Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESION.

News
Cite
Share

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESION. GAN SILTTBYDD. PENOD xv. GAN nad ydym yn bwriadu ysgrifenu llawer o benodau eto am yr Athrofa uchod, gwnawn frysio yn mlaen yn fyr dros y man helyntion a berthynai iddi. Yr oedd y Doctor yn dra anfoddlon i ddull rhai o'r myfyrwyr yn eistedd ar y meinciau {benches) gyferbyn a'r desks i ddysgu eu gwersi, ac efe a ddywedai yn bigog wrth y rhai mwyaf afluniaidd, Yr ydych yn eistedd yn yr Athrofa yn gymhwys yr un ffurf a hen gi bugail." A phrydiau ereill fe ddywedai. Y gwnelent set o gyrban wheels rhagorol i wneyd olwynion cer- bydau i fyny. Trueni na fyddai i Mr Punch, Llundain, ddyfod heibio yma i dynu eich llin- iau. Os arferwch eistedd yn hir fel yna, chwi a osodwch ffurf afluniaidd ar eich cyrff a lyn wrthych trwy weddill eich oes." Yr oedd hefyd yn anhwylus iawn os gwelai rai o'r my. fyrwyr yn cerdded, neu wisgo yn anniben. I'r dyben i wellhau y bechgyn clemog hyn, fe wnaeth iddynt bob boreu am hir amser i fyned trwy ymarferiadau milwraidd (military exercise) a phenododd sergeants a sergeant-major i'w gynorthwyo fel adjutant i ddwyn y cynllun hwn oddiamgylch. Gosodai y myfyrwyr i sefyll mewn rhes sengl gymhwys ar y cae oedd y tu cefn i'r Athrofa, ac yr oedd yn rhaid iddynt bob un sefyll yn gymhwys, neu celent ergyd ac ysgydwad cryf gan y sergeants yma. Ar ol hyn yr oeddynt i godi eu traed dehau i fyny yr un pryd, ac yna yr aswy. Ar ol hyn, yr oeddynt i droi right about fqce, ac i gerdded oddiamgylch. Celent brydiau ereill, ar ol eu gosod mewn llinell gywir, ffurfio yn rhesau dwbl neu driphlyg, a throi i'r deheu neu i'r a3wy yn ol y gorchymyn, a cherdded oddiam- gylch gan ofalu cadw y camrau yn iawn. Caw- sent eu gosod yn phalanx, neu yn glos i'w gil- ydd, ac yn bedwar neu bump ochrog {four or five abreast) ar rai troion, ac yr oeddynt i ofalu symud eu traed deheu a chwyth yr un pryd, ond yr oeddynt ar y cyntaf yn symud yn anfedrus iawn ac yn damsang ar odrellodrau eu gilydd nes ei dori. Yn fyr, fe wnaeth y Doctor les dirfawr i unioni y camelod deudroed hyn oedd ganddo trwy yr ymarferiadau corfforol yma. Pan fyddai yr athraw yn eu ceryddu yn llym iawn am eu diofalwch neu eu diogi, bydd- ent yn teimlo ei eiriau i'r byw, a dywedai rhai ohonynt fod naill ai indigestion neu'r ddanodd yn gryf ar yr hen ddyn bach heddyw, Un helynt arall perthynol i rai o fyfyrwyr yr Athrofa hon oedd y ddamwain neu fwriad o dori saucer, &c., Nantgwyneu, a bu twrw ofn- adwy yn nghylch hon. Boddlonai y troseddwr dalu am ei gwerth, ond yr oedd y landlady yn dyweyd ei fod wedi gwneyd ei set llestri yn anghyflawn, a'i bod yn dewis iddo brynu un o'r un fath yn gymhwys a'r un a dorodd. Chwil- iwyd siopau llestri y trefydd cylchynol am eu bath, a methwyd a'i chael am hir amser, ond o'r diwedd cafwyd ei chyffelyb. Parhau wnaeth y diflasdod yn Nantgwyneu, ac fe gafodd yr hen Frutus afael yn yr hanes, a gosododd ef allan yn ddoniol yn yr Haul. Y canlyniad fu i'r gweddiau hirion oedd yn cael eu hoffrymu yn Nantgwyneu fyned yn fyr, ac nid oedd y Doctor yn gailu dyweyd mwyach wrth y myfyrwyr a ddeuai oddiyno, Y nesaf at yr eglwys, y pellaf o baradwys," ar ol damwain y saucer. Bu yma annoethipeb mawr yn nghylch peth mor lleied ei gwerth a saucer. Yr oedd Nantgwyneu yn lie glanwedd, crefyddol, a chyfleus iawn i'r myfyrwyr, ac yr oedd y land- lord a'r landlady ar y cyfan yn rhai serchog, caredig, a chrefyddol iawn. Y peth nesaf a dynodd sylw y Doctor oedd araeth seneddol Mr George Grote ar y tugel (ballot), ac efe a gan. molai yr araeth hon yn uchel iawn, a gobeithiai y delai y ballot yn Act yn fuan iawn ar lyfr deddfau Prydain Fawr, ond aeth blynyddoedd heibio er hyny cyn ei chael. Y mudiadau politicaidd ereill a dynodd ei sylw oedd areith- iau Mri R. Cobden, J. Bright, Milner Gibson, ac ereill ar fasnach rydd. Yr oedd yr areithiau hyn yn taro ei archwaeth i'r tipyn. Dywedai mai ffug oedd dyweyd y buasai cadw treth yr yd ar lafuriau tramor yn fantais i'r ffermwr. Ni fuasai eu cadw yn fantais i neb ond i'r tir- feddianwyr a'r Toriaid. Yr oedd treth yr yd tra y parhaodd yn peri i dlodion a gweithwyr y trefydd mawrion a'r gweithfeydd yn Nghymru a Lloegr i ddyoddet' eisieu bara. Gwelodd y gwleidyddwr enwog Syr Robert Peel hyn, a diddymwyd treth yr yd er gwaethaf ystrywiau twyllodrus y Toriaid. Trwy ymladd brwydrau celyd yr ydym ni, fel y Plebs gynt yn Rhufain, yn gallu cael ychydig o'n hiawnderau gwladol a chrefyddol i'n gafael. Ar waethaf y Patricians yno y cafodd y Plebs yehydig o'u rbyddid yn ol, ac ar waethaf yr hen Doriaid gorfaelus, a'r Eglwyswyr gwancus, y mae i ninau gael meddiant o'n rhyddid. Diau pe buasai y Doctor yn fyw. heddyw, y buasai yn condemnio yn groch waith yr Arglwyddi yn tafia allan Fesur Estyniad yr Etholfraint i ddwy filiwn o drigolion Prydain Fawr. Y mae y rhan fwyaf yn y parthau hyn am ddiddymu Ty yr Ar- glwyddi, tra y mae ereill am ddanfon yr Esgob- ion allan yn dragywyddol oddiyno, a pheri iddynt i fyned, fel yr apostoliou gynt, ar hyd a lied y byd i fugeilio a phregethu i wahanol eglwysi. Y mae dwyn diwygiadau o'r fath oddiamgylch yn gofyn undeb, cydweithrediad, ffydd, ac egni cryf, diwyd, a dyfalbarhaus. Yn ofer y mae i ni ddysgwyl llawer o drefn na llafur yn yr eglwys nes y delo mesur ei dad- sefydliad a'i dadwaddoliad oddiamgylch. Craig rhwystr fydd i bob enwad, ac i bob diwygiad, nes y dadgysylltir ac y dadwaddolir hi.

LLANELLI.

----CAERFYRDDIN.

CWM RHONDDA.

[No title]

YMYLON Y FFORDD. -