Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Cynwysiad.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cynwysiad. Hjrsbysiadan 1, 2 Ymylen y Ffordd 3 Athrofa Ffrwdval—Y Gymanfa Dde-orllewiuol 4 Athrofa Aberhonddn-Casle, Fforestfach 5 Colofn y Dadgysyllt iad-Y Golofn WIeidyddol 6 Merthyr Tydfil 7 At. ein Gohebwyr-Yr Wythnos 8 Y BRIF EBTHYGL— Cynghor Coleg Bangor a'r Ymneillduwyr 8 Undeb Ysgolion Maesycwmwr, Trelyn, a Bargoed- Galwadan 9 Cymanfa Gerddorol Cwm Aberdar—Undeb Cann Cynnlleidfaol Gogledd Ceredigion—Gohebiaethau Arholiad Athrawon Ysgolion Sabbothol Undeb Dyffryn Elyrch 10 Cyfarfodydd—Tyddewi 11 Y Wtrs Rhyngwlad wriaethol-Genedigaeth, Priod- asan, &c. 12 Caerdydd-Cymanfa Gerddorol Penybont-ar-Ogwy 13 Hysbysiadan 14. 15, 16
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Rhys Evans.—Paham yr ydych yn anfon cais fel hwn drwy newyddiadur? Anfonwch yn nnionsyth at y boneddwr, a diau y bydd yn bleser ganddo gydsynio A dymutjiad yr ezlwys, Cymanfa Morganwg.-Yr oeddym wedi cysodi hanes y Gymanfa, ond oherwydd prinder gofod gorfodwyd ni i'w gadael allan hyd y Rhifyn nesaf. Meivn Llaw.-Daniel-J. E.-W. Owen—Cofnodydd —Silnrydd—Llundain—Cymanfa Meirion — Nodion o'r Gogledd-Yr Uwch DemI Gymreig—Cymanfa Gerddorol Lleyn ac Eiflonydd-Madagascar-Cyfar. fod Anrhegn y Parch D. M. Davies, Farteg-Bethrl, Penclawdd-Llanelli, Brycheiniog. Barham, Beaufort. T")YMi;NA yr eghvya uchod hysbysu y cynelir Cyfarfod J V Ordemip Mv J Vinson Stephens, o Athrofa Aberhonddu, yn weimdog arm, Mehefin 30ain. Bylld trcfn .Y eyfarfollydd fel hyn- Am 11 a.m., pregetlnr gan Dr Morris, Aberhonddu, ar Natur Eglwya, ac yn yr 1111 oytarfod holir y gweinidog. Am 2 p.m., traddodir siars 1 r eglwys gan y Parch W. Griffiths, Cendl, ac i'r gweumlog gan y l'arch J. LI. Jones, Penclawdd. Am 0 p.m pregethir yn nghapel Carmel gan y I'archu J. Morris, Pontygof, a'r Dr -Morris. Gwaltoddir pawb yn gynes i'r oedfaon. 20,(j,I' Tysteb y Parch E. Jones, Ffynonbedr Oadeirydd y Pwyllgor PARCH D. WILLIAMS (B.), SALEM, MYDRIM. Ysgrifenydd Lleol: MR SAMUEL EVAN8, I'T YXON'ljEDR. frysoryddion Lleol: Mm J. WILLIAMS, JT ACHDDU, T. HO WELLS, BRYN-N1WL. Vsgrifenyddion Cytfredinol: PAHCH D. U. DAVIES. RHYDYCEISIAIIJ, ST. CLEARS MR DANIEL EVANS, CWMBACH, WHlTLANi) Trysoiydd Cytfredinol: 1>. LL. LEWIS, BAM, CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES were resumed on MONDAY, MARCH 31st, 1884. For 'terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff.
YR WYTHNOS.i
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. Dwy wlad sydd yn ymddadblygu i bwys- igrwydd a dylanwad yn Nwyraiu Ewrop yw Servia a Bulgaria. Hyd yn ddiweddar yr oeddyut mewn caethiwed gwleidyddol gan Twrci, ac fel y cyfryw yn dyoddef enbyd- rwydd a chaledi. Bellach maent wedi eu gwaredu, ac yn meddu ar wladlywiaeth rydd ac annibynol. Wedi sicrhau eu han- nibyniaeth a gwerth mawr o waed a bywyd- au, maent yn ymloewi ac yn ymgyfoetbogi mewn diwylliant a masnach, ac yn dra sicr o ddyfod cyn hir yn deyrnasoedd pwysig wedi eu breintio a sefydliadau gwladol rbydd yu. gyflawij a pherffaith. Yu ddiweddar mae ymrafael cymharol ddibwys wedi cy- meryd lie rhwng y ddwy wlad hyn, ac y mae y gyfatbrach arferol wedi ei dori i fyny cyd- rhyngddynt. Mae y naill a'r llall yn brochi, yn ffyrnigo, ac yn bygwth yn arw, ac y mae Servia wedi myned mor bell a galw ei bydd- inoedd allan. Nid oes fawr perygl y gwna yr ymryson byn derfysgu ar heddwch Ewrop, oblegid dau o blant ieuengaf y frawdoliaeth genedlaethol ydynt, a bydd yn hawdd iawn i'w brodyr cryfion sydd ger llaw, megys Rwsia ac Awstria, i'w hysgaru, a pheri iddynt ymlonyddu. Dwy genedl ieuanc ydynt, a'u gwaed newydd yn berwi yn fywiog, ond chwal y cwmwl hyn yn fuan. Un o'r amgylchiadau mwyaf galarus a ddygwyddodd yn ein Tywysogaeth oedd y gyflafan erchyll a gymerodd le yn sir Faes- yfed nos Sabboth wytbnos i'r diweddaf. Yn nghanol gwlad dawel, mewn amaethdy prydferth o'r enw Great Castle, plwyf Nant- mel, yr oedd teulu clyd eu hamgylchiadau yn byw. Nid oedd dim. yn eu bamgylch- iadau i agor y drws i drallod ddyfod i fewn; ond ymddengys fod y wraig, Mrs Edwards, wedi rhoddi arwyddion o orphwylledd, yn cyfodi o afiecbyd, am tua blwyddyn o amser. Yr oedd dan driniaeth feddygol, a gwylid ei symudiadau yn lled fanwl, gan yr ofnid canlyniadau gofidus. Tua naw o'r gloch y nos grybwylledig aetb i'w hystafell wely, a galwodd un o'r morwynion ati-geneth ieu- anc 17 oed o'r enw Mary Anne Hathaway, a cbyda fod hono yn yr ystafell clywid ergyd o ddryll. Rbedwyd yno, a chafwyd y for- wyn yn gorwedd ar y llawr mewn llyn o waed, a Mrs Edwards a'r dryll yn ei llaw yn gwaeddi ei bod wedi cyflawni y weithred er mwyn iddi gael ei chrogi a myned o'r byd. Nis gallwn ddarlunio teimladau brawycbus Mr Edwards a'r teulu pan ddeallasant am y weithred. Gyrwyd am y meddyg, a rhodd- wyd pob ymgeledd i'r forwyn, ond bu farw yn mben pymtheg mynyd. Mae Mrs Edwards wedi ei thraddodi i garchar i sefyll ei phrawf am lofruddiaeth wirfoddol, ond mae yn sicr na cbollir mohoni, oblegid mae ei gorphwylledd yn amlwg i bawb. Mae yr amgylchiad dyeithr bwn wedi taflu prudd- der ac ofn dros yr holl wlad bono. Mae Principal Edwards, Aberystwyth, wedi cyflawni gwasanaeth gwerthfawr i addysg uwchraddol trwy godi cwestiwn dyddorol a phwysig i sylw, acy mae yn gyf- ryw o ran ei gysylltiadau na feiddia Ym- neillduwyr ei anwybyddu. Ymddengys fod Mr Eathbone, A.S., yr hwn sydd yn aelod o Gynghor Bangor, wedi rhoddi rhybudd y bydd iddo gynyg mewn cyfarfod dyfodol fod Pwyllgor Canolog i gael ei ffurfio er hyr- wyddo addysg yn ei holl gangenau, ac yn arbenig i barotoi y ffordd i sefydlu Welsh University. Mor bell a hynyna mae y cyn- ygiad yn rhagorol; ond mae Mr Eathbone yn ychwanegu fod y cyfryw Bwyllgor i gael ei wneyd i fyny o gynrycbiolwyr a benodir gan Golegau Aberystwyth, Bangor, Caer- dydd, a Llanbedr. Cynwys Llanbedr, a cbau allan y colegau enwadol ereill, sydd wedi rboddi tramgwydd i Principal Edwards, ac, ni gredwn, dramgwydd chwerw i bob Ymneillduwr egwyddorol trwy Gymru. Nid yw Llanbedr i bob dyben ymarferol ond coleg enwadol fel y lleill. Gwir fod ganddo charter i gyfranu graddau, a bod ei addysg, mewn egwyddor, yn agored i Eglwyswyr -ac Ymneillduwyr, ond ni wyddow beth mae hyny yn olygu mewn ymarferiad. Pa Ym- neillduwr yn ei synwyr a feddyliai am fyned i Lanbedr i gael addysg fydol P Byddai yn well genym gau Llanbedr allan yn hollol, a --Zl chyfyngu y Pwyllgor i gynrychiolwyr y colegau uwchraddol. Da genym fod Cym- anfa y Methodistiaid yn Llanrwst wedi gwneyd datganiad croew ar y mater, ac yr ydym yn gobeithio y dilynir ei hesiampl gan bob cynulliad Ymneillduol trwy Gymru. Boneddwr deallus a rbyddfrydig iawn yw Mr Eathbone, a phan ddealla deimlad y wlad ar y pwnc, credwn y rhydd ffordd. Modd bynag, mae yn rhaid ymladd y frwydr fecban hon etc nes dwyn barn i fuddugol- iaetb. Mae bwrdeisdref Abertawy wedi ei thaflu i gyffro gwyllt yn berwydd penderfyniad y Cyngbor Trefol, trwy fwyafrif o un, i or- chymyn y police band i chwareu cerddoriaeth gysegredig yn Cwmdonkin Park ar brydnawn Sabboth. Ymddengys mai rheswm mawr pleidwyr y mudiad yw eu hawydd angerddol i wneyd daioni cymdeithasol ac ysbrydol i'r miloedd nad ydynt yn myned i leoedd o addoliad ar y Sabboth. Gwnant byn heb ystyried y niweidiau dinystriol a bar y fath gynulliad pobloedd i foesau da, a'r fath brofedigaeth lem a roddant i ddeiliaid yr Ysgol Sabbothol. Am fod y tafarndai wedi eu cau, proffesa y Cynghor (crefyddol hyn) fod yn llawn tosturi at gyflwr yr yfwyr a thorwyr Sabboth Duw. Ymddangosodd dirprwyaeth anrhydeddus (oedd yn gynrych- iolaeth deg o'r holl enwadau, gan gynwys yr Eglwyswyr) ger bron y Cynghor, a derbyn- iwyd hwynt gan rai yn y modd mwyaf dir- mygus a gwarthus. Mae ar y Cynghor un gweinidog urddedig perthynol i'r Methodist- iaid Calfinaidd, sef y Parch Thomas Davies (Captain Davies, fel ei adnabyddir ef fwyaf cy.ffredin). Nid yn unig pleidleisiodd dros y cynygiad, ond gwnaeth araeth ymfflam- ychol drosto, a defnyddiodd ei safle fel cynghorwr i siarad yn y modd mwyaf sar- haus wrth, ac am, y gweinidogion oedd yn bresenol, gan ddywedyd nad ,oedd y .cynyg- iad yn golygu ond halogiad bychan iawn ar y Sabboth." Mae y weithred hon o eiddo y Cynghor wedi cynhyrfu yr adran grefyddol o'r dref i'w gwaelodion, ac nid yw y diwedd wedi dyfod eto. Teimlwn gywilydd wrth ddarllen areithiau Cadben Davies a Mr Daniel Jones-y naill yn Fethodist a'r llall yn Fedyddiwr, a dymunwn ofyn i'r ddau pa le y buasent hwy heddyw oni buasai dylan- wad yr Ysgol Sabbothol arnynt, yr hon yn awr, mewn modd anuniongyrchol y maent yn ceisio ei dinystrio. Teimlwn yn falch na ddarfu yr un Annibynwr waradwyddo ei hun a'i Enwad trwy bleidio y fath gynygiad gwrthun, a chyflwynwn ein diolchgarwch i Mri Freeman a Martin am eu hareithiau clir ac argyhoeddiadol yn erbyn y fath an- fadrwydd. Ni anghofir y bleidlais hon tra fyddo y genedlaeth bresenol byw.
CYNGHOR COLEG BANGOR A'R YMNEILLDUWYR.
News
Cite
Share
CYNGHOR COLEG BANGOR A'R YMNEILLDUWYR. MAE yn ymddangos fod mwyafrif aelodau Cynghor Coleg Bangor mor anwybodus o angenion a theimladau y genedl Gymreig, ac mor amddifad o gydymdeimlad ag Ym- ngillduaeth Cymru, fel y mae yn rhaid i'r rhai sydd a gwir ofal ganddynt am fuddian- au uchaf eiu gwlad eu gwylio yn ofalus. Drwg genym ein bod yn gorfod ysgrifenu fel hyn am foneddwyr y mae genym iddynt