Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

YR YSGOL SABBOTHOL. -

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS RHYNGWLADWRIAETHOL (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. MEDI Meg.—Pysgwyl wrth yr Arglwydd.—Salm xl. 1-17. Y TESTYN EURAIDD. Dystawa yn yr Arglwydd, a dysgwyl wrtho nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gwr sydd yn gwneuthyr ei ddrwg amcanion."—Salm xxxvii. 7. RHAGARWÈINIOL. CYFANSODDWYD y Salm hon gan Dafydd, ac y mae yn ddarlnniad o'i deimlad yn yr ymwybyddiaeth o faddeuol ras Duw. Gwyddai beth ydoedd dyoddef oherwydd ei bechodau, ond eto credai ei fod ef ei hun wedi cael maddeuant, ac y cai ddianc rhag eu canlyniadau eithaf. Yr oedd wedi ei gyfodi o'r pydew erchyll, ac wedi ei dynu allan o'r pridd tomlyd, a'i draed wedi eu gosod ar graig. Dan ddylanwad y teimlad hwn, y mae yn cyflwyno ei hun i'r Arglwydd, ac yn data an ei benderfyniad i ddysgwyl yn fiyddiog wrtho, Y mae Dafydd yn y Salm hon yn ddiau yn llefaru dan ddy- lanwad ysbryd proffwydoliaeth. Er ei fod yn datgan ei deimiad personol ei bun, eto nid ydyw ei eiriau yn cael eu cyflawniad priodol ond yn mywyd a phrofiad yr Arglwydd Iesu yn nyddiau ei ddarostyngiad, ac yn ngoleuni bywyd yr Iesu y dylem ni ddarilen y Salm hon. ESBONIADOL. Adnod 1.—"Dysgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain." Y mas y geirian yn gosod allan angerddoldeb teimlad. Maent'yn gyfystyr a'r ymadrodd, "a'm holl galon." A ymostyngodd ataf, &c. Yn plygu i wrando fy Ilef o waelodion y pydew. Adnod 2.—"Cyfododd fi befyd o'r pydew erchyll, allan o'r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad." Nid yn unig clybu fy llefain, ond cyfododd fi hefyd. Pydew erchyll. Pydew tebyg i'r un y bwriwyd Jeremiah iddo (Jer. xxxviii. 6). Pridd tomlyd. Lie nis e-allesid gael man dyogel i roddi troed i lawr, ond yn suddo yn ddyfnach o hyd. Ar graig. Mewn lie cadarn, dyogel. Mae y graig mewn cyferbyniad i'r pydew a'r pridd tomlyd. Eivylio fy ngherddediad, nen wneuthur fy nghamran yn ddyogel. Nid yn unig fy rhod ti ar graig mewn lie dyogel, ond sicrhau fy nyogelwch yn y dyfodol. Ymadroddion ffugyrol ydynt, yn gosod allan gyflwr truenus y Salmydd, a'r waredigaeth hollol a sier a gafodd oherwydd i'r Arglwydd wrando ar ei lefain. Adnod 3.—" A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newyddo foliant i'n Dnw ni; llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd." Yn yr ymwybyddiaeth o'i waredigaeth a'i ddyogelwch, ca achos newydd i folianu yr Arglwydd. Y profiad newydd yn rhoddi ystyr newydd i'w ddiolchgarwch a'i fawl. l'n Duw ni. Duw mewn heddwchani. Llawer a welant hyn. Yr oedd y waredigaeth mor nodedig ac amlwg. A ofnant ac a ymddiriedant. Ofn duwiol neu ofn parchedig, yn codi oddiar yr olwg ar alio, cyfiawnder, a thragaredd Duw. Mae yr ofn hwn yn arwain i ymddiriedaeth yn Nuw. Adnod 4.—" Gwyn ei fyd y gwr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a wyrant at gelwydd." Gwyn eifyd, neu, 0 mor wynfydedig. Dygir ef i afael a bendithion lluosog ac amrywiol cyfaddas i gyfarfod a'i holl angenion- Yr oedd profiad blaenorol y Salmydd yn sail i'w hyder. Yr Arglwydd yn ymddiried iddo. Yn wrthddrych o ymddiried iddo. Ac ni thry at feilchion. Golygir y rhai a ymddiriedant ynddynt eu hunain yn eu galln a'u cyfoeth. Yn teimlo yn hollol dJigonol arnynt en hnnain beb ofaln dim am Dduw na byd arall. A wyrant at gelwydd, sef trysorau y byd, y rhai sydd yn siomedig. Adnod 5. Lluosog y gwnaethost ti, 0 Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a'th amcanion tuag atom ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo." Mae lluosogrwydd rhyfeddodau ac amcanion Duw mewn creadigaeth, rhagluniaeth, a gras yn dwyn y Salmydd i ryfeddn. Tucrg atom. Yn eu perthynas II. dyn. Maent mor llnosog, fel nas gellir eu traethu na'u cyfrif Cymharer yr adnod hon ag Eph. iii. 20. Adnod 6. Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nglustiau poeth-offrwm a phech-aberth nis gofynaist." Dan ddylanwad y teimlad o Inosogrwydd donian Duw, y mae y Salmydd fel pe bai yn gofyn, Pa fodd y diolchaf i ti am danynt? Nid trwy aberthau ac offrymau. Uludd-dod calon y mae yr Arglwydd yn ewyllysio, ac y mae fy uglust,au wedi en hagor i wrando ac i ddeall y gwirionedd pwysig hwn. Nid ydyw yr offrymau yn ddim heb y galon. Gwasanaeth calon sydd yn gymeradwy ger bron yr Arglwydd. Agoraist fy nglustiau. Cyfieithir yr ymadrodd gan y Deg a Thriugaiii-" Corff a gymhwysaist i mi." Ym- adrodd ffugyrol yn gosod allan y drychfeddwl o roddi cyfrwng neu offeryn priodol i glywed a gwrando. Agoraist, yn llythyrenol Cloddiaist. Gwnaethost fy nghlust i ufuddhau i Ti. Mae yn ymddangos i ini nad cyfeir/ad sydd yma at yr arferiad o dyllu dust y caethwas. Mae y Salmydd yn nodi yr holl aberthau oedd yn ofynol dan y gyfraith. Adnod 7. Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yu dyfod yn rhol y llyfr yr ysgrifenwyd am danaf." Wedi deall y gwirionedd pwysig a nodir yn yr adnod uchod, y mae y Salmydd am gyflwyno ei hun yn aberth byw cymeradwy i'r Arglwydd. Yn rhol y llyfr, neu yn mhlyg y llyfr. Golygir yr addysg oedd Duw wedi ei roddi yn nghyfraith Moses. Yr ysgrifenwyd am danaf. Yn fwy priodol, Yr ysgrifenwyd i mi. Cyfar- wyddiadau Duw i ddyn i'w ddysgu pa fodd oedd i ddyfod ger ei fron. Adnod 8.—" Da genyf wneuthur dy ewyllys, 0 fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon." Da genyf—I delight. Nid yn unig yr wyf yn ufuddhau o dan deimlad o ddyledswydd, ond hyn ydyw hyfrydwch fy nghalon. Mae dy gyfraith wedi ei hysgrifenu, nid yn unig yn y llyfr, ond o fewn fy nghalon. Mae yn egwyddor lywodraethol fy mywyd. Diau mai yn ufudd-dod yr Arglwydd Iesu y cafodd y geiriau hyn eu cyflawniad priodol a llawn. Adnod 9.—" Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr wele, nid ateliais fy ngwefusau ti Arglwydd a'i gwyddost." Pregethais. Cyhoeddais. Nid yn nnig gwneuthur ewyllys Duw. ond cyhoeddi nea fynegi ei foliant hefyd. Ufuddhan i Dduw yn y bywyd, a chlodfori Duw a'r genau. Adnod 10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb a'th iachawdwriaeth ni chelais dy drugaredd na'th wirionedd yn y gynull- eidfa Inosog." Dangosir brwdfrydedd ysbryd y Salmydd yn canmol yr Arglwydd yn y gwahanol ymadroddion a ddefnyddia. Pregethais-nicl ateliais, ni chyhuddais; traethais—ni chelais. Testynau ei fawrygiad o Dduw oeddynt ei gyfiawnder, ei ffyddlon- deb, ei drugaredd, ei wirionedd, a'i iachawdwriaeth. Adnod 11.—" Tithau, Arglwydd, nac atal dy drngareddau oddiwrtbyf cadwed dy drugaredd a'th wirionedd fi byth." Wedi datgan ei ddiolchgarwch am y trngareddau yr oedd eisoes wedi eu derbyn, y mae yn troi i ofyn am drugaredd yn yr amgylchiadau presenol yr oedd ynddynt. Yr oedd mewn enbyd- rwydd, ac y mae yn llefain ar ei Ddnw, sef y Duw oedd wedi ei wrando o'r blaen, a'i waredu. Nac atal. Mae cyfeiriad at yr ymadrodd yn y 9fed adnod. Nid ateliais. Nid ateliais i fy ngwefusau, paid dithau, Arglwydd, ag atal dy drugareddau oddiwrthyf finau. Byth. 0 ddydd i ddydd, fel y byddo yr angen. Adnod 12—" Canys drygan anifeiriol a'm cylch- ynasant o amgylch fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fyny amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hyny y pailodd fy nghalon genyf." Am- gylchynir ef gan elynion, ond y teimlad sydd yn ei letliu ydyw yr ymdeimlad o'i bechodau. Mae braidd yn ddall gan ofid. Nis gall edrych i fyny, ac mor drwm y maent yn gwasgu arno fel y mae ei galon yn llesrneirio. Nis gellir priodoli y geiriau hyn i'r Arglwydd Iesu, ond yn yr ystyr ei fod yn selyll yn neddfle pechadur- iaid, ac wedi myned dan faich pechod y ddynoliaeth. Adnod 13.—" Rhynged bodd i ti, Arglwydd, fy ngwaredu; brysia Arglwydd, i'm cymhorth." Yma y clywir lief yr edifeiriol ar lawr, ond heb golli ei obaith. Yn ei gyfyngder, er fod ei galon yn pallu, eto geilw ar yr Arglwydd. Teimla fod yrnwared gyda'r Arglwydd. Adnod 14—" Cyd-gywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i'w difrtha; gyrer yn eu hoi a chywilyddier y rhai a ewyllyshnt i mi ddrwg." Wedi gofyn am drugaredd, atolyga am gael ei waredu oddiwrth ei elynion. Dymuna iddynt gael eu siomi yn eu hamcanion i'w ddrygu. Adnod 15—"Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedasant wrthyf, Ha, Ha." Anrheithier. Eu taro yn fud gan ofn. Y rhai a dcly. wedant wrthyf, Ha, lla. Gwaradwyddent a chwardd- ent fel rhai oedd eisoes wedi ei gael i'w dwylaw. Teimlept yn sicr ohono, ac oddiar y sicrwydd hwnw gwawdiant ef ond y mae am adael ei achos yn llaw Duw, a gofyria am i'w chwerthin a'u gwawd gael ei droi yn ddychryn. Adnod 16. Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oil a'th geisiant; dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr Arglwydd." Mae y Salmydd wedi ei ddwyn i riei:do sicrwydd am waredigaeth, yna dywed, Llawenyched ac ym- hyfryded ynot ti," &c. Y rhai a garant dy iachaw. dwriaeth. Mae hwn yn ddesgrifiad o'r crediniwr mewn gwrthgyferbyniad i'r darluniad a roddodd o'r gelynion. Adnod 17.—"Ond yr ydwyf fi yn dlawd ac yn angenus; eto yr Arglwydd a feddwl am danaf; fy nghymorth a'm gwaredydd ydwyt ti; fy Nuw, na hir drig." Mae yn diwecsdu gyda deisyfiad eto, yn codi oddiar ei gyflwr truenus, yr hon oedd yn ddadl ganddo. Er ei dlodi a'i angen, yr oedd yr Arglwydd yn ffyddlon. Ni chai ei adael. Yr oedd yr angen yn fawr a'r perygl yn ymyl, felly deisyla, Fy Nuw, na hir drig." GWERSI. Mae y Salm hon yu. cynwys diolch, addysg, ymrodd- iad, proffwydoliaeth, a gweddi. Diolch am ryddhad oddiwrth ofidiau. Addysg, Gwyn ei fyd y gwr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo," ond y rhai a ymddiriedant mewn golud a phleserau y byd, a wyrant at gelwydd," a gywilyddir. Ymroddiad i ffvflwyno ei hun yn aberth sanctaidd cymeradwy gan Dduw. Yr oedd hyn yn wir am Dafydd, ond y mae y geiriau yn y broffwydoliaeth yn cyfeirio at yr Arglwydd Iesu, yr Hwn a lwyr foddlonodd y Tad, yr hyn ni ellid ei wneyd trwy boeth-offrymau ac aberthau. Gweddïa am ddyddanwch holl Israel Duw trwy ddatguddiad o'r Iachawdwriaeth, a deisyfa ymgeledd yr Arglwydd iddynt byth. Gwelwn fawredd trugaredd Duw yn ei barodrwydd i wrando cri pechadur yn ei draeni dyfnaf-ei w aredu o'i gyfyngder, gosod ei draed ar y graig, ei ddwyn yn ol i'w ffafr, a sicrhau pob help angenrheidiol i orcbfygu hudoliaetbau pechod yn y dyfodol. V Mae yr amlygiad o ras Duw i bechaduriad edifeiriol yn foddion i ddwyn ereill i ofni Duw, ac i ymddiried ynddo. Mae gwynfydedigrwydd sicr yn aros y rhai a ymddiredant yn yr Arglwydd. Mae daioni Duw i ddyn yn fwy nas gall neb ei draethn. Gwasanaeth calon ydyw yr unig wasanaeth sydd yn gymeradwy gyda Duw. Mae cofio am drugareddau yr Arglwydd yn yr amser a aetli heibio yn help i ddysgwyl wrtho yn y presenol.

GOFYNIADAU AR Y WERS.

CYFUNDEB DEHEUOL MORGANWG.