Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Ar ei daith i Midlothian mewn dau neu dri o leoedd y gwyddid fod y train yn aros am ychydig amser, ymgasglodd tyrfaoedd anferth mewn gobaith am gael golwg ar Brif Wladweinydd yr oes, ac mewn awydd mawr i'w longyfarch a'i galonogi, pe buasai angen, ar ei hynt y tro hwn yn mhlith ei etholwyr. Cyflwynwyd anerchiadau iddo yn llawn o deimlad da, ac yn datgan ym- ddiriedaeth lwyr ynddo ef a'i Weinyddiaeth, a pherffaith. gymeradwyaeth o'u gwaith, yn enwedig Mesur yr Etholfraint. Cydnabyddodd yntau hwynt yn ddiolchgar, ond ymataliai rhag gwneyd dim tebyg i araeth, am ei fod yn awyddus i wneyd pob mynegiad o bwys i'w etholwyr. Dywedai yn Warrington y gellid ytnddiried yn y Weinydd- iaeth ac ynddo ef yn bersonol y gwnaent eu rhan yn yr argyfwng pwysig y mae ein gwlad ynddo yn bresenol; ond dymunai eu hadgofio fod y mater hwn yn un a ddibynai ar y wlad-fod y mater yn llaw y bobl. Dywedai yn mhellach nad oedd y Weinyddiaeth yn myned o gwmpas i'r wlad i gyffroi y bobl- eu bod yn gadael hyny i arwein- wyr yr Wrthblaid-aii bod hwy yn ymfoddloni ar anerch eu hetholwyr yn unig. Yr oedd yn amlwg fod Mr Gladstone yn bwriadu i'r sylwadau hyn gael eu lie dyladwy yn meddyliau nid pobi Warrington yn unig, ond etholwyr y deyrnas yn gyffredinol. Cyrhaeddodd ef a Mrs Gladstone i derfyn eu taith yn ddyogel, ac yr oedd yn Edin- borough filoedd lawer yn dysgwyl y train, mewn gobaith am gael golwg arno, a'r oil wedi dyfod yno nid by order, ond pob un o ewyllys ei galon. I Derbyniwyd ef gan y pendefig ieuanc galluog a phoblogaidd Arglwydd Rosebery, gyda yr hwn yr erys tra yn Ysgotland. Nid heb reswm y dywedai Mr Gladstone fod arweinwyr yr Wrthblaid yn teithio y wlad i geisio cyffroi y bobl. Felly y gwnant. Dydd Sadwrn cyn hyny yr oedd demonstration Toriaidd mawr wedi bod yn Nghastell Priory, ger Wakefield. Palas Mr Rowland Winn yw Castell Priory, ac y mae y palas a'r parciau cylchynol yn rhai o'r prydferthaf geir yn Lloegr. Trefnwyd i gael excursions o bell ac agos, ac yr oedd y tta-ins yn llawn o bobl wedi eu gwahodd i'r cyfarfod o bob man ag yr oedd Tori o fewn cyrhaedd ac yn alluog i fod yn bresenol. Yr oedd llawer heblaw Toriaid yn y dyrfa, y rhai a gymerasant fantais ar yr achlysur i gael tipyn o daith, ac yn arbenig i fwyn- hau y pleser o weled y parciau. Prif arwr y cyf- arfod oedd Syr S. Northcote. Yr oedd Arglwydd Caernarfon hefyd yn bresenol. Cafodd lluaws siomedigaeth fawr na ddaethai Arglwydd Randolph Churchill yn ol y dysgwyliad. Datganodd Northcote ei ofid blin fod y pendefig poblogaidd yn analluog i fod yn bresenol yn herwydd afiechyd, a siaradai am dano mor anwyl a cbaredig a phe buasai Churchill yn ffafryn neillduol ganddo. Pa effaith a ga y siarad ar Churchill, tybed ? Sib- rydai rhai mai nid afiechyd a'i cadwodd o'r cyfar- fod yn Nghastell Priory, ond nad oedd am fod yno gyda Northcote. Beth yw y gwirionedd am yr achos sydd yn ddirgelwch i lawer. Siaradodd Northcote a Chaernarfon, fel y gwna y Toriaid i gyd y dyddiau hyn, o blaid Ty yr Arglwyddi, a chan broffesu bod yn ffafriol iawn i Estyniad yr Etholfraint, ond iddynt gael Ad-drefniad yr Eis- teddleoedd yn nglyn ag ef. Cafwyd gwaith mawr i basio Mesur yr Etholfraint yn unig drwy y Ty Cyffredin yn ystod y Senedd-dymhor, a beth ddaethai ohono pe wedi ei feichio ag Ad-drefniad yr Eisteddleoedd hefyd? Nid yw eu proffes ond "crys o rawn i dwyllo," a'r gwir ydyw fod y Toriaid, fel rheol, yn erbyn estyn yr etholfraint o gwbl. Onid hyny yw eu hanes erioed ? Gwna yr anghydwelediad rhwng Dau Dy y Senedd wasanaeth mawr i oleuo y wlad mewn gwleidiadaetb, ac yn neillduol i ddwyn sefyllfa anffafriol Ty yr Arglwyddi i'r golwg. Mae Ty yr Arglwyddi, a beth wneir ohono, yn mynu y lie amlycaf yn yr holl areithiau draddodir gan y Rhyddfrydwyr. Ni cheisiwyd gan neb i ddwyn y mater yma i'r front, a phroffesa y Weinyddiaeth gyfyngu eu sylw i'r ffordd o gael yr Arglwyddi i basio y mesur sydd eisoes yn eu meddiant; ond yn ofer hollol y ceisir cau y mater o ddyfodol Ty yr Arglwyddi allan o'r ddadl. Hwn sydd amlycaf, a da iawn hyny. Y syndod ydyw ei fod wedi ei oddef cyhyd. Rhaid fod y bobl yn ofergoelus o oddefgar neu yn bechadurus a ddifater yn nghylch eu dyledswydd a'u hawliau. Ond y mae dyddiau gwell wedi gwawrio. Nid oes dychryn mwyach i bawb ohonom yn y teitl Lord, a hyny gaiff Salisbury a'i ganlynwyr deimlo cyn y terfyna y frwydr hon. Ceir siarad iach yn y cyfarfodydd a gynelir yma a thraw drwy y wlad, a da. genyf wcled nad yw Cymru yn ol yn hyn. Ceir hases cyfarfodydd mewn tref, a dinas, a phentref, a gwahoddir iddynt aelodau Seneddol ac ereill i anerch y tyrfaoedd, ac nid oes yr un cyfarfod yn myned heibio heb i farn gondemniol ar Dy yr Arglwyddi gael ei chario gyda brwdfrydedd mawr. Mae beth wneir a Thy yr Arglwyddi yn agos taflu Mesur yr Etholfraint i'r cysgod, ac nid wyf yn gweled niwed yn hyny o gwbl. Pe ceid gwared o'r gallu sydd gan yr Arglwyddi yn bresenol i atal mesurau buddiol, byddai genym ffordd glir i basio yr hyn a goisiwn. Ond dylid cofio hefyd fod angen diwygio Rheolau Ty y Cyffredin, fel ag i arnddifadu y Toriaid diegwyddor a cbyfrwysddrwg a'r gallu i rwystro fel y gwnant yn bresenol. Gwyddis fod Mr Gladstone yn teimlo yn angerddol ar y mater. Gofid blin iddo ef, sydd yn meddu parch mor ddwfn i reolau y Ty, a'r hwn sydd mor eiddigus dros urddas y Ty, ydyw gweled yr hen sefydliad sydd mor agos at ei galon yn cael ei sarnu gan ddynion sydd heb ddigon o barch iddynt eu hunain i allu parchu urddas y Ty. Dysgwylir cyn y cyferfydd y Senedd yn yr Hydref y bydd nifer o filwyr ar eu taith i Khartoum, os nad wedi cyrhaedd yno, neu fod Gordon wedi dyfod oddiyno cyn hyny, a thrwy hyny ni cheir achos Gordon yn fach i hongian pob cwyn arno. Mae Arglwydd Wolseley wedi ei ben- odi i gymeryd gofal yr expedition, ac y mae efe yn ddigon o sicrwydd y gwneir y gwaith yn effeith- iol. Nid yw yn ymddangos fod Gordon mewn perygl eto, ac nid yw yn debyg ei bod yn an- mhosibl iddo ddyfod oddiyno ei hun, pe y mynai; ond y mae y Weinyddiaeth am roddi prawf o'u gwir ofal am fywyd y gwr, ac am roddi iddo ef, ac ereill all fod yn awyddus i ddyfod gydag ef, bob help i ddyfod o'r wlad. Yr oedd yn anmhosibl, oherwydd poethder yr hin, i anfon byddin i Khartoum cyn yn awr. Trefnir iddi fyned mewn cychod bychain ar hyd afon y Nile. Gwneir pob brys i gael y cychod a'r angenrheidiau ereill yn barod fel y gellir cychwyn mor fuan ag y bydd y Nile wedi codi digon i'w nofio. Mae y newyddion diweddaraf oddiwrth Gordon yn ffafriol ar y cyfan. Ymddengys ei fod ef yn alluog i ddal ei dir, a gwneyd mwy na hyny ambell i dro. Bydd ganddo wrth bob tebyg hanes hynod i'w adrodd pan ddychwela. Nid yw efe yn ddyn i'w farnu fel dynion yn gyffredin, ac yn herwydd hyny ni ddylid ei feirniadu am y cyfnewidiadau sydyn a'r anghy- sonderau mynych a welir yn ei fywyd. Dyn hynod ydyw, ac folly y dylid edrych arno. Medda allu i gadw anwariaid i lawr, a gwna hyny heb arf, fel rheol. Nid oes amheuaeth nad yw yn ddyn sydd yn "ofni Duw yn fwy na llawer." Dysgwylir y gwna Mr Gladstone, os ca estyniad oes, ac estyniad awdurdod, drefn ar yr Aipht, sc y myn ryddid i Soudan i lywodraethu ei hun. Mae awyrgylch wleidyddol Ewrop yn bur llawn o elfenau peryglus iawn y dyddiau hyn, a pherygl aruthrol i heddwch cyffredinol fyddai i Loegr fyned i ddwylaw Toriaid. GWLEIDYDDWR.

DAMWAIN YN TROEDYRHIW.

DAMWAIN ANGEUOL I FACHGENYN…

BODDI YN EI FEDDWDOD.

NAID FARWOL.

DARGANFYDDIAD YSGELER.

TRIO FECHGYN WEDI EU LLADD…

BACHGEN WEDI EI LADD YN MHWLL…

29 WEDI EU LLADD MEWN PWLL…

LLYFRGELL DOCTOR COLENSO WEDI…

I HUNANLADDIAD BACHGENYN.

HUNANLADDIAD YSGRIFENYDD.

BYGWTH ARWEINYDD DIRWEST.

HEDDGEIDWAID LLUNDAIN YN CARIO…

LLONGDDRYLLIAD-14 WEDI BODDI.

[No title]