Hide Articles List

5 articles on this Page

IARHOLIAD MEHEFIN, 1884.

CADLE, FFORESTFACH.

ATHROFA ABERHONDDU.

News
Cite
Share

ATHROFA ABERHONDDU. OyfaiCu Pwyllgor yr Athrofa uchod dydd Mawrtk, Mehefin lOfed, pryd yr oedd yn bresenol y Parch E. Herber Evans, Caernarfon, yn y gadair yr Athrawon Mr T. Williams, Y.H., Merthyr, y trysorydd; y Parchn Dr Kennedy a Dr Aveling, Llundain; Griffith, Dolgellau; Evans, Hebron Roberts, Castell- nedd; Jones, Ty'nycoed Williams, Bethesda; Evans, Mclincrytban Charles, B.A., Rhymni Rees, Sirhowi; Williams; Hirwaun; Howell, Aberdar; Jones, B. A., Aberhonddu Jones, Ffaldybrenin; Griffiths, Cendl; Parry, Llan- gatwg; Thomas, Boro', Llundain; Mri A. Thomas, Aberhonddu; C. R. Jones, Y.H., Llanfyllin; D. W. Harries, Defynog; W. J. Parry, Bethesda; Parchn James, Brynbant; Hughes, Llansantffraid; Catwg Davys, Aber- edw; a Roberts, B.D. Caergybi. Wedi i Mr Griffith, Dolgellau, ddeohron I 'trwy weddi, darllenwyd a cbadarnhawyd pen- iderfyniadau y cyfarfod diweddaf. Etholwyd y Parch J. Lloyd Williams, B.A., Caerdydd, i igymeryd lie yr Ysgrifenydd. Prif waith yr reisteddiad hwn ydoedd derbyn ymgeiswyr. Safodd 16 arholiad, a buont oil o flaen y Pwyllgor ond nid oedd y Pwyllgor yn gweled ou ffordd i dderbyn yehwaneg nag 8, hyd yn nod pe buasai ychwaneg yn dyfod i fyny yn mhobpeth a'r safon. Nid gwaith dymunol ydyw gwrthod yr un gwr ieuanc, os bernir ei fod yn addfed i hyny. Yr oedd rhai felly eleni uad allesid eu derbyn, ond nid oedd dim i'w wneyd dan yr amgylchiadau ond derbyn y rhai fernid yn fwysf addfed wedi gosod at eu gilydd, yn ol y doethioeb a rodded i'r Pwyllgor ar y ipryd. Wedi treulio cryn amser, penderfynwyd derbyn yr. ymgeiswyr canlynol :-1. John Williams, Dunvant; 2. John Charles, Cadle 3. David Hughes, Caernarfon; 4. William Jones, LIundain: 5. David Jones, Machynlleth; 6. David Phillips, Llwynyrhwrdd 7. J. Gwilym Jones, Ford; 8. David Morgan, .LIansaweL Yn yr hwyr, yn nghapel y Saeson, traddod- \wyd yr anerchiad blynyddol i'r myfyrwyr gan y Parch Henry Simon, Westminster Chapel, TLlundain. Yr oedd yn anerchiad gwir alluog, yn llawn o ysbryd y peth byw, ac yn ddiau hir gofir ef gan y sawl a gawsant y fraint o'i wrandaw. Yn sicr ni chlywsom ei well erioed. Y mae yn werth ei gadw fel y gellir ei ddarllen eto, a cheir cyfle i hyny yn y Dhoygiior a'r Dysgedydd, canys cyhocddir ef yn y ddau. Dydd Mercher, am 11 o'r gloch, cyfarfu y Cyfarfod Blynyddol, ac yn absenoldeb y eadeirydd am y flwyddyn, Mr R. S. filudson, Bache Hall, Caer, etholwyd y Parch E. H. Evans, Caernarfon, i gymeryd ei Ie, yr hyn a wnaeth, gan ei llenwi, fel arfer, yn ngwir ystyr y gair. Da oedd genym weled Mr Evans yn «drych mor dda, ac yn alluog i eistedd yn y gadair am ran fawr o ddau ddiwrnod, gan gadw y Pwyllgor a'r Cyfarfod Blynyddol yn llawn bywyd. Heblaw a enwyd uehod, yr oedd yn bresenol y Parchn Jones, Machynlleth Jones, Cerygcadarn; Edwards, Brentford; James, Llanwrtyd; Evans, Star-street, Caerdydd; Hough, Ynysgau; Rees, Tredwstan; Jones, Hay Beynon, Llanfair Hughes, Pennorth ;Rees, Libauus; Rees, Llanharan; Williams, Brychgoed Jones, Talybont; Jones, Mynydd- islwyu; Mri J. Lewis, Gurrey Manor, Llandilo; I. Williams, Porth; T. Thomas, Ty'nywern, Groeswen; D. A. Griffith, Troed- rhiwdalar, &c. Deciireuwyd trwy weddi gan y Paroh H. Simon, Llundain. Wedi darllen a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blynyddol diweddaf, darllenwyd Adroddiad y Pwyllgor gan Dr Morris, a chafwyd mantolen o sefyllfa arianol y Sefydliad gan y Trysorydd. Yr oedd mantolen y Trysorydd wedi gwella Ilawer oddiar y llynedd, canys oni bai am y draul y gorfodwyd y Pwyllgor i fyned iddo gydag adgyweiiiadau, yn nghyda'r ffaith fod y flwyddyn yn cynwys treuliau 15 mis ar gyfer derbyniadau 12, buasai y fantolen yn gydbwys, h.y., buasai yr hen ddyled wedi ei thalu, ac ochr v derbyniadau yn ogymaint ag ochr y taliadau, Gwyr darllenwyr y TYST fod yna fwriad bellach i uno yr Athrofa a'r Prifysgolion sydd ar ac wedi eu sefydlu yn y Dywysogaetb. Ceisiwyd y llynedd' ddwyn yr Athrofa i gysylltiad a Phrifysgol Aber- ystwyth, ond gwrthododd y Cyfarfod Blynyddol a derbyn yr adroddiad ar gyfrif fod eisieu yehydig yn rhagor o amser i ystyried y mater pwysig, ae felly ceisiwyd gan y Pwyllgor i'w ystyried am flwyddyn arall, a dwyn ei adrodd- iad i'r Cyfarfod Blynyddol eleni. Y mdallodd y Pwyllgor yn union i'r gwaith, tyuwyd allan gynllun, cyhoeddwyd y cyfryw yn y TVST A'R DYDD, y South Wales Daily News, a'r Dlwygvwr yn amserol, fel y eawsid digon o amser i ffurfio barn arno, ac i gynyg gwelliantau arno. Cymhellodd y Pwyllgor yr holl etholaeth i'w ystyried, ac anfon unrhyw welliantau a ystyrient yn briodol i'w cynyg iddo i'r Ysgrif- enydd, ac y cawsent yr ystyriaeth fwyaf pwyllog. Amlygodd y Pwyllgor yn. eglur nad oedd mewn un wedd am gymeryd cam mor bwysig oni buasai yn alluog i gario yr etholaeth gydag ef. Cynwysai yr Adroddiad eleni y cynllun hwn, a derbyniwyd ei egwyddor yn ddiwrthwynebiad gan y Cyfarfod Blynyddol; ac yna aed drwyddo yn adran ar ol adran. Cynygiwyd gwelliantau i rai ohonynt, ond barnwyd yn ddoeth i'w gadael fel yr oeddynt; ond derbyniwyd man welliantau yn hgeiriad rhai ohonynt, fel y gwelir wrth gymharu y scheme fel yr ymddengys yn yr Adroddiad, ac fel yr ymddangosodd pan gyhoeddwyd hi gyntaf. Ac wedi myned drwyddi felly adran ar ol adran, derbyniwyd hi fel y diwygiwyd hi yn yr oil ohoni. Wrth reswm, nid yw yn ddeddf y Mediaid a'r PerSiaid, yr hon ni newidir, canys os ceir pan osodir hi mewn gweithrediad na fydd yn ateb y dyben, ni fydd gan y Pwyllgor ond dychwelycl at yr hen gynllun. Dichon y daw yr adeg yn fuan pan fydd yn rhaid cyfyngu gwaith ein hathrofeydd yn unig at yr addysg sydd yn uniongyrehol gysylltiedig a, gwaith y weinidogaeth, gan adael yr ymgeiswyr i ymladd eu ffordd eu hunain am addysg angenrheidiol yny celfau a'r gwyddorau. Bernid yn bur unol mai i'r fan yna y daw pethau yn fuan, ond y mae yn rhy fuan i wneyd yr ysgariad eto. A thra yn y sefyllfa draws- newidiol hon, nid oes genym ond feisio gwneyd y goreu gallom. Y mae y myfyrwyr bellach ar eu teithiau casglyddol, ac erfynir ar yr eglwysi a chyfeillion y Sefydliad i fod yn garedig iddynt, ac hyd y mae hyny yn bosibl, i ganiatau iddynt gasglu ar yr adeg yr ymwelant a'r eglwysi, fel y caffont y casgHad i ddyfod ganddynt. Y mae esgeuluso hyn yn arwain yn ami i esgeuluso casglu o gwbl. Hyderir y chwyddir y casgliad- au eleni, fel y byddont yn gydbwys, beth bynag, a. threuliau y ftwyddyn, yn nghyda'r treuliau yr aed iddynt yn ystod y flwyddyn ddiweddaf gydag adgyweiriadau, &c. Y mae y myfyrwyr oil oeddynt yn ymadael a'r Sefydliad eleni naill ai wedi, neu ar sefydlu mewn cylchoedd o ddefnyddioldeb. Diau y ceir mewn colofn arall ychydig o fanylion yr Arholiad, fel arfer. Yr oedd Adroddiad yr Arholwyr yn galonogol iawn. Dangosent yn eglur fod y Sefydliad yn parhau i wneyd gwaith sylweddol. Hyderwn fod iddo eto ddyfodol mwy dysglaer nag un cyfnod o'i hanes yn y gorphenol. Mehefan 14, 1884. D. A. GRIFFITH.

Advertising

MAGWBAETH GREFYDDOL IEUENCTYD…