Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y DIWEDDAR BARCH. W. EDWARDS.

News
Cite
Share

Y DIWEDDAR BARCH. W. EDWARDS. Mae ein tref mewn rhyw lesmair am farw eih hanwyl Edwards. Er fod hanes ei angladd, a chrybwylliad parchus wedi cael ei wneyd am dano yn y TYST yr wythnos ddiweddaf, rhaid i minau daflu fy hatling i ymadawiad y gwr mawr hwnw a syrthiodd yn Israel. Yr oedd yn un ar ei ben ei hun yn mhob petb. Pelodyn.- W edi ei eni a'i fagu yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, wedi ymdrechu llawer pan yn ieuanc i weithio yn y chwareli llechau. Nid oedd diogi yn yr un croen ag ef, bachgen bywiog, heinyf, a gwallt coch cyrliog, yr amser hwnw, er nad oedd yn gawr o gorff, er hyny nid oedd neb a weithiai fwy mewn diwrnod nag ef. Clywais ef yn dywedyd lawer gwaith am ei ymdrechion yn gweithio yn y chwarelau er mwyn enill arian i gael myn'd am chwarter dracbefn i'r ysgol, ac fel yna efe a weithiodd yn galed a'i ddwylaw i gyr- haeddyd addysg foreuol a rhagbarotoawl i'r Coleg. Fel dyn, ni bu neb yn well at gynal ei deulu, cafodd wraig ragorol, mercb, os wyf yn cofio yn dda i hen weinidog Talgarth, un o syn- wyr eyffredin rhagorol, yn llawn doethineb, pwyll, a chrefydd. Rhaid dyweyd ei bod yn rhagori arno ef mewn arafwch ac amynedd; y hi ydoedd mam ei blant sydd ar ei ol, dwy fercb, y rbai sydd yn briod, yr benaf yn wraig i weinidog yr Efengyl, a'r llall yn briod a boneddwr sydd mewn swydd anrbydeddus dan y Llywodraeth-y ddwy mewn cylchoedd parchus, a'r mab wedi ei gyfodi yn feddyg, ac a gair da iddo fel meddyg, yr hwn os dilyna lwybrau ei dad, a all ddyfod yn un y bydd ei gyd-ddynion yn edrych i fyny ato. Mae ya hynod pa fodd y gallodd Mr Edwards roddi addysg mor uchel i'w blant, ac ddim yn derbyn cyflog fawr yn y blynyddoedd hyny, ond yr oedd yn ddiwyd nos a dydd, yn myned dros wahanol fisolion De a Gogledd yr Enwad trwy Forganwg, ac yn enill y ffordd hono, ac yn gwerthu cynyrch- ion ei feddwl ei hun ar brydiau ereill. Nid oedd yn cysgu llawer rhwng parotoi pregethau ar gyfer y Sabbothau gartref. Trwy bob ymdrech o'i eiddo yr oedd yn byw yn llawnderog, lletygarwch yn ei deulu ef yn wastad i frodyr yn y weinidog- aeth ddelai heibio, a myfyrwyr y colegau. Llety fforddolion oedd ei dy ef. Fel crefyddwr. — Clywais ef yn dywedyd ei fod yn arfer myned o'r golwg i le anghyfanedd i weddio yn Ffestiniog, pan o gylch pedair blwydcj. oed, a'i fod yn erfyn ar yr Arglwydd ei gadw rhag y drwg sydd yn y byd. Ymunodd a chrefydd pan yn hogyn bychan, ac nid oedd cyfarfodydd gweddio yn mhell nac agos nad oedd ef yn myned iddynt, adroddodd wrthyf ei fod yn myned dros ei fam un boreu i ymofyn cyfferi i'r fuwch oedd yn glaf. Yr oedd ganddo rhyw naw milltir i fyned, a rhedodd yn ol a'r eyfferi, ac i Gyfarfod Chwar- terol erbyn deg o'r glocb, yr hwn oedd o gylch saith milltir oddiyno. Cyfododd yn foreu, a rhed- odd lawer, gan ei awydd i fyned i'r Cyfarfod Chwarterol. Ar ei wely angeu ychydig ddyddiau yn ol yr adroddodd yr hanes wrthyf. Byddai yn dda genyf weled ieuenctyd ein gwlad gymaint eu sel dros gyfarfodydd gweddi, cyfeillacbau, yr Ysgol Sabbothol, a'r cyfarfodydd pregethu, ag ydoedd Mr Edwards pan yn llanc. Hynododd ei hun pan yn Ngholeg Aberhonddu fel myfyriwr, dan ddylanwad nerthol crefydd Iesu Grist yn myned allan i gynal cyfarfodydd diwygiadol trwy y wlad. Melus oedd ei goffa am y rhai hyny. Fel gweinidog.-Pan yn fyfyriwr enwog yn y coleg, cafodd alwad unfrydol oddiwrth eglwys barchus Ebenezer, Trecynon, Aberdar. Heol-y- Felin, Aberdar, y gelwid y parth yna o'r dref yr amser hwnw. Nid oedd yn ddim ganddo gerdded o Aberhonddu i Aberdar yn y dyddiau hyny. Hen eglwys anrhydeddus ydyw Ebenezer. Bu yn weinidogion iddi o'i flaen ef y Parchn Hughes, Groeswen Methuselah Jones, Merthyr Joseph Harrison, Mr Davies, Mynyddbach; a Dr. Eees, Abertawy. Gorphenaf 2il, 1844, yr urddwyd Mr Edwards yn weinidog ar yr eglwys hon. Pregeth- wyd ar natur eglwys yno gan y Parch B. Owens, Merthyr, ac holwyd y gofyniadau gan y Parch W. Williams, Hirwaun, a gweddiwyd yr urdd-weddi gan y Parch D. Roberts, Dowlais. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog ieuane gan ei athraw ieithyddol y Parch E. Davies, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan y Parch D. Jones, Merthyr. Y tadau, pa le y maent hwy, y proffwvdi ydynt hwy yn byw byth." Na, na, maent oil yn eu beddau, a'r gwr ieuanc a neillduwyd i gyflawn waith y weinidogaeth y dydd hwnw wedi eu canlyn i'w fedd yr wythnos ddiweddaf, a'i wallt coch wedi myned cyn wyned a'r gwlan. Fel pregethwr.-Yr oedd ei bregethau yn llawn o eynwyr a thalent dda, yn arddangos llafur mawr, ac yn eu traddodi gyda gwres a thanbeidrwydd ond yn dueddol i ormod meithder. Yr oedd hyny ar ol twymnoyn brofedigaeth iddo. Fe weithiodd yn ddiorphwys y blynyddoedd cyntaf y daeth efe i Aberdar, efe a'r diweddar D. Price, Siloa, i sef- ydlu achosion Cwmbach, Mountain Ash, a Aber- aman. Yn mhen blynyddoedd wedi hyny y bu ef yn gweithio i sefydlu Llwydcoed, Cwmdar, ac Ysgoldy Penywaun. Fe bregethodd lawer yn ac 0 gwmpas Aberdar, mewn amser ac allan o amser ac yn mhell mewn cyfarfodydd misol, chwarterol, cymanfaoedd, urddiadau gweinidogion, ac agoriad capelau. Yr oedd fel gweinidog yn ofalus o'r eglwys dan ei ofal, yn weiniaid a chryfion, yn gleifion ac yn dlodion, ac yn dadol i'r pregethwyr ieuainc. Yr oedd y dysteb a gafodd y llynedd yn ganoedd o bunau, a Chadair yr Undeb Cynulleid- faol Cymreig, yn profi ei fod yn barchus gan bell ac agos. Yr oedd yn dywedyd wrthyf ar ei wely angeu, nad oedd ofn marw arno, ei fod wedi bod mewn cyfrinach a Iesu Grist er yn blentyn, ac y buaeai yn ddianrhydedd ar yr Efengyl, fod ofn arno i fyned at y Meistr y bu yn ei wasanaethu am gynifer o flynyddoedd, y Meistr fu mor dda i mi,' meddai. Wedi iddo golli ei briod gyntaf, cafodd ymgeledd gymhwys yn ei weddw bresenol, yr hon a roddodd yr Arglwydd iddo, yr hon ydoedd weddw meddyg yn Towyn, Meirionydd, ac yn fam i Mrs Lloyd, Plasmeini, Ffestiniog. Yr Arglwydd fyddo yn dirion wrth Mrs Edwards am yr ychydig weddill sydd yn ol o'i heinioes ar y ddaear. Mae Mr Lloyd, Y.H., Plasmeini, yn fon- eddwr tynergalon, ac mi a wn y bydd hi yn ei olwg fel mam anwyl. 1 Fel un penderfynol dros ei argyhoeddiad. — Fel dirwestwr, nid oedd llonydd i yfwyr pethau meddwol i'w gael ganddo. Bu yn glaf cylch \igain mlynedd yn ol, ac yr oedd y meddyg yn ei gynghori i gymeryd ychydig win, porter, brandy, a phethau cyffelyb, Na," meddai, mae yn well genyf farw na'u cymeryd, gan mai dim ond un- waith y rhaid i mi farw." Areithiodd lawer ar ddirwest yn alluog a gwresog. Dadleuodd lawer yn erbyn ysmocwyr ar ol ciniaw yn y cyfarfodydd pregethu. Dadl boeth fyddai ganddo yn erbyn y mygwyr. Pe byddai yr holl ddadleuon hyn wedi cael eu hysgrifenu bob yn un ac un, byddent gymaint o gyfrol a Beibl Peter Williams. Bu mewn dadl boeth a Dr Price, Aberdar, ar fedydd, pasiodd pampbletach poethion rhyng- ddynt. Yr oedd y Bapto," llyfr olaf Mr Edwards yn llyfryn swllt. Yr oedd y Doctor yn ei anerchiad ddydd ei angladd wrth siarad yn barchus am ei gyfaill ymadawedig yn cyfeirio yn ddigrif at y ddadl hono, ac mewn hiraeth blin ar ol ei hen gyfaill anwyl. Mae yma yn syn gan lawer mor agos i'w gilydd y bu farw Mr Edwards a Mrs Price, gweddw y diweddar anwyl Barch D. Price, Siloa, i'w gilydd. Mr Edwards dydd Gwener, a Mrs Price dydd Sadwrn, a chladdu y blaenaf dydd Mawrth a'r olaf dydd Mercher, yn nghladdfa gyhoeddus Aberdar. Un o'r gwragedd mwyaf crefyddoloedd Mrs Price gyda y cyfarfodydd gweddi y chwior- ydd, yr Ysgol Sabbothol, y cyfeillachau a'r cyfar- fodydd giveddi, fel y Sabbothau. Bendithied yr Arglwydd ei phlant a'i hwyrion, ac eiddo Mr Edwards yr un modd. Huned y ddau gyda eu cyn-gymheirion o ran eu cyrff, ac arosed eu rhanau anfarwol yn ngwlad yr hedd, lie nad oes na gwra na gwreica, eithr y maent yno fel angylion Duw. GOHEBYDD. e

LLITH O'R WAEN.

SIRHOWI.