Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
PELENAU YR YSGYFAINT A'R CYLLA. — Dr. King's Dandelion and Quinine Liver Pills.—Kid yw y Pelenau rhagorol hyn yn cynwys eymaint ag ol Mcrcurj, na dim o'r am- rywioI ddefnyddiau peryglus a geir yn ami mewn pelenau hysbys- iadol. Y mae y ffaitli hon yn parbau i gadw darganfyddiad enwog- Dr King ar y blaen i'r holl belenau pa bynag, fel y feddygiuiaeth ddyogclaf, oreu, gyflymaf, a mwyaf sicr ae effeitliiol ar gyfer anhwylderau yr Ysgyl'aint a'r Cylla, pa un bynag ai yn y ffurf o anhwylder Geriaidd, Tyndra, lXfiyg Treuliad, Gwyntogrwydd Surni, Cur yn y Ten, 1'oen yn yr Yggwyddau, Twymyn ddior- phwys yr holl gorft, Diffyg Archwaeth at fwyd, neu arwyddioa diffyg treuliad yn gyffredinol. Ar werth gan yr holl Gyffyrwyr CANWCH YN DDA SIARADWCH YN DDA !— Mae Doughty's Voice Lozenge wedi eael ei Werthfawrogi yn fawr gan glerigwyr, cantorion, ae enwogion ereill am yn agos i 40ain mlynedd. Rhydd glirder a gloevvder i'r llais. JENNY LIND.—" Y mae yn bleser mawr genyf, mor bell agy mae fy mlirohad yn rnyried, 1 f'ailiirnliau y dystiolaetli sydd mor gy- ffredinol yn ffafr y Lozenges a barotoir genycli chwi" (Miles JJoughty). tic, Is, 2s tie, Sa, a Us—yn rhydd trwy y Uythyrdy, 7e, Is 2e. &c. Gofynweh i'ch Cyfferydd am danynt— NEWiSICRY a'i FEIBIOV 1, King Edward-street, Llundain, E,C. Sefydlwyd yn v ttwyddyu 1716
AOHOSION SEISONIG YN NG-HYMRU.
News
Cite
Share
bod dan sylw yn Ngbymanfaoedd y Method- istiaid drachefn a thrachefn, ac y mae ganddynt bwyllgor i arolygu dros y symud- iad, a tbrysorfa gref i'w gynorthwyo ond nid ydynt, er hyny, yn gallu myned yn mlaen yn ddiwrthwynebiad. Dichon fod ganddynt hwy ragfarnau cryfach i ymladd yn eu herbyn nag un enwad arall, oblegid mai enwad Cymreig hollol ydyw o ran arddull a theimlad ac y mae cyfieitbu Methodistiaeth Gymraeg, a'r hyn a'i gwnaeth yn allu yn Nghymru, i'r Saesoneg yn an- mhosibl. Mae y Bedyddwyr a'r Annibynwyr hefyd yn symud yn y mater, er nad ydynt yn gallu symud yn gyfundebol fel y ddau enwad arall; ac y mae yr Annibynwyr yn arbenig yn Ne a Gogledd wedi gwneyd darpariaeth belaeth ar gyfer y sefyllfa drawsnewidiol y mae ein gwlad ynddi. Nid ydym ychwaith yn meddwl fod yr iaith Gymraeg yn myned i farw yn fuan, ac nid oes dim a fynom a chlywed dynion yn siarad fel pe byddai dydd ei thranc yn ymyl. Ond o ran hyny, felly y mae rhywrai yn darogan yr ydym yn sicr er's haner can' mlynedd, ond y mae yr hen iaith mor fyw, ac iach, a hoenus ag y gwelwyd hi yn nghof neb sydd yn fyw; a gall yr ieuengaf o'n darllenwyr deimlo yn bur dawel y bydd yntau hefyd wedi myned i dir anghof, er iddo gael byw yn hen, cyn y daw dydd ei thranc. Diau y bydd gwaeddi mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf, Oes y byd i'r iaith Gymraeg," eto nid at yr Eisteddfod yr edrychwn am ei pbarhad. Ychydig iawn a wnaeth yr Eisteddfod y ZD chwarter canrif diweddaf er estyniad oes yr iaith Gymraeg. Y pwlpud, yr Ysgol Sab- C, bothol, a'r wasg sydd wedi dyogelu i'r Cymry eu hiaith, ac y mae nerth a dylanwad y cyfryw yn ein gwlad yn sail gref i ni obeithio am ei pharbad a'i chadwraeth eto am genedlaethau i ddyfod. Ond nid yw ond ofer er hyny i ni gau ein llygaid rhag y ffaith fod ein gwlad mewn sefyllfa draws- newidiol. Mae yr iaith Saesoneg ac arferion Seisonig yn dyfod yn ddiluw dros Gymru. Mae yr ysgolion a sefydlir yn gyffredinol yn awr trwy y wlad yn peri fod y plant oil yn dysgu Saesoneg. Mae y reilffyrdd yn un rhwydwaith trwy ein gwlad, a Saesoneg yw yr iaith yn yr holl orsafoedd, a Saeson yw llawer o'r rhai sydd yn arolygu drostynt. Dylifa ymwelwyr o Loegr i'r lleoedd arforol, ac yn wir ymwthiant i'r cilfachau mwyaf anghysbell a diarffordd. Clywir plant yn siarad Saesoneg wrth chwareu ar hyd yr heolydd mewn trefydd a phentrefydd lie na chlywid gair o Saesoneg ddeugain mlynedd yn ol, ac nid oes arwydd sicrach fod yr iaith Gymraeg yn colli tir na bod y plant ar yr beolydd yn siarad Saesoneg. Anfona y rhieni, y rbai y mae eu hamgylch- iadau yn caniatau, eu plant i Loegr i ysgolion, a phan ddychwela y cyfryw Saesoneg a siaradant a'u gilydd ac a'u cyfoedion, er y siaradant Gymraeg a'u rhieni; a phan y prioda pobl ieuainc felly, ofer meddwl y dysga un o bob cant ohonynt Gymraeg i'w plant. Rhwng y pethau hyny oil, a llawer yn ychwaneg o'r fath betbau, y mae yn sicr fod eyfnewidiadau mawrion o flaen ein gwlad yn y dyfodol, a da y gwnawn i ddarparu ar eu cyfer. Mae dyogelu ein hiaith i'n plant a'n hwyrion yn bwysig, ond y mae dyogelu ein crefydd iddynt yn bwysieach ac y mae perygl i ni yn ein sel ddall dros y blaenaf golli yr olaf. Credwn mai un o ddyledswyddau pwysicaf yr enwadau crefyddol yn Nghymru yn awr ydyw darparu yn ddoeth ac yn brydlawn ar I gyfer angenion ysbrydol ein gwlad yn y sefyllfa drawsnewidiol sydd o'i blaen. Yr ydym yn dyweyd darparu yn ddoeth, oblegid fod yn bosibl i'r peth gael ei orweithio, ac i gapeli Seisonig gael eu hamlhau lie nad oes gwir angen am danynt. Credwn y dylai yr enwadau Ym- neillduol ddyfod i ddealldwriaeth a'u gilydd, a pheidio ymwthio y naill i leoedd sydd eisoes wedi ei feddianu gan y llall, pan nad oes unrhyw obaith i fwy nag un achos dd'od yn hunan-gynaliol. Mae gormod o lawer wedi ei aberthu, yn enwedig yn nglyn ag achosion Seisonig pob enwad yn y Gogledd, i gyfleustra ymwelwyr. Nid ydym am esgeuluso darpariaeth ar eu eyfer hwy hyd y gellir, ond y mae yn llawer pwysicach darparu ar gyfer y bobl arosol yn y lie, a'r rhai y dysgwylir iddynt gymeryd dyddordeb yn yr achos, a gwylio drosto ar hyd y flwyddyn. Gwyddom am leoedd a arwein- iwyd i brofedigaeth gan addewidion teg dyeithriaid a ddygwyddent fod yn y He hwyrach am bythefnos, ond na welwyd eu gwynebau o bosibl byth mwyach. Mae llawer o'r ymwelwyr hyn yn hynod o an- ffyddlon i'w benwad eu bun, ac yr wyf yn ofni fod yr Annibynwyr o dan goehl eu rhyddfrydigrwydd yn mysg y penaf o bechaduriaid. Er yn Ymneillduwyr selog gartref, iint heibio i'r capel bach o'u benwad eu hun i'r eglwys lie y mae lluaws y rhai cyfrifol yn cyrchu. Er cywilydd iddynt yr ydym yn dywedyd hyn, eto geiriau gwir- ionedd a sobrwydd a draethwn; ac er cyfleustra y dynion hyn y mae ardaloedd wedi eu taflu o dan feichiau trymion wrth adeiladu capeli costfawr. Yr ydym yn teimlo yn gryf mai er mwyn y bobl arosol mewn ardal yn benaf y dylai yr achosion Seisonig gael eu darparu, ac mai ail beth ddylai fod parotoi ar gyfer ymwelwyr dyeithriol. Poblogaeth sefydlog y lie, fel rbeol, a ddylai benderfynu yr angen am achos Seisonig, ac nid y nifer a all fod mewn lie am ddeufis ar adeg nodedig o'r flwyddyn. Oblegid hyn yr ydym yn dyweyd y dylai yr enwadau crefyddol ddyfod i ddealldwriaeth a'u gilydd, a gochel cyd- ymgais afiachus trwy i'r naill ymwthio i derfynau y llall, pan na byddo y boblogaeth Seisonig ond prin ddigon i wneyd un gynulleidfa fechan, er i bawb ymuno ynddi. Gwnaed cais teg unwaith i ddyfod i gyd- ddealldwriaeth felly rhwng y Methodistiaid a'r Annibynwyr yn y Gogledd, y ddau enwad oedd ar y pryd yn fwyaf blaenllaw mewn cychwyn achosion Seisonig. Dewis- wyd pwyllgor, chwech o bob enwad, a chyfarfyddwyd amryw weitbiau ond yr oedd y cwestiwn yn troi i fyny yn ami gan bwy yr oedd y meddiant cyntaf o Ie, ac yr oedd personau o'r tuallan yn gweithredu yn ol eu mympwy y rhai na chymerent gynghor gan unrhyw bwyllgor.. Mae yn sier genym pe buasai pawb o'r un ysbryd a'r personau gyfansoddent y pwyllgor hwnw o'r ddwy ZD ochr, ac mor barod i roddi a chymeryd, yr arbedasid codi mwy nag un capel mewn manau lie y mae profiad erbyn hyn wedi dangos y buasai un yn ateb pob angen. Mae anbawsdra yn nglyn a chychwyniad yr achosion byn, yn enwedig yn mysg yr Annibynwyr, oblegid fod yn rhaid i'r peth fynycbaf gael ei wneyd gan ryw bwyllgor allanol. Mae sefydliad eglwysi newyddion mewn Aunibyniaeth yn dyfiant naturiol allan o'r eglwysi sydd eisoes. Pren ydyw yn bwrw allan ei gangenau. Cychwynant trwy ollyngdod ac o dan nawdd eu mam- eglwys, ac y maent yn fuan yn dyfod yn hunan-gynaliol ac yn hunan-lywodraethol, ac nis gellir dysgwyl i eglwys Annibynol lwyddo yn fawr heb y ddwy elfen yma ynddi. Un anfantais i lawer o'r achosion Seisonig yn Nghymru ydyw, eu bod wedi eu sefydlu yn fwy gan bwyllgor oddiallan na'u bod wedi tyfu i fyny allan o eglwysi oedd eisoes yn bodoli, er eu bod oil yn aelodau o ryw eglwysi yn flaenorol; ac ar ol eu sefydlu felly y maent i fesur mawr yn ddibynol ar y pwvllgorau byny. Nid ydym yn gweled pa fodd y mae yn bosibl ysgoi hyn bob amser. Ond credwn yn gryf iawn mewn i eglwys gael ei thaflu ar ei hadnodd- au ei hun, ac iddi deimlo mai arni hi y mae cyfrifoldeb dyled ei chapel a chynaliaetb ei gweinidogaeth, ac am bob cynorthwy a y estynir y dylai gael ei roddi yn y modd mwyaf diymyraeth,. a thebycaf i ddihuno ei holl ymadferthoedd. Dichon y gall" corff o bobl anfon dyn allan i chwilio pa le y mae eisieu cychwyn achos, a chodi capel, a. rhoddi gorchymyn fod hyny i gael ei wneyd, ac i'r pwyllgor hwnw fwrw golwg drosto; ond mewn Annibyniaeth i fod yn llwydd- ianus, rhaid i'r peth gael ei wneyd gan y bobl eu hunain, ac i bob cais am help ddyfod oddiwrthynt hwy. Nis gwyddom. am unrhyw achos Annibynol drodd allan yn llwyddiant mawr heb ei fod wedi ei gychwyn gan y bobl eu hunain, ac iddynt hwy deimlo y cyfrifoldeb sydd yn ngtyn ag ef. Gall cymdeithas godi capel a thalu am dano, ond nis gall cymdeithas godi achos ac adeiladu eglwys-rhaid i'r bobl eu hunain wneyd byny. Nis gallwn wneyd heb gym- deithasau, ac y maent wedi gwneyd gwas- anaeth anmhrisiadwy; ond yr hyn a ddymunwn ydyw, cael rhyw ffordd i'w gwneyd yn gynorthwyon i ddeffroi egnion yr eglwysi, yn lie bod yn brofedigaeth i'r eglwysi i hongian wrthynt, a dibynu arnynt. Peth dros amser yn ddiau ddylai cynorthwy allanol fod, a dylid argraffu ar feddyliau y rhai a gynorthwyir y pwys o dd'od yn hunan-gynaliol, ac nas gallant hyd hyny deimlo yn hollol annibynol. Yr oeddym wrth ddechreu wedi meddwl crybwyll am yr anhawsder sydd yn y lleoedd nas gellir heb nychu yr achos Cymreig gychwyn achos Seisonig, a'r anfantais sydd o geisio cario gwasanaeth yn y ddwy iaith yn yr un oedfa. Mae hyn yn cael ei deimlo yn fawr mewn manau. Onid oes genym hefyd mewn trefydd a gweithfeydd gapeli nad oes eu bangen o gwbl i gynal achosion Cymreig ? Nychu a gwywo y mae yr eglwysi bychain sydd ynddynt. Ai ni ellid troi rhai o'r cyfryw yn Seisonig, ac i grefydd fod ar ei henill trwy hyny ? Nis gallwn fyned i mewn i'r pethau yna yr wythnos hon, ond dichon y cawn eto ryw gyfle i ddvchwelyd atynt. Yr ydym yn edrych ar sefydlu achosion Seisonig yn Nghymru, nid fel darpariaeth ar gyfer ymwelwyr yn yr baf, nac yn unig nac yn benaf fel darpariaeth ar gyfer y Saeson sydd yn sefydlu yn Nghymru, ond fel darpariaeth angenrheidiol ar gyfer ein plant, a phlant ein plant, rhag eu colli i grefydd ac i'n Henwad, yn sefyllfa draws- newidiol ein gwlad.