Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
[No title]
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cynwysiad. Hysbysiadau #ii titi 2 Ymylon y Ft'ordd 3 Y Golofn Wieiilyddol 4 Pontardawe-Colofn y Dadg-ysylltiad-Aberdar 5 Cyfarfodydd Chwarterol Dinbych a Fflint, Mon, a Gorllewinol Morgan wg—Cyfarfod Cenadol An- iioch, Penffo 6 Nantgarw—Llundain — Tynygwndwn a Throedy- rhiw, sir Aberteifi—Beulah, Eglwysnewydd 7 Yr Wythnos 8 Y BRIF ERTHYGL- Mesur Addysg Ganolraddol 9 Y Senedd Ymherodrol 9 Claddedijjaeth y Parch E. Stephen, Tanymarian 10 Gobebiaethau 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol—Godre y Rhondda 12 Priodasan-Prifysgol Llundain 13 Hysbysiadau 13,14,15,16
- ADGOFION DEUGAIN MLYNEDD.
News
Cite
Share
ADGOFION DEUGAIN MLYNEDD. GAN AMOS LLWYD. Gohirir yr Adgofion am ryw bythefnos neu dair wythnos, er gwneyd lie i Gyfarfodydd Blynyddol yr Undeb.
CYFARFODYDD BLYNYDDOL YR UNDEB…
News
Cite
Share
CYFARFODYDD BLYNYDDOL YR UNDEB YN ABERYSTWYTH. Bydd yn y ddau Rifyn nesaf o'r TYST adroddiad helaeth o'r cyfarfodydd uchod. Gofaled y Dosbarthwyr hyny fydd am gael nifer ychwanegol o'r papyr anfon gair i'r Swyddfa erbyn boreu dydd Mawrth nesaf (Mehefin 2il).
Advertising
Advertising
Cite
Share
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMKEIG. CADELRYDD Y PARCH OWEN THOMAS, BRYNMAIR. CY ?!■ VI C rnV;yd<1 Blynyddol nesaf yr Undeb yn A ^IUSrWYrH, ar y dyddiau Llan,Mawrth, a Merclier, Meheftnlar, 2d, a'l- 3ydd, 1886. nvnd Llun, am 3 yn y prydnawn, ymgyfeifydd Pwyllgor yr XJnde"* iS os Lun, am 7, traddodir 'Pregethau yr Undeb gan y Parchn Thomas Johns, Llanelli, a William Nicholson, Liverpool. Boreu Mawrth, am 7, Cyfeillaeh Grefyddol. Cadeirydd, Parch John Owen, Llanegryn. Darllenir Papyr ar Wir Adfywiad Crelyddol" gan y Parch David John, Manchester. Arweinir yr ymddyddan ar y mater gan y IJarch I'ryce Howell, Ffestiniog. Am 9.30. Cadeirydd, Parch Owen Thomas. (1.) YrAncrchiad Blynyddol or Gadair. (2.) Papyr ar Berthynas Athrawiaeth yr Efongyl a Moesoldeb," gan y Parch Lewis Probert, Porthmadog. Cyaygir ac eihr penderfyniad arno gan y Parchn R. Rees, Alltwen, a J. M. Rees, Pentrefoelas. Am 2. Cadeirydd. Parch Owen Thomas. (I.) Penodi Lleoliad Cvfarfodydd yr Undeb am y flwyddyri nesaf. (2.) Ethol Cadeir- ydd amy fivvyddyn. (3.) Papyr ar Gyllid Cyfreithlon Crefydd," gan y Parch K. W. Griffith, Bethel. Cynygir ae eilir penderfyniad arno gan y Parch J). Williams, Llandilo, a Mr Arthur Rowlands, Town Clerk, Bhy]. Am 6, Cyfarfod Cyhocddus. Cadeirydd, J. A. Jones, Ysiv., M.U., Llanelli. Traddodir Anerchilldau ar y materion a ganlyn,— NoclWeddion Eglwys Fyw," #an y Parch LI. Bryniog Roberts, C itirnarfon. "Gwasanaeth yr Annibynvvyr i Ryddid," gan Mr Josiah Thomas Liverpool. Moesoldeb Cymdeitluasol," gan y Parch W. I. Morris, Pontypridd. Y Genadaeth Diamor," gan y) Parch J. Davies, Taihirion. [ioreu Mcrcher, am 7, Cynadledd. Cadeirydd, Mr Councillor R Martin. Abertawy (Cadeirydd yiPwyllgor). Ymdrinir yn y Gynadledd hon a'r materion arferol. Bydd prcu'ctliu dydd Mercher am 10, 2, a 6 o'r glocli. Cynelir lioll gyfarfodydd yr Undeb yn ngliapel Baker-street. Cyhoeddir Adroddiad" o'r holl weithrediadau. pris swllt. A'tbucr at y Parch W. Thomas, Wliitland, E.S.O. J. B. PARRY, ) H. JONES, [ Ysgn. W. THOMAS, ) YN AWE YN BAROD (RHIFYN MEHEFIN). Y CENAD HBDD. Fris DWY GEINIOG yn y Mis. Da,n Olygiaeth y Parch W. NICHOLSON, Liverpool. CYNWYSIAD RHIFYN MEHEFIN. Y Pwlpud Cymreig a'r Hen Derfynau, gan y Parch J. Morris, P'mt.ygof. Maddeuant, gan W J. P., Coetmor Hall. Cyfieithad Ilapus. Griffith Williams, Cae'r Brenin, gan Gwronfab. Epistol Paul at Philemon, gan Pentyrch. Y diweddar Hybaroh Ddr Rees Abertawy. Y diweddar Barch E. Stephen, Tanymarian. Fis i Fis, gan W. N. :-Diolch am Mr Gladstone—Herber a Chynrycliiolaeth sir Gaernarfoa—Cadair yr UndeblCynull- eidfaol—Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Y Were Sabbothol, gan y Parch D. Jones, Cwmbwrla. Yr ehv arferol i Ddosbarthwyr. Pob archebion am dano i'w hanfon i'r Cyhoeddwr- JOSEPH WILLIAMS, TYST A'R DVDD Office, Merthyr. "BYWYD .GEORGE MULLER," Sylfaenydd dnvy ffydd a gweddi y Tai i 2,050 A i. o Amddifaid, Bryste. 2 t'ts 6c<^ gyda'r post 6|c., neu 10 am 4s. 6c. Blaendal. I'w gael gan y Pyfieithydd- J. P. JONES. Caerwent House, Bridgend. Glamorganshire.
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. LLOEGR A RWSIA.—Oherwydd gohiriad y Senedd nis gellir gwybod yn sicr am sefyllfa y ddwy wlad. Mae un peth yn arwyddo yn Ifafriol i heddwch, er nad yw darparu i ryfel wedi sefyll, y mae wedi arafu, yr hyn a ddengys nad yw Mr Gladstone yn gwbl an- obeithiol am heddwch. Y DIWEDDAR VICTOR HUGO. — Mae Ffrainc wedi ei thaflu i alar unwaith eto trwy farwolaeth un o'i meibion galluocaf, y diweddar Victor Hugo. Gwelodd lawer tro ar fyd yn ei wlad aflonydd ac anned- wydd, ac ar un adeg alltudiwyd ef ohoni am ei hyfder yn traethu ei farn yn erbyn yr awdurdodau. Ysgrifenodd lawer yn ei ddydd gododd ei enw i boblogrwydd mawr yn Ewrop ac America. Ond efe a fu farw, gan adael yn ei ewyllys 50,000f. i'r tlodion. Dymunai i'w gorff gael ei gludo i'r gladdfa yn elorgerbyd y tlodion, a'i gladdu heb un gwasanaeth crefyddol, er ei fod ef ei hun yn credu yn modolaeth Duw. ADDYSG CANOLOG I GYMRu.-Cyflawnodd Mr Mundella ei addewid i Gymru nos Wener diweddaf, neu yn fwy priodol, boreu y Sadwrn, tua 2 o'r gloch, trwy ddwyn i fewn ei Fesur Addysg Canolog i Gymru. Yr oedd dolen bwysig yn eisieu yn nghyf- undrefn addysg y wlad. Yr oedd genym ysgolion elfenol, yna higher grade a cholegau y prifysgolion, ond yr oedd adwy rhwng yr higher grade a'r colegau. Amcan y mesur bwn yw llanw y gwagle fel ag i gyfanu y gyfundrefn. Nis gall mesur y dysgwyliwyd cyhyd am dano, ac y teimlid cymaint o'i an gen lai na chael ei feirniadu yn llym. Ni fydd pall ar byny ond pan feddyliom am y tir cynil oedd gan Mr Mundella i fyned drosto, y buddianau oedd ganddo-i ymwneyd a hwynt, a'r teimladau croes oedd ganddo i fyned rhyngddynt, hwyrach y byddai yn haws i ni ei feirniadu mewn ysbryd cymedrol. Teimlwn yn ddiolchgar i Mr Mundella am y mesur fel y mae, ac y mae cystal ag y gallesid dysgwyl i ddyn anghyfarwydd a'r wlad ei wneyd. Eto, hwyrach mai nid aimer by niol ganddo fydd barn ereill a edrychant ar y mater oddiar sáfle- wahanol iddo ef. Pa un bynag a wrendy ai peidio, dyledswydd pob gwlad a chenedlgarwr ydyw traethu ei farn yn ddiofn, a cheisio cael y mesur ar y cychwyn yn gyfryw ag a orphwysa yn esmwyth ar feddyliau a cftyd- wybodau y mwyafrif o'r genedl. Teimlwn wrthwynebiad cryf i'r Bwrdd Dirprwywyr benodir ganddo, am nad oes angen am dano. Mae genym y Cynghor Addysg i ofalu am addysg y wlad, ac fel adran o'r Weinydd- iaeth y mae yn gyfrifol i'r Ty Cyffredin, yr hwn, fel cynrychiolydd y bobl, sydd a hawl i'w gwestiyno ar y materion a bertbynant iddo. Nid oes neb rhwng y Byrddau Ysgol a'r Cynghor Addysg, ac nid ydym yn gweled y byddai dim yn cael ei enill, ond llawer o arian yn cael eu gwario trwy gael Bwrdd o Ddirprwywyr rhwng y Pwyllgorau Addysg a'r Cynghor Addysg. Gyda golwg ar y Pwyllgorau Addysg gynygir eu cael yn y siroedd, mae gan y bobl rhy fach o lais yn eu dewisiad, a rhoddir gormod o hawl i'r ynadon hedd weh yn ei gyfansoddiad, a chyfyngir gormod ar eu hawdurdod i ym- wneyd ag ysgolion gwaddoledig sydd eisoes mewn bod ac mewn bri o dan nawdd yr Eglwyswyr. Ai nid gwell fuasai gadael addysg grefyddol allan yn hollol? Cauir ef allan o'r colegau, a llawer mwy dymunol fuasai ei gau allan o'r ysgolion canolog. Ar y cyfan, mae y mesur cystal ag a allesid ddysgwyl o dan yr amgylchiadau, ond nid da dim os gellir ei well. MR HENRY RICHARD, A.S.-Mae ein cydwladwr enwog wedi roddi ei swydd i fyny fel Ysgrifenydd Cymdeitbas Heddweh, yr hon swydd a lanwodd am ddeugain mlynedd er anrhydedd iddo ei hun a Iles cymdeitbas. Uniawn y gelwir ef yn apostol heddwch, oblegid nid oes neb wedi llafurio yn helaethacb, nag mor helaeth o blaid heddwch rhwng teyrnasoedd, a sefydliad 0 y cyflafareddiad eydrwngwladwriaethol yn lie rhyfel. Er na fydd ei gysylltiad a'r gym- deithas o hyn allan mor agos, cedwir ef yn y tresi mewn ran fel Ysgrifenydd Anrhydeddus. Mae wedi cael byw yn ddigon hir i weled ffrwyth i'w lafur, ac ni fydd neb yn fwy llawen a diolchgar nag efe, yn wir, ni fydd neb a hawl i hyny, pan derfynir y cweryl rhwng Lloegr a Rwsia gan gyflafareddiad. Eithafnod ei uchelgais yw cael llys awdur- dodedig i gymeryd i fyny bob mater o gweryl rhwng gwledydd a theyrnasoedd y ddaear. Llys i fod rhwng y, gwahanol deyrnasoedd fyddo mewn dadl, ac awdurdod ganddo i'w phenderfynu, fel y mae dadleuon rhwng deiliaid yr un wlad yn cael eu pen- derfynu gan lys cyfraith y wlad. Neu, gwneyd teyrnasoedd y ddaear yn ddaros- tyngedig i'r llys hwnw, fel y mae deiliaid y wlad yn ddarostyngedig i lys cyfreithiol y wlad. Pe caffai gwron heddweh weled y dydd hwnw, parod fyddai i ddyweyd, "Yr awr hon y gollyngi dy was mewn tangnef- edd."
MESUR ADDYSG GANOLRADDOL.
News
Cite
Share
MESUR ADDYSG GANOLRADDOL. MAE y Mesur Addysg Ganolraddol a hir addawyd, ac am yr hwn y dysgwyliwyd cyhyd, wedi ei ddwyn ger bron y Senedd gan Mr MUNDELLA, ac wedi myned trwy y dar- lleniad cyntaf. Dygwyd ef i mewn ar awr ddiweddar o'r nos, neu yn hytrach air awr gynar o'r boreu, fel na chafwyd amser i egluro ei fanylion; a bu o fewn ychydig i fyned yn fethiant arno, oblegid nad oedd digon o aelodau yn bresenol i gyfansoddi Ty ac oni buasai i rywrai redeg i mewn i wneyd i fyny y deugain gofynol, buasai wedi methu. Dangosodd yr aelodau Cymreig a adawsant y Ty cyn gweled y Mesur trwodd esgeulusdra mawr, ac y mae y rhai a aros- odd ar ol i weled y diwedd yn deilwng o barch dauddyblyg. Nis gallwn yma roddi darbodion y Mesur yn llawn, ond cyfeiriwn yn unig at rai o'i brif bwyntiau. Y mae y Mesur yn darparu yn gyntaf fod pwyllgor addysg i gael ei sefydlu yn mhob sir, cymysgedig o'r Aelodau Seneddol dros y sir a'r bwrdeisdreii, a dau gynrychiolydd o bob bwrdeisdref yn y sir y byddo ei phoblogaetb uwchlaw haner can' mil yn ol y cofrifiad dl: weddaf, ac un cynrychiolydd o leoedd llai fyddo o dan reolaeth bwrdd iechyd net! fwrdd lleol, ac i'w dewis ganddo, yn nghyda. deuddeg o aelodau ychwanegol—eu haner i'w dewis gan ynadon y sir, a'r haner arall gan gadeirwyr ac is-gadeirwyr y byrddau ysgol. Mae y pwyllgor yma yn meddn hawl i ddarparu cynllun addysg i'w gynier- adwyo i'r Ddirprwyaeth a ddarperir gan Y Mesur, a'i gario allan wedi y derbynio eu cymeradwyaeth. Mae yn rhoddi hawl iddynt i- sefydlu ysgolion newyddion, i drefnu a rheoli, a symud unrhyw ysgol waddoledig sydd yn dyfod o fewn cylch eu hawdurdod; i uno un neu ddwy neu ychwaneg o'r ysgolion hyny, os felly y barn- ant yn ddoeth; i ddarparu ysgoloriaetbau i'w dal gan unrhyw ysgol; i werthu y