Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

OYMANFA LIVERPOOL A BIRKENHEAD.

News
Cite
Share

OYMANFA LIVERPOOL A BIRKENHEAD. CYNALIWYD Cymanfa Liverpool a Birkenhead, Medi 9fed, lOfed, lleg, a'r 12fed. Pregethwyd nos Wener, yn Grove-street, Great Mersey, a Birkenhead. Nos Sadwrn, yn y Tabernacl, Park-road, a Birkenhead. Y Sabbath trwy y dydd a nos Lun, ynyr holl gapeli, gan y Parcbn D. Roberts, Wrexham; O. Evans, D.D., Llun- dain; P. Howell, Ffestiniog T. P. Evans, Pontarddulais; J. Miles, Aberysthwyth; J. Alun Roberts, B.D., Caerdydd; B. Davies, Trelech; O. R. Owen, Glandwr; J. Machreth Rees, Pentrefoelas; a D. G. Davies, Porth- madog. Pregethwyd hefyd yn nglyn a'r Gymanfa yn Marsh Lane, Vittoria-street, Bir- I kenhead, Anfield, ac Earle-road, gan amryw o'r I gweinidogion uchod, a'r Parch T. Thomas, Abergynolwyn. Cafwyd cynulleidfaoedd rhag- orol, ac yn rhai o'r oedfaon yn orlawnion, ac yr oedd y Gymanfa drwyddi yn amlwg o dan yr amddiflyn. Cynaliwyd y Gyfeillach Gyffredinol am ddau o'r gloch ddydd Llun yn nghapel Grove-street, o dan lywyddiaeth y Parch D. M. Jenkins. Wedi i un ddechreu trwy ddarllen a gweddio, Datganai y CADEIRYDD ei lawenydd o gael cyf- arfod, a chyfarfod eleni heb gyfnewidiadau amlwg er y cyfarfyddwyd y llynedd. Dywedai Dad oedd un mater wedi ei osod i lawr, ond fod yma nifer o frodyr oedd yn barod i lefaru o hel- aethrwydd y galon. Nid ydym yn berffaith yma, ond dichon ein bod yn sefyll fel y mwyafrif. Mae heddwch yn ffynu, ac os nad ydym wedi cynyddu, nid ydym wedi colli tir. Nid yw hyny yn gwbl ddigalon. Galwyd yn gyntaf ar y Parch J. ALUN ROBERTS. Dywedodd:— Am yr angenrheidrwydd o ddarlleniad gwas- tadol o Air Duw. Fod y bywyd ysbrydol a chref- yddol yn rhwym o farw os na roddir ei fwyd ei hun iddo. Nid oedd gwleidyddiaeth i'w ddiystyru ond gwirioneddau y Beibl yn unig oedd yn meddu cyfaddasder i gyfarfod ag angenion natur ysbrydol dyn. Wadodd neb erioed y Beibl sydd yn byw arno. Dywedai fod yn bosibl i rieai crefyddol fagu gwrthwynebiad i ddarlleniad y Beibl yn eu plant. Os am gosbi gwneler hyny a gwialenfedw, ac nid trwy ddysgu penod o'r Beibl. Os am ddeall y natur ddynol, darllener y Beibl, ac nid nofelau dychymygol. Dylem fod yn ffyddlawn i'r Beibl. Darllener ef fel llyfr Duw, fel cenadwri ysbrydol, a myfyrier ef yn gyson a thrwyadl. Pa genadwri sydd yn debye P O mor brydferth ydy w hanes lesu Grist, a'r ddyled sydd arnom i Air Duw. DiJynwyd ef gan y Parch J. MACHBETH REES, yr hwn a ddywedodd :— Llawer o gwyno sydd i'w glywed fod sefyllfa bresenol yr eglwysi yn anfoddbaol. Dywedir ein bod yn colli mewn brwdfrydedd, mewn ffyddlon- deb, &c. Byddaf yn meddwl weithiau ein bod yo cwyno gormod, ac yn gosod pethau allan yn waeth nag ydynt. Efallai mai y diffyg mwyaf ydyw—diffyg teimlad digon dwys o'n cyfrifoldeb personol i Grist. Ei ddysgyblion sydd i gynrych- ioli Crist ar y ddaear, arnynt hwy y gorphwys y cyfrifoldeb o edrych ei fod yn cael chwareu teg. Chwi yw fy nhystion.' Nid yr Eglwys fel corff- fel oymdeithas yn unig-sydd i ddwyn tystiolaeth, ond pob dysgybl yn ei gymeriad personol. Y mae hawliau Crist ar y credadyn yn dyfod o flaen ei hawliau ar y gymdeithas Gristionogol. Yr ystyr- iaeth hon a'n gwnai yn hollol ymgysegredig iddo. Du w, yr bwn a'm piau,' meddai Paul. Rhai pobl fel pe byddai arnynt ofn gwneyd gormod dros Grist. Yn ymddangos yn cadw cyfrif manwl o bob peth a wcant. Ond nid i ni y perthyn cyfrif. Yr oedd hen flaenor yn sir Feirionydd wedi pen- derfynu cadw cyfrif am flwyddyn er gweled pa faint oedd yr achos yn gostio iddo. Prynodd lyfr i'r pwrpas, gan fwriadu cadw cyfrif manwl am y cwbl—yr arian oedd yn gyfranu, yr amser oedd yn golli, a gwerth yr ymborth a roddai i'r pregeth- 4'; wyr a letyent yn ei dy. Ond un diwrnod, fel yr } oedd wrtho ei hun yn synfyfyrio pa beth a roddai yn y llyfr gyntaf, daetb y gair hwnw i'w feddwl, 'Heb gyfrif iddynt eu pechodau.' I Wel, wel,' ebe yntau, wrtho ei hunan, os fel yna y mae hi, ni cb'yfrifaf finau ddim.' Ac yn wag y cafodd y llyfr fod. Gwneyd sydd yn pertbyn i ni, fe ofala Duw am y cyfrif, a gwneyd yn y modd goreu y m'edrwn. Syniad y byd am Grist yn cael ei ben- derfynu yn ol y portread a geir ohono yn y dysg- ybl. Gwyliwn rhag ein bod yn peri i ddynion synied yn isel am Grist Iesu. Galwyd drachefn ar y Parch O. R. OWEN, Glandwr, yr hwn a ddywedodd :— Y mae llawer ohonoch wedi bod ffwrdd yn ddi- weddar ar eich holidays, er mwyn gwella eich iechyd, ac yr ydych, mi wn, wedi gwneyd eich goreu i'w wella. Goddefwch i mi ofyn, faint ohonoch sydd wedi bod yn ymdrechu i wella eich crefydd ? Dichon mai nid anmhriodol fyddai y cyngbor hwn-Gwnawn ein goreu i wella ein cref- ydd. Y mae yn dra tbebyg nad yw crefydd neb ohonom gystal ag y dymunem iddi i fod, nac ych- waith gystal ag y gallasai fod. Peidiwn gwneyd a'n crefydd fel y gwnaeth Agar ag Ishmael, ei gadael i ddihoeni a marw, ond gwnawn a hi yn hytrach fel y gwnaetb y Samaritan hwnw a'r dyn a syrthiodd yn mysg lladron, ei hymgeleddu a'i gwella. Goreu i gyd i ni pa gryfaf y byddo ein crefydd, crefydd gref rydd help i ni ar ein gyrfa; y mae crefydd wan yn sicr o fyned yn faich i ddyn, a'r diwedd fydd i'r dyn hwnw wneyd a'i grefydd fel y gwnaeth gwr o Amalec a'i was-ei gadael. Ond nid oes perygl i'r dyn sydd a chrefydd gref ganddo ei gadael, oblegid y mae yn teimlo ei bod yn help iddo i fyw. Y mae ei grefydd iddo ef yr hyn oedd ei ffon i Jacob, yn rhywbeth i bwyso arni. Er mwyn gwella ein crefydd (1.) Gofalwn fyw mewn awyr iach. Nid yn mhob lie y mae awyr iach. Y mae awyr anmhur ac afiach o am- gylch rhai lleoedd a chyfeillachau, ac y mae y rhai sydd yn mynychu y lleoedd a'r cyfeillachau hyny yn gwanhau ac yn gwaethygu o ran eu cref- ydd. Effeithiodd awyr Sodom yn ddrwg iawn ar deulu Lot. Os ydym am i'n crefydd i wella, gofalwn ei bod yn cael anadlu awyr iach. (2.) Gofalwn roddi ymborth iach i'n crefydd. Nid oes modd i'n crefydd i wella heb hyn. Dywedir am yr eilun-addolwr, Ymborthi ar ludw y mae,' bwyd afiach iawn. Y mae Ile i ofni fod llawer o grefyddwyr yn bwyta gormod o ludw, lludw llen- yddol, megys llyfrau anffyddol ac anmhur. Y mae hyny yn peri iddynt golli archwaeth at ddi- dwyll:laeth y Gair, a'r canlyniad yw fod eu cref- ydd yn gwanhau. Rhoddwn ymborth iach i'n crefydd, ymborthwn ar fara y bywyd, ac yfwn y dwfr bywiol. Pe buasai llawer un yn yfed mwy o hwn, a llai o bethau ereill, buasai golwg well ar ei grefydd. (3.) Gofalwn roddi digon o exercise i'n crefydd. Y mae exercise yn iechyd i ddyn. Y mae llawer un wedi myned yn Hawn o afiechyd, yn unig o ddiffyg cymeryd exercise. I Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad,' meddai Solomon, a gwelsom adeilad llawer un yn adfeilio yn gyflym oblegid ei fod yn rhy ddiog i gymeryd exercise. Y mae hyn yn wir hefyd mewn ystyr ysbrydol, Ymarfer dy hun i dduwioldeb.' Arferwn fyned i foddion gras, arferwn weddio, arferwn ymweled a'r rhai sydd mewn adfyd, arferwn ein hunain i ) fod mor ddefnyddiol ag y medrwn yn y winllan, a bydd ein crefydd yn sicr o wella llawer. Y mae yr hyn a ddywedodd Dafydd wrth Solomon yn werth i ni ei gofio, I Cyfo& dithau a gweithia, a'r Arglwydd a fydd gyda thi.' (4.) Avxnynol weith- iau am dro i ardal ein genedigaeth. Cafodd llawer un wellbad rhyfedd wedi iddo fyned am dro i ardal ei enedigaeth. Bu rhodio ar hyd yr hen lwybrau, syllu ar yr hen olygfeydd, ac adgofio yr hen deimladan yn foddion i'w wneyd yn ddyn arall; a phan ddaeth yn ol, prin yr oedd ei gymyd- ogion yn ei adnabod gan fel yr oedd wedi gwella. Bydded i ninau fyned yn ol weithiau o ran ein meddwl i ardal ein hailenedigaeth. Adgofiwn y teimladau a'n meddianent gynt wrth daro i maes, rhodiwn ar hyd y llwybrau yr ymhyfrydem yn- ddynt yr adeg hono, syllwn ar y golygfeydd a gawsom y pryd hwnw, pan yr oedd yr Iesu yn ein ol wg yn rhagori ar ddeng mil, a bydd ein cref: ydd yn sicr o wella. Aeth Jacob yn ol am dro Bethel, a derbyniodd les dirfawr yno, oblegid dywedir i Dduw ymddangos eilwaith iddo, aciddo ei fendithio. Yn sicr, gyfeillion, y mae bendith yn Bethel, a byddai yn werth i ni fyned yno weithiau. (5.) Ychwaneger at hyn oll weddi y Salmydd, pan y dywedai, Arglwydd, trugarha wrthyf, iacha fy enaid,' ac nid oferfydd ein gwaitb. Yna galwyd ar y Parch P. HOWELL, yr hwn a ddywedodd:— Y peth goreu a allaf i wneyd o bosibl fydd ail- adrodd cynghor y Gwaredwr i'r eglwys yn Phil- adelpbia—' Dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di.' Y mae hwn yn gynghor da a pliriodol, nid yn unig i'r eglwys bono, ond hefyd i eglwysi a Christionogion y dyddiau hyn a'r wlad hon. Yr ydym yn cael ein cymhell yn barhaus yn y dyddiau hyn i fyned rhagom at ryw bethan nad ydynt yn ein gafael, ac i geisio cyrhaedd ac enill tir newydd yn mhob cyfeiriad. Y mae hyny yn dda yn ddiambeu, ac yn cydweddu,nidyn unig ysbryd yr oes, ond ag ysbryd Cristionogaeth befyd. Camgymeriad mawr yw tybied fod ein crefydd ni yn tueddu i atal cynydd mewn unrhyw ddaioni. Yn hytrach na hyny, ei hysbryd hi sydd wedi bod y cymbellydd cryfaf i gynydd yn mhob man ac yn mhob oes. Ond tra yn cael ein cymhell gan ysbryd yr oes i ymegnio am fyned rhagom, ac enill tir newydd, y mae yn bosibl i ni ddirmygu ac esgeuluso yr hyn sydd genym eisoes. Ymgyrhaedd am y newydd ar draul gollwng ein gafael o'r hen. Yn sicr y mae genym fel crefydd- wyr, ac fel eglwysi, ryw betbau yn ein meddiant eisoes ag y mae yn werth i ni ddal ein gafael ynddynt. Y mae genym ffydd yn ngwirionec'd Duw, ac yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd fel dat. guddiad o'r gwirionedd hwnw. Yr ydym yn credu gwirioneddau hanfodol yr Efengyl am berson Crist, am ei frtrwolaeth iawnol, ei adgyfodiad, ei esgyniad, a'i eiriolaeth. Y mae gwaith yr Ysbryd yn erthygl hanfodol yn ein credo. Y mae genym ymlyniad cryf yn ordinhadau syml yr Efengyl, ac yn y ty lie y gweinyddir yr ordinhadau hyny. Yr ydym yn cyfrif y Sabbath beunydd yn hyfrydwcb, ac yn credu mai ein dyledswydd a'n braint yw ei gadw yn sanctaidd. Credwn fod sefyllfa ddyfodol o wobr a ebosb, ac fod y wobr a'r gosb, fel eu gil- ydd, yn dragywyddol, yn ol iaith eglur y Testa- ment Newydd. Y mae y pethau byn genym, fel y credaf, i raddau pur helaeth, ac y maent yn werthfawr yn ein golwg. 0 ran hyny, y maent gan y Wir Eglwys o'r dechreuad, ac wedi bod yn ffynonellau o nerth a chysur iddi yn mhob oes, ac yn wyneb ei holl drallodion, a thrueni mawr fyddai i ni yn yr oes hon i ollwng na llacio dim ar ein gafael yn y pethau hyn, hyd yn nod yn ein hym- drech'i ymwthio yn mlaen i'r meusydd newyddion ag y dywedir fod beimiadaeth yr oes hon yn eu hagor o'n blaen. Y mae y settler sydd wedi adeil. adu ei log-cabin yn ngbwr y goedwig, ac wedi clirio ychydig aceri o gwmpas ei anedd syml, gan eu cau i mewn, a'u dwyo dan driniaeth, yn teimlo fod tir lawer eto heb ei feddianu ond er ei fod yn ymegnio yn mysg prenau y coed i geisio medd- ianu tir newydd o hyd, nid yw yn esgeuluso y meusydd a enillodd yn barod, ond gofala am fod y cloddiau yn gyfain a'r hen feusydd yn cael eu eadw dan driniaeth briodol; ac nid rhyfedd, oblegid obonynt hwy y mae yn derbyn cynaliaeth a nerth i ymwthio yn mlaen, ac i ychwanegu yn bar- haus at ei etifeddiaeth. Felly y mae yn bosibl fod i'r Eglwys dir lawer heb ei feddianu mewn gwahanol gyfeiriadau, ond gofaler am yr hen feusydd. Y mae wedi byw yn hir arnynt hwy, ac ohonynt y gall ddysgwyl nerth eto i ymwthio yn mbellach, ac i feddianu tir newydd yn y dyfodol. Y mae gormod o dnedd mewn rhai yn y dyddiau hyn i roddi heibio hen bethau sicr—hen wirion- eddau profedig crefydd-er mwyn derbyn pethaa y tybir eu bod yn newydd. Beth debygid o ddyn a wertbai yr hen fasnach oedd wedi bod yn dwvn elw mawr a chyson iddo ef a'i deulu am flynyddau lawer, ac a roddai y cynyrch i gyd mewn rhyw anturiaeth wyllt a. anmhrofedig? Oni theimlai pob dyo synwyrol ei fod yn gwneyd yo annoeth iawn ? Tebyg hyny y gwna y neb sydd yn