Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

YSTALYFERA.

News
Cite
Share

YSTALYFERA. Marwolaeth.-Boreu dydd Gwener, Medi 9fed, ar ol cystndd o ychydig wythnoaau, bu farw Mrs Evans, priod Mr W. Evans, saddler, o'r lie yma, a diacon parchus yn eglwys y Gurnos. Yr oedd Mrs Evans yn wraig dawel a siriol, a hoff gan bawb a'i hadwaenai, ae yn gwybod beth oedd cymdeithasu a'r Duw sydd a'i hanfod yn gariad. Dyoddefodd yn dawel a dirwgnach, fel pe yn gweled llaw yr Anweledig yn y cyfan. Dydd Mawrth canlynol, daeth tyrfa yn nghyd i gludo y gweddillion i'r pridd, o'r hwn y daeth.' Gwasanaeth- wyd wrth y ty gan y Parch B. Thomas, Gnrnos, gynt. Claddwyd hi yn mynwent yr eglwys. Cafodd gladd- edigaeth barchus. Cydymdeimlir yn fawr a Mr Evans yn ei alar. Dyddanwr pawb fyddo yn ddyddanwr iddo yntau, ac a roddo iddo nerth i ymgynal dan yr ergyd. Darlith ar y Ti-iiidod.-Bu y Parch W. Rees, Llechryd, yn traddodi darlith yn ysgoldy y Wern yn ddiweddar ar y testyn uchod. Ni chlywais fod neb o'r rhai sydd yn proffesu eu bod yn credu, neu, o leiaf, yn cydfyned a'r athrawiaeth a geisiwyd osod ger ein bron y noson hono, wedi eu siomi o'r ochr oren yn y ddar- litb, nac yn yr atebion i'r gofyniadau ar y diwedd chwaith. « Profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent.' Cyfarfodydd Pregethu.- Dydd Sul a Llun, Medi lle» a'r 12fed, cynaliodd eglwys Jerusalom (M.C) ei chyfarfodydd pregetbu. Gwaaanaethwyd gan y Parchn Jones, Tonau, ac Ebenezer Bees. Masnach.-Araf iawn mae'r olwynion yn symud yma er's yn agos i ddwy flynedd bellach-ugeiniau lawer yn segur. Mae yma son am godi gwaith alcan newydd er's peth amser. Gobeithio y cawn rywbeth heblaw siarad, a hy»y yn fnan, oblegid mae r gauaf da wrth y y drws. Murpht DDU,

OYMANFA LIVERPOOL A BIRKENHEAD.