Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CYFUNDEB DINBYCH A FFLINT.…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFUNDEB DINBYCH A FFLINT. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod y tro diweddaf yn y Graianrhyd, Mai 12fed a'r 13eg. Y Gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, o dan lywyddiaeth y Parch T. Roberts, Wyddgrug, y cadeirydd am y flwy ddyn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. Johns, Rhuthyn, ac wedi darllen a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, pasiwyd a ganlyn: — 1. Y cynelir y cyfarfod nesaf yn Caergwrle, tua diwedd Gorphenaf. 2. Fod y Parch D. Roberts, Wrexham, i ddarllen papyr yn y Gynadledd nesaf yn nglyn a'r If Athrawiaethol mewn crefydd," a'r Parch I). Williams, Seion, i bregethu ar fater a roddir iddo gan eglwys y lie. 3. Ar gynygiad y Parch D. Johns, a chefnogiad y Parch D. Roberts, pasiwyd y penderfyniad can- lynol yn nglyn ag Addysg Ganolraddol yn Nghymru :—" That this Conference of ministers and delegates, representing the Congregational churches of the counties of Denbigh and Flint, which met at Graianrhyd on May 12th, begs most respectfully to press on Her Majesty's Govern- ment the urgent necessity of bringing forward without further delay the long-promised measure dealing with Intermediate Education in Wales; and that a copy of this resolution be "sent to Mr Gladstone, Mr Mundella, Lord Carlingford, and the members for the above counties." 4. Cynygiwyd gan y Parch D. Oliver, ac eiliwyd gan y Parch D. Roberts, fod y penderfyniad canlynol i'w anfon i Mr Gladstone:—"At the Quarterly Meeting of the Congregationalists of the counties of Denbigh and Flint it was resolved, That this meeting highly approves of the decision come to by the Government regarding Russia, as well as Soudan, and trusts they have been guided by the Supreme Being, who is the Author as well the Lover of peace; and it also declares its un- abated confidence in the Prime Minister and his realm." 5. Cynygiwyd gan Mr Roberts, Wrexham, ac eiliwyd gan Mr D. Jones, Pontystyllod, Fod y cyfarfod hwn yn amlygu ei alar dwys yn symudiad trwy farwolaeth o'n plith y brodyr enwos: ac anwyl, y Parchn S. Evans, Hebron; T. Rees, D.D., Abertawy; ac E. Stephen, Tanymarian ac yn dymuno datgan ei gydymdeimlad llwyraf a theuluoedd y cyfryw, a'r eglwysi sydd wedi eu hamddifadu o wasanaeth gweinidogion mor ffydd- Ion a llwyddianus." Anfonwyd adysgrif o'r uehod i'r gwahanol deuluoedd a'r eglwysi. Hefyd, "Fod y cyfarfod hwn yn dymuno amlygu ei gyd- ymdeimlad llwyraf a'n brawd y Parch W. T. Thomas (Gwenffrwd) yn wyneb marwolaeth ei anwy] briod." 6. Cynygiodd Mr Oliver, ac eiliodd Mr S. Thomas, Newmarket, Fod ein diolchararwch yn cael ei gyflwyno i Mri W. T. Thomas, Wyddgrug, a D. Williams, Treffynon, am eu-llafur a'u llwydd- iant yn nglyn A les Capel y Sara." Crybwyllwyd hefyd am garedigrwydd Mr Davies, cyfreithiwr, Treffynon, yn y mater hwn. Cyflwynodd y Parch H. U. Jones, Rhesycae, y brawd Thomas Jones, Jerusalem, i sylw y frawdoliaeth fel pregefchwr ieuanc addawol iawa. Rhoddwyd iddo gefnogaeth wresog. Galwodd Mr Johns sylw at y Gymanfa, yr hon a gynelir yn Rhuthyn yn gynar y mis nesaf. Taer wahoddir pawb i fod yno, a thaer ddy- munir am weddiau yr eglwysi ar ran y Gy- manfa. Darllenwyd papyr gan yr Ysgrifenydd ar Yr eglwys a difyrion yr oes." Cafwyd ym- ddyddan brwd ar ei gynwys. Datganwyd dymuniad am ei gael yn argraffedig.

Y MODDION CTHOEDDUS.

Advertising

CYFARFOD CHWARTEROL MON.

CYFARFOD CHWARTEROL UNDEB…

CYFARFOD CENADOL ANTIOCH,…