapel y Parch Benjamin Jones. Meddylient a siaradent am yr ymadawiad difrifol a'r adnod. Mynych y meddyliodd Miss Hiscox yn ol llaw am yr adnod. Teimlai lawer tro ei bod yn orchwyl mawr 'cynyddu mewn gras a gwybod- aeth yr Arglwydd Iesu.' Dyma broblem fawr crefydd. Nid gwr oedd y Parch B. Jones i ddef- nyddio geiriau mawrion athronyddol a barddonol, megys goleuni llachar, y mynydd ban, y creigiau crog, y cor asgellog, ceinion anian, bro asur, y nwyfre lasliw, y dolydd meillionog, yr ednod cathlawg, athroniaeth dyfnddysg, a tbnau troch- ionog y weilgi. Elai efe at y galon, ac yno y dygai waith gwirionedd yn mlaen. Deallai pobl ef. Dranoeth, gosododd Miss Hiscox ei thrysorau yn nghyd, a chynorthwyodd Miss Harries hi. Gosodwyd i mewn y Beibl Cymraeg, y Testament Dwy-ieithawg, darluniau, ac anrhegion ereill. Teimlai hiraeth i ymadael, a theimlai fwy o hiraeth i ymadael & Miss Harries na neb. Tradwy yr oedd cerbyd Glyngweddol yn cyflymu i orsaf reil- ffordd ger y dref, ac ynddo Mr a Mrs Blethyn, Miss Hiscox, a Miss Harries. Daeth y gerbydres i mewn, ac wedi ffarwelio, cymerodd Miss Hiscox ei heisteddle mewn cerbyd first class. Cychwyn- odd y tren, a chyflymodd ar hyd y cledrau i Lundain, a chyrhaeddodd ei chartref yn iach a dyogel. «.

CYMANFA GANU ANNIBYNWYR BLAENAU,…

Advertising