Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CYMANFA GEEDDOEOL CWMi ABERDAR.

News
Cite
Share

CYMANFA GEEDDOEOL CWM ABERDAR. Un o uchelwyliau mwyaf blasus a phoblogaidd y Cwm yw y Gymanfa hon. Mae er's amser bellach yn ein plith yn sefydliad blynyddol mor rheolaidd a phwysig a gwyl y Pasg neu y Pente- cost i'r luddewon gynt. Yr eglwysi perthynol iddi eleni oeddynt Bethel, Siloa, Soar, Saron, Moriah, Aman, ac Abercwmboy. Cynaliwyd hi ar y dydd Llun diweddaf o fis Mai, yn Cwmaman am 10, yn Siloa. am 2, ac yn Saron, Aberaman, am 6. Arweinid drwy y dydd gan Mr Rhys Evans, Aberdar. Y mae Mr Evans a Mr Hywel Cynon, ar gais y pwyllgor, yn ymgymeryd yn garedig yn eu tro ag arweinyddiaeth y Gymanfa, yn ogystal a dysgu y cantorion yn y rehearsals blaenorol iddi, a chyflawnant eu gwaith bob blwyddyn gyda medr difwlch, ac mewn modd nodedig o ddylan- wadol, Diau fod y brodyr hyn yn help aruthrol i gerddoriaeth gysegredig yn y Cwm. Cenid gan y gwahanol gorau undebol ar byd y dydd odlau, t6nau, ac anthemau. Mae y chants a'r anthems nid yn unig yn d'od ag amrywiaeth i'r cyfarfodydd, ond yn taflu bywyd ychwanegol iddynt hefyd. Sylwasom yn nghyfarfod y boreu mai salm-d6n ac anthem gododd y dorf yn gyffred- inol i'r ysbryd uchaf a mwyaf brwdfrydig o addoli. Rhoddasai anerchiadau y brodyr lawer o adeiladaeth i'r gwrandawyr yn ogystal a theimlad i'r canwyr, yn enwedig felly os amcanent at fod yn benodol, byr, a blasus. "Llwynogod bychain yw yr areithiau, Of ns na bydd dim yn neillduol yn y meddwl." Cenid Ar ben mae'r gogoneddus waith yn ogoneddus, ac yr oedd anthem J. T. Eees, o Cwmaman, ar yr adnodau cyntaf yn Salm v., yn peri i lawer wylo a, gweddio. Canai ton gynulleidfaol Hywel Cynon, o'r enw Aber- aman," yn gryf a mawreddog, ac yn llawn o ar- llwysiadau mawl, a pbroffwydem iddi ddyfodol gwych yn mysg corau medrus a cbryf. Yr oedd Lausanne yn deg ac yn dyner fel awel hwyr- ddydd haf, ac yr oedd "Bryniau Canaan" yn gyffrous o ddarluniadol o deimfad dyn duwiol yn ymyl marw ac wrth ganu, 0 Dduw Elias, tyr'd i lawr 9 I hollti llif yr afon fawr," teimlem mai petb hawdd a hyfryd fuasai mentro yr afon yn awn cerddoriaetb. Pan genid Gorphenwyd (Dr Parry), ymsynetn a thybiem fod holl gantorion Gwynfa, ar adog marwolaeth yr Iesu, wedi cydgwrdd ar fynydd Seion, ac wedi iddynt ei glywed yn llefain "Gorphenwyd," cip- iasant y gair, a rhoisant dystiolaeth ar gan o blaid gwirionedd ei farw yn ngwydd nefoedd ac uifern. Gorphenwyd, gorphenwyd, Mae'r nefoedd yn dyst 0 bosibl mae'r don gynulleidfaol agosaf i deimlad pawb oedd Pen Nebo." Mae'n un o'r tonau hyny a ellir ei chanu beb ei dysgu, fel ieithoedd dydd y Pentecost. Wrth ei chanu meddyliem fod yno ganoedd wedi esgyn o rosydd Moab i fyn- ydi Nebo," a bod yr Arglwydd yn dangos iddynt ardderchogrwydd y wlad, ac nid oedd bosibl d'od i lawr o ben Nebo, oherwydd cenid hi drosodd a throsodd, drachefn atliracefri, "a'i swn a glywid yn mhell." Deffroed yr eglwysi ati eto o ddifrif ar gyfer y Gymanfa nesaf. Diau y cyferfydd y pwyllgor cyn hir i drefna a chynllunio, a gofaler am ddanfon cynrychiolwyr iddo. Cofiwch gyffes ffydd Luther —Duwinyddiaeth yn gyntaf, a Cherddoriaeth yn ail, neu y Beibl a Mawl.

UNDEB CANU CYNULLEIDFAOL GOGLEDD…

YMWELIAD A CHYMRU-GLANIADY…

CURIOUS CASE OF AN INVALID.

IARHOLIAD ATHRAWON YSGOLION…

AT Y PARCH H. WILLIAMS, H.…

ATHROFA DDUWINYDDOL CHICAGO.

CAD AIR YR UNDEB AM 1885.