Hide Articles List

4 articles on this Page

CAERDYDD.

News
Cite
Share

CAERDYDD. Addoldy Cynulleidfaol Seisonig Gharles-street.â Sulgwyn cynelir gwyl flynyddol yr Ysgol Sab- bothol perthynol i'r eglwys hon bob amser. Y pregethwr eleni oedd y Parch W. Hope Davison, o'r Brifddinas, yr bwn sydd wedi bod yn gwein- yddu yma ar y cyfryw amgylchiad o'r blaen. Gwerthfawrogir ei wasanaeth efengylaidd cyn y sicrheid ef fwy nag unwaith ar yr un amgylchiad. Achos Seisonig ltichi)ion(I -road. -Y map gweithio prysur ar yr adeilad yma, nes y mae ar gael ei orphen. Bwriedid ar y cychwyn i gynal oedfaon addoliadol ynddo y Sulgwyn, ond canfyddwyd fod hyny yn anmhosibl, ond cynelir y gwasatfaeth cyntaf ynddo Sabbotb, Gorphenaf 13eg, pryd y dysgwylir y duwinydd craffus Dr Thomas, Stock- well, i weinyddu. Deallwn fod y Pwyllgor wedi gwneuthur darbodaeth gyfiawn am fisoedd yn y dyfodol, ac wedi bod yn ffodu8 i sicrhau gwasan- aeth rhai o wyr cedyrn yr areithfa. Hyderwn y daw y Meistr. gyda'r gweision, ac y gwna Ef ddaioni yn ei ewyllysgarwch i'r eglwys ieuanc yn y He. Ysgoldy Oymreig Minnie-street, Cathays.âCron- iclasom er's ycbydig fisoedd yn ol fod eglwys weithgar Ebenezer yn ymestyn cortynau ei phres- wylfeydd trwy adeiladu ysgoldy yn Cathays, yr bwn le sydd wedi eyflym gynyddu yn y blynyddau diweddaf, ac yn gorwedd yn y cyfeiriad gogleddol i'r dref. Y mae tua deugain o aelodau Ebenezer yn aneddu yma, ac er eu budd ysbrydol hwy y cyfodwyd yr adeilad bychan a thlws hwn, yr hwn sydd yn eithriad i lawer adeilad, gan ei fod yn ymddangos yn rhagorach oddifewn nac oddiallan. Ymgymerodd eglwys Ebenezer a'r boll gyfrifol- deb yn nglyn ir adeilad, ac er nad oedd y symud- iad hwn ond un araf o'u heiddoâfel y mae holl symudiadau ein Henwad ni yn y dref gynyddfawr a phrysur orwedda ar lan afon ddolenog y Taf- eto gweithiasant o ddifrif. Amheuai rhai y pri- odoldeb i gychwyn achos Cymreig yn Cathays mewn awr tror ddiweddar o'r dydd, ond yr oedd ereill yn llawn o ysbryd cenedlgarol ac ieithgarol, ac nior ffyddiog a'r diweddar anfarwol fardd loan Tegid am larhad hen iaith oludog trigolion dewr 9 1 Gwnlia fynyddig. Meddianwyd hwy gan ysbryd yr hen ddiareb, Gwell hwyr na hwyrach," ac ymaflasant yn eu gwaith yn galonog. Penodwyd pwyllgor gweitbgar, yr hwn a fu yn un a'i enw, ac i'r hwn yr oedd y llaf'urus a'r ffyddlon Mi- David Evans, yn gadeirydd. Cwblhawyd yr adeilad, a pbrydnawn y dydd Mercher blaenaf o'r mis bwn oedd diwrood yr agoriad. Yr oedd trefn y cyfarfc-dydd yn y dull ailynol. Llywyddwyd yn ddeheuig gan y Parch Thomas Evans, gweinidog ieuane Star-street. Darllenodd y Parch J. R-. Davies, Mount Stuart Square, ran briodol o'r Dwyfol wirionedd, sef rhan o weddi y teyrn Solomon ar gysegriad y Deml yn Jerusalem. Anerchwyd gorsedd lor yn sobr a thaer am ei fen- dith Ef i fod ar yr adeilad gan y Parch W. G. Williams, Penartb. Yna cafwyd araeth agoriadol J gan y Llywydd, yn datgan ei lawenydd o'r hyn oedd yn cymeryd lie y prydnawn hwnw, ac o'i ddymuniadau da am i'r gwaith ddygid oddiam- gylch yn yr adeilad i gael ei goroni a ffyaiaiit. Yr oedd y pwyllgor wedi penderfynu gosod dwy gareg goffadwriaethol yn gysylltiedig a'r adeilad, un o dan y ffenestr ddehau er Hall 6 dan yr un aswy yn front yr ysgoldy, ac fod yr anrbydedd o'u gosod yn eu lie priodol i gael ei rhoddi i Mr Asa Morgan, a Mr William Rees, dau o hen ddiaconiaid Eben- ezer, a dau o fecbgyn esgud a glew sydd wedi gweithio yn yr eglwys am ddegau o flynyddau bellach. Dywedodd y llywydd mai y peth nesaf oedd gosodiad y meini coffadwriaethol hyn. Y mae yn gerfiedig ar nn ohonynt, "Gosodwyd y gareg goffadwriaethol hon gan Mr William Rees, diacon yn eglwys Ebenezer Caerdydd, Mehefin 4ydd, 1884," a'r un cerfiad ar y Hall gyda yr eithr- iad fod enw y gosodwr yn wabauol, sef y gwreidd- iol henadur Mr Asa Morgan. Aeth y gwyddfodol- ion allan i ganfod cyfiawniad y seremoni gan y ddau ddiacon rbag-grybwylledig. Yna dychwel- wyd i'r yegoldy, pryd y traddodwyd anerchiadau gan Mr A. Morgan, Mr W. Rees, y Parchn W. G. Williams, J. R. Davies, a D. G. Rees, Eglwys- newydd. Yr oedd yr areithiau yn bwrpasol, yr areithwyr a'u calonau yn llawn tan Cymreig, a llawer yn yr byn a barablodd y naill a'r llall ohonynt. Yn yr hwyr, am saith o'r gloch, tra- ddodwyd dwy bregeth werthfawr gan y Parchn T. Evans a D. G. Rees. Y mae Ysgol Sabbothol wedi cychwyn yma dydd Sabhoth, Mehefin 8fed, a'r personau canlynol wedi en hethol yn swyddog- ion :âArolygwr, Mr Tom Roberts. Ysgrit'enydd, Mr Titus Jones. Trysorydd, Mr Stephen George. Gwyr profedig, a gweithwyr di-ildio, a megys yr afon ar ei thaith tua'r mor yn ddystaw a didrwst, a than en harolygiaeth fedrus y mae genym obaith am Ysgol Sabbuthol lewyrchus yn Cathays. Y mae y cann-cangen bwysig o wasanaeth y cysegr -wedi ei ymddiried i'r cerddor deallgar Mr E. Mawddacb Jones. Y mae yr adeilad wedi ei gyn- llunio gan Mr J. Price Jones, Lyncombe Villa, a'i wneutbnr gan Mr Daniel Jonei;, un o aelodau yr eglwys. Y mae y Pwyllgor wedi sicrhau digon 0 dir at adeiladu addoldy fydd yn ddigon helaeth i gynwys tua 600 o bobl, os bydd sefyllfa addolgar Gymreig Catbays yn galw am hynâac wedi bod yn ddigon birben i gyfodi tý yo gydiedig â'1' ysgoldy, ardreth yr hwn fydd yn fwy na digon i dalu yr ardreth" dirol am y darn tir sydd wedi ei sicrhau ganddynt am 99 o flynyddau dan brydles. Nid plant y byd hwn yn unig sydd yn ddoeth yn en cenedlaetb, y mae hyn yn eglur wrth y ddar- bodaeth ddoeth hon. Gwir hyderwn y llwydda y Brenin anfarwol ei Seion yn Cathays. Megys yr ysgrifenasom yn ddiweddar pan yn cofaodi cych- wyniad achos yn yr iaith Seisoaig, nid oes ang-en i'r Cymry eiddigeddu wrth y Saeson, na'r Saeson wrth y Cymry, gan fod cyflawnder o waith gan y naill a'r Hall ohonynt i ledaenu teyrnas ein Har- glwydd Iesn Grist, ac wrth weithio y mae y maes yn ddigon eang fel nad oes angen i un gyfyngu ar iawnderau addoliadol y llall. Gweithier yn garu- aidd a pharhaol nes clywed Swn y Jubil fwyn Pan chwery'r blaidd yn mhlith yr wyn." Caerdydd. D. L. D. 4,

CYMANFA GERDDOROL PENYBONT-AR-OGWY…

Advertising

Family Notices